OPIN-2019-0135 Fair Tax Week (6-14 July) and Tax Justice Sunday (7 July)
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 04/07/2019
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn croesawu wythnos y Dreth Deg a Sul Cyfiawnder Treth sy'n dathlu cwmnïau/sefydliadau sy'n falch o dalu eu cyfran deg o dreth.
2. Yn mynegi pryder bod biliynau o bunnoedd ar goll o bwrs y wlad bob blwyddyn oherwydd osgoi talu'r dreth gorfforaeth.
3. Yn credu bod hyn yn achosi niwed oherwydd:
a) ni all busnesau bach gystadlu;
b) mae'n cyfrannu at anghydraddoldeb;
c) mae cwmnïau'n chwarae yn ôl eu rheolau eu hunain; a
d) mae llai o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
4. Yn annog busnesau lleol yng Nghymru i ddod yn rhan o fudiad trethu teg, gan arwain ar arfer cyfrifol, i newid ein tirwedd drethi er gwell.