OPIN-2019-0136 Llongyfarchiadau i Abertawe ar 50 mlwyddiant fel Dinas (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/07/2019

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn llongyfarch Abertawe ar 50 mlynedd ers iddi ennill statws dinas.
2. Yn nodi ei bod wedi trawsnewid yn y cyfnod hwn o 50 mlynedd o fod yn dref hyll a hyfryd i ddinas fywiog sy'n edrych tuag allan
3. Yn dymuno'n dda i ddinasyddion Abertawe wrth iddynt barhau i ddatblygu Abertawe fel lle i fyw, astudio, dod arwyliau a chynnal busnes.