OPIN-2018-0104 Wythnos ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi mai 15 - 23 Medi 2018 yw wythnos ffibrosis idiopathig yr ysgyfaint.
2. Yn nodi mai clefyd yr ysgyfaint yw'r clefyd sy'n lladd y trydydd nifer fwyaf o bobl yng Nghymru, gan effeithio ar 1 o bob 5 person.
3. Yn nodi bod tua 2,100 o bobl yn byw gyda ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint; sy'n glefyd prin, na ellir ei wella ac sy'n cyfyngu ar fywyd ac yn achosi creithiau cynyddol ar yr ysgyfaint. 4. Yn nodi gwaith Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint o ran codi ymwybyddiaeth o ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint a'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella ansawdd bywyd pobl.
5. Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi a buddsoddi mewn ymchwil i'r hyn sy'n achosi ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint a'r triniaethau mwyaf effeithiol.