OPIN-2019-0125 Cefnogi PCS ar dâl y gwasanaeth sifil (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/03/2019

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi balot y PCS ar weithredu diwydiannol i brotestio ynghylch tâl y gwasanaeth sifil.

2. Yn nodi bod cyflog cyfartalog y gwasanaeth sifil wedi colli gwerth yn ystod y degawd diwethaf.

3. Yn cytuno bod gweision sifil yn haeddu codiad cyflog yn unol ag awgrymiadau Undeb y PCS.

4. Yn cefnogi ymdrechion, gan gynnwys gweithredu diwydiannol posibl, i gsicrhau cynnydd teg i gyflog gweision sifil.

5. Yn annog aelodau'r Undeb i bleidleisio ar weithredu diwydiannol posibl erbyn 29 Ebrill 2019.