OPIN-2018-0105 Cymru yn Ewrop Greadigol (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn credu:

a) bod datblygu talent a sgiliau yn hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol a bod creadigrwydd yn cyrraedd y tu hwnt i fyd y celfyddydau a diwylliant i gyfoethogi pob maes o'n bywyd cenedlaethol;

b) bod aelodaeth Cymru o Ewrop Greadigol wedi cynorthwyo ymarferwyr i feithrin rhagoriaeth, boed hynny o ran sicrhau buddsoddiad, cyfeirio neu hwyluso mynediad i bartneriaethau ac adnoddau gwerthfawr; ac

c) yn dilyn Brexit, y bydd yn hanfodol bod Cymru'n parhau i gydweithredu â'i chymdogion cyfandirol a bod parhau i gymryd rhan yn Ewrop Greadigol yn cynnig un ffordd o arfer pŵer meddal.