OPIN-2019-0121 Darpariaeth Fferyllfeydd Cymunedol o Frechiadau rhag y Ffliw (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2019

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi ffigurau mis Medi-Rhagfyr 2018 sy'n dangos bod 51,661 o frechiadau wedi cael eu darparu mewn fferyllfeydd cymunedol.
2. Yn cydnabod bod y ffigurau hyn yn adlewyrchu cynnydd o 60 y cant ar yr un cyfnod y llynedd.
3. Yn annog aelodau o'r cyhoedd o grwpiau sy'n agored i niwed i gael brechiad rhag y ffliw yn eu fferyllfa gymunedol leol.
4. Yn canmol gwaith caled ac ymroddiad timau fferyllwyr cymunedol i gynyddu nifer y brechiadau rhag y ffliw.