OPIN-2018-0114 Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn nodi mai 25 Tachwedd yw Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod.
2. O’r gred fod distawrwydd a stigma wedi caniatáu i drais yn erbyn menywod gynyddu.
3. Yn edmygu penderfyniad a dewrder ymgyrchwyr, gan gynnwys y sawl sy’n rhan o fudiadau #MeToo a #TimesUp, wrth daflu goleuni ar brofiadau menywod.
4. Yn datgan na ddylai unrhyw fenyw fyw mewn ofn o drais.
5. Yn galw am adnoddau a gweithredu ar unwaith er mwyn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng Nghymru unwaith ac am byth.

Cyflwynwyd gan