OPIN-2019-0122 Cofrestr Parlys yr Ymennydd ar gyfer Cymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2019
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi mai parlys yr ymennydd yw'r achos mwyaf cyffredin o anabledd corfforol mewn plant, sy'n effeithio ar un ym mhob 400 yn y DU.
2. Yn croesawu lansiad y gofrestr parlys yr ymennydd ar gyfer Cymru.
3. Yn credu y gellir cynllunio gwasanaethau mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol drwy wybod mwy am faint a dosbarthiad y boblogaeth o unigolion yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i integreiddio'r gofrestr o fewn GIG Cymru i sicrhau ei hirhoedledd.