OPIN-2019-0120 Galw ar i ocrelizumab (ocrevus) fod ar gael ar y GIG ar gyfer pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol sylfaenol sy'n gwaethygu'n raddol (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cefnogi'r 21,000 o bobl yn y DU a lofnododd ddeiseb y Gymdeithas MS i drefnu bod ocrelizumab (ocrevus) ar gael ar y GIG ar gyfer pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) sylfaenol sy'n gwaethygu'n raddol.
2. Yn cydnabod y cafodd ocrelizumab ei drwyddedu gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd yn 2017 fel triniaeth gyntaf ar gyfer pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol sylfaenol sy'n gwaethygu'n raddol; ond gwrthodwyd hyn gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ar sail cost.
3. Yn annog GIG Cymru a NICE i wneud popeth y gallant i sicrhau bod ocrelizumab ar gael ar gyfer pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol sylfaenol sy'n gwaethugu'n raddol.