OPIN-2018-0106 Diwrnod Gwrth-gaethwasiaeth 2018 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi ar 18 Hydref 2018 y cynhelir digwyddiadau ledled y DU i gydnabod bod dynion, menywod a phlant yn parhau i ddioddef o ganlyniad i fasnach gaethwasiaeth fodern, er gwaethaf diddymu'r fasnach gaethweision trawsatlantig mwy na 200 mlynedd yn ôl.

2. Yn cydnabod bod y diwrnod hwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o beryglon caethwasiaeth fodern, gan gynnwys masnachu pobl a chamfanteisio, ac yn annog pobl i fod yn rhagweithiol yn eu brwydr yn erbyn caethwasiaeth.

3. Yn nodi'r ymgyrch gan y Blaid Gydweithredol yn erbyn caethwasiaeth fodern, sy'n annog cynghorau ledled Lloegr a'r Alban i ddilyn esiampl Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth moesegol ym maes caffael.