OPIN-2019-0124 Rhanbarth Rygbi Gogledd Cymru (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/03/2019

Mae’r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi bwriad Undeb Rygbi Cymru i ad-drefnu’r rhanbarthau.

2. Yn cefnogi’r bwriad i greu rhanbarth newydd yng ngogledd Cymru, a fyddai’n adeiladu ar waith clodwiw Rygbi Gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

3. Yn credu y dylid creu y rhanbarth yma gan y bydd yn rhoi cyfle cyfartal i chwaraewyr rygbi gogledd Cymru.