OPIN-2018-0111 Diagnosis cynnar o anhwylderau ar y galon
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd diagnosis cynnar o anhwylderau ar y galon o ran lleihau y cannoedd o farwolaethau sy'n digwydd bob blwyddyn o ganlyniad i amodau na chafwyd diagnosis ohonynt.
2. Yn nodi'r cynnydd yn y blynyddoedd diweddar o brofion sgrinio anfewnwthiol i adnabod clefyd fasgwlaidd a chlefyd y galon yn eu cyfnodau cynnar neu asymptomatig.
3. Yn croesawu rôl Calonnau Cymru o ran ariannu mentrau sgrinio'r galon, gyda'i genhadaeth i helpu i ddiogelu a hybu iechyd y galon ymysg pobl ifanc yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ymestyn y fenter sgrinio i bobl ifanc yng Nghymru.