OPIN-2019-0128 Clefyd yr ysgyfaint yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/05/2019

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi mai clefyd yr ysgyfaint yw'r trydydd lladdwr mwyaf cyffredin yng Nghymru, gan effeithio ar 1 o bob 5 person.

2. Yn nodi pwysigrwydd addysg ac ymarfer corff i'r rhai sy'n byw gyda chlefyd anadlol.

3. Yn nodi tystiolaeth sy'n dangos bod pobl sy'n byw gyda COPD ac sy'n gwneud ymarfer corff bob wythnos o'r adeg y maent yn cael diagnosis yn byw gyda gwell iechyd corfforol.

4. Yn nodi bod mynediad at fentrau hunanreoli yn amrywio o ran argaeledd ac ansawdd ledled Cymru.

5. Yn annog Llywodraeth Cymru i gynyddu'r buddsoddiad mewn darpariaeth ymarfer corff a hunanreoli i'r rhai sy'n byw gyda chlefyd yr ysgyfaint.