OPIN-2018-0107 Diwrnod digartrefedd y byd
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi mai 10 Hydref yw diwrnod digartrefedd y byd.
2. Yn cytuno bod cartref yn hawl sylfaenol i bawb ac yn darparu cyfle i hybu iechyd da a chyfrannu at gymdeithas a theimlo'n rhan ohoni.
3. Yn gresynu at y ffaith bod ffigurau gan Crisis yn dangos bod 236,000 o bobl ledled Prydain Fawr, gan gynnwys 8,200 yng Nghymru, yn profi'r ffurfiau gwaethaf o ddigartrefedd.
4. Yn croesawu nod y cynllun a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Crisis i roi terfyn ar ddigartrefedd ledled Cymru, yr Alban a Lloegr.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.