Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn
20/03/2019Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.
Cwestiynau ar gyfer - Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gyhoeddiad Llywodraeth y DU na fydd unrhyw ffin ffisegol yn Iwerddon pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd?
The temporary measures announced by the UK Government in the event of no deal demonstrates they lack a credible long-term plan for leaving the EU. The best way to ensure trade is frictionless between the UK and the EU is leave with a deal that commits to customs and regulatory alignment as set out in 'Securing Wales’ Future'.
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff gadael yr UE ar amaethyddiaeth?
Rydyn ni wedi gwneud cryn dipyn o waith i ystyried pa mor barod yw’r prif sectorau amaeth ar gyfer Brexit. Mae ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn cyflwyno cyfleoedd i rai sectorau, ond rydyn ni’n disgwyl i sector cig coch Cymru wynebu heriau sylweddol.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth amaethyddol ar ôl Brexit?
Welsh Ministers are taking powers in the UK Agriculture Bill to provide a legal basis for future support to farmers after Brexit. The powers being taken are intended to be transitional until a Wales agriculture Bill can be brought forward.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu trefniadau ar gyfer gwiriadau tollau ar nwyddau sy'n dod i mewn i Gymru pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd?
Once temporary measures cease to apply, a 'no deal' Brexit will result in additional checks on goods entering Wales, which all credible analysis shows will damage the economy. The best way to protect our economy and jobs is to commit to customs and regulatory alignment as set out in 'Securing Wales’ Future'.
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit?
We have been consistent in our position that a 'no deal' Brexit would be catastrophic for Wales. As a responsible Government, we are undertaking a wide range of critical work to ensure that we are as prepared as possible in the event the UK leaves the EU without a deal.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd Cymru ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb?
There is no situation in which leaving the EU without a deal would not have profoundly negative consequences for the people and economy of Wales. Nevertheless, we are continuing to prepare, supporting public services to do likewise, announcing an additional £1.2 million to help local authorities prepare for Brexit last week.
Cwestiynau ar gyfer - Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael â'r Gweinidog Cyllid am bwysigrwydd polisi caffael fel arf economaidd?
Mae caffael cyhoeddus yn hanfodol i lesiant economaidd yng Nghymru. Mae dulliau newydd yn cael eu datblygu, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu rhagor ar effaith caffael ar yr economi a llesiant cyffredinol yng Nghymru. Mae cyfarfod yn cael ei drefnu gyda’r Gweinidog Cyllid, a chaffael yw un o’r pynciau.
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynllun twf y gogledd o safbwynt parciau busnes?
Mae safleoedd ac eiddo yn un o’r pedwar galluogwr sy’n sail i’r tri maes thematig sy’n cael eu nodi yng nghynllun twf gogledd Cymru. Cafodd fy swyddogion sawl cyfarfod gyda thîm y cais twf i drafod y meysydd thematig hyn, sy’n cynnwys darparu safleoedd ac eiddo fel blaenoriaethau ac ymyraethau.
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargeinion dinesig yng Ngorllewin De Cymru?
We remain committed to delivering successful city and growth deals in Wales with Welsh Government continuing to be a full partner in their development and delivery, working closely both with the regions and with UK Government.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau'r A465 yn ddiweddar rhwng y Rhigos a Glyn-nedd?
The A465 was closed on 3 and 6 March due to the recent heavy rainfall from both storm Freya and a further wet weather event that was the subject of a yellow weather warning. The build-up of water was compounded by a defective culvert, on the A465 at Rhigos roundabout.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar godi lefelau cyflogau yng Nghymru?
Rydym yn cefnogi busnesau i wella cynhyrchiant ac i fuddsoddi yn sgiliau ein pobl, gan gydnabod y cysylltiad rhwng cynhyrchiant, sgiliau a chyflogau. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi sefydlu'r Comisiwn Gwaith Teg i gynnig argymhellion er mwyn gwneud Cymru yn genedl gwaith teg.