OPIN-2019-0119 Cydnabod gwerth siopau cyfleustra (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2019

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn cydnabod rôl werthfawr siopau cyfleustra o ran darparu amrywiaeth gynyddol o wasanaethau hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau talu biliau (mewn 67 y cant o siopau), peiriannau ATM i'w defnyddio am ddim (48 y cant) a Swyddfeydd Post (29 y cant), mewn dinasoedd, trefi, cymdogaethau lleol a phentrefi – lle yn aml nhw yw'r unig wasanaeth sydd ar gael - ledled Cymru.

2. Yn croesawu canfyddiadau adroddiad y Gymdeithas Siopau Cyfleustra ar siopau lleol yng Nghymru ar gyfer 2019 fod 2,923 o siopau lleol yng Nghymru, y mae 83 y cant ohonynt yn cael eu gweithredu gan fanwerthwyr annibynnol, sy'n cyflogi bron 23,000 o bobl a wedi buddsoddi cyfanswm o £44 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf.