OPIN-2018-0116 Gwella canlyniadau clefyd yr ysgyfaint yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2018

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi'r gwelliannau i ofal anadlol ers 2014 drwy'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd anadlol.
2. Yn nodi bod bron 48,000 blwydydn o fywyd iach a bron 31,500 blwyddyn o fywyd yn cael eu colli bob blwyddyn oherwydd clefyd anadlol.
3. Yn nodi cynnydd o 22 y cant mewn derbyniadau brys i ysbytai ar gyfer cleifion anadlol.
4. Yn nodi cyhoeddi adroddiad Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ar dasglu iechyd yr ysgyfaint sy'n seiliedig ar arferion gorau o ran gofal anadlol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion i sicrhau bod gofal anadlol yn parhau i fod ar flaen y gad o ran gofal cleifion.