OPIN-2019-0132 Diwrnod Amgylchedd y Byd 2019
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cydnabod Diwrnod Amgylchedd y Byd ar 5 Mehefin 2019.
2. Yn nodi mai Diwrnod Amgylchedd y Byd yw diwrnod y Cenhedloedd Unedig i annog gweithredu ac ymwybyddiaeth fyd-eang i ddiogelu ein hamgylchedd.
3. Yn cydnabod bod natur yn dirywio yn fyd-eang ar gyflymder nas gwelwyd o'r blaen yn hanes dynoliaeth a bod cyfradd diflaniad rhywogaethau yn cyflymu.
4. Yn nodi bod colli rhywogaethau a chynefinoedd yn creu cymaint o berygl i fywyd ar y ddaear ag y mae newid yn yr hinsawdd yn ei wneud.
5. Yn cydnabod yr angen i weithredu polisïau trawsnewidiol er mwyn sicrhau nad yw'r tueddiadau negyddol hyn yn parhau yn y dyfodol.