OPIN-2018-0115 Wales Vision Strategy
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn croesawu lansio strategaeth olwg Cymru ar 22 Tachwedd 2018, ac yn dathlu partneriaid a phobl sydd wedi colli'u golwg yn gweithio gyda'i gilydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau iechyd, cleifion a rhanddeiliaid i:
a) gwella iechyd llygaid y genedl a rhoi terfyn ar olli golwg y gellir eu hosgoi;
b) gwella cymorth ar draws wasanaethau gofal cymdeithasol; ac
c) gwella ymwybyddiaeth o golli golwg a chreu cymdeithas gynhwysol i bawb.
3. Yn galw ar Aelodau'r Cynulliad i weithio gydag etholwyr sy'n colli eu golwg, ac i ymgysylltu â strategaeth olwg Cymru i sicrhau gwelliannau i wasanaethau cymorth lleol.