OPIN-2019-0130 Amddiffyn Plant rhag cael eu Cam-drin Ar-lein
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi bod 70% o'r troseddau a gofnodwyd o gyfathrebu rhywiol gyda phlentyn yng Nghymru a Lloegr yn 2017/18 wedi digwydd ar Facebook, Snapchat neu Instagram;
2. Yn pryderu am effaith cam-drin ar-lein ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc;
3. Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Niwed Ar-lein;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn yn well rhag cael eu cam-drin;
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod plant sydd wedi cael profiad o niwed ar-lein yn gallu cael gafael ar gymorth.