OPIN-2019-0126 100 Mlynedd ers Cyflafan Amritsar (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/03/2019

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi 100 mlynedd ers cyflafan Amritsar (a gaiff ei galw hefyd yn gyflafan Jallianwala Bagh) ar 13 Ebrill 1919, pan ddechreuodd milwyr byddin Indiaidd Prydain saethu at dorf heddychlon yng gerddi Jallianwala Bagh Amritsar, Punjab.

2. Yn gresynu at y ffordd drasig y collwyd bywydau ac effaith andwyol y digwyddiad ar y berthynas rhwng Prydain ac India.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i fanteisio ar y cyfle a ddaw yn sgil y canmlwyddiant i gyhoeddi ymddiheuriad ffurfiol am y digwyddiad gwarthus hwn yn hanes Prydain.