OPIN-2019-0127 Ymgyrch Cyfiawnder Bwyd y Blaid Gydweithredol (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2019

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn croesawu ymgyrch cyfiawnder bwyd y Blaid Gydweithredol i fynd i'r afael â llwgu a sicrhau bod pawb yn gallu gwneud dewisiadau bwyd iach.

2. Yn credu mai'r ffactorau sy'n achosi'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n llwgu yw caledi, newidiadau i drethi a lles, economi nad yw bellach yn darparu cyflog teg am ddiwrnod teg o waith ar gyfer gormod o bobl, a marchnad dai sydd wedi torri.

3. Yn chwilio am ymrwymiad i gyfiawnder bwyd yn y 'cerrig milltir cenedlaethol' newydd yng Nghymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

4. Yn annog cynghorau i ddynodi 'aelod arweiniol' gyda chyfrifoldeb dros fwyd, sefydlu cynllun gweithredu ar gyfer bwyd, hyrwyddo partneriaethau bwyd lleol, a mesur maint y broblem yn lleol.