OPIN-2018-0113 Diwrnod COPD (clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint) y Byd 2018 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi mai 21 Tachwedd 2018 yn diwrnod COPD y byd.
2. Yn nodi bod 8 y cant o'r boblogaeth yn byw gyda chyflwr ar yr ysgyfaint a bod gan 70,000 ohonynt COPD.
3. Yn nodi mai ymarfer corff a hunanreoli yw'r ffordd fwyaf effeithiol i wella ansawdd bywyd.
4. Yn nodi gwaith Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint o ran hyrwyddo a darparu gwasanaethau, megis Canu’n Iach i’r Ysgyfaint, i roi mynediad i ystod o adnoddau hunanreoli i gleifion.
5. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn buddsoddi yn y ddarpariaeth o ymarfer corff lleol i gleifion resbiradol, gan gynnwys drwy ddewisiadau amgen fel canu.