OPIN-2019-0133 Diwrnod Aer Glân (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/06/2019

1. Mae'r Cynulliad hwn yn nodi:

a) bod 20 Mehefin 2019 yn ddiwrnod aer glân;

b) gwaith y Grŵp Trawsbleidiol Deddf Aer Glân i ddarparu tystiolaeth ar gyfer newid.

2. Mae'r Cynulliad hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Aer Glân i:

a) annog y defnydd o gerbydau allyriadau isel yn lle cerbydau sy'n creu mwy o lygredd drwy sicrhau bod seilwaith pwyntiau gwefru cyflym ar gael;

b) creu parthau awyr glân mewn trefi a dinasoedd;

c) caniatáu offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai;

d) galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygru a thagfeydd,

e) llunio cynllun cenedlaethol a rhanbarthol i leihau llygredd aer yng Nghymru.