OPIN-2019-0134 24 mlynedd ers hil-laddiad Srebrenica (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2019

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi bod mis Gorffennaf 2019 yn 24 mlynedd ers hil-laddiad Srebrenica yn Bosnia a Herzegovina, pan laddwyd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd gan luoedd cenedlaetholgar Serbia.

2. Yn cymeradwyo gwaith y rhai sy'n ymwneud â cheisio cyfiawnder i'r dioddefwyr a'u perthnasau sydd wedi goroesi, ac y mae eu dewrder a'u gostyngeiddrwydd yn wyneb arswyd anhygoel yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith ysgolion a darparwyr addysg er mwyn cyflwyno gwersi Srebrenica i bobl ifanc ledled Cymru.