Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

02/04/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Gwastraff Ymbelydrol

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gladdu gwastraff ymbelydrol yng Nghymru? OAQ53729

Diolch, Llywydd. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safle na chymuned lle gallai gwastraff ymbelydrol gael ei waredu’n ddaearegol, a does dim bwriad i wneud hynny. Does dim modd adeiladu cyfleuster yng Nghymru oni bai bod cymuned yn fodlon ei dderbyn, a’i fod yn cael cydsyniad llawn o ran cynllunio, diogelwch a’r amgylchedd.

Diolch am eich ateb. Yn ôl dogfen ymgynghori gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol eich Llywodraeth—a dyfynnaf,

'Mae gwaredu gwastraff ymbelydrol yn fater datganoledig: felly Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu ar y polisi ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol yng Nghymru.'

Nawr, rwyf yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch hynny, gan fy mod i wedi cael cyngor gwrthgyferbyniol ar y mater penodol hwnnw. Rydym ni'n gwybod ei fod yn wir ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond fy nealltwriaeth i yw nad yw hyn o reidrwydd yn wir ar gyfer Cymru. Cyn Deddf Cymru 2017, roedd gan Gymru gymhwysedd dros, er enghraifft, diogelu'r amgylchedd, gan gynnwys gwaredu gwastraff peryglus, felly gellid dadlau efallai fod perthnasedd yn y fan honno, ond wrth gwrs roedd yn fud o ran ynni niwclear. Ac mae Deddf Cymru 2017 yn ei gwneud yn gwbl eglur bod yr holl faterion sy'n ymwneud ag ynni niwclear wedi eu cadw yn ôl ac nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Felly, hoffwn eglurhad mwy cadarn ynghylch pam yr ydych chi'n meddwl bod y mater hwn wedi'i ddatganoli i Gymru, ond hefyd wrth gwrs, yn bwysicach, er eich bod yn dweud mai cyfrifoldeb cymunedau yw gwneud iddo ddigwydd, yna'n amlwg byddwn yn eich annog i ddilyn esiampl Llywodraethau eraill yn y DU sydd wedi dweud yn syml nad ydyn nhw ei eisiau.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Gallaf ddweud wrtho yn gwbl blaen mai'r cyngor yr wyf i wedi ei gael yw bod gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol yn fater i Lywodraeth Cymru yng Nghymru, ac nid wyf i erioed wedi gweld unrhyw beth a roddwyd i mi sy'n awgrymu bod unrhyw amwysedd ynglŷn â lle mae'r cyfrifoldeb am hynny wedi ei neilltuo. Dyna pam y cyhoeddwyd ein dogfen gennym ar 25 Ionawr, a oedd yn ddogfen benodol i Gymru.

Nawr, y safbwynt yr ydym ni wedi ei gyflwyno yw'r un y cyfeiriodd Llyr Gruffydd ato, lle'r ydym yn dweud mai'r unig ffordd y gellid gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol yng Nghymru yw pe byddai cymuned ei hun yn dod ymlaen gyda'r cynnig hwnnw. Mae gan yr awdurdod lleol y mae'r gymuned honno wedi ei lleoli ynddo hawliau hefyd o dan y polisi a gynigiwyd gennym, a gallai awdurdod lleol ddatgan nad yw eisiau gweld unrhyw waredu daearegol o fewn ei ffiniau awdurdod lleol, a byddai hynny'n diystyru unrhyw beth y gallai'r gymuned leol ei ddweud. Felly, mae yn nwylo pobl leol ac awdurdodau lleol yn llwyr o ran pa un a fyddai hyn yn digwydd ai peidio, ac yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd na chymunedau, ac nid oes gennym ni unrhyw fwriad o wneud hynny.

Y pwynt y byddwn i'n ei wneud yn gyflym yn yr ateb i bwynt olaf yr Aelod, fodd bynnag, yw hwn: crëwyd y gwastraff ymbelydrol hwn gennym ni. Yn ystod oes pobl yn y Siambr hon y crëwyd y gwastraff hwn. Ac mae gennym ni gyfrifoldeb i ymdrin â chanlyniadau'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud, yn hytrach na dim ond dweud na fyddwn ni'n chwarae unrhyw ran yn y broses o ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, a bod yn rhaid i rywun arall ei wneud yn ein lle, neu ein bod ni'n ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol a ddaw ar ein holau ni i lanhau'r llanastr yr ydym ni wedi ei adael. Oherwydd mae'r llanastr hwnnw yno; mae wedi ei greu eisoes. Ac er fy mod i'n cytuno â bron popeth a ddywedodd yr Aelod pan gyflwynodd y mater, dywedaf wrtho hefyd, ac wrth eraill, nad yw'n gyfrifoldeb y gallwn ni droi oddi wrtho a dweud na fyddwn ni'n chwarae unrhyw ran yn ei ddatrys.

Wel, fel y dywedwch, mae hyn yn ymwneud â gwastraff gweithgarwch uwch sydd wedi bod yn casglu dros 60 mlynedd, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at y datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Rwy'n deall ei bod hi wedi dweud bod cyfleuster gwaredu daearegol yn cynnig ateb parhaol i reoli gwastraff gweithgarwch uwch yn yr hirdymor, yn hytrach na gadael y cyfrifoldeb i genedlaethau'r dyfodol. O gofio bod Llywodraeth y DU, trwy is-gwmni rheoli gwastraff ymbelydrol yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, wedi cynnal arolygon daearegol, ac wedi bod yn cynnal digwyddiadau ymgynghori yn Abertawe, Llandudno ac mewn chwe safle yn Lloegr, pa ymgysylltiad ydych chi'n ei gael gyda'r chwe safle posibl hynny gan eich bod chi wedi dweud bod cyd-gyfrifoldeb i fynd i'r afael â hyn, ac yn y pen draw daeareg fydd yn penderfynu ar ble sy'n ddiogel i roi'r deunydd hwn?

13:35

Llywydd, ni fydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd ag unrhyw ymgysylltu o'r math hwnnw, am y rheswm a nodais yn fy ateb agoriadol i Llyr Gruffydd. Ni fyddwn ac nid ydym wedi nodi safleoedd o'r fath, ac nid ydym yn bwriadu gwneud hynny. Cyfrifoldeb unrhyw gymuned leol sy'n barod i ddod ymlaen yw gwneud hynny, ac os na ddaw unrhyw gymuned ymlaen, ni fydd unrhyw waredu yma yng Nghymru.

Hyd yn oed os bydd cymuned yn dod ymlaen, ceir proses lem iawn a hirfaith, sy'n para hyd at 20 mlynedd, pan fyddai'n rhaid cytuno ar unrhyw ddatganiad cychwynnol o ddiddordeb. Byddai gan y gymuned leol honno yr hawl i dynnu'n ôl o'r trafodaethau hynny ar unrhyw adeg yn y broses 20 mlynedd honno, a byddai'r broses honno yn dod i ben. Ac, fel y dywedais, byddai gan unrhyw awdurdod lleol yr oedd cymuned o'r fath wedi ei lleoli ynddo y grym i ddiystyru'r datganiad o ddiddordeb hwnnw gan y gymuned leol honno drwy ddatgan, fel ardal awdurdod lleol, nad yw'n fodlon gweld gwaredu daearegol o fewn ei ffiniau.

Trafnidiaeth Integredig yng Ngorllewin De Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth integredig o fewn Gorllewin De Cymru? OAQ53741

Diolch i Suzy Davies am y cwestiwn. Mae mesurau teithio llesol, buddsoddiad mewn rheilffyrdd a diwygio rheoleiddio bysiau i gyd yn rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau integreiddio trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru.

Diolch am yr ateb yna, ac rwy'n falch eich bod wedi crybwyll teithio llesol. Dywedodd eich Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos diwethaf ei fod yn ceisio cael pobl allan o'u ceir ar gyfer teithiau byr a theithio mewn ffordd sy'n gwella eu hiechyd. Ac, wrth gwrs, mae annog pobl i feicio neu gerdded i orsaf drenau gyfleus ar gyfer teithiau hwy ar gyfer gwaith yn un ffordd o gadw pobl yn egnïol, yn ogystal â'r manteision o osgoi tagfeydd a llygredd, wrth gwrs. Ac mae'r gwaith hwnnw o hyrwyddo teithio llesol yn rhan o'm cefnogaeth i ymgyrchu dros orsaf parcffordd Abertawe a gorsaf Bracla ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ar hyn o bryd sut y gall trafnidiaeth integredig gefnogi'r fargen ddinesig. Mae'r adolygiad o fargen ddinesig bae Abertawe yn argymell y dylid caniatáu i brosiectau newid ac esblygu, ac rwy'n tybio bod yr egwyddor honno yn berthnasol i Gaerdydd hefyd. Felly, a fyddwch chi'n annog Gweinidog yr economi a'i ddirprwy i ystyried syniadau'r ddwy orsaf hyn gyda parau newydd o lygaid, i weld sut y gallan nhw gyfrannu at hyrwyddo teithio llesol yn rhan o system drafnidiaeth integredig?

Wel, gadewch i mi gytuno â'r hyn y mae Suzy Davies wedi ei ddweud, Llywydd, bod bargeinion dinesig Abertawe a Chaerdydd wedi eu cynllunio mewn modd a fydd yn eu galluogi i esblygu dros y cyfnod y byddan nhw'n weithredol, a bod materion trafnidiaeth yn ganolog i'r ddwy fargen. Mae'r syniad ein bod ni'n lleoli gorsafoedd ac yn buddsoddi mewn gorsafoedd trenau mewn ffyrdd sy'n cyfrannu at uchelgeisiau teithio llesol Llywodraeth Cymru yn sicr yn rhan o'r hyn y mae'r Gweinidog trafnidiaeth a'r Dirprwy Weinidog yn benderfynol o'i wneud. A phan mae'r cyfleoedd hynny'n codi, pan fo gorsafoedd presennol ar waith ac y gallwn wneud mwy i annog pobl i feicio neu gerdded i'r gorsafoedd hynny, rydym ni eisiau gwneud hynny. A phan fydd cyfleoedd newydd yn codi, fel gyda metro de Cymru, yna mae hynny'n rhan annatod o'r ffordd yr ydym ni'n cynllunio lleoliadau'r gorsafoedd hynny i wneud yn siŵr, yn gyffredinol, eu bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, ac i ddefnyddio cludiant cyhoeddus mewn modd sy'n lleihau'r allyriadau ac effeithiau niweidiol eraill y gorddefnydd o deithio mewn ceir.

Fel yr ydym wedi clywed gan Suzy Davies, cyflwynwyd cynlluniau gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar ar gyfer gorsaf reilffordd parcffordd gorllewin Cymru ar safle Felindre ger Abertawe. Ac er fy mod i'n cefnogi'n llawn y cam hwn i gyflymu cysylltiadau o'r dwyrain i'r gorllewin, yr hyn na allwch ei wneud yw anghofio pwysigrwydd llwybrau o'r gogledd i'r de. Felly, pa waith ydych chi'n ei wneud gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cynnig Felindre yn cyd-fynd â'r angen i ddatblygu gwasanaethau rheilffyrdd i mewn i'n cymunedau yng nghymoedd y de-orllewin?

Diolchaf i Dr Lloyd am hynna. Ar 21 Mawrth, Llywydd, cynhaliwyd cyfarfod. Fe'i trefnwyd gan Swyddfa Cymru, ond roedd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yno hefyd. Clywodd gan yr Athro Stuart Cole am y syniadau y mae wedi eu datblygu ynghylch gorsaf parcffordd newydd yn Felindre, ond ystyriodd asesiad Arup o atebion parcffordd posibl eraill hefyd—yn Llansamlet, er enghraifft, gan ystyried y manteision y gallai fod ganddo. Daeth y cyfarfod i ben gyda chonsensws yn dod i'r amlwg bod llwyddiant unrhyw orsaf newydd, yn ogystal â gwella atyniad rhai presennol, yn dibynnu ar wasanaethau lleol a rhanbarthol ychwanegol. Ac mae angen y gwasanaethau hynny, i Stryd Fawr Abertawe ac ar hyd rheilffordd ardal Abertawe, i leihau amseroedd teithio y tu hwnt i Abertawe i Gaerfyrddin ac ymhellach i'r gorllewin. Yn y modd hwnnw, rwy'n credu bod gennym ni rywfaint o gonsensws sy'n dod i'r amlwg mai canolbwyntio—mewn ffordd, y pwynt yr oedd Dr Lloyd yn ei wneud—ar y gwasanaethau, yn ogystal â lleoliad gorsafoedd, yw'r ffordd y mae angen i ni symud yr agenda hon ymlaen.

13:40

Prif Weinidog, mae system drafnidiaeth integredig yn wych os oes gennych chi system drafnidiaeth bysiau cyhoeddus effeithiol. Yng Ngorllewin De Cymru, mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r cludiant ar fysiau, nid ar y rheilffyrdd. Ac rwyf i wedi codi mater Cwm Afan droeon. Mae gen i etholwyr yng nghwm Afan sydd â bws bob dwy awr—ac mae hynny yn ystod y dydd—a dim yn gynnar yn y bore, dim yn hwyr fin nos. Nawr, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cynigion i annog awdurdodau lleol i gefnogi a blaenoriaethu'r systemau trafnidiaeth bws yn y cymunedau hynny sy'n dibynnu ar fysiau yn unig fel modd o gludiant cyhoeddus?

Wel, Llywydd, mae David Rees yn gwneud pwynt pwysig yn agoriadol, sef bod llawer iawn mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau bws yn y system cludiant cyhoeddus yng Nghymru nag sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd, ac ystyrir gwasanaethau rheilffyrdd weithiau fel pen moethus trafnidiaeth gyhoeddus. Yn aml, gwasanaethau bysiau yw'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw yn feunyddiol. Dyna'n rhannol pam mae cysyniad y metro wedi bod yn amlfodd o'r cychwyn. Bwriadwyd o'r dechrau iddo integreiddio amrywiaeth o wahanol bosibiliadau trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd David Rees yn gwybod, Llywydd, bod yr ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus' wedi dod i ben ar 27 Mawrth, ac mae'r Papur Gwyn hwnnw, wrth gwrs, yn cynnig pwerau newydd i awdurdodau trafnidiaeth lleol reoleiddio diwydiannau bysiau mewn ardaloedd lleol er budd y cyhoedd. Pan fydd gan awdurdodau trafnidiaeth lleol y pwerau hynny i gynllunio'n briodol y ffordd y gellir rhoi'r buddsoddiad cyhoeddus sylweddol iawn mewn gwasanaethau bws ar waith fel bod poblogaethau lleol yn cael eu gwasanaethu'n briodol, yna bydd buddiannau cwm Afan ac eraill yn flaenllaw o ran y ffordd y gellir defnyddio'r pwerau newydd hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch Llywydd. Neithiwr, gwrthododd Tŷ'r Cyffredin y syniad o refferendwm cadarnhau fel modd o ddatrys y diffyg cytundeb seneddol o ddim ond 12 o bleidleisiau. A yw'r Prif Weinidog yn ymuno â mi i resynu at y ffaith bod 24 o ASau Llafur wedi pleidleisio yn erbyn? Pe bydden nhw wedi pleidleisio yn unol, wrth gwrs, â pholisi'r Blaid Lafur a'r chwip Llafur neithiwr yn wir, byddai wedi rhoi mwyafrif eglur o blaid pleidlais y bobl. Yn benodol, a ydych chi'n gresynu, fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, bod eich dirprwy, Carolyn Harris AS, wedi methu â chefnogi polisi'r blaid? Ac a ydych chi'n o'r farn bod ei swydd fel dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn anghynaladwy erbyn hyn?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud fy mod i'n gresynu at y ffaith na lwyddodd Tŷ'r Cyffredin i ddod o hyd i fwyafrif dros unrhyw un o'r cynigion a roddwyd ger ei fron neithiwr. Roeddwn i'n falch iawn bod Plaid Cymru a'r Blaid Lafur—mai ein safbwyntiau yn Nhŷ'r Cyffredin oedd cefnogi marchnad gyffredin 2.0 a'r cynnig y mae Adam Price wedi cyfeirio ato, oherwydd mae hwnnw'n gwbl gyson â'r safbwynt y mae Llywodraeth Cymru wedi ei hyrwyddo dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.

Y neges yr hoffwn i ei roi i Aelodau Seneddol o bob plaid yw hon: rydym ni'n wynebu'r adeg fwyaf difrifol yn y daith Brexit gyfan hon, lle ceir perygl o ddisgyn allan o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, gyda'r holl effeithiau trychinebus y gwyddom fod Syr Mark Sedwill wedi rhybuddio Cabinet y DU amdanyn nhw y bore yma, y byddai'r risgiau hynny yn troi'n realiti i bobl yng Nghymru. Ac o wynebu'r realiti hwnnw, yr hyn yr wyf i'n ei annog Aelodau Seneddol i'w wneud yw peidio â pharhau i fod yn barod i gefnogi dim ond yr un dewis sydd agosaf i'w dymuniad nhw, ond i fod yn barod i bleidleisio o blaid amrywiaeth o bosibiliadau sy'n lliniaru'r risg honno ac sy'n ein harwain at fath o Brexit neu ail refferendwm, a fyddai'n gallu diogelu buddiannau pobl nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig.

13:45

Rwy'n sylwi na wnaeth y Prif Weinidog ymateb i fy nghwestiwn penodol, a gwn ei bod wedi dod yn arferol, yn ddiweddar, i arweinwyr a dirprwy arweinwyr yn y Blaid Lafur fod â safbwyntiau cwbl groes, ond nid oeddwn i'n ymwybodol tan nawr ei bod hi'n ymddangos bod yr haint hwnnw yn effeithio ar y Blaid Lafur yng Nghymru erbyn hyn. Rwy'n dehongli'r ffaith na wnaeth ateb nad oes ganddo ffydd llawn yn nirprwy arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Cyfeiriodd at lythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu canlyniadau Brexit 'dim cytundeb'. Yn wir, rydych chi eich hun wedi disgrifio'r sefyllfa honno fel un drychinebus. Yng ngoleuni hynny, a allwch chi ddweud pam wnaethoch chi ac, yn wir, eich cydweithwyr mainc flaen yn San Steffan—mewn cyferbyniad, mae'n rhaid dweud, â nifer sylweddol iawn o ASau Llafur ar y meinciau cefn—benderfynu peidio â chefnogi gwelliant dirymiad, a fyddai, o leiaf, yn rhoi seibiant brys i ni atal y drychineb yr ydych chi'n ei disgrifio?

Mae'n debyg bod Prif Weinidog y DU, y bore yma, wedi briffio'r Cabinet os caiff ei chytundeb ei wrthod unwaith yn rhagor, yna bydd y dewis rhwng dim cytundeb a dirymu, a bod yn well ganddi ddim cytundeb yn y sefyllfa honno. Os mai dyna yw'r dewis yr ydym ni'n ei wynebu, mewn mater o ddyddiau o bosibl, a wnewch chi a'ch plaid barhau i wrthwynebu dirymu pan allai fod yr unig achubiaeth sydd ar ôl?

Wel, Llywydd, rwy'n credu y bydd Aelodau'r Cynulliad eisiau ystyried difrifoldeb dwfn y penderfyniad o ddirymu, oherwydd roedd dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn eglur iawn ynghylch yr hyn y byddai dirymu yn ei olygu. Ni ellir defnyddio dirymu fel tacteg. Ni ellir defnyddio dirymu i brynu amser ar gyfer trafodaethau pellach. Roedd dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn dweud y gallai unrhyw aelod-wladwriaeth a fyddai'n defnyddio dirymu wneud hynny dim ond ar y sail ei fod—a dyma ddywedodd y llys—yn ddiamwys ac yn ddiamod. Mewn geiriau eraill, byddai dirymiad yn gwyrdroi'r refferendwm. Byddai'n gwrthdroi'r refferendwm heb y posibilrwydd o fynd yn ôl i ofyn i bobl yn y wlad hon beth oedd eu barn ar y penderfyniad hwnnw. Byddai'n rhaid iddo fod yn ddiamwys ac yn ddiamod. Rydych chi'n cael gwared ar y bwriad i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd na allech chi fynd ymlaen i'w gwrthdroi. Felly, mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall difrifoldeb y cam hwnnw.

Nawr, mae Adam Price yn gofyn i mi beth fyddai fy marn, o leiaf, pe byddem ni yn y funud olaf honno pan mai'r unig ddewis fyddai rhwng Brexit disgyn allan neu ddirymu. Oherwydd yr effaith ddifrifol y byddai Brexit disgyn allan yn ei chael ar bobl yma yng Nghymru, ar yr adeg honno, pe byddwn i'n bwrw pleidlais, byddwn yn ei bwrw dros ddirymu, gan fod y canlyniadau mor drychinebus i deuluoedd yng Nghymru. Ond i mi, byddai'n rhaid iddi fod yn sicr ein bod ni'n gwybod ein bod ni yn y funud olaf honno, gan fod canlyniadau cyfansoddiadol a gwleidyddol defnyddio'r cam gweithredu hwnnw yn hynod, hynod ddifrifol.

Rwy'n croesawu'r hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud, ac rwy'n ei annog nawr i gyfleu'r neges honno ar ddirymu fel modd terfynol o osgoi trychineb, a hefyd i annog dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru yn y fan yma i bleidleisio o blaid yr ail refferendwm, oherwydd, fel y mae'r ddau ohonom ni'n ei dderbyn, mae canlyniadau diffyg gweithredu ar y cyfnod hwn o ymatal yn wirioneddol rhy erchyll i ni eu hystyried.

A gaf i droi at fater arall? Yr wythnos diwethaf, canfu'r Uchel Lys bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n anghyfreithlon ac wedi torri'r addewid o annibyniaeth o ran yr ymchwiliad gan Paul Bowen QC, a wnaed mewn datganiad i'r wasg ar 10 Tachwedd y llynedd. A allwch chi gadarnhau bod y Llywodraeth yn derbyn dyfarniad y llys yn llawn, a pha un a ydych chi wedi ymddiheuro i'r teulu Sargeant neu'n bwriadu gwneud hynny? A ydych chi'n bwriadu hepgor eich hawl i apelio? A allwch chi ddweud wrth y Senedd sut yr ydych chi'n bwriadu ymateb yn fanwl i'r dyfarniad yn yr achos o ran y trefniadau a oedd yn llywodraethu'r ymchwiliad? Yn arbennig, a ydych chi'n bwriadu derbyn yr awgrym a wnaed yn y dyfarniad bod y Llywydd yn enwebu unigolyn i wneud penderfyniadau terfynol ar brotocol gweithredu'r ymchwiliad, neu, fel yr awgrymwyd gan Mr Bowen, bod yr ymchwiliad yn cael ei droi'n ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005?

A allwch chi ddweud pryd y daethoch chi yn bersonol yn ymwybodol gyntaf bod cylch gwaith blaenorol y protocol gweithredol ar gyfer yr ymchwiliad wedi ei roi i'r Ysgrifennydd Parhaol ar 9 Tachwedd, a bod y cyn Brif Weinidog wedi parhau i gael dylanwad uniongyrchol dros y protocol, gan dorri'r addewid o annibyniaeth? Yn olaf, o ystyried y niwed a wnaed i enw da Llywodraeth Cymru am dryloywder, bod yn agored a gonestrwydd, a wnewch chi gyhoeddi fersiwn wedi ei golygu o adroddiad yr ymchwiliad datgeliadau nawr, fel y gofynnwyd yn flaenorol gan y Senedd ac fel y gofynnwyd yn ddiweddar gan Aelodau meinciau cefn eich plaid eich hun?

13:50

Llywydd, gallaf ateb nifer o'r cwestiynau yna. Yn gyntaf, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wrth gwrs yn derbyn dyfarniad yr Uchel Lys yn llawn. Gallaf gadarnhau i mi ddod yn ymwybodol o delerau'r adolygiad barnwrol a'r materion a oedd yn y fantol ynddo gyntaf pan gefais fy mriffio ar y mater hwnnw pan ddeuthum yn Brif Weinidog. Gallaf hefyd gadarnhau fy mod i wrthi'n cael cyngor sylweddol ar yr hyn y mae'r dyfarniad yn ei ddweud a'r camau gweithredu sydd ar gael i mi. Cyn gynted ag y gallaf ddatrys y materion hynny, byddaf yn cyhoeddi datganiad i'r Cynulliad yn nodi fy mhenderfyniadau.

Diolch, Llywydd. Pam mae eich Llywodraeth wedi methu â chefnogi meddygon teulu ar adeg y maen nhw'n ei disgrifio fel argyfwng i'r proffesiwn?

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi cefnogi meddygon teulu erioed. Dyna pam yr ydym ni wedi llwyddo i gytuno telerau ac amodau newydd a chontractau newydd gyda meddygon teulu  flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyna pam y darparwyd cynnydd sylweddol gennym i'r contract y llynedd, a pham yr oeddem ni eisiau darparu cynnydd sylweddol arall i'r contract ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd—cynnydd o 5.4 y cant yn 2019-20, ymhell y tu hwnt i'r hyn a oedd ar gael i'w cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bydd ein trafodaethau gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru yn ailgychwyn, rydym ni'n gobeithio, yn fuan iawn, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gytuno â nhw rhagor o fuddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.

Dewch, Prif Weinidog, ni allwch chi anwybyddu'r hyn y mae meddygon teulu yn ei ddweud wrthych chi. Lleisiodd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru ei barn dros y penwythnos gyda'r hyn a ddisgrifiwyd ganddi fel tristwch ynghylch sut yr oedd trafodaethau contract gyda'ch Llywodraeth chi wedi mynd rhagddynt. Dywedodd cadeiryddes y pwyllgor meddygon teulu, Charlotte Jones, bod eich dull cyffredinol o ymgymryd â thrafodaethau wedi bod yn siomedig a bod y canlyniad—dyfynnaf—wedi bod ymhell o fod yn gytundeb lle gallai'r pwyllgor edrych i lygaid meddygon a dweud ei fod yn dda ar gyfer y proffesiwn. Nawr, cyhoeddodd eich Gweinidog ddatganiad ddoe ar lansiad y cynllun ar gyfer indemniad ymarfer meddygol cyffredinol, er iddo gael ei wrthod mor bendant gan y pwyllgor. Mae'r un llais hwn yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu â'i gefnogi ar adeg o argyfwng.

Ond nid yw hyn yn berthnasol i feddygon teulu yn unig, Prif Weinidog. Rydym ni wedi gofyn i chi gymryd camau i fynd i'r afael â'r gostyngiad i nifer y bydwragedd yng Nghymru, ac rydym ni'n gweld bellach ffigurau diweddar, er gwaethaf straen gynyddol ar y GIG, bod gostyngiad i niferoedd staff nyrsio ac ymwelwyr iechyd hefyd. Pam, Prif Weinidog, mae pobl yn cael eu gyrru o'r proffesiwn gofal iechyd yma yng Nghymru? Beth mae hyn yn ei olygu i bobl y wlad a beth ydych chi'n ei wneud am y peth?

Llywydd, gadewch i mi roi ar gofnod i'r Aelodau rywbeth o'r trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda GPC Cymru dros y mis diwethaf, ac yn wir gyda Dr Jones, yr wyf i wedi gweithio â hi, a gwn fod y Gweinidog iechyd presennol wedi gweithio â hi, yn agos iawn ac yn adeiladol iawn dros y blynyddoedd lawer y mae hi wedi darparu arweinyddiaeth i'r gymuned meddygon teulu yng Nghymru. Felly, darparodd Llywodraeth Cymru gyfres o gynigion i Bwyllgor Meddygon Teulu Cymru am y tro cyntaf ddechrau mis Mawrth. Cafwyd sylwadau cychwynnol gan GPC Cymru ar 11 Mawrth ac eto ar 13 Mawrth. Cynhaliwyd trafodaethau pellach ac erbyn 25 Mawrth, roedd y pwyllgor eisiau archwilio cyfres wahanol o syniadau gyda ni. Rydym yn parhau i fod yn barod i wneud hynny. Rydym ni'n edrych ymlaen at gyfarfod arall gyda nhw. Mae arweinydd yr wrthblaid yn gwbl anghywir pan ei fod yn awgrymu bod GPC Cymru wedi gwrthod y cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth yr ydym ni wedi ei gynnig. O ganlyniad iddyn nhw'n dod atom ni i siarad am y pwysau y mae yswiriant indemniad yn ei roi ar feddygon teulu yr ydym ni wedi datblygu cynllun o'r fath, ac wedi gwneud hynny mewn trafodaethau agos iawn gyda'i Lywodraeth ef yn Lloegr, sydd wedi cynnig cynllun tebyg iawn ar gyfer meddygon teulu yn y fan honno. Rydym ni'n edrych ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny ac am iddyn nhw gael eu cwblhau'n llwyddiannus.

O ran yr ail bwynt a godwyd gan yr Aelod, Llywydd, cyhoeddwyd ffigurau yr wythnos diwethaf ar gyfer staffio yn GIG Cymru. Yn 2017, am y tro cyntaf, aeth nifer y bobl a gyflogir yn GIG Cymru uwchben y marc 90,000. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar yn dangos bod hynny'n 92,500 o bobl, a chynnydd sylweddol arall i nifer y meddygon, i nifer y meddygon ymgynghorol, i nifer y therapyddion, i nifer y staff gwyddonol a thechnegol sy'n gweithio yn y GIG, i nifer y staff ambiwlans. Rwy'n sylwi nad yw'r Aelod yn sôn am yr un o'r rhain. Nid yw'n sôn am yr un o'r grwpiau hynny lle'r ydym ni wedi cael cynnydd sylweddol i nifer y staff yn y GIG. Mae'r ffigurau yn dangos gostyngiad bach iawn i nifer y nyrsys a bydwragedd, ac rydym ni'n ffyddiog iawn y bydd y rhaglenni hyfforddiant sydd gennym ni ar waith, sydd wedi cynyddu'n sylweddol iawn nifer y nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant, yn gwrthdroi'r duedd honno ac y bydd cynnydd i'r niferoedd staffio hynny hefyd yn ystod y 12 mis nesaf.

13:55

Wel, gadewch i mi roi rhai ffigurau i chi, Prif Weinidog. Mae ffigurau diweddar o'r arolwg cenedlaethol yn dangos bod bron i hanner y bobl yng Nghymru yn cyfaddef eu bod wedi cael trafferth i weld eu meddyg teulu y llynedd. Mae'r nifer hon wedi cynyddu dros y blynyddoedd. A dyfynnodd eich Gweinidog eich hun y ffigurau hyn mewn datganiad diweddar a gyhoeddwyd ganddo i'r Siambr hon mewn gwirionedd. Nawr, er iddi gael ei rhybuddio am hyn gan gyrff proffesiynol fel Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, yn ogystal â chael ei herio gennym ni ar y meinciau hyn ar sawl achlysur, mae eich plaid chi wedi anwybyddu hyn i gyd ac wedi methu â mynd i'r afael â'r broblem hon. Gwelsom 15 o feddygfeydd teulu yn cau ledled y wlad y llynedd hyd yn oed. Mae ffigurau boddhad cleifion wedi llithro dros y blynyddoedd, ac mae meddygon cymunedol yn gadael y proffesiwn gyda gostyngiad o bron i 20 y cant ers 2017, gan orfodi meddygfeydd i gau. Nawr, efallai'n wir bod eich Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad diweddar yn cydnabod nad yw disgwyliadau pobl yn cael eu bodloni, ond nid yw'n ddigon da, Prif Weinidog. Sut y byddwch chi'n rhoi sicrwydd yn y fan yma heddiw i bobl Cymru bod eich Llywodraeth yn cefnogi parhad gofal iechyd lleol ym mhob cymuned ar draws y wlad?

Wel, Llywydd, polisi'r Llywodraeth hon yn sicr yw cryfhau'r ddarpariaeth leol o wasanaethau ac i ddod â gwasanaethau yn nes at bobl. Nid yw'n syndod i neb, ar ôl bron i ddegawd o gyni cyllidol, bod gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo pwysau a straen. Ac, wrth gwrs, mae lefelau hyder yn GIG Cymru yn sylweddol uwch na lle mae ei blaid ef yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, yn Lloegr. Ac mae'r ffigurau hynny yn arbennig o wir pan ddaw i ofal sylfaenol. Felly mae e'n gwbl anghywir wrth awgrymu nad yw'r gwasanaethau y mae meddygon teulu yn eu darparu yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cleifion; rydym ni'n gwybod eu bod nhw bob dydd.

Ond, rydym ni hefyd yn gwybod bod yn rhaid i'n cymuned meddygon teulu wneud mwy i fodloni disgwyliadau poblogaethau cleifion cyn belled ag y mae mynediad yn y cwestiwn. Ac rydym ni hefyd yn gwybod bod y ffordd y mae meddygfeydd teulu unigol yn trefnu mynediad yn amrywio'n sylweddol iawn a bod rhai meddygfeydd sydd gryn dipyn yn fwy llwyddiannus o ran dod o hyd i systemau sy'n eu galluogi i fodloni'r galw hwnnw nag eraill. Dyna'r gwaith safonau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog iechyd ddim ond rhyw wythnos yn ôl. Mae'n dweud wrth ein cymuned meddygon teulu ein bod ni'n disgwyl, ac mae gan gleifion yr hawl i ddisgwyl, yn gyfnewid am y buddsoddiad sylweddol iawn yr ydym ni'n ei wneud mewn gofal sylfaenol ac yr ydym ni eisiau parhau i'w wneud mewn gofal sylfaenol, y bydd cyfres o safonau cyffredin—os ydych chi'n dibynnu ar y ffôn i gysylltu â'ch meddygfa deulu, y bydd y ffôn hwnnw'n cael ei ateb yn brydlon, os ydych chi'n disgwyl cael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, bod gennych chi ddisgwyliad priodol y bydd y gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu'n ddwyieithog, a chyfres o fesurau eraill a nodwyd yn natganiad Vaughan Gething. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r gymuned meddygon teulu i sicrhau'r safonau hynny, oherwydd yn y modd hwnnw, bydd y lefelau uchel iawn o foddhad sydd gan gleifion yng Nghymru gyda'r gwasanaethau hynny yn parhau i gael eu sicrhau.

14:00

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, Ebrill yw'r mis pan ein bod ni'n aml yn gweld cynnydd yn nifer y tanau glaswellt. Yn anffodus, mae mwyafrif llethol y tanau glaswellt yng Nghymru yn cael eu cynnau'n fwriadol. A allwch chi amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu pobl am beryglon cynnau tanau glaswellt?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n amserol yn yr ystyr, wrth i ni gychwyn cyfnod y Pasg, ein bod ni'n gwybod bod honno'n aml yn adeg pan fydd nifer y tanau glaswellt yn cynyddu. Bu llwyddiant sylweddol iawn gan ein gwasanaeth tân yng Nghymru yn yr agwedd hon ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud, yn ogystal ag mewn llawer o agweddau eraill, i gymryd mesurau ataliol i ddod o hyd i ffyrdd gwell o ddiogelu'r ardaloedd hynny fel nad oes tanau yn cael eu cynnau yn y lle cyntaf. Rydym ni wedi defnyddio rhywfaint o waith arbrofol, gan ddefnyddio dulliau gwyddor ymddygiadol i ddod o hyd i ffordd o gyfathrebu gyda'r bobl hynny yr ydym ni'n gwybod sydd yn fwyaf tebygol o gynnau tanau o dan yr amgylchiadau hyn, ac i ddangos rhai o'r risgiau y mae hynny'n eu peri i bobl eraill ac i geisio dylanwadu ar eu hymddygiad yn y ffordd honno. Felly, ein prif ddull yw gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth tân a defnyddio'r llwyddiant y maen nhw wedi ei gael, ond hefyd i ddod o hyd i ffyrdd eraill y gallwn ni gael mynediad at y grwpiau hynny sydd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch o'r math hwn a dylanwadu arnyn nhw.

Diolchaf i chi am yr ateb yna. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddull da, ac edrychaf ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am hynny gan y Llywodraeth pan fydd yr wybodaeth honno gennych. Nawr, mae'r rhan fwyaf o'r tanau hyn, o ran eu natur, yn tueddu i ddigwydd mewn ardaloedd gwledig neu uwchben cymunedau yn y Cymoedd. Mae mwyafrif y diffoddwyr tân dan sylw, felly, yn swyddogion tân wrth gefn, sy'n golygu eu bod nhw'n bobl sydd â swyddi eraill hefyd. Ddwy flynedd yn ôl, cawsom ni argyfwng i raddau gyda nifer y diffoddwyr tân wrth gefn yng Nghymru ar ei hisaf erioed. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi diffoddwyr tân wrth gefn a'r cwmnïau sy'n eu cyflogi?

Yn gyntaf oll, Llywydd, a gaf i dalu teyrnged i waith diffoddwyr tân wrth gefn ym mhob rhan o Gymru? Maen nhw'n darparu gwasanaeth hanfodol. Maen nhw'n gwneud hynny yn y ffordd y mae Gareth Bennett wedi ei ddweud, yn aml yn rhan o waith arall y maen nhw'n ei wneud. Rydym ni eisiau pwysleisio i'r cyflogwyr hynny y gwasanaeth cyhoeddus y mae'r bobl hynny yn ei ddarparu, a cheisio eu perswadio i wneud eu cyfraniad hwythau hefyd drwy ei gwneud yn rhwydd i bobl a gyflogir o dan yr amgylchiadau hynny i gael eu rhyddhau yn yr achosion brys hynny pan fo angen eu gwasanaethau, ac i ystyried hynny fel cyfraniad y maen nhw, fel cyflogwyr, yn ei wneud, ac mae hynny'n cynnwys cyflogwyr sector cyhoeddus a chyflogwyr preifat hefyd, i ystyried hynny'n rhan o'u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, fel y'i disgrifir fel arfer.

Yn fwy cyffredinol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae'r ffaith bod llai o danau yng Nghymru, a bod y gwasanaeth tân wedi llwyddo i'r graddau y mae wedi ei wneud i atal problemau rhag codi, yn arwain yn anochel at rai heriau o ran cadw'r gweithlu sydd wedi bod yno yn y gorffennol pan fo'u prif dasg yn lleihau. Yn hyn yr ydym ni wedi bod eisiau ei wneud yng Nghymru yw dod o hyd i ffyrdd eraill y gallwn ni ddefnyddio doniau a sgiliau'r bobl hynny, yn enwedig wrth chwilio am ffyrdd y gallan nhw gynorthwyo gwasanaethau brys eraill, a'r gwasanaeth iechyd yn arbennig.

Unwaith eto, oes, mae llawer yn yr ateb yna y byddwn yn ei groesawu. Mae tanau glaswellt, yn amlwg, yn bla. Maen nhw'n gallu dinistrio cynefinoedd, maen nhw'n lladd da byw ac maen nhw hyd yn oed yn bygwth adeiladau a busnesau. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am yr ochr addysgol mewn ateb cynharach, yr wyf i'n ei groesawu, fel y dywedais. A oes angen strategaeth drawsbynciol, yn mynd ar draws y gwahanol bortffolios gweinidogol, er mwyn ymdrin â'r broblem hon?

Wel, rwy'n berffaith hapus i ystyried hynny, ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod hwn yn un o'r meysydd lle mae'r llwyddiant yr ydym ni wedi ei weld yn awgrymu bod y gwaith hwnnw eisoes yn cael ei wneud yn llwyddiannus. Gwn fod y ffordd y mae awdurdodau lleol, yn ogystal â buddiannau addysg, yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân a gwasanaethau brys eraill wedi bod wrth wraidd y ffordd yr ydym ni wedi mynd i'r afael â cheisio ymdrin â thanau glaswellt ac enghreifftiau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys llosgi bwriadol sy'n digwydd yng Nghymru. Rwy'n credu, Llywydd, ei fod yn glod i'r ffordd y mae awdurdodau eisoes yn gweithio ar draws ffiniau a chyda Llywodraeth Cymru ein bod ni wedi gweld y llwyddiant yr ydym ni wedi ei weld.

14:05
Atebolrwydd Prifysgolion

3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael i gryfhau atebolrwydd prifysgolion? OAQ53719

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae prifysgolion yn gyrff ymreolaethol y mae eu cynghorau llywodraethu yn atebol amdanynt. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn rheoleiddio'r sector ar ran Gweinidogion Cymru, ac mae trafodaethau ar y gweill i nodi ffyrdd y gellir cryfhau ei ganllawiau i gyrff llywodraethu.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, a bydd gennyf ddiddordeb gweld y canllawiau cryfach. Fodd bynnag, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod problemau yn y sector nawr y mae angen mynd i'r afael â nhw. Rwy'n cyfeirio'n arbennig, wrth gwrs, at y sefyllfa yn Abertawe, y gwn ei fod yn gwbl ymwybodol ohoni, ac rwy'n derbyn yn llwyr pwynt y Prif Weinidog bod prifysgolion yn ymreolaethol ac, wrth gwrs, byddai pob un ohonom ni'n dymuno iddyn nhw barhau felly. Ond maen nhw, serch hynny, yn cael symiau sylweddol iawn o arian cyhoeddus, ac maen nhw'n cyflawni swyddogaeth a phwysigrwydd economaidd, yn enwedig mewn cymunedau tlotach, sy'n gorbwyso hynny.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod CCAUC wedi codi pryderon yn y gorffennol ynghylch gadernid trefniadau llywodraethu ym Mhrifysgol Abertawe, a gofynnaf am sicrwydd y Prif Weinidog heddiw y bydd y Gweinidog addysg yn gweithio gyda CCAUC i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r gwendidau hynny. Yn enwedig, mae'r sefyllfa bresennol, lle mae gennym ni aelodau staff uwch sydd wedi cael eu gwahardd am fisoedd ar fisoedd heb ddilyn unrhyw drefn briodol, yn dystiolaeth o sefydliad sydd angen mwy o gymorth nag y mae'n ymddangos ei fod yn ei gael ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli efallai na fydd y Prif Weinidog yn teimlo ei fod yn gallu rhoi ateb cyhoeddus heddiw, ond rwy'n gobeithio, drwy CCAUC, ei fod ef a'r Gweinidog addysg yn sicrhau y gellir dirwyn y prosesau parhaus hynny i ben cyn gynted â phosibl, er lles y sefydliad a'r unigolion dan sylw.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn. Hoffwn ymateb i'r pwyntiau cyffredinol pwysig y mae hi'n eu gwneud, ac rwy'n deall cryfder ei theimladau a'r wybodaeth sydd ganddi o ran y mater penodol y mae wedi ei godi. Ond o ran y pwynt cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu darpariaeth addysg uwch ac mae CCAUC yn monitro sefydliadau. Ac mae'r rhaniad hwnnw o ran cyfrifoldebau  yno er mwyn sicrhau bod ymreolaeth y sefydliadau hynny yn cael ei barchu am y rhesymau a gydnabuwyd gan Helen Mary Jones yn ei chwestiwn atodol.

Ond oherwydd pryderon am ansawdd y ddarpariaeth ac uniondeb academaidd y ceisiodd y Gweinidog sicrwydd ganddyn nhw yn ei llythyr cylch gwaith i CCAUC ar gyfer 2019-20 bod sefydliadau yn cymryd y materion hyn o ddifrif, a bod mesurau cryfach yn cael eu rhoi ar waith. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda CCAUC ynghylch sut i wneud yn siŵr bod mesurau adolygu risg cryfach ar waith, ac y gallwn gryfhau'r canllawiau y mae CCAUC yn eu darparu i'r cyrff llywodraethu hynny. Maen nhw, fel y dywedodd yr Aelod, yn gwario symiau sylweddol iawn o arian cyhoeddus. Maen nhw'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n cael effaith uniongyrchol ar economïau lleol a rhagolygon poblogaethau lleol, ac mae'n hollol iawn a phriodol mai'r safonau y mae'r cyrff llywodraethu hynny'n ymateb iddyn nhw yw'r rhai y byddem ni'n disgwyl eu gweld, ac y gallwn fod yn ffyddiog eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd a fyddai'n gwrthsefyll archwiliad.

Prif Weinidog, byddai'n anghwrtais i ofyn yn y fan yma beth yw eich graddfa gyflog bresennol, ond credaf ei bod yn deg dweud pe byddech chi'n is-ganghellor chi fyddai'r un â'r cyflog isaf yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hyn yn fesuriad o ryw fath. Pan fo cyflog uwch swyddogion mewn prifysgolion yn sylweddol uwch na'r hyn yr ydych chi'n ei gael, yna maen nhw angen cyfiawnhad eglur dros hynny, ac mae angen iddyn nhw fod yn atebol. Maen nhw'n swyddi anodd, a gall hyn fod yn briodol weithiau, ond yn sicr mae angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o'r gymhareb cyflog uchaf i gyflog canolrifol yn eu sefydliadau.

Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae David Melding wedi ei ddweud. Rwyf i, yn bersonol, yn gwbl argyhoeddedig bod cymhareb safonol o gyflog uchaf i ganolrifol yn ffordd o ddangos i bawb sy'n gweithio yn y sefydliad hwnnw y gwerth y mae'r sefydliadau hynny yn ei roi ar y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud. A phan fo gennych chi bobl ar frig sefydliad sy'n gwneud, rwy'n cytuno, swyddi anodd a heriol, ond pan fo'r bobl hynny mewn sefyllfa i weld eu cyflog eu hunain yn ymestyn ymhellach o'r tâl sydd ar gael i bawb arall sy'n gwneud cyfraniad i'r sefydliad hwnnw, pa bynnag ran y maen nhw'n ei chwarae ynddo, yna nid wyf i'n credu bod hynny'n anfon neges ddefnyddiol i bawb arall bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi a bod eu cyfraniad yr un mor bwysig yn ei ffordd ei hun â'r cyfraniad a wneir gan unrhyw berson arall sy'n gweithio i'r sefydliad.

14:10
Newid yn yr Hinsawdd

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53737

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Ym mis Mawrth, lansiodd Llywodraeth Cymru ein cynllun datgarboneiddio statudol Llywodraeth gyfan cyntaf. Mae'n cyflwyno 100 o bolisïau a chynigion, ym mhob sector o'n heconomi, i fodloni ein cyllideb garbon bresennol ac i bennu llwybr datgarboneiddio tymor hwy i Gymru.

Byddai llawer yn cytuno â'r hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym, mai'r newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n ein hwynebu ar ein planed. Mae gan Gymru ran fach ond pwysig iawn i'w chwarae yn hyn. Mae'r ffaith ein bod ni'n methu ein targedau lleihau carbon yn dangos nad yw Cymru ar y trywydd iawn pan y gallem ni ac y dylem ni fod yn ysgogi'r agenda ac yn creu esiampl i'r byd ei dilyn.

Wrth siarad yn lansiad cynllun datgarboneiddio eich Llywodraeth chi y mis diwethaf, dywedodd cyn-Weinidog yr amgylchedd, Jane Davidson, bod cyrff anllywodraethol amgylcheddol yn cael eu heithrio o'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. Pan yr oedd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn weithredol, roedd gan sefydliadau anllywodraethol a phobl ifanc sedd wrth y bwrdd. Nawr bod y comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd wedi cael ei ddiddymu a'i ddisodli gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, mae perygl gwirioneddol y bydd arbenigedd cymdeithas sifil a lleisiau pobl ifanc yn cael eu cloi allan o'r ystafell. A ydych chi'n rhannu fy mhryderon i a barn Jane Davidson bod problem fel newid yn yr hinsawdd yn haeddu cael pawb yn cyfrannu at y gwaith, ac os felly, sut gwnaiff eich Llywodraeth chi sicrhau y bydd lleisiau cymdeithas sifil yn cael eu clywed?

Wel, diolchaf i'r Aelod am hynna, oherwydd rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r pwynt y mae hi'n ei wneud bod argyfwng y newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gellir mynd i'r afael ag ef dim ond drwy bob un unigolyn a phob un sefydliad yn ymrwymo i chwarae eu rhan i'w frwydro. Roeddwn i'n bresennol yn y digwyddiad y cyfeiriodd hi ato. Ni chlywais i Jane Davidson yn dweud hynny, ond doeddwn i ddim yno ar gyfer y diwrnod cyfan ychwaith. Roedd comisiynydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn annerch y gynhadledd honno. Yn wirioneddol bwysig, i gymryd y pwynt cyntaf y mae Leanne Wood wedi ei wneud, roedd gan bobl ifanc ran bwysig iawn i'w chwarae yn y gynhadledd honno, o ran paratoi ar ei chyfer, cynllunio ar ei chyfer a siarad yn uniongyrchol â hi. Roedd yn fraint fawr i mi, ar ôl gwneud fy nghyfraniad, cael treulio mwy o amser yn y gynhadledd wedyn yn cyfarfod yn benodol â'r grwpiau o bobl ifanc a oedd wedi cymryd rhan yn y gwaith o baratoi ar gyfer y gynhadledd ei hun. Cyfarfûm â llu o bobl ifanc a oedd â straeon gwych i'w hadrodd, pethau yr oedden nhw eu hunain yn ei wneud yn yr ysgolion a'r colegau yr oeddent yn perthyn iddyn nhw, gyda syniadau yr oedden nhw eisiau eu cynnig i eraill, gyda heriau i'r rhai hynny ohonom ni sydd, fel y bydden nhw'n ei ystyried heb amheuaeth, wedi helpu i greu'r etifeddiaeth o broblemau y bydd yn rhaid iddyn nhw weithio drwyddynt yn eu bywydau, ac mae'r cyfraniad sydd ganddyn nhw i'w wneud at lunio'r agenda hon yn bwysig iawn yn wir.

Rwyf i'n gwbl sicr bod comisiynydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn gwneud ymdrechion glew iawn i wneud yn siŵr ei bod hi'n ymgysylltu â phobl ifanc, i fod yn sicr nad yw eu lleisiau yn cael eu heithrio o'r ffordd y mae hi'n llunio'r cyngor y mae'n ei roi i ni. Gwn pa mor brysur yw hi yn ymgysylltu â chymdeithas ddinesig o bob math ledled Cymru. Byddwn i'n siomedig iawn pe byddai'r agenda bwysig hon yn eithrio lleisiau pwysig yng Nghymru mewn unrhyw ffordd. Rwy'n hapus iawn i gael sgwrs gyda'r comisiynydd i wneud yn siŵr ei bod yn ymwybodol o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi y prynhawn yma.

Prif Weinidog, roedd eich cynllun yn cynnwys 100 o bwyntiau gweithredu ac yn amlwg roedd yn dod â'r holl bwyntiau gweithredu at ei gilydd am y tro cyntaf, rwy'n credu, mewn un ddogfen. Un o'r targedau yw cynyddu plannu coed ac mae pwyllgor yr amgylchedd yn y fan yma wedi ystyried hynny. Rydych chi wedi methu hwnnw o bell ffordd, a phan edrychwch chi ar Cyfoeth Naturiol Cymru, mae ganddyn nhw dros 6,000 hectar a mwy o dir coedwigaeth heb ei blannu. A allwch chi wneud ymrwymiad heddiw, gan fy mod i'n sylweddoli bod rhai o'r pethau eraill yn y cynllun yn llawer mwy hirdymor, ond mae gennych chi'r holl ysgogiadau i ymgymryd â hyn—a allwch chi wneud ymrwymiad heddiw y bydd eich rhaglen plannu coed yn ôl yn cadw at yr amserlen unwaith eto erbyn diwedd y flwyddyn hon ac y byddwn ni'n cyrraedd y targedau y mae eich Llywodraeth wedi eu pennu iddi ei hun, ac yn arbennig y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyfraddau ailblannu yn ôl i'r safon?

14:15

Rwy'n awyddus iawn yn wir y dylai hynny ddigwydd. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am fethu â chyrraedd y targedau yn ddiweddar, ac rwy'n benderfynol iawn y byddwn ni'n eu cyrraedd yn y dyfodol. Lansiwyd rownd newydd o gyllid cynllun datblygu gwledig ar gyfer creu coetiroedd Glastir ddoe, gyda datganiadau o ddiddordeb i gael eu cyflwyno erbyn 10 Mai. Gwn fod y Gweinidog yn gwylio'r datblygiad hwnnw yn agos iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cyrraedd y targedau hynny. Gwneuthum ymrwymiad yn ystod yr etholiad arweinyddiaeth yn fy mhlaid fy hun i greu coedwig genedlaethol newydd yma yng Nghymru, a chredaf fod hwnnw'n syniad a fydd yn ein helpu ni i wneud yn siŵr nid yn unig ein bod ni'n cyrraedd y targedau sydd gennym ni nawr ar gyfer plannu coed ond ein bod ni'n gallu gwneud mwy fyth i nodi'r cyfraniad y gall mwy o blannu coed yng Nghymru ei wneud, at yr agenda carbon a newid yn yr hinsawdd ond at agendâu eraill hefyd.

Ysbyty Nevill Hall

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau'r GIG yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni? OAQ53716

Bydd Ysbyty Nevill Hall yn parhau i chwarae rhan allweddol ar ôl agor ysbyty prifysgol y Grange yn 2021. Nodir ei swyddogaeth newydd yn strategaeth dyfodol clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, roeddwn i'n bresennol yn seremoni gosod carreg gopa'r ganolfan gofal critigol newydd yn Llanfrechfa yr wythnos diwethaf. Soniasoch am ddyfodol clinigol Gwent. Dim ond ar ben pyramid dyfodol clinigol Gwent y mae'r ganolfan gofal critigol newydd yn Llanfrechfa yn gweithio, gydag ysbytai cyffredinol yn gweithredu, fel Ysbyty Nevill Hall, ar yr ail lefel, a gwasanaethau cymunedol fel y lefel sylfaen—o leiaf dyna oedd y cynllun gwreiddiol. Rydym ni'n gwybod y bu rhai pryderon lleol o amgylch y Fenni ac, yn wir, de Powys, ynghylch adleoli rhai gwasanaethau, fel pediatreg, obstetreg ac ati o Ysbyty Nevill Hall i'r ganolfan gofal critigol newydd. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'm hetholwyr i y bydd Ysbyty Nevill Hall yn cael ei ailddatblygu ar ffurf ysbyty cyffredinol modern ac na fydd yn colli mwy o wasanaethau lleol pwysig, gan ganiatáu i'r ganolfan gofal critigol newydd fwrw ymlaen â'r gwaith y cafodd ei hadeiladu i'w gyflawni ac y bydd yn ei gyflawni yn y dyfodol gobeithio? Mae'n gyfleuster gwych yr oeddwn i'n falch o gael ymweld ag ef yr wythnos diwethaf.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n hollol iawn i ddweud y bydd y mwyafrif llethol o wasanaethau iechyd ar lefel ysbyty yn parhau i gael eu darparu gan y rhwydwaith o ysbytai lleol—Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Aneurin Bevan, ysbyty Cas-gwent a'r ysbytai sirol, yn ogystal, wrth gwrs, â'r rhan bwysig iawn y bydd Ysbyty Nevill Hall yn parhau i'w chwarae yn y dyfodol, gan ddarparu'r rhan fwyaf o wasanaethau ysbyty, uned mân anafiadau, uned famolaeth dan arweiniad bydwragedd, profion diagnostig, therapïau, gofal cleifion mewnol a chleifion allanol, gan barhau i fod yn ganolfan gofal sylfaenol y tu allan i oriau, gwasanaethau diagnostig o ran MRI, CT ac asesiadau meddygol. Dyna'r weledigaeth a gyflwynwyd gan ddyfodol clinigol Gwent. Mae hynny'n golygu—ac mae newid bob amser yn anodd yn y gwasanaeth iechyd, fel y mae e'n gwybod—bydd gwasanaethau obstetreg a phediatreg dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ysbyty'r Grange yn y dyfodol, ond dyna sut y dylai fod gan y bydd yr ysbyty hwnnw yn darparu gofal arbenigol neu gritigol cymhleth, gan ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'r bobl hynny sydd eu hangen ar y lefel honno o ymyrraeth, gan ganiatáu i'r rhwydwaith ysbytai lleol hwnnw barhau i ddarparu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y poblogaethau lleol hynny.

Newid yn yr Hinsawdd

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53743

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn.

Mae'r adroddiad cyflwr yr ystâd diweddaraf yn dangos bod Llywodraeth Cymru, ar 31 Mawrth 2018, wedi lleihau allyriadau o'n hystâd weinyddol ein hunain gan 57 y cant yn erbyn llinell sylfaen o 2010 ac mae hynny eisoes yn rhagori ar y targed a bennwyd gennym ni bryd hynny ar gyfer 2020. Rydym ni hefyd wedi gwneud gostyngiadau sylweddol i'r defnydd o drydan, dŵr a gwastraff yn rhan o'n hymdrechion ein hunain i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Diolchaf iddo am ei ateb. Prif Weinidog, mae eich plaid wedi datgan sefyllfa o argyfwng hinsawdd erbyn hyn. Os bydd Llywodraeth Cymru yn datgan hyn yn swyddogol, hi fydd y Llywodraeth gyntaf yn y byd i wneud hynny. A gaf i ofyn: a yw datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd yn golygu na fydd y Llywodraeth yn gallu bwrw ymlaen â'i chynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4, ac, os nad ydyw, beth yn union yw'r pwynt o ddatgan yr argyfwng?

Wel, mae'r Aelod yn ymwybodol, Llywydd, mi wn, na allaf wneud unrhyw sylw heddiw ynghylch ffordd liniaru'r M4 gan fy mod i wedi fy rhwymo i beidio â gwneud hynny gan y rheolau y mae Llywodraethau wedi'u rhwymo ganddynt yn ystod cyfnod is-etholiad. Mae'r pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud yn un pwysig, wrth gwrs, bod cynhesu byd-eang yn her wirioneddol sy'n wynebu'r byd cyfan a bod yn rhaid trin y camau y mae unrhyw Lywodraeth yn eu cymryd o ran buddsoddiadau mawr yn erbyn yr effaith y maen nhw'n ei chael ar greu dyfodol byd-eang ar gyfer cenedlaethau a ddaw ar ein holau ni a gwneud cynnydd gwirioneddol o ran y problemau y mae'r newid yn yr hinsawdd yn eu creu.

14:20
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

Penderfyniadau Amgylcheddol ar ôl Brexit

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar gydgyfnerthu'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn ymgorffori hawliau dinasyddion Cymru i herio penderfyniadau amgylcheddol ar ôl Brexit? OAQ53692

Mae ein hymgynghoriad ar egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol, a gyhoeddwyd ar 18 Mawrth, yn ceisio barn rhanddeiliaid ar weithdrefnau cwynion dinasyddion i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar weithredu deddfwriaeth amgylcheddol. Mae'r gwaith hwn yn parhau a, chan weithio gyda rhanddeiliaid, byddwn yn bwriadu sicrhau trefniadau llywodraethu cydlynol ac effeithiol ar gyfer dinasyddion Cymru.

Diolchaf i'r Gweinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi mai un o'r amddiffyniadau hanfodol a ddarperir i ddinasyddion yr UE o dan y trefniadau presennol yw'r gallu i herio Llywodraethau yn gyfreithiol, fel yr ydym ni wedi ei weld gyda dyfarniadau cyfreithiol nodedig fel y rhai llygredd aer a gyflwynwyd dro ar ôl tro gan Client Earth. O ran sefyllfa 'dim cytundeb', mae tîm cyfreithiol Client Earth eisoes wedi rhybuddio bod honiadau Llywodraeth y DU y bydd amddiffyniadau'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu cynnal yn llawn ar ôl i Brydain adael yr UE yn ffug, a rhybuddiodd mai 'dim cytundeb' yw'r sefyllfa waethaf bosibl i amgylchedd naturiol, hinsawdd ac ansawdd aer Prydain. Ond hoffwn ofyn i'r Gweinidog geisio rhoi ateb mor eglur â phosibl i mi ar hyn o bryd ynghylch pa amddiffyniadau fydd yn parhau i'r dinesydd allu herio Llywodraethau yn gyfreithiol o dan wahanol fathau o 'Brexit meddal' fel y'i gelwir, ac, yn wir, cytundeb Theresa May ei hun os bydd yn dychwelyd. A fydd hawliau'r dinesydd i herio Llywodraethau yn cael eu gwanhau neu a fyddan nhw'n cael eu cynnal o dan y gwahanol sefyllfaoedd hyn? Os mai'r ateb yw nad ydym ni'n gwybod hynny eto heddiw neu ei fod yn rhy gymhleth, rwy'n credu y byddwn i ac Aelodau eraill yn ddiolchgar iawn pe gallai'r Gweinidog ysgrifennu atom pan fydd hynny'n eglur.

Wel, rwy'n sicr yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion, ond fel y bydd yn gwybod, un o'r tasgau yr ydym ni wedi bod yn ymgymryd â nhw ers misoedd lawer iawn yw'r dasg o sicrhau bod y llyfr statud, sy'n cynnwys llawer o'r ddeddfwriaeth y mae'n cyfeirio ati—y llyfr statud Ewropeaidd—yn dod yn rhan o lyfr statud Cymru, os mynnwch chi, llyfr statud y DU, ac sydd wedi bod yn gweithredu ar sail 'dim cytundeb' o'r cychwyn. Pwynt hynny, fel y bydd ef yn cofio efallai, yw sicrhau bod yr hawliau sy'n bodoli yn ôl y gyfraith yn cael eu cadw, os mynnwch chi, o'r diwrnod cyntaf ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, dyna fwriad yr ymarfer hwnnw. Yn amlwg, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y byddwn ni'n colli swyddogaeth Comisiwn yr UE a'i swyddogaeth oruchwylio, ac, yn amlwg, un o'r amcanion yr ydym ni'n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd yw canfod y ffordd orau o roi trefniadau ar waith yng Nghymru sy'n galluogi Llywodraeth i gael ei dwyn i gyfrif.

Mae trafodaethau ar y gweill ac wedi bod ers cryn amser rhwng Gweinidog yr amgylchedd a chymheiriaid ar lefel y DU ynghylch rhai o'r trefniadau hyn. Mae deddfwriaeth yn cael ei chynnig ar lefel y DU gyfan, ond mae'r sefyllfa yma yng Nghymru o ran diogelu'r amgylchedd yn wahanol iawn mewn nifer o ffyrdd, fel y gwn y mae'r Aelod yn ei wybod yn dda iawn. Mae gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; mae gennym ni ein Deddf amgylchedd ein hunain yma a deddfwriaeth benodol arall. Felly, y dasg yw sicrhau bod y trefniadau sydd gennym ni yma yng Nghymru yn cydnabod y sefyllfa wahanol yr ydym ni eisoes yn gweithredu ynddi—byddem ni'n ei disgrifio fel sefyllfa fwy amddiffynnol—a bydd cyfle i sicrhau y gall aelodau'r cyhoedd gyfrannu at ein syniadau yn hynny o beth yn ystod y cyfnod ymgynghori, a ddaw i ben ar 9 Mehefin, a byddwn yn annog yr Aelod—pob Aelod—ac aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan lawn yn y broses honno i hysbysu safbwyntiau Llywodraeth Cymru mewn modd mor drwyadl â phosibl.  

Y gwir amdani yw, wrth gwrs, rŷch chi wedi cael dwy flynedd i sortio hyn mas—dros ddwy flynedd i sortio hyn allan. Fe gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cynlluniau nhw am swyddfa diogelu'r amgylchedd flwyddyn ddiwethaf. Mi oedd Llywodraeth Cymru i fod cyhoeddi rhywbeth yn yr haf, wedyn fe aeth hynny'n hydref, wedyn fe aeth hynny'n flwyddyn newydd—10 diwrnod cyn diwrnod gadael Brexit, i fod, y cyhoeddodd eich Llywodraeth chi ymgynghoriad. Nawr, roeddech chi'n dweud eich bod chi'n dod at hwn ac yn edrych am effective and coherent arrangements, wel, does dim byd lot yn effective a coherent am y modd mae’r Llywodraeth wedi delio â hyn hyd yma. Felly, allech chi ddweud wrthon ni pryd fydd trefniadau deddfwriaeth yn dod ymlaen a threfniadau yn cael eu rhoi yn eu lle? Os oes unrhyw beth yn risg i amgylchedd Cymru, yna'r modd mae’ch Llywodraeth chi wedi llusgo’ch traed ar y mater yma yw’r risg mwyaf.

14:25

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Dwi ddim yn derbyn sail y cwestiwn hynny. Fel rwy'n dweud, mae’r broses hon wedi bod yn mynd rhagddi ers amser er mwyn sicrhau ein bod ni'n sicrhau yr egwyddorion sydd yn addas ar ein cyfer ni yma yng Nghymru. Dyw e ddim yn addas i ni jest dderbyn heb ystyriaeth bellach y trefniadau sydd ar y gweill ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid sicrhau eu bod nhw’n briodol i’n tirwedd ddeddfwriaethol ni yma yng Nghymru, a’r hawliau sydd gyda phobl yng Nghymru, sydd yn amgen, a dweud y gwir, i'r hawliau sydd gyda phobl ar draws y Deyrnas Unedig mewn amryw o ffyrdd.

Mae’r broses o sicrhau'r sail ddeddfwriaethol honno wedi bod, fel gwnes i sôn yn fy ateb i Huw Irranca-Davies, yn mynd rhagddi am gyfnod sylweddol iawn. Ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae proses hefyd o sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn digwydd ar y cyd â Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig. Rwy'n gwybod bod ei blaid e wedi gwrthwynebu i'r sail mae hynny wedi bod yn digwydd, ond mae e wedi bod yn digwydd, mewn gwirionedd, mewn ffordd effeithiol iawn, ac rŷn ni’n gobeithio y daw hwnna i fwcwl maes o law.

Hawliau Dynol

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ffyrdd o wella'r modd y diogelir hawliau dynol ar gyfer dinasyddion yng Nghymru ar ôl Brexit? OAQ53693

Adeiladwyd datganoli ar sylfeini hawliau dynol. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu na ddylai Brexit arwain at unrhyw atchweliad o hawliau. Mae trafodaethau wedi cychwyn ar gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol i holl ddinasyddion Cymru, gan ddechrau gyda chychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Tybed a gaf i holi'r Gweinidog am un agwedd benodol, sef siarter yr UE ar hawliau sylfaenol. Un o ganlyniadau gadael yr UE, wrth gwrs, yw na fydd gan ddinasyddion Cymru a'r DU amddiffyniad y siarter hawliau sylfaenol mwyach. Mae'r siarter, wrth gwrs, yn cynnwys llawer o feysydd sy'n gorgyffwrdd â'n Deddf Hawliau Dynol 1998, ond mae'n mynd ymhellach, gan roi'r hawl i loches, hawliau i urddas, diogelu data personol ac iechyd ac amddiffyniadau i weithwyr rhag diswyddiad heb gyfiawnhad a hawl annibynnol i ryddid rhag gwahaniaethu. Mae'r olaf yn bwysig gan nad yw ein Deddf Hawliau Dynol ni ond yn amddiffyn rhag gwahaniaethu gan y wladwriaeth, tra bod yr amddiffyniadau gwahaniaethu yn y siarter yn berthnasol i sefyllfaoedd rhwng unigolion a sefydliadau, fel rhwng dau o bobl ar Twitter. A chan fod y siarter yn offeryn byw, mae'n golygu bod yn rhaid i'r hawliau y mae'n eu darparu adlewyrchu newid cymdeithasol. Felly, fe'i hystyrir yng nghread hawliau pwysig fel yr hawl i gael eich anghofio, er enghraifft. Ac o gofio pan wnaethpwyd y Ddeddf Hawliau Dynol yn gyfraith, mai dim ond 9 y cant o aelwydydd ym Mhrydain oedd â mynediad at y rhyngrwyd, mae gallu'r siarter i gyflwyno hawliau newydd yn ymwneud â materion fel diogelu data yn gryfder pwysig. Felly, pan fyddwn ni'n gadael yr UE, Gweinidog, beth allwn ni ei roi ar waith yma yng Nghymru, ac yn y DU, i ddiogelu'r hawliau dynol gwerth ychwanegol a mwy hynny y brwydrwyd yn galed i'w hennill a'r hawliau estynedig hynny sydd wedi'u cynnwys yn y siarter hawliau sylfaenol hefyd?

Wel, rwy'n falch bod yr Aelod wedi codi'r cwestiwn hwn er ei fod yn bwnc yr ydym ni'n ei drafod yn y Cynulliad yn weddol aml, gan ei fod yn ddimensiwn sydd heb ei archwilio, rwy'n credu, o broses Brexit. A gwn yn sgil fy nhrafodaethau blaenorol ag ef, ac yn wir yn ei gwestiwn, sut y mae'n cydnabod swyddogaeth ganolog y siarter hawliau sylfaenol. Bydd yn cofio ein bod ni wedi cynnwys mesurau amddiffyniadau ychwanegol yn ein fersiwn ni o'r Ddeddf parhad yma yng Nghymru—er nad yw'r cymhwysedd gennym i adfer y siarter yma yng Nghymru, llwyddasom i ddod o hyd i ddull lle byddai egwyddorion y siarter wedi bod ar gael i ddehongli deddfwriaeth. Fel y mae e'n gwybod, diddymwyd y Ddeddf honno o ganlyniad i gyfres ehangach o drefniadau. Ond mae'r egwyddorion sy'n sail i'r siarter honno, a'r egwyddorion ehangach y mae'n cyfeirio atyn nhw yn ei gwestiynau, yn sicr yn ein meddyliau ynghylch sut i fwrw ymlaen â phethau o'r fan yma.

Ceir amrywiaeth o hawliau a ddisgrifir yn y siarter sydd wedi eu cwmpasu o fewn y gweithgarwch economaidd-gymdeithasol a'r dadansoddiad hawliau ehangach y mae'r Llywodraeth yn ymgymryd â nhw ar hyn o bryd. Mae darn o ymchwil ar y gweill, sydd wedi ei gysylltu ar y cychwyn â'r adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ond o gwmpas ehangach na hynny, a fydd yn egluro i ni y fframwaith sydd ar gael i ni fel ffordd o ddeddfu yma yng Nghymru. Ceir cyfres arall o drafodaethau a myfyrdodau sy'n digwydd o fewn y Llywodraeth ynghylch i ba raddau y gallwn ni ymgorffori rhai o'r confensiynau sy'n gorgyffwrdd—mae rhai ohonyn nhw yn sicr yn gorgyffwrdd â rhai o'r egwyddorion a amlinellodd ef yn ei gwestiwn. Mae darn o waith ar y gweill i ddeall y cwmpas, y potensial, sydd gennym ni ar gyfer gweithredu yn y modd deddfwriaethol ehangach hwnnw, nid yn unig ar sail dameidiog, ond ar sail fwy cydlynol efallai.

14:30
Newid y Llw Teyrngarwch

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch a oes gan y Cynulliad bwerau deddfu mewn perthynas â newid y llw teyrngarwch? OAQ53708

Nid wyf i wedi cael unrhyw drafodaethau o'r fath. Nid oes gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol i ddiwygio'r llw teyrngarwch, ac nid oes gennym unrhyw gynigion i geisio ehangu cymhwysedd y Cynulliad yn hynny o beth.

Wel, rwyf i newydd glywed rhywun yn gweiddi oddi ar ei eistedd, 'Gwarthus'. Ond, fel rhywun sy'n weriniaethwr, hoffwn gael y dewis o gael y llw teyrngarwch hwnnw i ddinasyddion Cymru ac nid i gorff sy'n ymgorffori braint a grym etifeddol sy'n aml yn anathema i bobl Cymru. Mae fy mhrif ffyddlondeb i'r bobl. A allwch chi amlinellu pa un a allai Llywodraeth Cymru wneud cais i'r pwerau dros y llw teyrngarwch gael eu newid, ac a fyddech chi'n fodlon ystyried gwelliannau yn y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sy'n ystyried newid pleidleisio ar gyfer pobl 16 mlwydd oed, yn ystyried newid y system gyfan, er mwyn caniatáu i'r dewis fodoli—nid wyf i'n dweud ei ddiddymu, i'r breniniaethwyr yn y Siambr—i ganiatáu i'r dewis fodoli i'r rhai hynny ohonom nad ydym ni eisiau tyngu llw teyrngarwch i'r frenhiniaeth i wneud gwahanol fath o lw, ar gyfer Cymru gyfoes?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ac mae'r pwynt yn dwyn i gof y ddeiseb a gyflwynwyd gan Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, yn y Senedd yn 2006, a oedd yn galw am newid y gyfraith i roi cyfle i Aelodau Cynulliad Cymru  addo teyrngarwch i bobl Cymru, yn hytrach nag i'r Frenhines. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad polisi i geisio newid y sefyllfa honno. Adlewyrchir y ddeddfwriaeth yng Nghymru, mewn ystyr, gyda deddfwriaeth yn yr Alban o ran y cyfyngiad sy'n gwahardd y Senedd—y Cynulliad yma—rhag diwygio'r ddeddfwriaeth berthnasol. [Torri ar draws.] Mae hi wrth gwrs—fel y mae hi'n ei ddweud oddi ar ei heistedd—yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon, am resymau sydd efallai yn benodol i Ogledd Iwerddon, a dyna, rwy'n credu, yw'r sail resymegol dros ddefnyddio dull gwahanol. Rwyf yn digwydd bod yn rhannu ei barn y byddem yn well ein byd drwy gael pennaeth etholedig i'r wladwriaeth, ond byddwn hefyd yn dweud, pe byddech yn gofyn i mi restru efallai y 10 prif rwystr i setliad cyfansoddiadol gwell yma yng Nghymru, byddwn yn hawdd yn gallu nodi 10 sydd efallai yn yn fwy dybryd a phellgyrhaeddol na'r pwynt penodol yna.

Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru

4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am waith adran gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru? OAQ53700

Yr adran gwasanaethau cyfreithiol sy'n gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau cyfreithiol i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyngor ar faterion cymhleth yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus, cyfraith cyflogaeth a chyfraith fasnachol, drafftio cyfarwyddiadau i Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol i ddrafftio deddfwriaeth sylfaenol, paratoi holl is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, ac ymdrin ag ymgyfreitha uchel ei broffil.

Diolch. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ffodus i allu troi at dîm o gynghorwyr cyfreithiol ar wahanol faterion. Ond cefais fy synnu braidd, drwy ganlyniadau cais rhyddid gwybodaeth yn ddiweddar, o ganfod bod cyfreithwyr allanol a oedd yn gwneud gwaith ar ran Gweinidogion wedi bod yn cyfarwyddo cwnsleriaid am gost enfawr i drethdalwyr. Er enghraifft, canfûm, yn ystod y tair blynedd ariannol ddiwethaf, bod bron i £1.5 miliwn wedi ei wario gan Lywodraeth Cymru ar fargyfreithwyr. Rwyf i hefyd yn ymwybodol mai hwn yw'r ffigur isaf a roddwyd ar gyfer y gwariant, gan nad yw gwariant ar rai cyfarwyddiadau yn cael eu cofnodi. Nawr, er fy mod i'n sylweddoli bod manylion unrhyw gyfarwyddiadau wedi eu diogelu gan fraint broffesiynol gyfreithiol, a wnewch chi esbonio pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau yr ystyrir bod pob cyfarwyddyd yn hanfodol, a bod rhywfaint o dryloywder yn cael ei gyflwyno i'r broses o gaffael cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru, fel bod trywydd archwilio wedi'i gostio'n llawn ar gael i'w weld?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r penderfyniad ynghylch pryd i roi cyfarwyddyd i gwnsleriaid yn amlwg yn cael ei wneud yn ofalus iawn ar sail achosion unigol. Rhoddir cyfarwyddyd i gwnsleriaid, er enghraifft, o ran materion lle mae angen eiriolaeth yn y llysoedd uwch, neu lle mae angen cyngor cyfreithiol ar faterion sy'n arbennig o gymhleth neu sy'n codi pwyntiau newydd o gyfraith efallai nad yw cyfreithwyr Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw iddynt yn y gorffennol. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth yr Aelod yw bod arbenigedd sylweddol, enfawr, o fewn Llywodraeth Cymru o ran nifer o'r meysydd a amlinellir yn fy nghwestiwn cychwynnol iddi hi, ac, o ganlyniad i hynny, rydym ni'n anfon llai o gyfarwyddiadau i gwnsleriaid nag y byddem ni ei wneud fel arall. Ac rwy'n aml yn clywed bargyfreithwyr sy'n ymarfer yng Nghymru yn dweud wrthyf y bydden nhw'n falch pe byddem ni'n allanoli neu'n anfon mwy o waith allan nag yr ydym ni'n ei wneud efallai. Ond mae'r dyfarniadau hyn yn ddyfarniadau gofalus i fantoli gwerth am arian ar y naill law a'r angen am arbenigedd a lefel yr eiriolaeth sydd ei hangen yn rhai o'r llysoedd uwch ar y llaw arall. Mae hwn yn faes yr wyf i'n ei adolygu'n barhaus, o ran cyfarwyddiadau i fargyfreithwyr a chyfreithwyr fel ei gilydd, ac rwy'n gwneud hynny gyda'r ddau egwyddor hanfodol hynny mewn golwg.

14:35
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Addysg o ran y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008? OAQ53699

Fel y gŵyr yr Aelod, er nad wyf am drafod manylion y cyngor cyfreithiol, wrth ddarparu'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos bod diogelwch plant wrth deithio i'r ysgol yn hollbwysig, a bydd yn parhau i fod felly.

Diolch. Y rheswm dros ofyn y cwestiwn hwn i chi yw fy mod wedi bod yn ymdrin â nifer o achosion o fewn fy etholaeth i lle mae trafnidiaeth uniongyrchol o'u cartref wedi cael ei wrthod i ddisgyblion ysgol, er gwaethaf y straen a achosir gan lawer o deithiau cerdded ar hyd llwybrau coedwig ac ardaloedd eithaf ynysig ar brydiau. Yn ôl adran 3 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, rhaid i awdurdodau lleol gymryd i ystyriaeth y ffaith na ddylai'r trefniadau teithio y maent yn eu gwneud achosi lefelau afresymol o straen. Wel, gallaf ddweud wrthych, yn achos rhai o'r teuluoedd yr wyf yn ymdrin â nhw, mae hyn yn achosi llawer o bryder ynglŷn â diogelwch y plentyn. Ac fe welir fod yr hyn a ystyrir yn ddiogel neu'n anniogel yn oddrychol:  ffyrdd wedi'u goleuo'n wael, ffyrdd sy'n gwbl anghysbell, ac rydym yn sôn, mewn rhai achosion, am lonydd fferm a llwybrau coedwig. Felly, mae hyn yn broblem, oherwydd nid oes unrhyw ddiffiniad o straen na rhestr ddiffiniol o ba feini prawf y gellid eu hystyried. Felly, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw penderfynu sut y gwneir asesiadau straen, yn unol â'u polisi teithio dysgwyr eu hunain. Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog Addysg i ddarparu rhestr o ba feini prawf y dylai'r awdurdodau lleol eu hystyried wrth ymdrin â straen fel mesur, yng nghyd-destun y Mesur 2008 ei hun?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae'r Mesur, wrth gwrs, yn rhoi rhwymedigaeth sylfaenol ar awdurdodau lleol i ddarparu trafnidiaeth mewn amgylchiadau penodedig, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, ac, yn amlwg, yn yr un modd, ceir elfen o ddisgresiwn i awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau o fewn y fframwaith hwnnw. Credaf y bydd yn gwybod bod y Gweinidog Addysg wedi ymrwymo'r Llywodraeth i adnewyddu'r canllawiau gweithredol yn ehangach mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth teithio i ddysgwyr, ac rwy'n siŵr mai dyma'r math o beth fyddai ganddi mewn golwg fel rhan o'r broses ehangach honno.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. A dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog dros Brexit yn gwneud datganiad yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar drafodaethau'r UE. Yn ogystal â hyn, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i geisio atal y Rheolau Sefydlog yfory i alluogi dadl ar Adroddiad Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-19. Nodir busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Gweinidog, os gwelwch chi'n dda, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y risg i gyfleusterau canser yn y dyfodol a gyflwynir o ganlyniad i'r prinder arbenigwyr yng Nghymru? Mae'r ffigurau a gynhyrchwyd gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn dangos mai dim ond tri meddyg canser ychwanegol a ymunodd â'r GIG Cymru yn y pum mlynedd diwethaf. Gallwn weld hefyd fod y cyfraddau swyddi gwag ar gyfer oncolegwyr clinigol yr uchaf yn y Deyrnas Unedig. Dywedodd llefarydd ar ran y Coleg Brenhinol, a dyfynnaf:

'Mae prinder arbenigwyr canser yn risg gwirioneddol i'r dyfodol. Mae hyn yn effeithio ar ofal clinigol, ymchwil, addysg, arweinyddiaeth a datblygu'r gwasanaeth.'

Cau'r dyfyniad. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y mater difrifol iawn hwn, os gwelwch yn dda?

A'r ail ddatganiad, Gweinidog, yr hoffwn ei gael, oherwydd mae Llywodraeth Cymru—. Rydym yn gofyn yn y Siambr hon a ellir datganoli mwy o bwerau cyfreithiol i'n Siambr a'r sefydliad ardderchog hwn. Ar y llaw arall, pan fo rhai achosion uchel eu proffil yn Lloegr y mae'r Cynulliad hwn yn ymwneud â nhw, rydym yn llogi bargyfreithiwr Saesneg. A oes yna brinder bargyfreithwyr yng Nghymru sydd â'r cymhwysedd a'r ansawdd? Pam na wnawn ni eu llogi nhw a defnyddio ein bargyfreithwyr dawnus cynhenid ni ein hunain ac wynebu'r anghydfodau cyfreithiol hynny yn yr Uchel Lys yn Llundain?

14:40

Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater, yn enwedig ynglŷn ag oncolegwyr clinigol. Byddwn yn awgrymu mai'r prynhawn yma fyddai'r cyfle cyntaf i chi i godi hynny gyda'r Gweinidog iechyd yn y datganiad ar 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', sef ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym y staff priodol o fewn y GIG sy'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol.

Ac, ar fater bargyfreithwyr Cymru, byddwn yn dychmygu bod gan argaeledd, sgiliau ac arbenigedd rywbeth i'w wneud â hyn. Ond byddwn unwaith eto yn awgrymu eich bod yn codi hyn uniongyrchol gyda'r Cwnsler Cyffredinol, a bydd ef yn gallu rhoi barn ar hynny.

Trefnydd, yr wythnos diwethaf, codais y mater ynglŷn â beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf o ran morlyn llanw Bae Abertawe gyda'r Gweinidog dros yr Amgylchedd. Bellach, mae cryn amser wedi bod ers i adolygiad Hendry adrodd bod y morlyn yn opsiwn dim gofid—yn wir, yn opsiwn amlwg, fel y cofiaf ef yn dweud ar y pryd. Bellach, yn amlwg, mae'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyfrannu arian wedi golygu bod modelau amgen yn cael eu hystyried, fel y gwyddoch. Ond, yn anffodus, rwyf hefyd yn synhwyro bod brwdfrydedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect yn cloffi. Mae'r cyhoeddiadau cyhoeddus am yr ymrwymiad i fuddsoddi wedi tawelu ac nid ydym wedi clywed fawr ddim gan Lywodraeth Cymru o ran y camau ymarferol y maent yn eu cymryd i helpu i gyflawni'r cynllun. Fis Hydref diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, bellach y Prif Weinidog, rai geiriau grymus wrth y gynhadledd Ocean Energy Europe, a dyfynnaf,:

'Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod Cymru yn chwarae rhan flaenllaw ym maes ynni morol gydag ynni a gynhyrchir o'r tonnau a'r llanw yn chwarae rhan bwysig yn ein huchelgais ar gyfer economi carbon isel.'

Diwedd y dyfyniad. Byddwn yn dadlau bod morlyn llanw Bae Abertawe yn hanfodol o ran gwireddu'r uchelgais hwnnw. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i gyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth ar forlyn llanw Bae Abertawe a darparu eglurder o ran y lefel a'r math o ymrwymiad tuag at y cynllun hwnnw? Mae Plaid wedi dadlau bob amser y dylai pobl Cymru elwa ar unrhyw gyfoeth a gynhyrchir gan ein hadnoddau naturiol, a byddai gennyf ddiddordeb i glywed pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn hyn o beth.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogwr brwd i'r cynnig o gael morlyn llanw Bae Abertawe, ac rydym yn falch bod opsiynau eraill a ffyrdd eraill o ariannu hynny'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Nid oes diffyg brwdfrydedd yma, ac rydym yn dal yn awyddus i sicrhau y gall Cymru fod yn arweinydd byd-eang ym maes technoleg forol ac ynni'r llanw. Credaf fod y brwdfrydedd yn sicr yma ar draws y Llywodraeth i wneud i hynny ddigwydd a phe byddai cynnig hyfyw yn cael ei gyflwyno, yna byddai Llywodraeth Cymru yn sicr yn awyddus i gael y trafodaethau hynny. Mae'r arian a nodwyd gennym yn flaenorol yn parhau i fod ar y bwrdd ar gyfer y cynllun hwnnw, pe byddai cynnig hyfyw yn cael ei gyflwyno. Wrth gwrs, bydd Gweinidog yr Amgylchedd yn bwriadu gwneud datganiad ar Gymru carbon isel cyn toriad yr haf, a gallai hyn fod yn gyfle arall i ymchwilio i'r mater hwn.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf ar yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Prif Arolygydd Prawf mewn cysylltiad â chyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaethau ymyrraeth gynnar yn ardal Bae'r Gorllewin? Roedd yr adroddiad yn eithaf damniol. Yn wir, tynnodd sylw ar y ffaith hon, sef allan o 12 ardal, yr ystyriwyd bod naw ohonynt yn 'annigonol', a bod 'lle i wella' yn y degfed. Felly, yn y bôn, dim ond i 2 allan o 12 yr oedd modd rhoi unrhyw gredyd. Rydym yn sôn am fywydau pobl ifanc ac amddiffyn y bobl ifanc hynny a natur ddiamddiffyn y bobl ifanc hynny. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y pryderon hyn, ac mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y camau y maen nhw'n mynd i'w cymryd ar sail yr adroddiad hwn?

Ar yr ail bwynt, rwyf eisiau gofyn am adroddiad, neu efallai ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar lygredd aer eto. O ran allyriadau o Tata—y tro diwethaf imi godi hyn, gwn fod  Dirprwy Weinidog yr Amgylchedd ar y pryd wedi tynnu sylw at y ffaith ei fod yn mynychu cyfarfodydd. Ond mae'n braf cael adroddiad neu ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ganlyniad y cyfarfodydd hynny, oherwydd, unwaith eto, mae fy etholwyr yn wynebu llygredd dyddiol o'r gwaith dur, llygredd sŵn rheolaidd o'r gwaith dur. Rydym yn deall ei fod yn safle diwydiannol, rydym yn deall ei fod yn elfen enfawr o'r economi, ond hefyd mae'r elfen honno o fod yn gymydog rhesymol ac ystyriol. Ac ar yr achlysur hwn ymddengys ein bod yn methu yn hynny o beth, ac mae angen inni gael adroddiad ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn rhyngweithio gyda Tata i sicrhau ei fod yn ymddwyn yn dda.

Diolch yn fawr am godi'r ddau fater hynny, ac, wrth gwrs, y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n goruchwylio'r timau troseddau ieuenctid yn y tair ardal awdurdod lleol a drefnir gan Fae'r Gorllewin. Rhaid gweithredu ar frys o ganlyniad i'r canfyddiadau a nodir yn adroddiad prawf AEM. Rydym eisiau sicrhau bod gwasanaethau ar waith i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ac i sicrhau eu bod yn gryf ac yn ddibynadwy ac yn addas ar gyfer y gwasanaeth. Gallaf ddweud wrthych fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaeth gyda'u cymheiriaid, ac mae'r Gweinidog, Jane Hutt, yn bwriadu ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y mater penodol hwnnw.

Ac o ran eich pryderon ynghylch aer glân, byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf. Ond gallaf ddweud unwaith eto fy mod wedi cael trafodaethau â chydweithwyr ar draws y Llywodraeth o ran llunio ein rhaglen o ddatganiadau a dadleuon wrth inni symud ymlaen tuag at ddiwedd tymor yr haf, ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn glir y byddai'n hoffi cyflwyno datganiad ar aer glân yn ystod y cyfnod hwnnw.

14:45

A wnaiff y Trefnydd wneud datganiad, os gwelwch yn dda, ar gaffael yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o ran ei ymlyniad i gaffael yn lleol yng Nghymru yn benodol? Gyda'r byrddau iechyd yn adrodd ar hyn o bryd am £90.4 miliwn o orwariant yn 2018-19, mae'n amlwg bod cyllid yn gwegian. Roeddwn yn hynod siomedig, felly, i ddysgu'n ddiweddar bod mesuryddion glwcos gwaed, sydd o bosib yn fwy costus, a stribedi prawf yn cael eu caffael ar draws Cymru. Er enghraifft, deallaf fod cost stribedi sy'n cael eu prynu ar hyn o bryd gan y GIG yng Nghymru, mewn gwirionedd, oddeutu 70 y cant yn fwy nag sydd raid ac y gellid caffael y rhain yn lleol yng Ngogledd Cymru gan gwmni sy'n wynebu anawsterau sylweddol i gael eu derbyn ar y rhestr a ffefrir. Yn wir, mae hyn yn bodoli er gwaethaf y ffaith eu bod yn cyflenwi eu cynnyrch yn rhyngwladol ac yn cael eu defnyddio yn y sector iechyd ar draws rhannau eraill o'r DU. O ystyried y potensial i arbed arian a chefnogi busnes yng Nghymru, byddwn yn falch pe baech yn barod i ymchwilio i'r sefyllfa hon ymhellach pe byddwn i'n rhoi mwy o wybodaeth ichi, ac egluro pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod pob caffael yn ein gwasanaeth iechyd yn seiliedig ar fesur o werth am arian a hefyd yn cydweddu ag egwyddorion caffael lleol Cymru.

Diolch ichi am godi hynny. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol o'r datganiad a wnaeth y Prif Weinidog ym mis Medi ynghylch y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru a'r pwysigrwydd a roddwn ar arferion caffael da ar draws Cymru. Soniasoch am gyflwr cyllid y GIG, ac mae rhagolwg presennol y GIG yn welliant sylweddol o alldro 2017-18, ac unwaith eto, byddem yn edrych ymlaen at welliant parhaus y flwyddyn nesaf. Mae sefydliadau'r GIG ar y cyd wedi gwneud dros £1.5 biliwn o arbedion effeithlonrwydd ers sefydlu'r cyrff newydd ar ddechrau'r degawd. Ac, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwelwyd bod dros ddwy ran o dair o'r arbedion hyn o 71 y cant ar sail reolaidd a byddem yn disgwyl bod hyn yn cael ei gynnal yn 2018-19.

Ar fater penodol stribedi glwcos gwaed, os anfonwch ragor o wybodaeth i mi, byddwn yn sicr yn hapus i archwilio hynny gyda'r Gweinidog Iechyd.

Hoffwn godi mater grant byw'n annibynnol Cymru gyda chi, Trefnydd. Ysgrifennais at Lywodraeth Cymru ganol y mis diwethaf yn gofyn am amserlen glir ar gyfer cynnal asesiadau ac adfer pecynnau ariannol i bobl anabl sydd ar eu colled yn dilyn diddymu'r gronfa byw'n annibynnol. Nid wyf wedi cael ateb eto. Ar ran pobl anabl a'u teuluoedd sydd yn croesawu newid meddwl y Llywodraeth ar y mater hwn, a allwch roi unrhyw arwydd pa bryd fydd y geiriau cynnes hynny'n troi'n weithredoedd? Byddwn yn croesawu datganiad yn fawr.

Rwyf eisiau codi mater tlodi ac esgeulustod yn ein hen ardaloedd diwydiannol, yn enwedig yn y Cymoedd. Mae diweithdra yn rhy uchel, mae'r defnydd o fanciau bwyd yn annerbyniol o uchel, mae'r cyfleoedd yn brin, ac mae gormod o bobl ifanc yn awyddus iawn i adael. I waethygu'r sefyllfa, mae cyni wedi cael effaith lem ar lawer o rwydweithiau cymorth a oedd ar un adeg yn gallu cynnal pobl pan oeddent mewn angen. Mae hyn wedi dod yn fater hollbwysig bellach i lawer o gymunedau. Yn fy nghymorthfeydd stryd yn y Rhondda yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi gweld digon o bobl sy'n teimlo eu bod dan warchae. 'Does gennym ddim byd ar ôl' yw sut y gwnaeth un fenyw ym Maerdy grynhoi pethau. 'Mae ein cymunedau yn cael eu gadael i farw,' meddai un arall. Felly, beth all tasglu'r Cymoedd  ei wneud i helpu lleoedd fel y Rhondda, sydd â lefel diweithdra bron ddwywaith yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru a mwy na dwywaith yn uwch na lefel y DU? Mae rhai prosiectau gwych yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr. Sut ellir eu cefnogi yn hytrach na'u llesteirio? A yw hi'n bosib, er enghraifft, neilltuo arian i alluogi awdurdodau lleol i gymryd yn ôl rai o'r gwasanaethau y cefnwyd arnynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Wedi'r cyfan, dywedwyd wrthym fod cyni wedi dod i ben. Ni allwn anwybyddu'r cymunedau hyn. Mae gennych chi gyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod yna gamau i ymdrin â diweithdra a thlodi, ac eto i gyd ni allaf weld dim sy'n ddigon radical i wneud y gwaith. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o weithredu ar y cyd, cynllun clir o'r hyn yr ydych yn ei wneud i helpu i atal rhai o'n cymunedau rhag suddo.

14:50

O ran yr ymholiad cyntaf sy'n ymwneud â'ch gohebiaeth gyda'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â grant byw'n annibynnol Cymru, rwy'n deall, fel y gwnaethoch ddweud, eich bod wedi anfon y llythyr ganol y mis. Felly, os gallwn adael yr amser ymateb 17 diwrnod gwaith safonol i basio, a chithau heb gael ymateb o fewn yr amser hwnnw, byddwn yn sicr yn falch o wneud yn siŵr eich bod yn cael ymateb prydlon gan y Gweinidog.

O ran eich pryder am ddiweithdra yn y Cymoedd a'ch bod yn cydnabod bod prosiectau gwych yn digwydd yno, gwn fod y Dirprwy Weinidog yn bwriadu cyflwyno datganiad sy'n crynhoi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan dasglu'r Cymoedd, ein cynlluniau Swyddi Gwell yn Nes at Adref a hefyd yr economi sylfaenol, unwaith eto, yr ochr hon i doriad yr haf.

Tybed a allech roi sicrwydd i mi y bydd y Llywodraeth yn neilltuo amser ar gyfer dadl ar un o'r materion pwysicaf sy'n effeithio ar ein cymunedau, sef mater tai, ond yn benodol yr angen difrifol sydd gennym yn awr, yn fy marn i, yn ein cymunedau am bolisi tai moesegol sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain. Rydym wedi trafod nifer o faterion ynghylch tai, boed hynny'n lesddalwyr a'r problemau cysylltiedig, a llawer o'r rheini'n parhau. Ond bellach rydym yn dod ar draws yr hyn sy'n cyfateb bron i sgamiau gan rai o'n cwmnïau tai—rhydd-ddaliadau sy'n agored i bob math o drefniadau rheoli o ran gwasanaethau lleol sy'n llesteirio ac yn aml yn difetha rhydd-ddaliadau yn ein cymunedau. Mae'n ymddangos i mi fod y rhain yn bethau sydd angen i ni eu gwahardd, ac ni ddylent fod ag unrhyw ran mewn polisi tai moesegol.

Mae angen inni hefyd edrych ar yr hyn sy'n digwydd ar y tir sy'n cael ei fancio gan y cwmnïau datblygu tai hyn. Nawr, byddwch wedi gweld yr adroddiadau, fel yr wyf fi—nid wyf yn siŵr a yw hyn yn digwydd yng Nghymru eto, ac nid yw'n golygu na fydd yn digwydd—sef rhwydo'r ardaloedd hynny, gan atal datblygiad bywyd gwyllt yno, ar gyfer ceisiadau cynllunio yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth y credaf sy'n tanlinellu'r graddau y mae nifer fach o gwmnïau tai mawr, nid yn unig yn manteisio i'r eithaf ar eu monopoli ac yn gwneud gormod o elw, ond credaf hefyd eu bod allan o reolaeth. Yr hyn sydd ei angen arnom yw polisi tai eang i wneud ein tai, ym mha bynnag ffurf y bo hynny, yn yr unfed ganrif ar hugain yn addas, yn ddilyffethair, ac o'r safonau moesegol uchaf. Credaf fod angen inni ddod â hyn at ei gilydd, mae'n debyg fod angen deddfwriaeth arnom, ond byddai'n fan cychwyn pe bai'r Llywodraeth yn sicrhau amser inni gael trafodaeth ar yr holl faterion hyn ynghylch tai fel y gallwn ddechrau edrych ar osod y paramedrau ar gyfer datblygu polisi tai yn y dyfodol.

Diolch i chi am godi eich pryderon ynghylch lesddeiliadaeth a hefyd y materion sy'n wynebu llawer o bobl sy'n berchen ar rydd-ddaliadau sy'n destun ffioedd rheoli ar ystadau amrywiol ledled Cymru. Gwn ei fod yn rhywbeth yr ydych chi wedi ei godi droeon yn y Siambr hon. O ganlyniad i rai o'r trafodaethau a gawsom yn gynharach, llwyddais i gymryd rhai camau cynnar yn fy mhortffolio blaenorol i ymdrin â rhai o'r materion yn y farchnad lesddaliadaeth. Felly, daethom i gytundeb â'r datblygwyr na fyddai unrhyw dai newydd yn cael eu cyflwyno drwy Gymorth i Brynu ac na fyddai unrhyw dai newydd yn cael eu cyflwyno gan ddatblygwyr fel lesddeiliadaeth os na fyddent yn gwbl angenrheidiol. Felly, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos mai dim ond tri thŷ sydd wedi'u gwerthu fel lesddaliadau drwy Gymorth i Brynu yn awr, a phrynwyd pob un o'r tri hynny oddi ar y cynllun cyn i'r rheolau newydd gael eu cyflwyno. Felly, rydym yn cael rhywfaint o lwyddiant, yn sicr, drwy newid y ffordd y mae'r farchnad yn gweithredu drwy'r ysgogiadau sydd gennym gyda Chymorth i Brynu. Ond gwn fod llawer o bryderon ehangach am bobl sydd eisoes yn berchen ar eiddo ar brydles. Dyma un o'r rhesymau pam mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'i grŵp gorchwyl a gorffen amlddisgyblaethol ar ddiwygio lesddaliad preswyl, sy'n gweithio ochr yn ochr â gwaith a wneir gan Gomisiwn y Gyfraith i archwilio pa newidiadau allai fod eu hangen drwy ddeddfwriaeth, ond hefyd beth arall y gallem ei wneud ar frys i fynd i'r afael â rhai o'r materion. Gwn y bydd y Gweinidog yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi pan fydd y grŵp lesddaliad yn cyflwyno adroddiad, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni fydd hyn yn rhy hir.

14:55

Galwaf am ddau ddatganiad, yn gyntaf ar ddeiet fel triniaeth ar gyfer diabetes 2, yn dilyn canlyniadau calonogol o dreialon dau ddeiet diabetig a gynhaliwyd gan ddeietegydd diabetig Claire Chaudhry yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o ymweld â'r ysbyty i gyfarfod ag arweinydd gwasanaeth deietegol diabetes Betsi Cadwaladr, ynghyd â Phennaeth Deieteg a'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer therapïau yn y dwyrain. Eglurwyd wrthyf mai deiet yw conglfaen y driniaeth ar gyfer diabetes. Gyda 30,000 i 40,000 o bobl yn y Gogledd yn unig yn dioddef o ddiabetes 2, mae hyn yn costio 10 y cant o gyllideb y GIG, lawer ohono oherwydd cymhlethdodau. Ond mae'r gwaith peilot wedi gweld cleifion yn dod oddi ar inswlin, yn colli pwysau, a chynnydd yn nealltwriaeth y cleifion o'u nodweddion corfforol eu hunain a newid ffordd o fyw. Maent yn pwysleisio mai buddsoddi i arbed yw hyn: gostyngiad yn nifer y bobl sy'n defnyddio tabledi pwysedd gwaed, pobl yn dod oddi ar beiriannau apnea cwsg £3,000, gostyngiad yn nifer y bobl sy'n colli coes neu fraich, ac effeithiau buddiol o ran colli golwg, dialysis arennol, strôc a llawer o bethau eraill hefyd. Maen nhw wedi arwain ar hyn yng Nghymru. Mae cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau gan feddygon teulu yn unol â hynny, ond ar hyn o bryd nid oes ganddynt y capasiti i ateb y galw hwnnw. Fel buddsoddi i arbed, credaf ei fod yn fenter wych, sy'n haeddu sylw gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd sydd wedi arwain ar hyn.

Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hymgysylltiad â hawliau awtistig a'r mudiad hawliau awtistig? Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod heddiw'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Byd, sy'n annog pobl i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn benodol. Heddiw, rwyf wedi noddi digwyddiad yma yn y Senedd—digwyddiad Anelu am Aur ar gyfer Diwrnod Awtistiaeth y Byd 2019, lle mae sefydliadau a arweinir gan y defnyddiwr yn hybu derbyniaeth o awtistiaeth a chryfhau llais y rhai sydd ag awtistiaeth. Fel y dywedant,

'nothing about autism without autistics.'

Mae derbyn awtistiaeth yn weithred. Peidiwch â bodloni'n unig ar ymwybyddiaeth, gweithredwch. Os mai'r cyfan a wnawn yw codi ymwybyddiaeth, yna mae'r rhestrau aros yn tyfu ac yn tyfu. Mae angen inni gymryd camau ymlaen tuag at ddealltwriaeth, derbyniaeth, cynrychiolaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb. Pan fo oedolion awtistig yn siarad, a ydym ni'n gwrando? Felly, byddwn yn croesawu datganiad, nid yn unig o fewn y cyd-destun arferol dan arweiniad y gwasanaeth neu'r trafodaethau meddygol a gawn yma, ond o ran yr ymgysylltiad hwnnw â'r llais awtistig dilys a'r mudiad hawliau awtistig ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd.

Diolch yn fawr iawn. Ar y mater cyntaf am waith deieteteg, mae'n swnio'n ddiddorol iawn, ac yn sicr yn hynod galonogol, felly byddaf yn trafod gyda'm cyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, y ffordd orau o ddeall hynny'n well a'r potensial sydd yna i bobl yr effeithir arnyn nhw gan ddiabetes ac atal diabetes ledled Cymru. Gwn fod y Gweinidog iechyd yn bwriadu cyflwyno datganiad ar ddiabetes, eto cyn diwedd tymor yr haf, felly mae hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried o fewn y cyd-destun hwnnw.

Ar Ddiwrnod Awtistiaeth y Byd, rwy'n falch iawn o ymuno â chi i amlinellu pa mor bwysig yw hi, wrth gynllunio gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth, i wneud hynny trwy gyd-gynhyrchu. Gwn eich bod chi, fel minnau, yn ffan fawr o gyd-gynhyrchu fel ffordd o ddatblygu gwasanaethau a chymorth i bobl. Rydym yn cydnabod bod ffordd bell i fynd. Fodd bynnag, credaf ein bod wedi gwneud cynnydd gwirioneddol, gan gynnwys y buddsoddiad o £13 miliwn yn y gwasanaeth awtistiaeth integredig, sy'n cael ei gyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd. I nodi diwrnod awtistiaeth y byd, neu yn sicr drwy'r wythnos, byddwn yn cyhoeddi gwerthusiad annibynnol llawn o gyflwyniad y gwasanaeth awtistiaeth integredig, a chredaf y bydd yn ddefnyddiol o ran nodi'r camau mwyaf pwysig nesaf ymlaen. Rydym hefyd wedi comisiynu adolygiad ychwanegol o'r rhwystrau i ostwng amseroedd aros diagnostig a bydd yr adolygiad hwnnw hefyd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Rydym hefyd wedi ymgynghori ar gynnwys cod ymarfer awtistiaeth o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'n wirioneddol bwysig bod lleisiau pobl ag awtistiaeth yn cael eu clywed yn yr ymgynghoriad hwnnw, fel y gall y cod nodi pa gymorth fydd ar gael oherwydd yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud wrthym. Ond cytunaf yn llwyr â chi y dylai llais dilys pobl ag awtistiaeth fod wrth wraidd y gwaith hwnnw.

15:00

Ar 20 Mawrth, cyfarwyddodd Llywodraeth Cymru y Cynulliad hwn i ysgrifennu at y pwyllgor Ewropeaidd atal artaith i godi pryderon Imam Sis a'r streicwyr newyn Cwrdaidd eraill ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Imam, sy'n byw yng Nghasnewydd, yn awr ar ei ganfed a saith diwrnod o streic newyn. Mae'r sefyllfa bellach yn ddifrifol iawn. Mae'n ddybryd. Mae'n fater brys mawr. Sylwaf nad yw'r cynnig, er ei basio, yn rhwymo'r Llywodraeth, ac felly hoffwn ddiweddariad, os gwelwch yn dda ynghylch a yw'r Llywodraeth wedi gweithredu ar y cyfarwyddiadau a roddwyd iddo gan y Cynulliad. Byddwn yn nodi hefyd, yn ystod y ddadl, fod y Gweinidog wedi dweud wrthyf na fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i gymryd camau ar hyn oherwydd nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Ond ar ôl hepgor yr egwyddor honno yn y ddadl a oedd yn dilyn yn union wedi hynny, yn ymwneud â menywod WASPI, lle nododd y Llywodraeth y byddai'n ysgrifennu llythyr, a gawn ni sicrwydd, os gwelwch yn dda, y bydd yr un egwyddor yn cael ei dilyn yma? Rwy'n poeni'n fawr am Imam.

Diolch ichi am godi'r mater hwn eto. Credaf, fel y llwyddodd y Gweinidog i amlinellu yn ei hymateb i'r ddadl, ei bod yn sefyllfa hynod ddifrifol ac yn un sy'n peri pryder, ac mae'n sefyllfa y mae llawer o bobl ledled Cymru yn teimlo'n angerddol iawn yn ei chylch hefyd. Eglurodd y Gweinidog mai'r Cynulliad fyddai'n anfon unrhyw lythyr ar ran y Cynulliad. Fel rheol nid Llywodraeth Cymru fyddai’n gwneud hynny ar ei ran. Ond yn sicr byddaf yn cael sgwrs bellach i ystyried pa gamau y gellid eu cymryd.

Heddiw, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfarfod a thrafod fy nghynnig i ddefnyddio adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i orfodi'r Ysgrifennydd Parhaol i ryddhau'r ymchwiliad i'r datgeliad ar ddiswyddo Carl Sargeant. Maen nhw'n mynd i ddychwelyd at y cynnig ar ôl y Pasg, a gobeithio y gallant ei gefnogi. Yn wir, byddwn yn annog holl Aelodau'r Cynulliad yma i'w gefnogi ac ymuno fel cefnogwyr y cynnig. Hefyd, hoffwn ddatganiad gan y Llywodraeth ar hyn, oherwydd pam na allwn ni weithredu'n agored a thryloyw ynglŷn â hyn a chyhoeddi'r adroddiad gan ei fod yn amlwg er budd y cyhoedd?

Gofynnaf ichi edrych eto ar yr ymateb a roddodd y Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru pan ofynnodd gwestiwn ar y mater penodol hwn ychydig yn gynharach y prynhawn yma. Mae'r Prif Weinidog yn nodi ei fod ar hyn o bryd yn ystyried y dyfarniad a wnaed ac yn cymryd cyngor pellach gyda'r bwriad o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad maes o law.

Trefnydd, hoffwn i gefnogi cais David Rees am ddatganiad gan y Llywodraeth ar yr adroddiad arolygu broblematig iawn ar y gwasanaethau troseddau ieuenctid ym Mae'r Gorllewin. Gofynnaf i chi a'r Llywodraeth ailystyried eich penderfyniad i beidio cyflwyno datganiad. Ni wnaf ailddatgan y pwyntiau y mae David Rees eisoes wedi eu codi am ddifrifoldeb y mater, ond hoffwn nodi wrthych chi ac eraill, allan o'r 14 o argymhellion a wnaed yn yr arolygiaeth, mae chwech o'r rheini ar gyfer sefydliadau wedi eu datganoli—maen nhw ar gyfer awdurdodau lleol, ar gyfer yr awdurdod iechyd, ar gyfer y gwasanaethau i blant. Yn awr, fel y dywedodd David Rees yn hollol gywir, rhai o'n plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed yw'r rhain. Credaf ein bod ni i gyd, y rhan fwyaf ohonom o leiaf, ar draws y Siambr hon, wedi bod yn falch o weld Cymru yn mabwysiadu dull gweithredu ychydig yn wahanol, er gwaethaf y ffaith nad yw hyn yn fater datganoledig ffurfiol. Rhaid, felly, ei fod yn peri pryder i ni i gyd—a gobeithio yn fawr y byddai'n peri pryder i Lywodraeth Cymru—bod yr adroddiad hwn yn dweud wrthym, er enghraifft,

'Nid yw'r gwasanaeth ac asiantaethau partner bob amser yn ymgymryd â gweithredoedd i leihau'r perygl o fod yn agored i niwed. Nid yw rhai plant a phobl ifanc yn ddiogel.'

Nawr, yn sicr mae hynny'n rhywbeth na allwn ei ddiystyru fel mater sydd heb ei ddatganoli, pan fo chwech o'r camau gweithredu ar gyfer sefydliadau datganoledig, a gofynnaf i chi a'r Llywodraeth ailystyried a fyddai'n bosib cyflwyno datganiad yn amser y Llywodraeth i roi sicrwydd inni y bydd y materion difrifol iawn hyn yn cael sylw digonol. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, a byddwch chi'n ymwybodol, fod yna ad-drefnu wedi'i gynllunio a allai helpu i liniaru pethau. Ond mae adroddiad yr archwiliad hwn mewn gwirionedd yn tanlinellu nad oes cynllun ar gyfer yr ad-drefnu a oedd i fod dechrau ddoe o ran y gwasanaethau'n cael eu cymryd yn ôl dan reolaeth uniongyrchol yr awdurdod lleol. Byddwn yn dweud, Trefnydd, nad yw hwn yn fater, er ei fod yn fater datganoledig ffurfiol, lle byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno ei daflu'n ôl i San Steffan. Felly byddwn yn gofyn ichi gael trafodaethau pellach gyda'ch cydweithwyr ac ystyried, yn wyneb y ffaith fod David Rees a minnau, ac, mae'n siŵr, eraill yn y Siambr hon, yn dymuno gofyn cwestiynau am hyn—byddwn yn gofyn ichi ailystyried ac ystyried datganiad gan y Llywodraeth.

Cefais gyfle i drafod hyn yn fyr gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt y bore yma. Yn amlwg, mae yna faterion o fewn yr adroddiad sydd angen ymateb iddyn nhw. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru, fel y dywedais yn fy ymateb i David Rees, mewn cysylltiad â'u cymheiriaid, a gwn fod Jane Hutt yn dymuno codi'r mater hwn gyda'r Gweinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn uniongyrchol. Ond gan ein bod ar drothwy'r toriad, efallai y byddai'n well, yn sicr yn y lle cyntaf, os byddwn i'n gofyn i'm cyd-Weinidog ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau hynny.

15:05
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar y diweddaraf am drafodaethau'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles. 

Yn ystod y dyddiau diwethaf, rŷm ni wedi gweld ymgais gan y Senedd i geisio llywio'r Deyrnas Unedig o'r moroedd tymhestlog sydd wedi dod yn agos at suddo'n gwlad. Mewn cyfres o bleidleisiau, gwelwyd Tŷ'r Cyffredin yn nesáu’n raddol tuag at weledigaeth wahanol ar gyfer Brexit. Ychydig iawn o amser sydd ar ôl, ond, mewn ychydig ddyddiau, mae'r Aelodau Seneddol wedi llwyddo i gael persbectif sy'n gyffredin i fwy o bobl nag y llwyddodd y Prif Weinidog a'i Chabinet ei wneud mewn bron i dair blynedd.

Gadewch imi ddechrau, felly, a hynny'n anarferol, o bosib, drwy dalu teyrnged i rai o'r Aelodau Seneddol sydd wedi rhoi buddiannau eu gwlad o flaen teyrngarwch pleidiol ac wedi mynd ati o ddifrif i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen a allai sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin, hyd yn oed os yw hynny weithiau'n golygu rhoi eu gyrfaoedd gwleidyddol eu hunain yn y fantol—Aelodau fel Nick Boles ar ochr y Ceidwadwyr, Yvette Cooper a Hilary Benn ar yr ochr Llafur, ac yn wir, Aelodau Plaid Cymru a dynnodd sylw yn ystod y pleidleisio neithiwr at 'Diogelu Dyfodol Cymru', dogfen a gefnogwyd gan y Cynulliad yma fel un ffordd ymlaen drwy hyn oll. Ond mae gormod o Aelodau o hyd, rwy'n ofni, yn chwarae gêm double or quits. Dim ond y dewis y maen nhw'n ei ffafrio y maen nhw'n fodlon pleidleisio drosto, yn hytrach na'r dewisiadau ehangach a fyddai'n arwain at gonsensws i'n hatal rhag ymadael heb gytundeb ac o leiaf yn ein gwarchod rhag y rhan fwyaf o'r niwed economaidd a chymdeithasol a fyddai'n cael ei achosi gan Brexit caled yr ERG.

Ac mae'n hollol glir erbyn hyn mai'r prif rwystr i sicrhau datrysiad gyda chefnogaeth eang yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Llywodraeth yw hon sydd ddim yn fodlon derbyn 'na' fel ateb. Llywodraeth a alwodd y bleidlais ddydd Gwener nid am fod ganddyn nhw unrhyw obaith gwirioneddol o ennill, ond am eu bod eisiau gallu bwrw'r bai ar y Senedd am yr anallu i ddod i gytundeb, yn hytrach nag ar eu hystyfnigrwydd nhw eu hunain. Gweinidogion sy'n meddwl mwy am eu huchelgais arweinyddol eu hunain nag am yr hyn sydd orau i ddyfodol y wlad.

Pleidleisiodd pob un o bleidiau'r wrthblaid yn erbyn cytundeb ymadael cyfreithiol gyfrwymol y byddai bron bob un ohonyn nhw, yn wahanol i'r grwp cyfeirio arbenigol a'r DUP, wedi ymrwymo iddo. Ac roedd hyn oherwydd nad oedd y Llywodraeth hyd yn oed wedi ceisio ymdrin â'r pryderon dilys fod y datganiad gwleidyddol—rhan annatod o gytundeb ymadael y Prif Weinidog—yn rhy amwys ac nad oedd yn rhoi unrhyw warant, yn ystod cam nesaf y trafodaethau, y byddai buddiannau economaidd sylfaenol y DU yn cael eu rhoi yn gyntaf. Yn hytrach, fe gawson nhw wared ar y datganiad gwleidyddol yn llwyr. Pa Lywodraeth allai o bosib gredu y gallai disodli rhestr o ddyheadau amwys gyda dalen wag o bapur erioed argyhoeddi yr amheuwyr bod dyfodol perthynas ein gwlad ag Ewrop mewn dwylo diogel? Mae hon yn Llywodraeth o ystrywiau.

A hyn lai na 48 awr ar ôl i'r Prif Weinidog addo, neu fygwth, ymddiswyddo pe cai ei chytundeb sêl bendith, gan fraenaru'r tir, oni bai bod etholiad cyffredinol a newid Llywodraeth, ar gyfer y Prif Weinidog Johnson, Rabb neu Rees-Mogg, y byddai unrhyw un ohonyn nhw'n fodlon rhoi'r ymgais am sofraniaeth chwedlonol cyn swyddi gwirioneddol, bywoliaethau gwirioneddol ac incwm gwirioneddol. O ganlyniad i'r methiant digyffelyb hwn o arweinyddiaeth a llywodraethu, rydym ni unwaith eto prin wythnos o'r posibilrwydd o gael Brexit heb gytundeb, gyda'r holl anhrefn tymor byr a'r difrod economaidd tymor hir y byddai hynny'n ei olygu. A gadewch imi atgoffa'r cyd-Aelodau o rai agweddau ar realiti gwleidyddol y mae llawer gormod o gyfryngwn Prydain yn eu cael yn anghyfleus.

Nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi unrhyw estyniad os nad oes gennym ni strategaeth glir ar gyfer y ffordd ymlaen, gyda mwyafrif yn y Senedd a Llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu hynny. Fel y gwelais yn Strasbourg y mis diwethaf, mae llawer o wleidyddion ledled Ewrop eisiau cael gwared ar yr ansicrwydd a'r tarfu diddiwedd sy'n ganlyniad i fethiant y sefydliad gwleidyddol yn y DU i ddeall hyd yn oed gwirioneddau sylfaenol trafodaethau rhyngwladol—er enghraifft, bod yn rhaid ichi ddechrau drwy ddeall buddiannau sylfaenol y blaid wrthwynebus ac adnabod ac adeiladu ar feysydd sydd o fantais i'r ddwy ochr, y bydd yn rhaid i'r blaid economaidd wannach wastad ildio mwy, na all neb gael popeth y maen nhw ei eisiau, yn arbennig pan fo rhai o'r amcanion negodi yn eithrio'r ochr arall yn llwyr, a bod yn rhaid ichi bob amser gyflawni'r ymrwymiadau a wnaethoch chi. Ni fyddai'n rhyfedd iddyn nhw ddod i'r casgliad y byddai'r difrod economaidd i 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd—a fydd yn sylweddol ond y bydd modd ei reoli—ac unrhyw anghytuno gwleidyddol, yn werth eu goddef pe caen nhw rwydd hynt i fynd i'r afael â'u blaenoriaethau eu hunain, nid ein rhai ni.

Mae cytundeb y Prif Weinidog wedi cael ergyd farwol. Nid oes unrhyw obaith, fel sydd wedi ei gadarnhau droeon yn ystod y dyddiau diwethaf, y bydd y DUP yn ei gefnogi, ac ar ôl neithiwr, bydd eiriolwyr ymadael heb gytundeb yn synhwyro buddugoliaeth. Ni fydd yr holl bleidiau eraill ond yn cydsynio iddo os oes cynnydd ynghylch y datganiad gwleidyddol a/neu ail bleidlais gyhoeddus. Mae bygythiad diweddaraf y Prif Weinidog o etholiad cyffredinol—nawr, mae'n debyg, i fod yn gysylltiedig â chynnig o hyder yn ei chytundeb—yn fygythiad gwag. Nid oes ganddi unrhyw awdurdod i ysgrifennu maniffesto nac i arwain ei phlaid, a byddai cystadleuaeth arweinyddiaeth Dorïaidd cyn inni naill ai gwblhau'r cytundeb ymadael neu ymadael yn ddisymwth heb unrhyw gytundeb yn hunanfaldod sylweddol ar y naw.

Os oes estyniad hwy, bydd yn rhaid cael etholiadau Ewropeaidd, ac mae'r dyddiad cau o ran dechrau'r broses ar gyfer yr etholiadau hynny ymhen naw diwrnod. Er efallai nad oes fawr o risg o gyflwyno her gyfreithiol ynglŷn â chyfreithlondeb Senedd Ewrop, mae'n risg nad yw ein cymdogion yn Ewrop yn barod i'w oddef, oherwydd gallai ddiweddu gyda datganiad bod y Comisiwn Ewropeaidd ei hun wedi ei gyfansoddi'n annilys. Maen nhw eisiau ateb y gellir ei weithredu cyn y bydd y Senedd newydd yn cynnull ar 2 Gorffennaf. Byddai hynny, os mai felly y bydd hi, yn diystyru etholiad cyffredinol ac, yn wir, refferendwm.

Nid yw dirymiad yn ffordd hawdd o brynu mwy o amser. Roedd Llys Cyfiawnder Ewrop, yn ei ddyfarniad diweddar yn gwbl glir bod yn rhaid i ddiddymiad fod 'yn ddiamwys a diamod'. Felly, nid yw dirymiad yn ffordd o ddim ond arafu'r broses Brexit er mwyn rhoi mwy o amser ar gyfer refferendwm, cynulliadau dinasyddion neu ailnegodi. Felly, mae ein dewisiadau yn parhau i gyfyngu.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol sicrhau cyfaddawd. Rydym ni'n annog y Senedd i geisio sicrhau consensws sefydlog. Mae pleidleisiau'r dyddiau diwethaf yn dangos cefnogaeth ar gyfer canlyniad gwahanol—perthynas agosach ar ôl Brexit drwy undeb tollau ac aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Er ein bod yn parhau i gredu mai'r canlyniad gorau fyddai perthynas economaidd yn y dyfodol sy'n gwarantu cymryd rhan lawn yn y farchnad sengl ym mhob agwedd ar yr economi yn ogystal â bod yn rhan o undeb tollau, rydym yn croesawu'n gryf yr hyn yr wyf yn ei obeithio yw clymblaid sy'n dod i'r amlwg o blaid y math hwnnw o undeb tollau. Os deëllir yn glir fod hyn yn ychwanegol at yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth y DU eisoes o ran cael cyfatebiaeth i reolau'r farchnad sengl o ran nwyddau ac amaethyddiaeth, fe allem ni gefnogi datganiad gwleidyddol wedi ei ailysgrifennu i adlewyrchu hyn fel y sail ar gyfer derbyn y cytundeb ymadael.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos sut y gellid ymgorffori ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r amcanion negodi hyn mewn deddfwriaeth, ac rydym ni'n croesawu awgrym Prif Weinidog y DU a'r Twrnai Cyffredinol yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Gwener diwethaf bod y Llywodraeth yn bwriadu derbyn ymagwedd o'r fath. Byddai canlyniad felly, wrth gwrs, yn ei gwneud hi bron yn sicr na fyddai byth angen y cytundeb wrth gefn. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at David Lidington i annog Llywodraeth y DU ar yr un pryd i ymrwymo i sicrhau bod swyddogaeth statudol i'r gweinyddiaethau datganoledig yn y negodiadau hynny yn y dyfodol.

Yn ogystal â'r ffaith bod canlyniad o sylwedd yn ymddangos yn fwyfwy tebygol, mae cefnogaeth gynyddol o ran cael canlyniad cyfansoddiadol—pleidlais gadarnhau. Rydym ni bob amser wedi cefnogi mwy nag un ffordd o ddatrys yr argyfwng hwn ac mae'n dda gweld y Senedd bellach yn mabwysiadu'r dull hwn. Er ein bod yn dal i gredu mai uno i gefnogi Brexit meddal fydd y ffordd gyflymaf o sicrhau Brexit llai niweidiol, mae'n rhaid i'r Senedd hefyd gefnogi'r dewis o gynnal refferendwm fel dewis arall. Mae cyfaddawd bellach yn hanfodol. Felly, er bod pob dydd heb gytundeb ddiwrnod yn nes at ymadael heb gytundeb, a gyda 12 Ebrill bron ar ein gwarthaf, mae hynny yn awr yn bosibilrwydd gwirioneddol iawn, iawn. Yn yr un modd, os gallai'r Senedd ddod ynghyd â gweithio yn y ffordd yr ydym yn ei hawgrymu, nid ydym ni o bosib mor bell â hynny o sicrhau cytundeb a allai ddileu'r posibilrwydd hwnnw o blymio dros y dibyn, ond nid oes mymryn o amser i'w golli.

15:15

Diolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'r datganiad a wnaed. Mae'n rhaid imi ddweud, nid ydym ni wedi dysgu unrhyw beth newydd gan y Llywodraeth o ran y datganiad. Nid wyf yn hollol siŵr pam rydych chi'n teimlo ei bod hi'n gwbl angenrheidiol parhau i wneud datganiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mor aml pan nad oes gennych chi ddim byd newydd i'w ddweud, ond o gofio eich bod wedi llwyddo i siarad am oddeutu 10 munud i ddweud dim, fe wnaf i geisio gofyn i chi mewn gwirionedd yr hyn yr wyf yn credu sy'n gwestiynau pwysig.

Un peth y gwyddom ni yw hyn: nid oes neb arall yng ngwleidyddiaeth Prydain, heblaw am Lywodraeth y DU, â chynllun manwl ar gyfer ein perthynas yn y dyfodol sy'n anrhydeddu cyfarwyddyd pobl Prydain ac sydd wedi'i negodi gyda'r UE. Bydd cytundeb ymadael y Prif Weinidog yn sicrhau y gallwn ni adael yr UE nawr ar 12 Ebrill. Bydd yn rhoi terfyn ar ryddid i symud. Bydd yn fodd o gael model tollau newydd sy'n ystyriol o fusnesau a ble mae rhyddid i lunio cytundebau masnach newydd ledled y byd. Mae'n cynnwys ymrwymiadau ynglŷn â hawliau cyflogaeth a defnyddwyr, ac o ran yr amgylchedd. Ac, wrth gwrs, byddwn yn gallu gadael y polisi amaethyddol cyffredin a'r polisi pysgodfeydd cyffredin, byddwn ni'n gallu rhoi terfyn ar awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop, ac ni fydd angen ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Rydych chi'n dweud fel Llywodraeth eich bod eisiau rhoi terfyn ar yr ansicrwydd—rwyf innau hefyd, cymaint â chithau—ond dim ond un ffordd sydd yna o roi terfyn ar yr ansicrwydd yn gyflym iawn, a hynny yw pleidleisio o blaid y cytundeb ymadael, y cytundeb sydd wedi ei sicrhau rhwng Prif Weinidog y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Felly, gofynnaf ichi eto, Gweinidog Brexit, fel yr wyf i wedi gwneud droeon yn y Siambr hon: pam na allwch chi gefnogi'r cytundeb a negodwyd, y mae'r UE eisiau ichi ei gefnogi, y mae Llywodraeth y DU wedi llwyddo i'w gyflawni a'i negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd, a fydd yn rhoi terfyn ar yr holl ansicrwydd hwn yr ydych chi'n rhefru'n gyson fod angen inni roi terfyn arno?

Rydych chi wedi dweud bod cytundeb y Prif Weinidog wedi cael ergyd farwol ond, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod o ran cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd, y sicrhaodd fwy o bleidleisiau o ran cefnogaeth yn Nhŷ'r Cyffredin nag unrhyw ddewisiadau eraill, gan gynnwys eich hoff ddewis chi o undeb tollau. Nid oes digon o gefnogaeth am ail refferendwm neu farchnad gyffredin 2.0, ond yr hyn sydd gennym ni yw mwy o bobl yn pleidleisio yn y pleidleisiau ystyrlon sydd wedi eu cyflwyno i'r Senedd ar gyfer y cytundeb ymadael, gan gynnwys yn y bleidlais ystyrlon a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, nag ar gyfer unrhyw un o'r dewisiadau eraill hynny yn lle. Felly, byddwn yn awgrymu mai'r hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw rhoi terfyn ar y tin-droi ar eich meinciau chi, a chaniatáu rhywfaint o gefnogaeth gan y gwrthbleidiau mewn ffordd gyfrifol er mwyn sicrhau y gallwn ni roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn a symud ymlaen gyda'n bywydau.

Ymddengys eich bod yn ofni etholiad cyffredinol. Nid yw'r Prif Weinidog yn galw etholiad cyffredinol. Rwy'n credu eich bod yn fwy ofnus—. [Torri ar draws.] A dweud y gwir, mae'r rhan fwyaf ohonoch chi'n fwy ofnus o gael Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog na dim arall, a dyna pam fwy na thebyg eich bod yn ceisio wfftio at unrhyw syniad y byddai etholiad cyffredinol yn syniad da. Nid wyf i eisiau gweld etholiad cyffredinol ychwaith; byddai'n well o lawer gennyf weld y Llywodraeth hon yn sicrhau cytundeb ymadael gweddus ar ein cyfer, sef yr hyn y credaf fod gennym ni, sydd, wrth gwrs, yn gyfaddawd.

Nawr, a ydych chi'n derbyn pe byddem yn ceisio gweithredu eich ffordd chi o fynd i'r afael â Brexit, y byddech chi'n bradychu, fel plaid, llawer o'r pethau yr ydych chi wedi addo eu cyflawni o ran yr ymrwymiadau a wnaethoch chi ac y mae eich arweinydd wedi eu gwneud—ac rwy'n cyfeirio at Jeremy Corbyn—yn y gorffennol? Mae wedi sôn am ddatrys y mater hwn o ryddid i symud, gwneud yn siŵr nad yw awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yn berthnasol yn y DU a pheidio â chaniatáu talu symiau sylweddol o arian i'r UE er mwyn cael mynediad at eu marchnadoedd. Mae wedi dweud pob un o'r pethau hyn ar goedd yn y gorffennol, ac eto am ryw reswm rydych chi'n credu ei bod hi'n dderbyniol gwrthdroi'r holl sylwadau a'r addewidion a wnaethpwyd er mwyn ein cadw ni mewn undeb tollau a fyddai'n atal ein gallu i wneud ein cytundebau masnach rydd ledled y byd—un o'r pethau y pleidleisiodd pobl o'i blaid yn y refferendwm.

A ydych chi'n derbyn bod eich plaid chi, Plaid Lafur Cymru, yn ddim byd ond plaid 'aros' sydd eisiau ceisio ein cadw wedi ein clymu i'r UE ac sydd eisiau gwrthdroi'r canlyniad ac yn sicr nid gweithredu canlyniad refferendwm mis Mehefin 2016, ble pleidleisiodd pobl Cymru ac etholaeth y Gweinidog ei hun i adael yr UE? Wn i ddim amdanoch chi, ond rwy'n ddemocrat, ac rwy'n credu pan fo pobl Cymru yn pleidleisio mewn refferendwm, y dylem ni ufuddhau i'w cyfarwyddiadau fel Aelodau o'r Cynulliad hwn, ac y dylai ein Haelodau Seneddol wneud yr un peth hefyd. Mae'n ymddangos i mi mai'r cwbl yr ydych chi'n ceisio ei wneud yw llesteirio'r broses o gyflawni ar y cyfarwyddyd hwnnw drwy beidio â chefnogi cytundeb y Prif Weinidog, a fydd yn anrhydeddu cyfarwyddyd pobl Prydain a phobl Cymru a bleidleisiodd i adael yr UE.

Felly, pryd fyddwch chi'n newid eich cân? Rydych chi'n dweud wrth bawb arall i gyfaddawdu. Pryd wnewch chi gyfaddawdu a derbyn bod cytundeb o gyfaddawd yn cael ei gynnig sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm ac a fydd yn sicrhau ein bod yn gadael yr UE mewn modd trefnus, gyda digon o amser i allu negodi perthynas newydd ar ôl diwedd y cyfnod ymadael hwnnw?

15:20

Wel, fe wnaf i wrthsefyll y demtasiwn i wneud y sylw amlwg ynghylch cynnwys newydd, ond mae'n ofid imi ei fod yn teimlo ei bod hi'n amhriodol i'r Cynulliad gael cyfle i drafod yr hyn yw'r mater pwysicaf y mae'r rhan fwyaf o'n hetholwyr yn ei wynebu, gan gynnwys ei etholwyr ei hun, ar adeg pan fo'r sefyllfa sy'n wynebu'r Senedd ac yr ydym ni yn ei hwynebu yma yng Nghymru mor enbydus. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn edrych i'r lle hwn er mwyn trafod sut rydym ni'n teimlo y dylai'r broses hon ddatblygu er budd gorau Cymru. Rwy'n croesawu'r cyfle i gael y drafodaeth hon gydag ef yn y Siambr.

Mae'n gwneud sylwadau ynglŷn â chefnogi cytundeb y Prif Weinidog. Mae cytundeb y Prif Weinidog yn cynnwys dwy ran, er y byddai'n hoffi inni gredu ar hyn o bryd nad yw ond yn cynnwys un rhan. Ond fe wyddom ni am y diffygion sylfaenol yn y datganiad gwleidyddol: nid yw'n cynnwys yr ymrwymiad hwnnw i undeb tollau parhaol, tymor hir, nid yw'n cynnwys ymrwymiad llawn i gael cyfatebiaeth o ran rheoleiddio gyda'r farchnad sengl. Yn y bôn nid yw er budd Cymru. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ein bod yn edrych ar beth sy'n digwydd yn y Senedd ac rydym ni'n gweld lle mae consensws, neu ymdeimlad o gyfaddawd, yn dechrau dod i'r amlwg.

Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud nifer o ymrwymiadau yn ogystal â beth sydd yn y datganiad gwleidyddol, nad ydyn nhw yn y datganiad. Pe baen nhw yno—ymrwymiadau ynghylch cyfatebiaeth rheoleiddiol ddeinamig gyda'r farchnad sengl a'r trefniant hwnnw ynglŷn â'r undeb tollau y mae Kenneth Clarke ac eraill wedi ei gyflwyno yn y Senedd—ac y byddai modd ei ymgorffori yn y datganiad gwleidyddol newydd, dyna'r math o gytundeb y gallem ni ei gymeradwyo. Rydych chi'n gofyn ym mha fodd ydym ni wedi cyfaddawdu; mae hynny'n gyfaddawd ymarferol. Nid yw'n gwestiwn o lynu at safbwyntiau. Nid yw'n gwestiwn o guddio rhag y gwir, fel mae Prif Weinidog y DU yn ei wneud, ac anwybyddu'r hyn sy'n digwydd ar bob llaw iddi yn y Senedd gydag ychydig dros wythnos i fynd. Dyna yw diffyg arweinyddiaeth. Dyna yw absenoldeb cyfaddawd.

Mae'n dweud ein bod yn ofni etholiad cyffredinol. Rwyf i'n dweud, 'amdani', a dweud y gwir. Byddwn yn croesawu'r cyfle i ddisodli Theresa May gyda Jeremy Corbyn yn y Senedd ac ymgyrchu mewn etholaethau ledled Cymru. Byddwn yn falch iawn o fod yn y sefyllfa honno. Ond gadewch inni fod yn glir ynghylch hynny. Mae'r Prif Weinidog, er ei bod hi'n dweud y gwnaiff hi gysylltu cynnig o hyder â'i chytundeb marw, nid yw hi mewn unrhyw sefyllfa i arwain y Blaid Geidwadol i etholiad cyffredinol. Nid oes ganddi unrhyw awdurdod. Sut fyddai hi'n mynd ati i ysgrifennu maniffesto? Sut fyddai hi'n cynnull Cabinet sy'n chwalu? Mae ganddi gabinet sy'n pleidleisio mewn tair gwahanol ffordd ar bethau. Nid yw hi mewn unrhyw sefyllfa i alw etholiad cyffredinol.

Mae'r Aelod yn holi, yn olaf, am frad. Dyna'r iaith mae'n ei ddefnyddio. Nid wyf i eisiau defnyddio'r iaith honno. Rwy'n credu bod y math hwnnw o iaith yn iaith sy'n iselhau'r ddadl mewn ffordd y gwyddom ni beth yw ei ben draw. Rwy'n derbyn nad dyna oedd y bwriad, ond rwy'n credu y dylem ni fod yn ofalus ynglŷn â'r math hwnnw o iaith. Ond os yw eisiau defnyddio'r gair 'brad', gadewch i mi ddweud beth sydd yn frad: y math o Brexit heb gytundeb y mae'r Prif Weinidog yn ein harwain tuag ato. Bydd hynny'n bradychu'r rhai a bleidleisiodd i adael a'r rhai a bleidleisiodd i aros. Nid dyna a addawyd, ac nid yw hynny'n syndod oherwydd mae'n ganlyniad dinistriol. Ac o ran pob person a bleidleisiodd i adael, ni fyddent yn disgwyl colli eu swyddi o ganlyniad i hynny, ond dyna'r math o sefyllfa y bydd pobl yn ei wynebu yng Nghymru os cyrhaeddwn y sefyllfa honno ddydd Gwener nesaf. A chyfrifoldeb Prif Weinidog y DU yw cydnabod hynny ac arwain clymblaid o gefnogaeth o blaid gwahanol fath o gytundeb.

15:25

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ysgrifennu at David Lidington i geisio sicrhau swyddogaeth statudol ar gyfer y Llywodraethau datganoledig yn negodiadau'r dyfodol, ond rwyf yn ei chael hi'n syfrdanol mai dim ond nawr y ceir y cadarnhad hwn, bedwar diwrnod ar ôl yr oeddem ni i fod i adael yr UE. Dylai'r Llywodraeth fod wedi cyhoeddi hyn yn amod yn ystod y trafodaethau ynghylch y cytundeb rhynglywodraethol, yn hytrach nag fel cais ar ôl ildio faint bynnag o rym a oedd gennym ni, oherwydd mae profiad yn dweud wrthym ni na fydd y wladwriaeth Brydeinig ond yn cyfaddawdu os oes gan yr ochr arall rywbeth y mae arni ei eisiau. Ni waeth heb ag apelio am degwch.

Rydym ni bellach dim ond 10 diwrnod o'r diwrnod dynodedig nesaf ar gyfer gadael yr UE. Mae'r dyddiad cau terfynol o ran gwneud penderfyniad yn prysur agosáu ac os ydym ni i ddod o hyd i ateb ymarferol sy'n osgoi trychineb ymadael heb gytundeb, mae Llafur yn mynd i orfod cael trefn arni hi ei hun. Ofer yw disgwyl i'r Blaid Geidwadol gefnogi unrhyw gynigion rhesymol yn San Steffan oherwydd maen nhw wedi gadael y byd go iawn ers amser maith ac yng ngyddfau ei gilydd mewn byd breuddwyd o'u gwneuthuriad eu hunain. Daeth AS Grantham a Stamford, Nick Boles, i'r un casgliad ddoe ac ymddiswyddodd chwip y blaid Dorïaidd o ganlyniad.

O ran y cynigion a gyflwynwyd neithiwr, pleidleisiodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru, yn yr ysbryd o gyfaddawd adeiladol, o blaid tri dewis sy'n dderbyniol i ni fel ffordd ymlaen. Wnaethom ni ddim cefnogi gwelliant Clarke, sy'n galw yn syml am aelodaeth o'r undeb tollau, oherwydd nad yw'n cynnig y gwarantau sydd eu hangen arnom ni o ran yr economi, hawliau gweithwyr a diogelu'r amgylchedd. Pleidleisiodd ein Haelodau Seneddol am y cynnig farchnad gyffredin 2.0 a phleidlais gadarnhau, a chredwn y dylid cyfuno'r ddau ddewis yma fel y gellid cynnal refferendwm rhwng cynllun Brexit ymarferol sy'n seiliedig ar y farchnad sengl ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, byddai'r ddau ddewis hyn wedi cario'r dydd neithiwr pe bai'r holl Aelodau Seneddol Llafur yn eu cefnogi. Mae gan Llafur lawer i ateb drosto yn hyn o beth, ac rwy'n rhyfeddu'n arbennig bod dirprwy arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris, yn un o'r Aelodau Seneddol i ymatal ar refferendwm, a hyd yn oed yn fwy syfrdanol nad yw Ms Harris ac Aelodau Seneddol Llafur eraill a aeth yn groes i'r chwip wedi colli'r chwip wedyn o ganlyniad.

Y dewis arall a drafodwyd neithiwr oedd cynnig Joanna Cherry, y polisi yswiriant Brexit—rhwyd ddiogelwch wedi'i chynllunio i wneud dirymu erthygl 50 y dewis diofyn yn hytrach nag ymadael heb gytundeb os na chytunwyd i ymadael heb gytundeb neu i ofyn am estyniad erbyn 10 Ebrill, gydag ymchwiliad cyhoeddus llawn i ddilyn i weld a ddylid cynnal refferendwm pellach ar gytundeb Brexit a allai fod yn ymarferol ac ennyn cefnogaeth y cyhoedd.

Awgrymodd y Gweinidog yn ei ateb i mi yr wythnos diwethaf fy mod i wedi rhoi camargraff o'r sefyllfa yn hyn o beth, gan ei fod yn credu fod dirymu erthygl 50 gyda refferendwm pellach posib i ddilyn hyn yn amhosib. Tybed a fyddai'n barod i roi eglurhad ynghylch hyn, oherwydd dywedodd ei gydweithiwr Keir Starmer yn glir iawn ddoe nad oedd yn gwrthod yr egwyddor y tu ôl i gynnig dirymu Joanna Cherry, neu i'w roi mewn ffordd arall: a yw'r Gweinidog yn cytuno gyda Mr Starmer neu ef ei hun yn hyn o beth? Mae'n bwynt syml o resymeg na all yr hawl i ddirymu fod yn unochrog ac yn amodol ar yr un pryd, ac mae arbenigwyr ar gyfraith yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud na fyddai unrhyw dir cyfreithiol i herio dirymu yn y llysoedd Ewropeaidd, gan mai'r unig amodau sydd angen eu bodloni yw'r rheini mewn cysylltiad â dirymu gofynion cyfansoddiadol aelod wladwriaethau. Dywedodd Mr Starmer mai rheswm y Blaid Lafur dros beidio â chefnogi'r cynnig neithiwr oedd oherwydd nad oedd hi'n bryd mynd i'r afael â'r mater eto. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Prif Weinidog Cymru wedi dweud y prynhawn yma y byddai'n well gan y Llywodraeth ddirymu dros beidio â chael cytundeb, ond rwy'n awgrymu'n gryf ei bod hi'n hen bryd bellach mynd i'r afael â'r mater a'i bod hi bellach yn bryd gweithredu.

Hoffwn gloi drwy ofyn i'r Gweinidog ddweud ar goedd beth yw dewis cyntaf Llywodraeth Cymru o ran y dewisiadau sydd bellach ar gael a hefyd a yw'r Gweinidog yn cytuno â Phlaid Cymru, sef, os yw dewis dros Brexit yn y pen draw yn sicrhau mwyafrif, y dylai hyn fod yn destun refferendwm cadarnhau gyda dewis i aros. 

Diolch i'r Aelod am nifer o gwestiynau. Rwy'n gobeithio y llwyddaf i wneud cyfiawnder â phob un ohonyn nhw. Yn gyntaf am ei sylw agoriadol, ynghylch yr amddiffyniad statudol ar gyfer gweinyddiaethau datganoledig yn y trafodaethau, bydd hi'n gwybod o ddatganiadau blaenorol yr wyf i wedi eu gwneud yn y fan yma, ac y mae Prif Weinidog Cymru wedi eu gwneud, y bu hyn yn thema gyson o drafodaethau Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, sef ein bod yn teimlo, o ran y trafodaethau sy'n mynd rhagddyn nhw ynghylch y dyfodol, fod gan Lywodraeth Cymru, a Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, swyddogaeth hanfodol.

Roedd y cyfeiriad a wnes yn fy araith yn llythyr a anfonais mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog y DU yn y blwch anfon ddydd Gwener, lle ymrwymodd i roi sail statudol i negodiadau'r datganiad gwleidyddol ei hun—nid negodiadau'r dyfodol yn fwy cyffredinol. Bydd yr Aelod yn gwybod, wythnos neu 10 diwrnod yn ôl, y gwnes i ddatganiad, ac ysgrifennu at David Lidington a Stephen Barclay yn Llywodraeth y DU, yn cynnig geiriad y gellid ei ddefnyddio o ran Bil diwygio'r cytundeb ymadael, a fyddai'n gwneud y gwaith hwnnw, a fyddai'n rhoi modd i'r Senedd oruchwylio, ond a fyddai hefyd yn rhoi swyddogaeth i'r sefydliadau datganoledig yn y gwaith o ddiwygio'r datganiad ei hun. Ar ôl clywed Prif Weinidog y DU a'r Twrnai Cyffredinol yn ymrwymo i rywfaint o hynny, roeddwn yn teimlo ei bod hi'n bwysig ceisio cael ymrwymiad ynglŷn â chydbwysedd hynny, a dyna'r rheswm yr ysgrifennais.

Mae hi'n cyfeirio at y cytundeb rhynglywodraethol. Bydd hi'n cofio efallai mai diben y cytundeb rhynglywodraethol yn wir oedd sicrhau nifer sylweddol o gonsesiynau statudol. A'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw sydd wedi galluogi datblygu fframweithiau rhwng y gweinyddiaethau yn y DU, mewn ffordd sydd, ar y cyfan, wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Roedd hi—a'i chyd-Aelodau, efallai, cyn iddi ymuno â'r tŷ—yn arfer dweud yn gyson ei fod yn fecanwaith ar gyfer dwyn pwerau ymaith. Rwyf eto i glywed am un pŵer ar y rhestr honno o bwerau a ddygwyd ymaith; y rheswm syml iawn am hynny yw oherwydd nad oes unrhyw un.

O ran y pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr, roeddwn yn gobeithio fy mod i wedi ei gwneud hi'n glir yn fy natganiad y byddai gwelliant Clarke, o'i ystyried ynghyd ag ymrwymiadau eraill a wnaeth Prif Weinidog y DU yn dilyn hynny, y byddai angen eu hystyried gyda'i gilydd mewn datganiad gwleidyddol diwygiedig. Rwy'n croesawu sut yr aeth ei chyd-Aelod Seneddol neithiwr ati yn y pleidleisiau hyn, ac fel yr aeth ati'n arbennig i eirioli dros 'Diogelu Dyfodol Cymru' fel egwyddorion y mae Plaid Cymru yn eu cymeradwyo o hyd, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad parhaus hwnnw, hyd yn oed yn Nhŷ'r Cyffredin.

Soniodd am y sylwadau a wnaed gan Keir Starmer ynghylch y dehongliad o benderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos Wightman, sef yr achos perthnasol yn hyn o beth. Mae'r dyfarniad yn glir: bod angen i'r dirymu fod yn ddiamwys ac yn ddiamod, ac nad yw'n fecanwaith y gall aelod-wladwriaeth ei ddefnyddio dim ond er mwyn gohirio proses erthygl 50. Ac mae'r rheswm am hynny yn amlwg, onid yw? Mae yna fecanwaith yn y ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r pŵer i aelod-wladwriaethau eraill gydsynio neu beidio. Pe gallai aelod arfer yr hawl honno'n annibynnol, byddai hynny'n tanseilio hawliau aelod-wladwriaethau eraill. Felly, nid yw'n syndod mai dyna gasgliad y llys.

Ac fe wnaf adleisio, os caf i, sylwadau Prif Weinidog Cymru yn gynharach yn y Siambr: nid dyma'r amser y mae modd mewn difrif gwneud penderfyniad sydd â goblygiadau cyfansoddiadol mor sylweddol. Yn y pen draw, efallai bod casgliad gwahanol ynghylch hynny, ond ar hyn o bryd, nid ydym ni wedi cyrraedd yr eiliad honno o benderfynu lle mai'r dewisiadau eraill yw dirymu neu ddim cytundeb. 

15:30

Yn wahanol i Darren Millar, rwy'n croesawu'r cyfleoedd hyn, oherwydd mae'n rhoi inni enghraifft arall o ba mor ddi-glem yw'r sefydliad hwn—fel yn wir y mae'r Tŷ'r Cyffredin—o ran y farn boblogaidd. Y broblem sylfaenol a greodd yr anhrefn a'r dryswch hwn yw bod Prif Weinidog y DU o blaid aros, gyda Chabinet sy'n gryf o blaid aros, a Phlaid Seneddol—y Blaid Geidwadol—yn Nhŷ'r Cyffredin sydd â mwyafrif o bobl sydd eisiau aros, bod gennym ni yng Nghymru Lywodraeth sy'n gryf o blaid aros, roedd pob un Aelod Cynulliad Llafur, pob un Aelod Cynulliad Plaid Cymru o blaid aros, ac maen nhw i gyd yn dal i fod. A'r hyn sy'n digwydd yma, gyda'r holl anhrefn a'r dryswch yn Nhŷ'r Cyffredin dros yr ychydig wythnosau diwethaf, yw bod arhoswyr didrugaredd yn ceisio gohirio'r broses tan, yn y pen draw, maen nhw'n gobeithio, y gellir dad-wneud canlyniad y refferendwm. Mae'r datganiad yn dweud mai'r broblem yw Llywodraeth na all dderbyn 'na' yn ateb—ac wrth gwrs mae hynny'n wir mewn perthynas â chytundeb Theresa May. Ond y tu hwnt i hynny, y broblem yw ei bod yn Llywodraeth na wnaiff dderbyn 'ymadael' yn ateb, ac mae hynny'n broblem gyda Llywodraeth Cymru hefyd. Gwyddom fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig, a rhai ardaloedd a gynrychiolir gan ASau Llafur, gan fwyafrifoedd mawr iawn, iawn, o blaid 'ymadael', ac nid oes unrhyw dystiolaeth wirioneddol fod barn y cyhoedd wedi newid yn y ddwy a hanner i dair blynedd diwethaf. Y broblem yw na allwn ni gyflawni ar ganlyniad y refferendwm, a ddigwyddodd er gwaethaf ymdrechion gorau y Llywodraeth, busnesau mawr, y cyfryngau a chymaint o fuddiannau breintiedig eraill o blaid 'aros'. Roedd y llyfryn enwog, a anfonodd y Llywodraeth ar ein traul ein hunain i bob cartref yn y wlad, a oedd yn dweud, heb unrhyw amod neu amwysedd, 'Dyma eich penderfyniad'—i'r bobl —'bydd y Llywodraeth yn gweithredu yr hyn yr ydych chi'n ei benderfynu, heb anwadalu'—y broblem yw nad oes neb sydd mewn sefyllfa i gyflawni eisiau cyflawni, ac ymdrechion cyson y sefydliad, mewn un ffordd neu'r llall, i rwystro'r penderfyniad hwnnw sydd yn y pen draw wedi creu'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw.

O ran y cynigion undeb tollau o wahanol fathau, cyhoeddwyd y pôl piniwn ComRes diweddaraf ynglŷn â hyn ddoe, ac mae 57 y cant o'r cyhoedd yn dweud bod aros mewn undeb tollau yn golygu nad ydym ni wedi gadael. Felly, nid oes unrhyw ddiben breuddwydio, pe byddai Llywodraeth Cymru yn llwyddo yn ei uchelgeisiau nad ydym ni yn ymarferol yn gadael yr UE, nad yw hynny'n mynd i arwain at ddicter cyhoeddus eang, a allai droi'n annifyr iawn, y byddem ni i gyd—[Torri ar draws.] Nid dweud yr wyf i mai hyn sydd arnaf i eisiau digwydd, ond rydym ni yn gwybod bod yna gyfran sylweddol o'r cyhoedd yn teimlo wedi'u bradychu, nid yn unig o ran y mater penodol hwn, ond o ran amryw o faterion, gan y sefydliad gwleidyddol. Ac roedd y bleidlais Brexit yn gymhleth iawn, ac nid oedd dim ond, i lawer o bobl, am yr UE, ond roedd yn crisialu ymdeimlad o ymddieithrio oddi wrth y prosesau gwleidyddol yn gyfan gwbl. Os nad ydym ni'n cyflawni ar ganlyniad Brexit y refferendwm diwethaf, caiff hynny ei waethygu ymhellach, a phe byddem ni'n cael refferendwm arall, pam fyddem ni'n credu y dylai hynny fod yn bendant os nad oedd yr un cyntaf yn bendant? A ddylem ni ei wneud y gorau o dri? Y gorau o bump? Y gorau o 10? A ddylem ni ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol fel y Nadolig, y gallwn ni ei ddathlu'n gyson bob blwyddyn?

Yn y pen draw, mae hwn yn gwestiwn o ymddiriedaeth rhwng gwleidyddion a phobl, ac yn y bôn, rwy'n credu mai dyna bellach y mae hyn wedi datblygu i fod. Mae'r cyhoedd ym Mhrydain yn teimlo'n gyffredinol—[Torri ar draws.] Ydych, rydych chi yn cael pregeth gennyf i, oherwydd chi sydd eisiau bradychu ymddiriedaeth pobl Cymru a phobl Prydain, oherwydd eich bod yn coleddu barn wahanol iddyn nhw y mae'r Senedd yn San Steffan—

15:35

Nid oes angen ichi ymateb i Aelodau sy'n eistedd—nid ydych chi'n gyfrifol am ymateb, Neil Hamilton.

Penderfynodd y Senedd yn San Steffan, pan wnaethpwyd y penderfyniad gyda'r refferendwm, na allent wneud y penderfyniad hwnnw yn San Steffan, am resymau sydd wedi eu dangos yn amlwg ddigon yn yr hyn a welsom ni yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac, felly, y bobl fyddai'n penderfynu. A dywedodd y Llywodraeth yn ddiamwys, 'byddwn yn gweithredu'r hyn y byddwch yn penderfynu arno', ac oherwydd nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny, ac oherwydd nad yw'r sefydliad eisiau gwneud hynny, mae'r dryswch hwn yn parhau.

Felly, rwy'n gobeithio na fydd cytundeb ar 12 Ebrill, oherwydd nid oes unrhyw obaith o unrhyw beth arall ar gael a fydd yn gweithio, ac yna gall Prydain gref a rhydd wneud ei ffordd yng ngweddill y byd gyda gwledydd sydd eisiau gwneud cytundebau masnach gyda ni yn y rhan o'r 85 y cant o'r economi fyd-eang sy'n ehangu, yn wahanol i'r UE, sydd yn awr mewn dirwasgiad.

Wel, mae'n ddrwg gennyf siomi'r Aelod, ond mae'r syniad nad yw'n rhan o'r sefydliad yn eithaf chwerthinllyd, ac yn sicr nid wyf am droi ato ef am unrhyw wersi am ddidwylledd ac ymddiriedaeth, ac rwy'n credu y gwelwn ni ddydd Iau faint mae'n arddel y farn gyhoeddus pan fo pleidleiswyr Casnewydd yn lleisio'u barn. Y pwynt, o ddifrif, y mae'n ei wneud—mae'r syniad bod pobl yn cwmpasu môr a thir i beidio â pharchu canlyniad refferendwm 2016 yn rhan o'r naratif ehangach sydd wedi creu natur annifyr y ddadl ynghylch Brexit yn y wlad hon.

Yr hyn sydd gennym ni mewn gwirionedd yn digwydd, yn y Senedd yn bennaf—ac rwy'n gobeithio ei fod yn gwybod hyn, ac yntau'n gyn-Aelod Seneddol, ac yn cydnabod—yw bod pobl yn ymgodymu â chyfuniad cymhleth iawn o syniadau ynghylch sut orau i barchu'r refferendwm hwnnw mewn ffordd nad yw'n niweidio bywoliaeth unigolion a chymunedau y maen nhw a ninnau yn eu cynrychioli. 'Diogelu Dyfodol Cymru' oedd ein hymgais i wneud hynny—cydnabod canlyniad y refferendwm a disgrifio math o berthynas ar ôl Brexit rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, sy'n gweithio orau er budd Cymru. Ac nid wyf yn credu bod y farn gor-syml yma, i raddau, bod 'gadael yn golygu gadael', fel bod gan hynny ryw fath o ystyr sy'n annibynnol i'r broses gymhleth hon, o unrhyw fudd i'r ddadl o gwbl. Ac fe wnaf i ailadrodd y pwynt a wnes i yn glir wrth Darren Millar, nad yw hi, yn ein hiaith, nid yw hi'n unrhyw ran o arweinyddiaeth gyhoeddus i bedlera geiriau fel 'brad' mewn cyd-destun arbennig o gynhennus. Mae'r rhain yn bobl o ewyllys da sy'n gwneud penderfyniadau anodd mewn amgylchiadau ymfflamychol iawn, iawn, ac fe ddylem ni i gyd wneud ein gorau i geisio ymdrin â'r materion ar y sail honno.

15:40

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae hi yn bwysig bod gennym ni yn y Siambr hon gyfle i drafod y digwyddiadau hyn oherwydd eu bod yn symud yn gyflym, yn newid yn gyflym, ac mae ganddyn nhw oblygiadau enfawr ar yr etholwyr yr ydym ni yma i'w cynrychioli, ac, felly, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ddatganiad y Gweinidog ynghylch y sefyllfa bresennol. Rwy'n gwybod hefyd y cafwyd trafodaethau yr wythnos diwethaf—y Prif Weinidog yn Llundain yn trafod amryw faterion. Mae'n hollbwysig bod gennym ni gyfle i ofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru am yr hyn sy'n digwydd, ac mae'n arbennig o bwysig ein bod yn edrych ar yr anhrefn yn San Steffan a'r traed moch a welwn ni yn y Senedd. Roedd Darren Millar yn llygad ei le—edrychais ar y ffigurau—y bleidlais ddiwethaf hawliodd y mwyaf mewn gwirionedd. Roedd y ddwy flaenorol, wrth gwrs, yn rhai o'r gwaethaf, ond ni chafodd yr un o'r pleidleisiau hynny neithiwr y nifer yn pleidleisio yn eu herbyn ag a bleidleisiodd yn erbyn cytundeb y Prif Weinidog. Dim un. Collwyd cytundeb y Prif Weinidog o 58, a dyna'r gorau y mae hi wedi gwneud. Roedd y cytundebau hyn neithiwr yn dri, 12 a 21, sef y tri phrif rai, felly mae hi'n amlwg yn agos ac o fewn yr ystod yma.

Ond ceir rhai cwestiynau y mae angen inni fod yn realistig yn eu cylch oherwydd yr hyn nad ydym ni wedi ei drafod eto yw'r posibilrwydd y daw'r cytundeb yn ei ôl, oherwydd rwy'n credu bod Darren Millar yn gywir. Gwelais wyneb Prif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf, ar ddydd Gwener, a chefais yr argraff glir nad oedd hi eto wedi gorffen gyda'r cytundeb hwn. Gallai ddod yn ei ôl, ac fe allai hi lwyddo i ddarbwyllo digon o bobl trwy ddirgel ffyrdd i'w cael nhw mewn gwirionedd i bleidleisio dros y cytundeb hwn. Nawr, os mai dyna'r achos, a bod cytundeb, a allwch chi ddweud wrthyf i pa amserlenni y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio iddyn nhw er mwyn cyflawni dyfarniad ar unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol angenrheidiol a ddaw o ganlyniad i gyflwyno Bil ymadael? Ar ba amserlenni ydych chi wedi cael trafodaethau am y Bil ymadael hwnnw? Oherwydd, yn amlwg, mae'n bosib iawn ein bod yn dal yn gweithio i gyflawni dyddiad 22 Mai ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd, sy'n golygu y bydd gennym ni gyfnod hir o—. Mae gennym ni doriad am dair wythnos. Mae angen inni ddeall pryd fydd angen inni ddod yn ôl a thrafod cynigion cydsyniad deddfwriaethol a goblygiadau'r Bil ymadael hwnnw, yn arbennig oherwydd fy mod i'n gwybod yr awgrymodd Llywodraeth Cymru rai cymalau ynglŷn â'r Bil hwnnw. Nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod a ydyn nhw wedi eu cynnwys eto na goblygiadau hynny.

Hefyd, a allwch chi ddweud wrthyf pa baratoi pellach ydym ni wedi ei wneud ar gyfer ymadael heb gytundeb? Mae pawb yn gwybod ynglŷn â'r gwaith paratoadol. Mae'r UE bellach yn dweud ei fod yn barod—nad yw eisiau hynny, ond ei fod yn barod os ydym yn gadael heb gytundeb. Dywedodd Michel Barnier y bore yma, mewn gwirionedd, ei fod yn credu ein bod yn llawer agosach at Brexit heb gytundeb nag erioed o'r blaen. Felly, lle mae Llywodraeth Cymru arni o ran paratoi ar gyfer ymadael heb gytundeb? A ydym ni mewn sefyllfa bellach lle os yw hynny'n digwydd, y gallwn ni sicrhau ein hunain ein bod ni wedi gwneud popeth posib i amddiffyn Cymru orau allwn ni yn yr amgylchiadau hynny? Rwy'n sylweddoli fod Prif Weinidog Cymru ar sawl achlysur wedi dangos na allem ni fyth ein hamddiffyn ein hunain rhag yr holl bethau allai ddigwydd, ond gallwn edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i liniaru rhai o'r pethau a fydd yn digwydd.

Rwy'n sylweddoli bod y datganiad gwleidyddol yn fan gwan, ac yn bersonol rwy'n credu mai dyna'r maes y mae angen mynd i'r afael ag ef. A allwch chi gadarnhad pa fath o drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU, oherwydd mae gennym ni Theresa May yn addo, rydym ni i gyd yn gwybod na fydd hi yno ar ôl y sefyllfa, a'i bod hi'n bosib na chaiff unrhyw ddatganiad gwleidyddol y mae hi'n ei gofleidio ei anrhydeddu? Felly, pa ymrwymiadau sydd gennych chi gan Lywodraeth y DU y byddant yn anrhydeddu unrhyw gytundeb gwleidyddol a wneir, ni waeth pwy yw'r Prif Weinidog yn y blaid Dorïaidd, oherwydd pa un ai Raab neu Michael Gove neu Boris Johnson—rydym ni eisiau i bwy bynnag sydd wrth y llyw, os byddant yn parhau mewn grym, i anrhydeddu ymrwymiad sy'n gweithio i Gymru mewn gwirionedd.

Rwy'n cytuno â chi hefyd ynghylch yr iaith a ddefnyddir, ond fe wnaf i hefyd dynnu sylw, yn anffodus, at yr iaith a ddefnyddiwyd gan Nigel Farage pan ddywedodd ddydd Gwener diwethaf—'Dyma ni yn nhiriogaeth y gelyn'. Roedd yn cyflyru pobl yn erbyn y Senedd a seneddwyr, ac rwy'n credu bod hynny'n warthus i unrhyw wleidydd. Rwy'n gobeithio na fydd neb yn y Siambr hon yn ailadrodd iaith fel hynny naill ai y tu mewn neu y tu allan i'r Siambr hon. Rwy'n falch hefyd eich bod wedi ysgrifennu at David Lidington. Gwyddoch yn iawn fod Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi dilyn yr agenda hon ar gyfer ymrwymiad statudol, oherwydd, unwaith eto, os nad oes gennym ni'r sylfaen statudol honno, os nad oes gennym ni'r ymrwymiad a'r gonestrwydd gan Brif Weinidog yn y dyfodol i gyflawni'r math honno o berthynas sydd ei hangen i Gymru gymryd rhan yn y trafodaethau hyn? Nid dyfodol y DU yn unig yw hyn, ein dyfodol ni ydyw, a dyfodol ein dinasyddion. Mae angen inni gael hynny, ac mae angen yr ymrwymiadau hynny arnom ni.

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch i David Rees am y cwestiynau hynny; clywais nhw'n dod mewn tri chategori, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, yn gysylltiedig â'r Bil cytundeb ymadael, buom yn gyson fel Llywodraeth yn pwyso ar yr egwyddor y dylid cadw at y confensiynau cyfansoddiadol yn llawn—hynny yw, y cyflwynir cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Cynulliad, ac rydym ni'n amlwg wedi cael yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth y DU. Ond yr amserlenni yw'r cwestiwn y mae'n holi yn ei gylch, ac rwy'n credu bod hynny'n gwestiwn difrifol. Yr hyn sy'n glir yw, os a phan gyflwynir hynny yn y Senedd, bydd yn amlwg yn mynd drwy'r Senedd mewn cyfnod byr iawn, iawn o amser. Felly, bydd yr hyn a fyddai fel arfer yn cymryd misoedd yn cymryd wythnosau, o bosib llai. Felly, yn amlwg, bydd yr amser a fydd gennym ni yn y fan yma ar gyfer myfyrio, i gydsynio, hefyd wedi ei gwtogi yn gymesur hefyd. Felly, mae'r cyfnod y gallem ni ei ddisgwyl i fwynhau ystyried y pethau hyn yn debygol o gael ei gwtogi yn sylweddol, o ystyried lle'r ydym ni arni ar hyn o bryd. Credaf fod angen inni gydnabod mai dyna yw realiti gwleidyddol y sefyllfa y cawn ein hunain ynddi ar yr unfed awr ar ddeg heb drefniadau sefydlog ar gyfer datrys y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Bydd yn sicr yn cael effaith ar yr amser sydd ar gael inni yn y fan yma i ystyried y cwestiynau pwysig hynny.

O ran pa mor barod ydym ni i adael heb gytundeb, mae'n gofyn: a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posib? Wel, rydym ni'n gwneud popeth a allwn ni, ond ceir cyfyngiadau ar bwerau a chyfyngiadau ar adnoddau, ac mae cyfyngiadau o ran gofynion cyffredinol pethau—sef nad yw rhai pethau, mewn difrif, o fewn ein rheolaeth. Ond mae yna beth wmbreth o waith yn digwydd yn y Llywodraeth ac ailddyrannu adnoddau er mwyn paratoi ar gyfer y math hwnnw o ganlyniad sef y canlyniad diwethaf mae arnom ni eisiau ei weld i Gymru. Ond, fel yr ydym ni wedi dweud yn gyson yn y fan yma, er gwaethaf hynny, ein cyfrifoldeb ni fel Llywodraeth yw gwneud hynny. Ond mae pawb o'r un farn, gobeithio, bod yr arian a'r amser a'r adnoddau a'r ynni hwnnw, er bod angen buddsoddi ynddyn nhw, gobeithio na fydd mo'u hangen maes o law, ac rydym ni'n pendroni, rwy'n credu, ynghylch y dibenion eraill y gelllid bod wedi eu defnyddio ar eu cyfer pe baem ni wedi cael cyfres fwy trefnus o drafodaethau na'r rhai yr ydym ni'n dyst iddyn nhw ar hyn o bryd.

O ran ymrwymiadau parhaus, wel, rwy'n credu, ar un ystyr, bod hynny'n dod yn ôl at sylw dechreuol yr Aelod—sail statudol. Holl ddiben ceisio sail statudol er mwyn cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn y datganiad gwleidyddol, i oruchwylio hynny—sef y geiriad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei awgrymu fel ffordd o ddiwygio'r cytundeb ymadael—holl ddiben hynny yw rhoi'r graddau hynny o sicrwydd. Yn amlwg, yr hyn yr ydym ni'n ei geisio yw perthynas a all oroesi unrhyw unigolyn neu unrhyw grŵp o unigolion—mae hynny'n sail sefydlog yr ydym ni'n gobeithio gallu symud ymlaen arni. A'r rheswm fy mod i'n gwybod bod hynny mor bwysig yw imi deimlo'r ias aeth drwy'r Siambr pan ddywedais y geiriau y Prif Weinidog Johnson, Rees Mogg neu Raab.

A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Gweinidog? Yn wahanol i rai yn y Siambr hon, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bwysig ein bod yn cael cyfleoedd rheolaidd i drafod yr hyn yw'r bygythiad mwyaf yr ydym ni wedi'i wynebu ers degawdau. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr iawn eich cais i rai yn y Siambr hon liniaru tipyn ar y rhethreg ynglŷn â Brexit oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae peth o'r rhethreg a glywn ni yn y fan yma—y sôn am frad, ac ati—yn cael ei chwyddo a'i anelu at gynrychiolwyr etholedig yn gyson.

Dim ond eisiau gofyn oeddwn i, oherwydd nid wyf yn teimlo y rhoesoch chi ateb clir i Delyth Jewell yn gynharach pan ofynnodd ichi: os cytunir ar gyfaddawd yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch marchnad gyffredin 2.0 neu undeb tollau, sy'n wahanol iawn i'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto yn y refferendwm, a ydych chi'n credu bod angen cyflwyno unrhyw gyfaddawd i'r bobl ar ffurf pleidlais gadarnhau?

Wel, ie, diolch am y sylwadau y mae'r Aelod yn eu gwneud o ran iaith a chwyddo'r hyn sy'n digwydd, yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud, yn y lleoedd hyn o ran gwleidyddion yma ac mewn mannau eraill. Rydym ni wedi bod yn glir bod dwy ffordd o ddatrys y gwrthdaro hwn. Un yw'r math o egwyddorion a adlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru': undeb tollau, marchnad gyffredin 2.0, Norwy plws. Mae'r rhai hynny i gyd yn gyfres o drefniadau, perthnasoedd, sydd mewn sefyllfa debyg, ac rwy'n credu, o ran yr union fanylion hynny ar hyn o bryd, y dylai pob un ohonom ni edrych ar ffyrdd o gyfaddawdu ynghylch hynny. Os yw'r Senedd yn cynnig cael pleidlais gadarnhau ar gyfer hynny, byddem yn cefnogi hynny. Ein barn ni, fel Llywodraeth, yw nad yw hynny'n hanfodol, felly, pe byddai modd cytuno ar gytundeb a fyddai'n sicrhau cefnogaeth seneddol ac yn adlewyrchu'r math o egwyddorion yr ydym ni wedi'u disgrifio, nid ydym ni'n credu bod angen cymeradwyaeth, ail refferendwm, i hynny. Ond, yn amlwg, os yw'r Senedd yn credu mai dyna'r ffordd orau o ddatrys y cyfyngder, byddem yn cefnogi hynny.

15:50
5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Diogelwch Adeiladau

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—diogelwch adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i wneud pobl yn fwy diogel yn eu cartrefi. Mae gennym enw da am wneud yn union hynny. Ers datganoli'r cyfrifoldeb am dân yn 2005, mae nifer y tanau mewn anheddau wedi gostwng yn is ac yn gyflymach yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU. Wedi dweud hynny, nid ydym ni'n gallu bod yn hunanfodlon ac ni fyddwn yn gwneud hynny. Mae llawer o dystiolaeth wedi dod i'r amlwg yn dilyn y tân ofnadwy a'r methiannau yn Nhŵr Grenfell. Yn wir, mae'n hynny'n parhau i ddigwydd, a chaiff ei adlewyrchu yn ein dull ni o weithredu.

Mae'r dystiolaeth honno'n cynnwys cyflwyniadau i'r ymchwiliad cyhoeddus, y profion sy'n parhau, yn ogystal â rhai sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn, ar ddeunyddiau adeiladu a drysau tân, ac, wrth gwrs, yr argymhellion yn rhan o adolygiad y Fonesig Judith Hackitt o'r rheoliadau adeiladu a diogelwch tân. Er bod ei hadolygiad hi wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU ac mae'n ymwneud â'r sefyllfa yn Lloegr, rydym yn cydnabod ei ddilysrwydd yng nghyd-destun Cymru, nid yn lleiaf oherwydd, yn 2012, etifeddwyd yr un system ag sydd mewn grym yn Lloegr. Rydym felly'n cydnabod disgrifiad Hackitt o system nad yw'n addas i'r diben. Mae hwnnw'n asesiad damniol.

Roedd y Fonesig Judith Hackitt yn glir yn ei hargymhellion fod yn rhaid i ymateb effeithiol fod yn eang a chydlynol. Mae hyn yn cydnabod cymhlethdodau'r system bresennol, sy'n un o ddeddfwriaeth yn gorgyffwrdd a swyddogaethau a chyfrifoldebau sy'n aneglur yn aml. Mae'n system a nodweddir gan drefniadau rheoli annigonol ac anghyson a gorfodaeth wan. Mae'n amgylchedd a nodweddir gan y ras i'r gwaelod, gan fynd ar ôl elw ar draul safonau. Cafwyd diystyriaeth syfrdanol weithiau o leisiau a phryderon y trigolion. Yn fyr, ceir llawer i'w gywiro a chydnabyddiaeth bod gwneud hynny'n gofyn am herio'r system gyfan. Rydym wedi ymrwymo i osod cyd-destun polisi a deddfwriaethol sy'n adlewyrchu ac yn mynd i'r afael â'r risgiau a'r dystiolaeth—dull a fydd yn gwneud ein disgwyliadau cadarn yn eglur iawn ac yn cefnogi ac ysgogi ein safonau uchel a chydymffurfiaeth lawn.

Yn amlwg, mae angen inni ddwyn ein partneriaid gyda ni i wneud yn siŵr bod ein bwriadau ni'n seiliedig ar brofiad a'r hyn sy'n wirioneddol, a'u bod yn gallu cael eu gwireddu. Mae angen systemau effeithiol arnom ni i gyflawni ein nodau cyffredin. Yn rhan o'r broses honno, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp arbenigol y llynedd. Mae hwn wedi bod â rhan allweddol wrth argymell y ffordd ymlaen. Ym mis Ionawr, fe wnes i gadarnhau y byddwn i'n rhannu cyngor y grŵp arbenigol gyda chi ac roeddwn i'n falch o'i gyhoeddi'r wythnos hon. Fy ymateb cyntaf yw ei fod yn cynnig dadansoddiad eang a defnyddiol. Hoffwn fynegi fy niolch ar goedd i'r grŵp am eu hamser a'u hystyriaeth fywiog a gofalus o ystod eang o faterion anodd. Mae cyfansoddiad y grŵp yn golygu ein bod wedi gallu manteisio ar arbenigedd ar draws proffesiynau a sectorau. Yn ei dro, mae'r grŵp wedi elwa hefyd ar gyfraniad swyddogion o Lywodraethau'r DU a'r Alban, adeiladwyr tai, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, academyddion ac eraill.

O'm rhan fy hun, rwyf i nawr am gymryd amser i fyfyrio ar argymhellion y grŵp cyn rhannu fy ymateb gyda chi ym mis Mai, fel y nodais o'r blaen. Byddaf yn cynnwys, yn rhan o'r ymateb hwnnw, gynllun prosiect eglur, gan sefydlu blaenoriaethau ac amserlenni ar gyfer ein camau nesaf. Bydd hefyd yn ystyried gwaith sy'n cael ei ddatblygu mewn rhannau eraill o'r DU, ond a fyddai'n werthfawr yng nghyd-destun Cymru—er enghraifft, gwaith y National Fire Chiefs Council yn sefydlu dealltwriaeth gliriach o risg, ac eiddo'r grŵp ymateb diwydiant, gan nodi datrysiadau dan gyngor y diwydiant i bennu a chyflawni safonau cyson o broffesiynoldeb.

Rwyf wedi dweud cyn hyn fy mod wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion sy'n ymarferol ac yn gymesur, a bydd rhai ohonyn nhw'n tynnu ar waith ar lefel y DU. Nid yw'n fwriad gennyf i fod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol, ond ni fyddaf i'n oedi cyn gwahaniaethu pryd y ceir cyfle i fod yn fwy effeithiol a gwneud pobl yn fwy diogel. Un cwestiwn sy'n codi ar unwaith, wedyn, yw: pa adeiladau a ddylai gael eu cynnwys mewn system newydd i Gymru? Fel llawer o'r materion hyn, caiff ei gymlethu gan nifer o ffactorau a chydag ychydig yn unig o dystiolaeth gadarn i'w ategu ar hyn o bryd.

Roedd y Fonesig Judith yn argymell y dylai'r hyn y mae hi'n cyfeirio atyn nhw fel 'adeiladau preswyl o risg uchel' fod yn rhai mwy na 30 metr o uchder. Rydym yn eglur nad yw hynny'n mynd yn ddigon pell. Yn gyffredin â Lloegr, cymerodd ein gwaith ni i nodi adeiladau ei fan cychwyn o'r rheoliadau cyfredol, sy'n dechrau o 18m. Mae Hackitt yn argymell 30m neu dalach, a cheir safbwyntiau eraill a fyddai gosod y marc ar 11m, sef pedwar llawr fel arfer. Er hynny, nid yw uchder yn unig o reidrwydd yn mynegi digon o ran y peryglon ac yn arbennig y perygl i bobl sy'n agored i niwed. Byddwn yn edrych yn drylwyr, felly, ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynghylch risg a'r goblygiadau ymarferol wrth inni ddod i gasgliad cytbwys, effeithiol ac ymarferol.

O ran cwmpas adeiladau ac fel arall, mae'r cyngor yn nodi sawl maes cymhleth y byddan nhw'n elwa ar ddadansoddiad mwy manwl. Byddaf yn ystyried y ffordd orau o asesu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ac yn amlinellu cynigion cadarn. Bydd y penderfyniadau y down iddynt yn helpu i ysgogi ateb cytbwys, system gyfan. Mae'n amlwg i mi, er hynny, wrth inni symud at y cam nesaf yn ein gwaith, ein bod yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Roedd yn amlwg iawn bod ein penderfyniad i fynnu bod yr holl dai newydd a'r rhai sy'n cael eu haddasu i fod â systemau i lethu tân yn bresennol yn un cywir, a gwn, Dirprwy Lywydd, y byddwch chi'n arbennig o falch o'm clywed i'n cydnabod hynny.

Un argymhelliad o'r cyngor y byddaf i'n ei dderbyn yn y fan a'r lle yw ein bod ni'n hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu. Mae tystiolaeth gadarn yn cefnogi effeithiolrwydd systemau chwistrellu dŵr o ran rhwystro marwolaethau. Rwyf wedi gofyn i swyddogion lunio dewisiadau ar gyfer sut y gallwn hyrwyddo ôl-osod ymhellach mewn blociau o adeiladau uchel ar draws sectorau.

Gyda'n partneriaid, rydym wedi nodi cyn hyn y blociau o adeiladau preswyl uchel yng Nghymru, hynny yw, y rhai sy'n 18m neu fwy. Rydym nawr yn ychwanegu at y gronfa ddata a rannwyd gydag awdurdodau lleol â gwybodaeth gadarn am ehangder y systemau chwistrellu yn yr adeiladau hynny. Mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau tân ac achub a'r awdurdodau lleol ac eraill yn parhau i ddatblygu a rhannu gwybodaeth allweddol. Yn wir, mae honno'n nodwedd allweddol o'r hyn y mae'r Fonesig Judith Hackitt yn ei alw'n 'edefyn euraid'.

Er bod systemau chwistrellu'n gallu bod yn effeithiol, rydym hefyd wedi ystyried yn ofalus y dystiolaeth ynglŷn â chladin. Yn unol â hynny, ymgynghorwyd ar wahardd deunyddiau llosgadwy rhag cael eu defnyddio ar flociau uchel sy'n adeiladau preswyl. Gan weithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr arbenigol, rydym ar hyn o bryd yn adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac, yn fwy penodol, mae nifer o faterion technegol wedi codi. Rwy'n rhagweld cyflwyno gwelliannau i'r rheoliadau yn ystod yr haf eleni.

Rwy'n falch o ddweud bod y gwaith o dynnu cladin o ddeunydd cyfansawdd alwminiwm a rhoi rhywbeth arall yn ei le yn parhau ar gyflymder mawr. Mae pob adeilad a nodwyd bellach naill ai wedi cael ei adfer neu mae gwaith yn cael ei wneud arno. Ni ofynnwyd i lesddeiliaid na thrigolion ariannu'r gwaith hwn. Rwy'n croesawu gwaith a phenderfyniadau perchnogion yr adeiladau a'r datblygwyr am ddangos cyfrifoldeb wrth ddwyn y gwaith hwn i ben.

Ar draws y system, mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod yna weithlu cymwys sydd â'r gallu priodol. Rydym yn aros am gasgliadau grŵp ymateb y diwydiant a'i waith ar gymhwysedd, ond rydym eisoes yn ymgysylltu â darparwyr hyfforddiant yng Nghymru i ymdrin ag anghenion ein system yn y dyfodol. Mae darparwyr yn datblygu cyrsiau newydd i wella dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol o faterion diogelwch tân hanfodol. Bydd fy swyddogion i'n parhau â'r drafodaeth hon. Rydym yn awyddus i Lywodraeth Cymru allu cefnogi'r gwaith angenrheidiol a sicrhau hefyd ei fod yn cael ei integreiddio yn llawn i fesurau ehangach i wella cymhwysedd proffesiynol.

Rwyf wedi cyfeirio at y pwysigrwydd a roddwn ar systemau llethu tân. Rydym wedi ariannu ein gwasanaethau tân ac achub ers tro byd i gynnal gwiriadau diogelwch yng nghartrefi pobl a rhoi offer am ddim megis larymau mwg a gwelyau sy'n gallu gwrthsefyll tân. Mae cryn dystiolaeth bod y gwiriadau hyn yn achub bywydau ac yn amddiffyn eiddo. Bob blwyddyn, bydd y gwasanaeth yn cwblhau rhwng 50,000 a 60,000 o wiriadau o'r fath, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd yn y perygl mwyaf.

Fel y dywedais ar y cychwyn, rydym ymhell o fod yn hunanfodlon. Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein hanes o gadernid. Pan fydd hi'n bosib ac yn briodol, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ar unwaith neu yn y byrdymor. Ond, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, bydd angen mwy o fanylu ac ystyriaeth ar rai materion. Mewn rhai achosion, bydd hynny'n gofyn ac yn arwain at newid deddfwriaethol. Yn anochel ac yn briodol, bydd hyn yn cymryd amser, ac felly y dylai fod. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cael hyn yn iawn. Byddwch yn gallu gweld o'm hymateb manwl ym mis Mai ac o'n cynllun prosiect, gydag amserlenni eglur, ein bod yn symud gyda myfyrdod a chyflymder priodol i gyflwyno newid gwirioneddol ystyrlon.

Byddaf yn edrych ymlaen at roi'r wybodaeth honno ichi, ond wrth gloi heddiw, hoffwn fynegi fy niolch unwaith eto i'r grŵp arbenigol am fynd i'r afael â'r heriau anodd, pellgyrhaeddol hyn. Bydd eu gwaith nhw yn ein helpu ni i lunio a mireinio ein hymateb i'r materion ac yn sicrhau, yn y pen draw, ein bod yn cadw ein trigolion yn ddiogel yn eu cartrefi. Diolch.

15:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw? Ac a gaf i hefyd, Dirprwy Lywydd, gydnabod y cyfraniad rhagorol yr ydych chi wedi ei wneud yn y maes hwn, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol?

Credaf fod cyhoeddi'r cyngor hwn gan y grŵp arbenigol yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig ar gyfer sicrhau bod pobl sy'n byw mewn blociau adeiladau yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y cynnydd y bydd y Llywodraeth yn ei wneud nawr gyda gweithredu ei argymhellion, a bydd ymateb llawn i ni ym mis Mai. Gwaith pwysig iawn yw hwn ac mae'n gofyn am ddadansoddiad llawn. Rwy'n falch o glywed bod y Gweinidog eisoes wedi derbyn argymhellion y panel ar ôl-osod systemau chwistrellu mewn adeiladau blociau uchel, gan fod hynny'n rhywbeth a argymhellwyd gan adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ddiogelwch tân mewn adeiladau blociau uchel. Roeddwn i'n rhan o'r pwyllgor pan wnaeth y gwaith hwnnw, ac rwy'n gwybod ei fod wedi dylanwadu ar waith y panel.

Un peth sydd wedi bod yn amlwg iawn i mi ers trychineb Grenfell yw nad yw'r system bresennol yn addas i'r diben, fel y dywedodd y Gweinidog eto heddiw'n wir, ac fel y canfu adroddiad Hackitt hefyd. Mae'r ffaith y gallai trychineb ar y raddfa hon ddigwydd yn yr unfed ganrif ar hugain yn sioc i bawb ohonom, ac fe wnaeth ganolbwyntio sylw ar adeiladau preswyl uchel eraill ledled y wlad, gan gynnwys y sector preifat—nid yn unig ddiogelwch o ran dylunio, adeiladu a rheoli blociau adeiladau preswyl, ond hefyd sut yr ydym ni'n clywed ac yn parchu barn y bobl sy'n ymgartrefu mewn adeilad bloc uchel. Rydym ni yn y Blaid Geidwadol yn cytuno'n llwyr â chasgliadau adroddiad y pwyllgor yn ogystal ag adroddiad y panel arbenigol, y dylai ei argymhellion fod yn sail erbyn hyn i system fwy cadarn.

Un bwlch sy'n peri pryder ar hyn o bryd yw absenoldeb deiliad dyletswydd pendant yn ystod y broses o ddylunio a saernïo'r adeilad, dryswch yn ystod trosglwyddo'r cyfrifoldeb pan fydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau, a gorgyffyrddiad dryslyd o ran y cyfrifoldeb am y rheoliadau amrywiol. Yn ogystal â hynny, roeddwn i'n bryderus o ddarganfod nad oes yna unrhyw set glir o safonau neu ddisgwyliadau ar gyfer llawer o'r proffesiynau sy'n ymwneud â dylunio a saernïo'r adeiladau hyn, neu gynnal a chadw diogelwch tân mewn adeiladau sydd â phobl yn byw ynddyn nhw, a'r materion o ran cynhwysedd, a all amharu ar allu rheolyddion i wneud eu gwaith nhw. Mae'r rhain yn faterion difrifol iawn wir. Mae cyngor ddoe ei hun yn mynegi,

'Mae angen sicrhau bod y diwygio yn uchelgeisiol ac yn hyrwyddo newid diwylliant sy'n ddigonol o fewn y sector.'

Rwyf i o'r farn bod y ffaith fod llawer o'r argymhellion yn gorgyffwrdd ag adroddiad y pwyllgor yn tystio i'r angen am newid diwylliant o ran diogelwch. Drwy gydol yr adroddiad hwn, gwelir yn amlwg yr angen am ddeddfwriaeth newydd sylweddol i gyflawni nifer o'r argymhellion ar gyfer newid, ac mae'n bwysig bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn gydlynol yn y dyfodol. Ond rwy'n gobeithio y gellir gwneud hyn mor gyflym â phosibl, gan roi diwydrwydd dyladwy wrth gwrs, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cael cydweithrediad llawn holl bleidiau'r Cynulliad. Pe gallai'r ddeddfwriaeth honno ddigwydd yn y Cynulliad hwn, credaf y byddai hynny'n dyst ffyddlon i'r flaenoriaeth yr ydym i gyd yn ei rhoi i'r gwaith hwn. Ond rwy'n sylweddoli bod honno'n alwad uchelgeisiol.

Fel y nodwyd gan y panel, bydd hyn, wrth gwrs, yn cymryd amser i'w wneud yn iawn, ac mae'r Gweinidog yn gwbl briodol yn edrych ar y materion hyn â difrifoldeb dyladwy fel y gallwn ni gael yr ymateb llawnaf posibl. Ond mae'r angen yn eglur am waith yn y cyfamser, ac rwy'n gobeithio y bydd yr angerdd a ddangosodd y Gweinidog y prynhawn yma yn para ym mis Mai, fel ein bod ni'n gwneud cymaint ag y gallwn ni a hynny mor gyflym ag y gallwn ni. Er enghraifft, yn y lle cyntaf, diwygio neu uno cronfeydd data, ac ymgysylltu'n well â thrigolion—credaf fod hynny'n bwysig iawn. Roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at hynny funud yn ôl. Fe wnes i gyfarfod â chynrychiolwyr o gymdeithasau tai fore heddiw, ac roedden nhw'n nodi y bydden nhw'n cynnal yr ymarfer ymgysylltu hwn fel mater o flaenoriaeth. Rwy'n gobeithio y bydd yr ysbryd hwnnw i'w weld yn ymateb Llywodraeth Cymru hefyd.

I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r panel am ei waith trylwyr. Ein cyfrifoldeb ni nawr yw sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu cyflwyno. Rwy'n gwybod y gall Llywodraeth Cymru ddibynnu ar gefnogaeth y grŵp Ceidwadol yma i wneud hyn yn iawn, ond mae angen ei wneud yn iawn a hynny ar fyrder. Diolch.

16:00

Rwy'n croesawu cyfraniad David Melding yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â phob dim a ddywedodd ef. Ein bwriad yw cyflwyno newidiadau i'r rheoliadau adeiladu—rhan A, rwy'n credu, yn y rheoliadau adeiladu—cyn gynted â phosibl. Ond, fel yr oedd ef yn cydnabod, mae dyletswydd arnom ni i wneud yn siŵr, wrth wneud y newidiadau hynny, eu bod nhw'n newidiadau cadarn a fydd yn sicrhau'r newid sydd yn ofynnol yn y system.

Dirprwy Lywydd, i'r Aelodau hynny sydd wedi cael y cyfle i weld y cyngor  amlinellol, ceir, ar dudalen 15 y cyngor hwnnw, gyfrifydd hwylus iawn o'r system newydd arfaethedig ar gyfer Cymru a'r mannau amrywiol ar hyd y trywydd hwnnw y byddwn yn awyddus i'w hystyried. Ceir ambell ran a fydd yn gofyn am rywfaint o newid deddfwriaethol, ond canllawiau yw rhannau eraill a safonau eraill yn y diwydiant, a rhywfaint o hynny, fel y dywedodd ef yn gywir, yw'r safonau proffesiynol yr oeddwn innau hefyd wedi fy synnu'n fawr nad oedden nhw yn y system eisoes.

Cefais y fraint o gael cyflwyniad gan y grŵp arbenigol ar ddiogelwch adeiladau a gyflwynodd ei ganfyddiadau i mi, a chawsom drafodaeth fach am hynny. Cefais fy mhlesio'n fawr gan ehangder ac ystod a manylion eu hystyriaeth, ond hefyd gyda'r atebion wirioneddol ymarferol yr oedden nhw'n eu cyflwyno. Nid oedd y rhain yn atebion di-symud, wedi eu goreuro; atebion ymarferol iawn oeddent mewn gwirionedd a oedd yn deillio o ddiwydiant, gwybodaeth a'r angen am adeiladu neu ôl-osod adeiladau ar fyrder ac wedyn i gael system gadarn ar waith a fyddai'n sefyll prawf amser. Felly, rwy'n croesawu ei sylwadau ef, ac rwy'n edrych ymlaen at ddod yn ôl gyda'r cynigion manwl ynghylch yr amserlenni ac ati ym mis Mai pan fyddwn ni'n rhoi'r ymateb llawn.

16:05

Rwy'n deall y byddwch chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni yn ddiweddarach ym mis Mai ar ymateb y Llywodraeth i'r grŵp arbenigol, ond mae gennyf i nifer o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn ichi nawr. Rydych yn dweud eich bod yn derbyn yr argymhelliad y dylid hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu, ac rydych yn gofyn i swyddogion lunio dewisiadau ar gyfer hyrwyddo ôl-osod mewn blociau adeiladau ymhellach, ond tybed a fyddech chi'n derbyn nad blociau adeiladau yn unig y dylem ni fod yn hyrwyddo ôl-osod ynddyn nhw. Os ydych chi'n derbyn hynny, a wnewch chi ofyn i'ch swyddogion gynnwys sut y gallwn annog ôl-osod yn y sector rhentu preifat fel rhan o'r ymdrech gyffredinol i godi safonau yno? A fydd yr ymateb manwl yn cynnwys targedau 'CAMPUS' yn hytrach na dyheadau? Yna'n fwy cyffredinol, mae'r DU yn un o'r ychydig wledydd lle nad oes system drwyddedu orfodol ar gyfer adeiladwyr, sy'n rhywbeth sydd wedi cael ei godi gyda ni. Felly a wnaiff y Llywodraeth roi ystyriaeth yn ei hymateb ynghylch a oes angen i Gymru symud ymlaen a dechrau trwyddedu adeiladwyr tai a chwmnïau adeiladu? Gwyddom fod perygl i ddiogelwch pan gaiff gwaith amhriodol ei gyflawni. Diolch.

Diolch i chi am y cwestiynau hynod bwysig hynny. Fel yr wyf yn gobeithio fy mod wedi ei egluro yn y datganiad, nid ydym wedi pennu beth fydd lefel y risg y byddwn ni'n rhoi sylw iddi. Mae'r grŵp wedi gwneud nifer o argymhellion yr ydym ni'n awyddus i'w harchwilio. Rwy'n credu fy mod i wedi egluro nad oeddwn i o'r farn bod argymhelliad y Fonesig Hackitt yn addas ar gyfer Cymru am ei fod yn rhy uchel. Ond, yn hollol; gallai ysbyty dau lawr fod â nifer o faterion ynghlwm wrth yr adeilad na fyddai gan dŷ pedwar llawr ag un set o risiau efallai, ac ati. Felly, rydym yn rhoi ystyriaeth i'r hyn yw ystod y preswylwyr sy'n agored i niwed a'r hyn y gallem ni ei wneud i hyrwyddo hynny. Mae cartrefi preswyl ac yn y blaen yn amlwg yn perthyn i wahanol gategorïau. Bydd hynny'n rhan o'm hymateb manwl i, gan fynd yn ôl i'r man y credwn fod angen i ni fynd â'r system. Dyna'r hyn yr ydym ni'n edrych arno.

Bydd y cyngor yn edrych wedyn ar y sector rhentu preifat ac ar yr ôl-osod, ac mewn gwirionedd mae gennyf grŵp arall yn edrych ar ddatgarboneiddio'r stoc dai yn gyffredinol. Felly, byddaf yn ystyried sut y gallwn ni ddod â'r ddau beth ynghyd. Oherwydd ceir mater yma o ddiogelwch tân, Dirprwy Lywydd, y byddwch chi'n gyfarwydd iawn ag ef, ond mae hefyd yn cynnwys y math o inswleiddio sydd gennych chi a symudiad aer i mewn i'r adeilad ac ati. Felly, mewn gwirionedd, gallwch weld y synergedd rhwng y ddau adolygiad a byddaf i'n wirioneddol falch o allu tynnu'r ddau beth hynny ynghyd.

O ran y trwyddedig—. Ar y targedau CAMPUS, yn bendant. Byddwn yn golygu rhoi targedau yng nghynigion y cyngor a rhoi amserlenni ar gyfer pryd y dylem allu cydymffurfio â nhw. Fel y dywedais mewn ymateb i David Melding, byddwn yn edrych i weld a oes modd inni gael deddfwriaeth neu newid yn y rheoliadau yn y tymor Cynulliad hwn, ac os na allwn, pa mor gyflym y gellir ei rhoi ar waith fel drafft ar gyfer y Cynulliad nesaf fan bellaf. Nid wyf i o'r farn y bydd a wnelo hyn ddim â gwleidyddiaeth bleidiol mewn unrhyw ffordd. Felly, cyn gynted ag y gallwn ni ei baratoi, bydd yn mynd drwodd.

O ran cael adeiladwyr trwyddedig, ceir adran gyfan yn y cyngor ynglŷn â safonau ac arolygwyr cymeradwy a'r ffordd y mae'r system yn cydsefyll. Felly, rwy'n hoffi'r pwyntiau a wnaeth Leanne Wood. Maen nhw'n bwyntiau dilys iawn, ond nid wyf yn dymuno ymateb ar hyn o bryd oherwydd mae hynny'n rhan o'n hymateb ni i'r ffordd y caiff arolygwyr adeiladu eu trwyddedu a hefyd sut y bydd yr adeiladwyr tai eu hunain yn cwblhau eu gwaith. Felly, mae arnaf ofn y bydd hynny'n rhan o'r ymateb ym mis Mai.

Hoffwn innau hefyd groesawu cyhoeddiad y cyngor fel cam pwysig ymlaen o ran diogelwch adeiladau yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yr wyf i'n ei gadeirio, wedi bod yn edrych ar fater diogelwch tân mewn adeiladau blociau uchel ers trychineb fawr Tŵr Grenfell yn 2017.

Fel y soniodd David Melding, rydym wedi edrych ar lawer o'r materion sydd yn y cyngor, yn wir, holl ddiben—neu un o ddibenion mawr—ein hadroddiad ni oedd hysbysu'r cyngor hwnnw, yn ogystal â hysbysu polisi a gweithredu Llywodraeth Cymru yn gyffredinol o ran y materion hyn. Felly, rwy'n falch iawn, o ddarllen y cyngor am y tro cyntaf, yr ymddengys ei fod ar yr un sail â chasgliadau ac argymhellion ein hadroddiad ni.

Yn benodol, roedd yr argymhelliad i ddisodli'r Gorchymyn diogelwch tân yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor wedi galw amdano ers 2017, ac fe wnaethom ni alw am ddeddfwriaeth newydd yn y tymor cyfredol. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog mewn ymateb i David Melding a Leanne o ran y materion hynny. Roedd y pwyllgor yn sicr yn amlwg eu barn, pe gellid gwneud hyn yn nhymor presennol y Cynulliad, y byddai hynny'n fuddiol iawn wir.

Ac fe fyddwn, yn amlwg, yn cael ymateb llawn i'r cyngor ym mis Mai, Gweinidog, fel yr amlinellwyd gennych. Serch hynny, tybed a oes unrhyw beth y gallech chi ei ddweud erbyn hyn mewn cysylltiad ag un neu ddau o faterion eraill. Un yw'r asesiad blynyddol o risgiau tân ar gyfer yr adeiladau hynny dan sylw y mae'r cyngor yn argymell y dylid cael deddfwriaeth arnynt. Unwaith eto, mae hyn yn adlewyrchu ein hargymhelliad yn ein hadroddiad ni, a tybed a allech chi ddweud unrhyw beth yn fwy ynghylch pa bryd y caiff y ddeddfwriaeth honno ei chyflwyno, y tu hwnt i'r hyn yr ydych chi wedi ei fynegi eisoes.

O ran y capasiti yn y sector rheoli adeiladau, mae'r Aelodau wedi crybwyll hyn ac mae'n amlwg yn bwysig iawn yn y cyngor ac yn eich sylwadau chi eich hun. Clywsom fod gwasanaethau rheoleiddio o fewn awdurdodau lleol yn aml yn dioddef yn enbyd yn sgil toriadau'r awdurdodau lleol, sy'n destun pryder gwirioneddol. A oes unrhyw beth arall y gallech chi ei ddweud, Gweinidog, o ran sut y gall Llywodraeth Cymru wneud ei gorau i ymdrin ag argymhellion y cyngor ynglŷn â'r materion capasiti hynny a chynyddu cymhwysedd yn y sector rheoli adeiladau hwnnw?

Ac yn olaf, o ran y defnydd o systemau chwistrellu mewn adeiladau preswyl a blociau uchel a'r argymhelliad yr ydych chi wedi ei dderbyn o'r cyngor, ac, yn wir, o adroddiad fy mhwyllgor i fy hun, tybed—. O ran yr ymateb i'n hadroddiad ni, Gweinidog, fe ddywedoch fod y Llywodraeth yn ystyried sut arall y gellid annog ôl-osod systemau chwistrellu, a tybed a ydych chi ar hyn o bryd yn gallu dweud unrhyw beth mwy am sut y gallech chi ddwyn yr argymhellion hynny ymlaen yn fwyaf effeithiol.

16:10

Wel, gan ddechrau gyda'r olaf, rwy'n croesawu sylwadau John Griffiths yn fawr ac yn cytuno ag ef yn llwyr fod y cyngor o'r un farn i raddau helaeth iawn ag adroddiad y pwyllgor, a braf iawn yw hynny—ein bod ni'n gallu symud ymlaen gyda'n gilydd.

Gan weithio'n ôl, mae rhai o'r pethau y mae ef yn eu codi, yn wir, yn bethau y bydd angen inni ymateb iddyn nhw yn eu cyfanrwydd yn yr adroddiad yn gyffredinol. Rwy'n credu y bydd y mater ynglŷn ag asesiadau risg tân ymledol, y credaf fod David Melding wedi ei godi ar sawl achlysur ac yn sicr yr edrychodd y pwyllgor arno, yn rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn ei gyfanrwydd yn y broses y mae'r cyngor yn ei nodi. Mae'n gynhwysfawr iawn, y broses a nodir, gyda rhai arosfannau ynddo ar gyfer archwiliadau, ac yn y blaen, felly byddwn yn edrych i weld beth ellir ei wneud ynglŷn â hynny.

A cheir cyfnodau ynddo. Felly, mae adeiladau newydd ynddo—sut mae rhoi rheoliadau adeiladu ar waith ar gyfer adeiladau newydd—ond hefyd mae'r argymhellion cyfnod meddiannaeth ynddo, ac rwy'n awyddus iawn i edrych yn ofalus ar y cyfnod meddiannaeth: yr hyn y dylid ei gyflawni drwy ôl-osod, ond yna'r hyn ddylai'r drefn archwilio barhaus fod, fel y dywedodd ef. Oherwydd mewn gwirionedd, wrth i'r dechnoleg newid a'r wybodaeth newid, mae'n bosib iawn y daw rhywbeth gwych i'r fei ymhen tair blynedd nad oes neb yn yr ystafell hon wedi meddwl amdano eto, ac rydym eisiau gallu ymgorffori pethau newydd o ran diogelwch tân, pethau digidol, efallai, neu beth bynnag, i'r asesiad hwnnw heb orfod dibynnu ar ddeddfwriaeth i'w cyflwyno nhw.

Felly, mae'n ymwneud yn rhannol â'n bod ni am roi ystyriaeth i'r ymateb a'r ffordd y byddwn ni'n cyflwyno'r rheoliadau i geisio paratoi cymaint â phosib ar gyfer y dyfodol a chaniatáu i asesiadau risg tân edrych ar arfer gorau fel y mae nawr wrth wneud yr asesiad. Felly, bob tro y gwneir yr asesiad, rydych chi'n ystyried arfer gorau o'r newydd unwaith eto, ac os bydd pethau wedi newid yn y cyfamser, byddech chi'n disgwyl i bobl uwchraddio i'r lefel honno, oherwydd credaf mai dyna'r broblem mewn gwirionedd. Byddai'n rhaid inni edrych i weld yr hyn y gellir ei roi ar waith i ariannu hynny. Os ydym eisiau gwneud hynny drwy'r sector rhentu preifat, er enghraifft, bydd angen inni allu deall effeithiau'r buddsoddiad cyfalaf, neu beth bynnag, a allai fod yn ofynnol. Bydd angen inni ystyried yn ofalus sut mae'r system yn cydbwyso'r cymesuredd â sicrhau bod pobl yn cael y diogelwch tân gorau.

Felly, dyna pam yr wyf yn amharod i ateb ar hyn o bryd, oherwydd rydym eisiau edrych ar lawer o'r materion hyn yn eu cyfanrwydd cyn y byddwn yn cyflwyno'r cynigion am y rheoliadau a hefyd am y math o newid diwylliant, os hoffech chi, sy'n mynd gyda nhw.

16:15

Un o'r meysydd yr oeddem ni'n bendant yn flaengar ynddo—ac i ddeddfwriaeth ein Dirprwy Lywydd y mae'r diolch am hynny—oedd gosod systemau chwistrellu mewn adeiladau. Ei gweledigaeth a'i phrofiad hi wnaeth helpu i fwrw ymlaen â hynny. Rwy'n siŵr y gwnaiff pawb ymuno â mi i'w llongyfarch hi ar y ddau beth hynny.

I symud ymlaen oddi wrth hynny at ddiogelu yn y dyfodol, un o'r materion—nid wyf eisiau ailadrodd yr hyn y mae pobl eraill wedi ei ddweud, felly rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ddau faes. Un o'r meysydd allweddol yw hyfforddi’r gweithlu yn y dyfodol. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, a hynny'n gwbl briodol, mae pethau'n symud yn gyflym, ac mae'r defnyddiau a'r systemau yn symud yr un mor gyflym. Felly, un warant y bydd ei hangen arnoch chi yw y bydd y gweithlu’n cael ei hyfforddi mewn modd sy’n rhoi hyder iddyn nhw i wneud y swyddi hynny. Wrth gwrs, fe ddaw'r hyder hwnnw gan grŵp ymateb y diwydiant, ac rwy’n gwybod eich bod chi'n aros am ymatebion gan y grŵp hwnnw. Felly, rwy’n gofyn, os oes gennych chi amserlen, pryd y gallwn ni ddisgwyl i'r ymatebion hynny gael eu cyflwyno.

Wrth gwrs, y peth allweddol arall yw'r defnyddiau a ddefnyddir. Unwaith eto, mae defnyddiau yn esblygu ac yn cael eu defnyddio, a dyna'r hyn, yn anffodus, a ddigwyddodd yn yr achos hwn ac a achosodd yr holl broblemau hynny. Felly, unwaith eto, mae profi'r defnyddiau hynny’n hollbwysig, ond hefyd adeiladwaith yr adeiladau y maen nhw'n cael eu rhoi ynddyn nhw, fel ein bod ni'n berffaith fodlon eu bod nhw wedi eu hadeiladu mewn modd sy’n cadw’r bobl oddi mewn iddyn nhw mor ddiogel â phosibl pe byddai tân.

I symud ymlaen, ynglŷn â hynny, mae gennym ni Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae honno'n gwneud darpariaethau i gynnal profion diogelwch trydanol bob pum mlynedd o leiaf. O ystyried bod hynny wedi ei ohirio, rwy'n gobeithio y bydd ystyriaeth yn hynny i brofion trydanol ar offer, oherwydd yn aml iawn—yn wir, mewn llawer iawn o achosion—diffygion trydanol sy'n achosi'r tanau yn y lle cyntaf.

Ie, rwy'n meddwl bod Joyce Watson yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn yna, ac wedi gorgyffwrdd â phwynt na wnes i ymateb iddo yng nghyflwyniad John Griffiths, a dweud y gwir, rwyf fi newydd sylweddoli, sef y mater ynghylch y cymhwysedd a'r arolygwyr adeiladu. Felly, ceir adran gyfan yn y cyngor ynglŷn ag arolygwyr cymeradwy a'u cymhwysedd nhw, a sut y gallai awdurdod cymwys ar y cyd weithio rhwng yr awdurdod lleol, yr arolygwyr a'r grŵp diwydiant adeiladu.

Un o'r rhesymau pam rydym am ymateb ym mis Mai yw oherwydd yr hoffem gael y fantais o ymateb ac argymhellion y grŵp cyn inni symud ymlaen. Rydym ni'n ceisio sicrhau y bydd pobl yn cyflogi pobl â'r cymwyseddau cywir, a bod yr arolygwyr adeiladu yn gallu cynnal arolygiad priodol nid yn unig o’r gwaith ond o'r gweithlu, os hoffech chi, fel na all neb, wyddoch chi, ofyn i rywun rhywun, talu isafswm cyflog iddyn nhw a gofyn iddyn nhw wneud y gwaith, oni bai eu bod nhw'n cael eu goruchwylio gan unigolyn cymwys â chymwysterau a phopeth felly. Rydym ni'n aros am ymateb y grŵp i hynny.

Ceir awgrym diddorol yn y cyngor ynglŷn â'r awdurdod cymwys ar y cyd, ac rydym yn awyddus i edrych arno'n ofalus iawn. Mae’n cyflwyno haen newydd o fiwrocratiaeth, mae'n debyg, a byddwn yn dymuno gweld a yw hynny'n gweithio ac a oes ffyrdd gwell o wneud hynny yng Nghymru. Ond rwy'n derbyn yr egwyddor yn llwyr: ei bod yn rhaid torri'r cyswllt—rwy'n credu bod David Melding a Leanne wedi sôn am hyn hefyd a dweud y gwir—rhwng swyddogaethau'r adeiladwr, yr arolygydd, y cymeradwywr a'r arolygiad wedyn. Felly, yn y cyngor, ceir pwyntiau i ymaros lle gellir gwneud asesiad annibynnol. Felly, mae angen i ni edrych ar y system.

Rwy'n awyddus iawn hefyd i edrych ar y system sy’n talu awdurdodau lleol am waith arolygu adeiladu ac a yw hynny'n achosi gwrthdaro buddiannau, ac os felly, yr hyn y gallwn ni ei wneud am y peth, a dyna’r cynnig ynghylch yr awdurdod cymwys ar y cyd. Felly, mae gennym lawer i'w ystyried cyn i ni ddod â’r cynigion manwl gerbron. A dyna pam yr hoffem gymryd ein hamser i wneud yn siŵr bod y system yr ydym ni’n ei rhoi ar waith yn iawn, fel ei bod hi’n addas at y diben a'n bod ni'n rhedeg rhai achosion prawf drwyddi i wneud yn siŵr nad ydym yn cael canlyniadau anfwriadol, ac ati. Unwaith eto, mae'n ymwneud â chymesuredd, onid yw, sef disgwyl i bobl fuddsoddi'r swm cywir yn niogelwch tân eu hadeilad, heb ei gwneud yn amhosib bron i rywun allu cydymffurfio? Felly, mae'n ymwneud â chael y cymesuredd hwnnw'n gywir.

16:20
6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.'

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, diweddariad ynghylch yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd.

Cafodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithlu ein GIG ei nodi'n glir yn ein rhaglen lywodraethu, lle gwnaethom ni addo recriwtio a hyfforddi mwy o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Yr haf diwethaf, cyhoeddais ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal, 'Cymru Iachach'. Mae'n pwysleisio pa mor sylfaenol yw ein gweithlu ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol llwyddiannus yng Nghymru. Nid yw cynllunio ar gyfer gweithlu medrus a chynaliadwy erioed wedi bod yn bwysicach nag ydyw yn ddiweddar.

Mae’r ystadegau swyddogol diweddaraf am y gweithlu, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dangos bod mwy o staff nawr yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Mae hynny'n adlewyrchu ein hymrwymiad a’n buddsoddiad parhaus yng ngweithlu'r GIG, hyd yn oed yn erbyn cefndir o gyni parhaus, sydd bellach yn ei ddegfed flwyddyn. Ond nid yw llwyddiant bob amser yn golygu ychwanegu mwy. Yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus, mae'n hanfodol bod GIG Cymru yn defnyddio sgiliau pob proffesiwn yn effeithiol yn y swyddogaeth y maen nhw'n gymwys i’w chyflawni, gan gefnogi staff i weithio ar frig eu set sgiliau, a gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol cynaliadwy.

Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi cynyddu. Yn y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn buddsoddi £114 miliwn, cynnydd o £7 miliwn ar gael o 2018-19. Bydd hynny’n cefnogi amrywiaeth o raglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Dyma’r lefel uchaf erioed o gyllid, a bydd yn cefnogi’r nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yma yng Nghymru.

Ar ôl cyhoeddi 'Cymru Iachach', mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu un o'r camau gweithredu allweddol, sef strategaeth weithlu genedlaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i gael ei chwblhau’n ddiweddarach eleni. Bydd hon yn darparu fframwaith mwy strategol ar gyfer cynllunio a datblygu'r gweithlu, gan gynnwys, wrth gwrs, recriwtio a chadw staff.

Ochr yn ochr â’n buddsoddiad parhaus a'n blaenoriaethau mwy hirdymor drwy strategaeth y gweithlu, mae ein hymgyrch farchnata flaenllaw genedlaethol a rhyngwladol, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' wedi cefnogi byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru â’u gweithgareddau i ddenu staff ychwanegol i hyfforddi, gweithio a byw yma yng Nghymru. Cefnogir yr ymgyrch gan amrywiaeth o randdeiliaid. Mae wedi rhoi Cymru ar y map recriwtio rhyngwladol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan arddangos manteision hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Mae'r ymgyrch wedi targedu nifer o wledydd drwy farchnata digidol, gan gynnwys delweddau a straeon personol proffesiynau gofal iechyd sy'n gweithio o fewn ein GIG, a llawer ohonynt wedi symud i Gymru ac wedi bwrw gwreiddiau yma.

Fel rhan o'n camau i gefnogi practis cyffredinol a gofal sylfaenol, rydym ni wedi cymell hyfforddiant meddygon teulu drwy gyfrwng dau gynllun, sydd eisoes wedi llwyddo i ddenu meddygon i ardaloedd o Gymru lle bu swyddi gwag am nifer o flynyddoedd cyn hynny. Ers lansio cam meddygol 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' mae nifer y meddygon sy’n dewis Cymru i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol meddyg teulu wedi cynyddu'n sylweddol. Yn 2017, roedd ein dyraniad yn orlawn gyda’r 144 o leoedd wedi’u llenwi. Y llynedd, roedd 134 o 136 o leoedd wedi'u llenwi. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru eisoes wedi dechrau cyflwyno mesurau i alluogi cynnydd yn nifer y lleoliadau hyfforddi meddygon teulu sy’n cael eu hysbysebu yn 2019, a'r cynnydd mwyaf yn nifer y lleoedd sy’n cael eu hysbysebu mewn ardaloedd yng Nghymru a oedd, tan yn ddiweddar, yn wynebu’r problemau mwyaf difrifol o ran capasiti hyfforddi meddygon teulu.

O ganlyniad i gyfuno'r camau gweithredu hyn, rwy’n falch o allu cadarnhau i'r Siambr heddiw ein bod ni, ar ôl dim ond y cyntaf o'r tair rownd recriwtio ar gyfer hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu yn 2019, wedi llenwi 131 o leoedd—28 yn fwy o feddygon nag ar yr un adeg y llynedd. Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau diddordeb mwy cadarnhaol gan feddygon sy'n ymgeisio drwy ffenestr recriwtio ail-hysbysebu rownd 1 yn 2019; cafwyd dros 50 y cant yn fwy o geisiadau nag ar yr adeg hon yn 2018.

Rwyf wedi cytuno ar gyllid pellach ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru i’w galluogi i gynnig lleoedd ychwanegol y tu hwnt i’r dyraniadau lle rydym ni’n gallu manteisio ar y lefel uwch hon o ddiddordeb a sicrhau rhagor o feddygon teulu dan hyfforddiant yn 2019. Mae hyn yn unol â'm hymrwymiad hirdymor i sicrhau y gallem ni wneud lle i hyfforddeion ychwanegol pe bai’n bosibl eu recriwtio heb fod targedau penodol yn cyfyngu arnom ni. Yn yr hydref, cyn gynted ag y bydd rowndiau recriwtio hyfforddiant arbenigol eleni i gyd wedi’u cwblhau, rwy’n edrych ymlaen at roi newyddion cadarnhaol pellach ynghylch cyfanswm nifer y meddygon a benodwyd i hyfforddiant arbenigol meddygon teulu.

Rwyf hefyd wedi gofyn i Addysg a Gwella Iechyd Cymru gynnal adolygiad o gynlluniau hyfforddi meddygon teulu i ganfod a yw’r trefniadau presennol yn addas i'r diben o ran eu maint, eu lleoliad a’u hansawdd i sicrhau cynnydd yn nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru a diwallu anghenion ein model ar gyfer gofal sylfaenol yn y dyfodol. Bydd eu cyngor yn llywio fy mhenderfyniadau yn y dyfodol, gan gynnwys cynlluniau buddsoddi hirdymor yn y maes hwn.

Rwy’n falch o ddweud ein bod ni'n gweld gwell cyfraddau llenwi mewn arbenigeddau meddygol eraill hefyd, sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', gan gynnwys hyfforddiant meddygol craidd a seiciatreg graidd. Mae paratoadau terfynol ar y gweill i lansio cam fferylliaeth 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i sicrhau bod Cymru yn parhau'n gystadleuol yn erbyn cefndir o gynyddu cystadleuaeth ymhlith sefydliadau yn y DU sy’n recriwtio fferyllwyr cyn cofrestru. Bydd y cam gweithredu hwn yn sicrhau ein hymrwymiad parhaus i gefnogi tîm amlddisgyblaethol yn gweithio mewn practis cyffredinol a gofal sylfaenol yn ehangach. Bydd y gweithgarwch marchnata ar gyfer y cyfnod fferylliaeth, gan gefnogi Addysg a Gwella Iechyd Cymru a byrddau iechyd, yn cael ei lansio yng Nghymdeithas Myfyrwyr Fferyllol Prydain yn ddiweddarach y mis hwn.

Ym mis Mai, bydd trydedd flwyddyn yr ymgyrch nyrsio yn lansio yng nghyngres y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Lerpwl. Mae’r ymgyrch yn cael effaith wirioneddol drwy godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa a'r ffordd o fyw sydd ar gael yma yng Nghymru. Mae cynlluniau ar droed hefyd i ymestyn yr ymgyrch ymhellach i gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol. Bydd yr ymgyrch yn hyrwyddo swyddogaeth y proffesiynau perthynol i iechyd, yn arbennig fel rhan o dimau amlddisgyblaethol mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau.

16:25

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy’n falch iawn o weld bod rhywfaint o gynnydd wedi digwydd o ran recriwtio meddygon teulu dros y 18 mis diwethaf, ond rhaid imi ddweud ei fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Rydym wedi gwybod ers amser hir iawn bod prinder sylweddol o unigolion yn dod i mewn i'r gweithlu meddygon teulu ac, yn wir, roedd yr undebau a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn rhybuddio gymaint â degawd yn ôl nad oeddem ni’n hyfforddi niferoedd digonol o bobl i gymryd lle’r rhai a oedd yn gadael y proffesiwn oherwydd ymddeoliad. Er fy mod i’n canmol yr ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud o’r diwedd a fy mod i’n falch o weld rhywfaint o gynnydd, dydw i ddim yn credu y bydd yn ddigon i allu llenwi'r bwlch sydd wedi’i achosi gan bobl sy'n gadael y proffesiwn ar hyn o bryd.

Wrth gwrs, yr ymgyrch 'Hyfforddi. Byw. Gweithio.', sy’n ymgyrch glodwiw, sy’n gyfrifol am sicrhau rhywfaint o’r cynnydd hwn yn y diddordeb mewn dod i fyw a gweithio fel meddyg teulu yma yng Nghymru, ond eto rydych chi’n methu â chydnabod y difrod sylweddol sydd wedi'i wneud i'r ymgyrch honno gan eich cyhoeddiad ddoe, ar ddydd ffŵl Ebrill, o bob dydd, ynglŷn â’r pecyn indemniad meddyg teulu, yr ydych wedi penderfynu ei lansio’n unochrog heb gytundeb y gweithlu meddygon teulu. Oherwydd ein bod yn gwybod bod y gweithlu meddygon teulu’n anfodlon iawn, iawn wir â’r hyn yr ydych chi’n ei gynnig. Rydych chi’n cynnig, wrth gwrs, brigdorri o’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, yr £11 miliwn fwy neu lai sydd ei angen arnoch chi i allu ariannu'r cynllun indemniad hwn, ar adeg pan fo meddygon teulu dros y ffin yn Lloegr yn cael cynnydd yn y cyllid sydd ar gael iddyn nhw yn eu meddygfeydd.

Nawr, nid fi sy'n dweud y pethau hyn. Mae hyn i’w gael i bawb ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gynnwys Dr Dylan Parry, un o'm hetholwyr, meddyg teulu yn Hen Golwyn, a fu’n arwain yr ymgyrch ‘Hyfforddi. Gweithio. Byw.’, sydd erbyn hyn yn dweud ei fod yn teimlo ei fod yn gwerthu rhyw fath o stori ffug am y gobaith a’r daioni a all ddod o adleoli i Gymru. A dydw i ddim eisiau iddo fod yn y sefyllfa honno. Hoffwn i iddo allu gwerthu Cymru fel lle i ddod i fyw a gweithio, gyda'ch teulu, a bod yn feddyg teulu a chael gyrfa lwyddiannus yn y GIG. Ond mae’r cynllun yswiriant indemniad hwn, a gyhoeddwyd gennych chi ddoe, heb gefnogaeth y mwyafrif o feddygon teulu na’u cyrff cynrychioliadol yng Nghymru, rwy’n credu, yn warthus iawn, iawn wir. Rydych chi’n lleihau swm y cyllid sydd ar gael i feddygfeydd teulu yma yng Nghymru. Bydd yn cael effaith sylweddol, yn enwedig ar y meddygfeydd hynny sydd prin yn ymdopi ar hyn o bryd, a byddwn i'n eich annog fel Llywodraeth Cymru i ailystyried eich safbwynt ar hyn, i fynd yn ôl at drafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ac eraill, fel y gallwn ni ddatrys hyn mewn ffordd foddhaol, sy'n deg i feddygfeydd teulu ledled Cymru heb eu cosbi nhw am y ffaith eu bod nhw wedi ceisio gweithio gyda chi er mwyn sicrhau'r canlyniadau cywir.

A hoffwn eich atgoffa chi o’r sefyllfa bresennol o ran meddygfeydd teulu. Rhwng mis Hydref 2015 a mis Ionawr 2019, gwelsom 24 o feddygfeydd teulu’n cau ledled Cymru. Fe welsom 29 yn mynd i ddwylo eu byrddau iechyd lleol oherwydd bod meddygon teulu wedi rhoi allweddi eu meddygfeydd yn ôl, i bob diben. Yn ôl y BMA, mae eu map gwres yn dweud bod 85 o feddygfeydd mewn perygl o gau. Nawr, mae eich cyhoeddiadau am yswiriant indemniad ddoe’n mynd i roi mwy fyth ohonyn nhw yn y sefyllfaoedd hynny, ac o ganlyniad bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau meddyg teulu mwy a mwy o gleifion.

Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio at y cynnydd, Gweinidog, yn nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu. A wnewch chi egluro i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i'r pwyllgorau meddygol ledled Cymru pam mae unigolion cymwys sydd am ddod i fyw a gweithio a chael eu hyfforddi yng Nghymru, sef dyheadau eich ymgyrch, yn cael eu troi ymaith pan wnânt geisiadau? Pam mae 50 y cant o ymgeiswyr cymwys yn y Gogledd, er enghraifft, yn y ddwy flynedd diwethaf wedi eu gwrthod ar adeg pan fo meddygfeydd teulu’n cau drysau am nad ydyn nhw’n gallu recriwtio? Pam nad ydych chi wedi dod o hyd i ddigon o gapasiti yn y system i helpu hyfforddi niferoedd digonol ar gyfer anghenion ein gwasanaeth iechyd gwladol? A phryd y gallwn ni ddisgwyl ichi gynyddu'r lleoedd hyfforddiant hynny fel y gall hi fod yn fwy deniadol i ddod i hyfforddi, byw a gweithio yma yng Nghymru?

Fe allwn i fynd ymlaen â mwy a mwy o ystadegau, ond ni wnaf i hynny. Yr hyn a wnaf i yn syml yw hyn, Gweinidog, a dyma fy mhle olaf: gwrandwch ar lais meddygon teulu. Maen nhw'n anhapus iawn ar hyn o bryd. Maen nhw’n rhybuddio am ymadawiad â Chymru i rannau eraill o’r DU, yn enwedig i Loegr o ardaloedd ar ororau ein gwlad, oherwydd y cynllun indemniad hwn a gyhoeddwyd gennych ddoe. Meddyliwch am y peth. Rydych chi'n gwneud y peth anghywir, ac mae angen ichi gamu'n ôl nawr.

16:30

Diolch i'r Aelod am ei gyfres o gwestiynau a sylwadau, ac rwy’n gobeithio, gan gymryd bod gan Darren Millar wir ddiddordeb yn y sefyllfa yr ydym ynddi a lle y gallem fod, y bydd ganddo ddiddordeb mewn cywiriad a fydd yn ddefnyddiol, gobeithio, i rai o'r pwyntiau y mae wedi’u gwneud.

Fe ddechreuaf drwy ddweud—wyddoch chi, mae'n braf eich gweld chi’n cydnabod tair blynedd o gynnydd gwirioneddol o ran recriwtio meddygon teulu a hyfforddi meddygon teulu. Mae’r dewisiadau yr ydym ni wedi'u gwneud—ac mae hyn yn anhawster ledled y DU ac, a dweud y gwir, o gymharu â gwledydd eraill y DU, rydym ni’n gwneud yn well o ran cyfraddau llenwi ein meddygon teulu dros y tair blynedd diwethaf, ac mae hynny'n achos i ddathlu go iawn. Mae'r Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, a meddygon eu hunain yn gweithio gyda'i gilydd i ddenu pobl i mewn i'r wlad, ac mae honno’n stori o lwyddiant go iawn y dylem ni fod yn falch ohoni. Ac mae hynny'n cynnwys llenwi a gorlenwi lle bo hynny'n bosibl. Mae eich pwynt am y gogledd—y gwir yw fy mod i wedi gwneud yn siŵr, pan yr oedd pobl eisiau mynd i'r gogledd i wneud eu hyfforddiant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bod lleoedd ar gael iddyn nhw yn hytrach na thargedau syml ar waith ar gyfer pob un o’r cynlluniau hyfforddi hynny, ac roeddem ni’n gallu eu gorlenwi nhw pan oedd y capasiti hwnnw’n bosibl. Dyna’r pwynt ynghylch yr adolygiad, y gwnes i gyfeirio ato yn fy natganiad, y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei gynnal, oherwydd eu bod nhw'n mynd i edrych ar ein sefyllfa ni o ran lleoedd hyfforddi a’r capasiti ar draws y system gyfan. Ni allwch chi wneud penderfyniad syml i or-ymestyn y system os nad oes gan y practis hyfforddi sy'n bodoli y capasiti i hyfforddi pobl yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Felly, mae’n ymwneud â’n system gyfan, a ffordd sy'n synhwyrol ac a reolir, yn hytrach na dim ond cael ein harwain gan beth bynnag mae sylwebydd dig ac anwybodus yn ei fynnu.

Nawr, bydd gennym ni fwy o leoedd eleni hefyd, Dirprwy Lywydd, oherwydd dewis a wnes i, yr wyf wedi cyfeirio ato yn fy natganiad, ac rwy’n optimistaidd ynglŷn â'n gallu i lenwi’r lleoedd hynny. Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau a’r sylwadau, wrth gwrs, yn cyfeirio at y negodiadau parhaus ynghylch y contract gyda Phwyllgor Ymarfer Meddygol Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, a dylwn i nodi eich bod chi wedi cyfeirio at negodi gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Dydyn ni ddim yn negodi’r contract gyda'r coleg brenhinol oherwydd mater i’r undeb llafur yw hynny, a dyna pam yr ydym ni'n negodi gyda Phwyllgor Ymarfer Meddygol Cymdeithas Feddygol Prydain yma yng Nghymru.

Mae'r cynllun indemniad yn gam cadarnhaol ymlaen, ac mae'n gam cadarnhaol ymlaen ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru, lle rydym ni wedi cyflwyno cynllun newydd a gefnogir gan y wladwriaeth oherwydd un o'r materion mawr a oedd yn bygwth dyfodol meddygfeydd teulu oedd y cynnydd mewn yswiriant indemniad, ac yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, cododd y premiymau hynny’n sylweddol. Felly, yr hyn a wnaethom ni drwy gyflwyno’r cynllun o 1 Ebrill—mae'n golygu na fydd y premiymau hynny’n codi flwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn bygwth meddygfeydd teulu yma yng Nghymru. Felly, a dweud y gwir, cytunir yn gyffredinol mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud, ac mae'n darparu cynllun a ariennir mewn modd y mae cronfa risg Cymru’n cydnabod hefyd, sy’n rhoi meddygon teulu ar yr un lefel â'u cydweithwyr ym maes gofal eilaidd, ac mae hynny'n cael ei gydnabod yn gyffredinol.

Rydym ni’n dal i negodi gyda'r BMA am bob agwedd ar y contract, ond dylwn i nodi cwpl o ffeithiau am ein sefyllfa: (a) nid yw'r negodiadau wedi’u cwblhau, (b) mae’r cynigion yn dilyn yr un egwyddorion â'r rhai y cytunwyd arnynt yn Lloegr—mae’r syniad bod dull gweithredu hollol wahanol yn Lloegr yn gwbl anghywir, ac, yn wir, fel rydym ni’n ei wybod, rydym wedi gwneud cynnig mwy hael yma yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Nawr, dyna ein sefyllfa, ond mae'n gwbl briodol i ochr yr undebau llafur ddweud yn ystod y negodiadau nad ydyn nhw wedi cytuno â’r cynnig presennol sydd ar y bwrdd. Dyna’r holl bwynt: mae'n broses negodi. Ond byddwn i’n dweud nad dim ond y ffaith ein bod ni yn y blynyddoedd diwethaf wedi cyflwyno cynnig sy’n gyson yn fwy hael yng nghontract meddygon teulu yng Nghymru—a ddylai roi hyder i Aelodau yma o bob plaid, yn ogystal â meddygon teulu—ond y ffaith y byddwn ni’n eistedd eto gyda Chymdeithas Feddygol Prydain yr wythnos nesaf i fynd drwy’r negodi hwn, a'r unig reswm pam nad ydym ni'n eistedd yr wythnos hon yw’r diffyg lle yn nyddiaduron pobl ar y pwyllgor negodi. Nawr, mater i Gymdeithas Feddygol Prydain yw hwnnw. Rwy’n fodlon y byddwn ni’n eistedd eto, ac rwy’n ffyddiog y byddwn ni’n taro bargen y bydd meddygon teulu, wrth edrych arni a’i chymharu â'u cydweithwyr dros y ffin, yn sylweddoli bod gwell bargen ar gael yma yng Nghymru. Mae hon yn foment i bwyllo, cael ymddiriedaeth ac ewyllys da rhwng partneriaid i ganfod y ffordd ymlaen, ac rwy’n edrych ymlaen at adrodd yn ôl am y trafodaethau hynny i'r Siambr maes o law.

Ond rwy’n sicr yn disgwyl y gallwn barhau i wneud cynnydd i ddadrisgio dyfodol meddygfeydd teulu, i leihau costau yswiriant gyda’r cynnig indemniad yr ydym wedi ei wneud a’i roi ar waith, i wneud cynnydd o ran yr heriau sefydlog olaf i feddygon teulu, i wella mynediad, sy'n fater allweddol i’r cyhoedd, ac i barhau i fuddsoddi mewn meddygfeydd teulu. Ac rwy’n credu y bydd y cyhoedd yn croesawu’r neges honno, ac yn gobeithio ar ddiwedd y negodiadau hyn y gallwn ni i gyd fyfyrio ynghylch lle yr ydym ni wedi cyrraedd a chydnabod bod gan feddygfeydd teulu Lywodraeth sy’n bendant ar eu hochr nhw yma yng Nghymru.

16:35

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae'n dda clywed rhywfaint o gynnydd cadarnhaol—rwyf bob amser yn barod i gydnabod hynny—ond mae rhai materion penodol yr hoffwn eu codi gydag ef a hoffwn hefyd fynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau y mae Darren Millar wedi eu codi.

Os caf fi ddechrau drwy edrych ar fater gweithio i asiantaethau. Nawr, rydym ni’n gwybod bod heriau gwirioneddol ac rwy’n sicr—nid yw'r ystadegau gennyf, ond mae'n sicr yn amlwg o'm gohebiaeth bod rhai gweithwyr meddygol proffesiynol a gweithwyr nyrsio proffesiynol yn dewis symud i ffwrdd o swyddi cyflogedig llawn-amser yn y GIG i waith asiantaeth. Nawr, mae rhai o'r rhesymau sy’n cael eu rhoi imi dros hynny’n faterion y gellid bod wedi eu setlo’n ddigon syml, er enghraifft yn enwedig gweithwyr nyrsio proffesiynol yn gofyn am drefniadau gweithio hyblyg yn eu swyddi parhaus, y trefniadau gweithio hyblyg hynny’n cael eu gwrthod, mynd at asiantaeth, ac ar nifer o achlysuron dychwelyd i'r union swydd honno ar sail asiantaeth, a hynny’n amlwg am gostau llawer uwch i'r gwasanaeth a risgiau posibl yn enwedig i ansefydlogrwydd y gwasanaeth i gleifion. Pa gamau mae’r Gweinidog yn eu cymryd gyda chydweithwyr ar draws y GIG yng Nghymru i ymdrin â rhywfaint o’r anhyblygrwydd hwn sy'n gorfodi gweithwyr nyrsio proffesiynol yn enwedig, ond gweithwyr proffesiynol eraill hefyd, allan o’n gwasanaeth cyflogedig llawn-amser ac i mewn i waith asiantaeth? Rwyf wedi clywed, mewn rhai rhannau o'r GIG, bod syniad eithaf hen ffasiwn ynghylch beth yw ymroddiad, ac oni bai eich bod chi’n barod i fod yn llawn-amser, nad ydych chi'n ddigon ymroddedig. Rwy’n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi nad yw hyn yn gywir o gwbl, felly hoffwn glywed ganddo ynglŷn a pha gamau sy'n cael eu cymryd i unioni hyn, gan ei bod hi, rwy’n credu, yn broblem gynyddol.

Os caf fi ddychwelyd at gwpl o faterion, felly, sy'n ymwneud â meddygfeydd teulu, a’r mater cyntaf yr hoffwn ei godi gydag ef yw cywirdeb data. Nawr, wrth gwrs bydd y Gweinidog yn ymwybodol nad yw StatsCymru wedi darparu niferoedd cyfwerth ag amser llawn o feddygon teulu. Fe allant ddweud wrthym faint o feddygon teulu sydd i'w cael, ond ni allant ddweud wrthym faint o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn sydd i'w cael. Dydyn nhw ddim wedi gallu gwneud hyn ers tua phum mlynedd oherwydd eu bod nhw’n ymchwilio i ansawdd y data. Nawr, yn amlwg, Dirprwy Lywydd, ni all y Gweinidog wneud asesiadau cywir ynghylch beth sydd angen ei wneud os nad yw’r data cywir ar gael iddo. Felly, rwy’n gofyn i'r Gweinidog y prynhawn yma pam y mae'r ymchwiliad hwn yn cymryd dros bum mlynedd? Ac yn sicr, os nad ydym ni’n gwybod y nifer cyfwerth ag amser llawn, nid ydym ni'n gwybod nifer y swyddi y gallai fod angen inni eu llenwi. Mae'n sicr yn wir fod mwy a mwy o bobl sydd eisiau gweithio, yn enwedig menywod, a hoffai weithio'n rhan-amser ym maes practis cyffredinol, ac mae hynny'n galonogol iawn, ond mae'n arferol mewn gweithle i gyfrifo nifer eich swyddi cyfwerth ag amser llawn ac yna ddadansoddi’r rheini i adlewyrchu’r gweithio hyblyg y gallwch chi ei gynnig. Felly, hoffwn glywed ychydig mwy gan y Gweinidog ynghylch pa mor ffyddiog yw ynghylch cywirdeb yr ystadegau y mae wedi'u cyflwyno ger ein bron y prynhawn yma, a yw'n cydnabod bod problem o ran cywirdeb yr ystadegau hynny a sut y gellid unioni hynny.

Nawr, mae datganiad y Gweinidog yn nodi ein bod ni wedi gorlenwi nifer o leoedd hyfforddi meddygon teulu o dan rai amgylchiadau, ac mae hynny'n amlwg yn gadarnhaol, ac mae'n profi bod galw i bobl i ymgymryd â’r swydd, i astudio ar gyfer y swydd. Ond byddwch yn gwybod, er enghraifft, o amgylch adeg yr etholiad yn 2016, bod y BMA wedi dweud bod arnom angen tua 200 o leoedd hyfforddi meddygon teulu bob blwyddyn. Rwy’n ei chael yn anodd, ac rwy’n gobeithio, Dirprwy Lywydd, y gwnaiff y Gweinidog faddau imi am hyn, ond rwy’n ei chael yn anodd bod yn gyffrous ynghylch llenwi 136, pan fo angen 200 mewn gwirionedd—er, wrth gwrs, mae gennym ni'r mater o gywirdeb y data. A yw'r Gweinidog yn cydnabod bod bwlch yna? Rwy’n croesawu'r hyn a ddywedodd nad yw’r 136 yn nifer pendant ac efallai y bydd cyfleoedd i ehangu, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn, ond a yw'r Gweinidog yn cydnabod bod y bwlch hwnnw yno, a pha gynlluniau sydd ganddo i’w lenwi? Mae'n teimlo i mi braidd fel pe bai’n gofyn imi fod yn llawn cyffro ynghylch llenwi bws mini pan fo angen bws maint llawn ar y daith mewn gwirionedd.

Nesaf, hoffwn droi at y materion y mae Darren Millar eisoes wedi’u codi o ran y swm byd-eang. Rwy’n credu bod Darren Millar yn iawn pan ddywedodd efallai y dylem ni wrando ar leisiau meddygon teulu, a gydag amynedd y Dirprwy Lywydd, hoffwn ddyfynnu rhywfaint o ohebiaeth a gefais am y mater hwn yn fyr iawn. Ac mae hyn yn adlewyrchu nifer y negeseuon e-bost a gefais i'r penwythnos yma—rwy’n siŵr nad fi yw’r unig un. Mae’r uwch feddyg teulu hwn yn dweud wrthyf: 'Mae’r cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth wedi dod i rym, sy'n gam cadarnhaol.' Mae hynny'n ategu safbwynt y Gweinidog. Mae’n mynd ymlaen i ddweud: 'Fodd bynnag, y cynnig ar hyn o bryd yw dilyn hyn â gostyngiad o 3.2 yn ein cyllid swm byd-eang. Fel y mae hi, mae hyn yn golygu mai’r unig grŵp a fydd yn elwa ar yr indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth ac a fydd yn cyfrannu at y gost yw partneriaid meddygon teulu.' Mae’n mynd ymlaen i ddweud nad yw hyn yn digwydd mewn gwledydd eraill, ac mae’n mynd ymlaen i ddweud—ac rwy’n crynhoi oherwydd gallaf weld y Dirprwy Lywydd yn gwgu arnaf, sydd bob amser yn brofiad brawychus—mae’n mynd ymlaen i ddweud bod ansicrwydd ynghylch y contract, nid dim ond y cynllun indemniad: 'Mae’r ansicrwydd hwn yn eithriadol o niweidiol i wasanaethau gofal sylfaenol Cymru ar adeg pan fo llawer o feddygfeydd a meddygon teulu’n cael trafferth i gynnal y gwasanaeth. Mae llawer, gan gynnwys fy meddygfa i, yn gorfod ystyried cynlluniau i recriwtio staff ychwanegol.' Mae’n mynd ymlaen i ddisgrifio sut y mae hynny’n effeithio arno ef fel unigolyn.

Nawr, rwyf wedi clywed, yn glir, yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ac, yn wir, yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach wrth Paul Davies. Rwy’n deall, gydag unrhyw negodi undeb llafur, nad yw amseriad hynny bob amser yn nwylo'r cyflogwr, ond tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym y prynhawn yma, i roi amserlen ddangosol inni, ynglŷn â pha mor fuan y caiff y materion ynghylch y contract eu datrys, a pha un a yw’n bwriadu cynnal y sefyllfa neu beidio pan fo arian ar gyfer yr indemniad yn dod allan o arian a fyddai fel arall yno i ddarparu gwasanaethau. Os oes angen iddo wneud hynny, Dirprwy Lywydd, mae hynny’n ddealladwy ar adeg o gyni, ond gadewch inni gael ychydig o onestrwydd ac eglurder ynghylch hyn. A wnaiff dawelu meddwl y meddyg teulu hwnnw, ac eraill sydd wedi ysgrifennu ataf, ac eraill yn y Siambr hon, drwy gadarnhau nad yw’r ansicrwydd hwn o ran y contract yn mynd i barhau’n rhy hir?

16:45

Rwy’n mynd i roi sylw i’r pwyntiau ynghylch y contract ar y diwedd. O ran eich pwyntiau ymarferol ynghylch gweithio hyblyg ac ymagwedd sydd efallai’n anhyblyg, byddai o gymorth cael rhai enghreifftiau penodol, oherwydd, a dweud y gwir, dylid ymdrin â hynny nid yn unig drwy'r broses cysylltiadau cyflogaeth unigol, ond, mewn gwirionedd, ar lefel strategol yn y fforwm partneriaeth, lle mae’r Llywodraeth, cyflogwyr y GIG a'r undebau llafur ar draws pob sector yn eistedd gyda’i gilydd. Dyna’n union y math o beth y dylent ei drafod. Os oes mater unigol, mae hynny i’r cyflogwr unigol a’i weithle i'w drafod, ond, mewn gwirionedd, os awgrymir bod yr her yn fwy strategol, dyna le y dylid rhoi sylw iddi. Ac rwy’n disgwyl y bydd yn cael sylw, gan nad dim ond menywod sy'n dewis gyrfaoedd rhan-amser, a dweud y gwir, mae mwy a mwy o ddynion yn gwneud hynny hefyd. Pe na bawn i yn y swydd hon, mae'n gwbl bosibl y byddwn i’n gweithio’n rhan-amser ac y byddai fy ngwraig yn parhau i weithio’n llawn-amser, a byddwn i’n hapus i wneud hynny, ac mae llawer iawn mwy o ddynion yn y sefyllfa honno drwy gydol eu gyrfaoedd, am amrywiaeth o resymau. Felly, mae'r mater yn ymwneud â’r gweithlu ac mae’n rhan o'r hyn a ddylai wneud gyrfa yn y gwasanaeth iechyd yn ddeniadol.

Wrth gwrs, o ran y costau, rydym ni wedi adrodd yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor cyn hyn am yr effaith gadarnhaol ar y GIG mewn gwirionedd, o gyflwyno cap ar asiantaethau o ran cyfraddau ar y pryd, a hefyd y gwaith yr ydym ni'n ceisio ei wneud o ran locwm. Ac, a dweud y gwir, mae'r gofrestr meddygon locwm yn rhan o hynny. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod cymryd swydd barhaol wir yn ddeniadol, ac mae hynny’n rhan o'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud ochr yn ochr â gwahanol weithwyr proffesiynol.

O ran cywirdeb data, rwy’n gobeithio y gwnaiff hynny helpu i lywio adolygiad AGIC, oherwydd fy mod yn ffyddiog ynghylch y ffigurau yr wyf wedi’u rhoi, oherwydd ein bod ni'n cymharu tebyg at ei debyg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond fe hoffwn i fod yn siŵr bod y data’n ddigon cywir ac yn ystyried amrywiadau mewn patrymau gwaith. O ran adolygiad AGIC, nid wyf yn mynnu glynu wrth y ffigur o 136 am byth; dyna pam y ceir adolygiad. Rwy’n cydnabod y potensial i orlenwi o’n lleoedd hyfforddi. Dyna pam, fel yr wyf fi wedi’i nodi yn fy natganiad—mewn ymateb i Darren Millar hefyd—fy mod wedi penderfynu cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael, oherwydd mae’r capasiti yn y system i wneud hynny. Mae ffigur o 200 wedi cael ei gynnig, ond dydw i ddim yn credu bod llawer o dystiolaeth i ddweud mai dyna’r ffigur priodol. Derbynnir yn gyffredinol, serch hynny, bod gennym rywfaint o allu i hyfforddi mwy, sy’n egluro fy mhenderfyniad i allu gwneud hynny, ond yn bwysicach, i gael gwell dealltwriaeth o ble y gallem ac y dylem ni fod, a fydd yn bendant yn cael ei ystyried yn adolygiad AGIC, fel y dywedais—niferoedd, lleoliad ac ansawdd y profiad hyfforddiant hwnnw. Ac, wrth gwrs, byddaf yn parhau i hysbysu'r Aelodau am y cyngor a gaf ac unrhyw benderfyniadau a wnaf, neu y bydd AGIC yn eu gwneud, ynghylch capasiti a natur hyfforddi yn y dyfodol.

Nawr, ynghylch eich pwynt am y negodiadau ynghylch y contract, wrth gwrs, rwyf wedi bod yn ymwybodol iawn o lais ymarferwyr cyffredinol dros y penwythnos, yn mynegi eu barn am ein sefyllfa yn y trafodaethau. Rwy’n mynd i siarad yn ofalus, oherwydd dydw i ddim eisiau gwneud y trafodaethau hynny’n gyhoeddus, oherwydd dydw i ddim yn credu bod hynny’n briodol. Ac, fel y dywedais ar ddiwedd y gyfres o gwestiynau gan Darren Millar, mae’n amser am bwyll ac ymddiriedaeth ac ewyllys da ar bob ochr, ac mae hynny'n golygu bod rhaid i mi dderbyn rhywfaint o’r feirniadaeth sy’n hedfan o amgylch y lle, gan fod angen amser a lle ar y negodwyr i eistedd i lawr a dod i gytundeb. Mae’r llythyr diweddaru y mae meddygon teulu wedi’i gael yn rhoi ochr yr undebau llafur a’u safbwynt nhw am y negodiadau ynghylch ein sefyllfa, ac rwyf wedi bod yn negodwr i undebau llafur i roi negeseuon i bobl rwy’n eu cynrychioli, ac nid yw’r cyflogwyr bob amser wedi cytuno â’r farn, ond rydych chi’n cyrraedd diwedd trafodaeth i geisio canfod sefyllfa lle mae pawb yn credu bod cytundeb da ar eu cyfer, ac, yn hollbwysig, yn y lle hwn, cytundeb da ar gyfer y cyhoedd. Felly, ceir amrywiaeth o wahanol faterion o fewn y negodi.

Hoffwn fod yn glir, fodd bynnag, ynghylch y cynigion indemniad. Mae’r addasiad untro i ddatblygu'r cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth yn union yr un cyfrwng ag a ddefnyddir yn Lloegr hefyd—yn union yr un cyfrwng. Ac, yn wir, yn yr addasiad sydd wedi’i gynnig, mae’n fwy na chymesur yn fy marn i; mae'n gynnig gwell na'r hyn sydd ar y bwrdd ac y cytunwyd arno yn Lloegr. Ceir rhywbeth yma ynghylch ychydig o onestrwydd yn ein sgyrsiau am hyn, ond nid yw’r sgwrs yn gyflawn. Felly, yn sicr nid wyf yn chwilio am faes newydd i anghytuno arno â’r BMA; rwy’n chwilio am bwynt lle gallwn i gyd gytuno ar gytundeb da ar gyfer ymarfer cyffredinol a mwy o fuddsoddiad mewn ymarfer cyffredinol. A dyna’r neges yr wyf yn gobeithio y gall meddygon teulu ei chlywed yn glir ac yn groyw gennyf fi, ac, yr wythnos nesaf, bydd negodwyr yn eistedd eto. Ac yn y diwedd pan fydd gennym ni gytundeb, byddaf yn fwy na pharod i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y cytundeb yr wyf yn obeithiol y byddwn yn ei gyrraedd yn y pen draw.

16:50

Yn wahanol i safbwynt gwydr hanner gwag Darren Millar, rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr iawn, gan fy mod yn credu ei fod yn rhoi cyfeiriad clir i’r cynllun gweithlu sy’n sail i 'Cymru Iachach', ac rwy’n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Felly, diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Rwy’n credu bod rhaid eich llongyfarch am ein bod ni wedi llwyddo i ddenu mwy a mwy o feddygon, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i ddod i hyfforddi a byw yng Nghymru, ac yn sicr mae angen i hynny ddigwydd. Mae'n cymryd ychydig o amser i lenwi'r lleoedd, ac, os nad ydym wedi cymryd mwy o bobl, mae hynny oherwydd bod rhaid inni sicrhau bod yr ymgeiswyr y byddwn ni’n buddsoddi mewn hyfforddiant gyda nhw uwchben y llinell o ran cymwyseddau, neu byddem ni’n gwastraffu’r buddsoddiad.

Roeddwn i am ofyn ichi am y materion penodol a godwyd gan yr orymdaith endometriosis yr es i arni ddydd Sadwrn, oherwydd mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 o fenywod—nid yw’n glefyd prin, yn anffodus—ac ychydig o bobl sy’n gwybod amdano, y tu hwnt i deuluoedd agos y rheini sy'n dioddef ohono. Ar ôl i'r clefyd eich taro, o tua 12 oed, yn anffodus mae'n gyflwr cronig, gydol oes. Gan nad yw pobl yn gyffredinol yn gwybod amdano, rwy’n teimlo nad yw’n cael adnoddau priodol, mewn gofal sylfaenol nac mewn gofal eilaidd, oherwydd y bu gormod o bobl ar yr orymdaith yn sôn am sut yr oedd wedi cymryd blynyddoedd iddyn nhw gael y diagnosis priodol, yn syml gan nad oedd eu meddyg teulu wedi ystyried endometriosis pan aethon nhw at y meddyg â phoen pelfis neu broblemau cysylltiedig eraill. Felly, mae'n ymddangos i mi, yn yr hyfforddiant hwn, bod angen inni sicrhau bod pobl yn gwybod am endometriosis ac, ym maes gofal eilaidd, bod angen o leiaf un aelod o'r tîm gynaecolegol sy'n arbenigo mewn endometriosis.

Ac, o ran y staff nyrsio sydd ei angen, mae gennym dîm arbenigol ardderchog wedi’i leoli yng Nghaerdydd a'r Fro sy'n darparu gwasanaeth rhagorol, ar lefel eilaidd a thrydyddol, i bobl ag endometriosis: tîm o dri neu bedwar o lawfeddygon a meddygon ymgynghorol a dim ond un nyrs endometriosis, sydd ar fin ymddeol. Felly, mae angen inni sicrhau bod y bobl hynny sydd â’r sgiliau ardderchog hyn yn gallu hyfforddi'r bobl briodol i barhau â’r gwaith rhagorol. Ac yn amlwg mae arnom angen mwy nag un nyrs endometriosis ar gyfer Cymru gyfan, os ydym ni'n sôn am un o bob 10 o fenywod. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthyf fi sut mae'r cynllun gwaith hwn yn mynd i sicrhau bod gennym ni bobl sydd wedi cael eu hyfforddi'n briodol i ymdrin â mathau o glefydau fel y clefyd hwn nad ydyn nhw'r rhai y mae pawb yn sôn amdanyn nhw, fel canser.

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe wnes i gydnabod beth amser yn ôl bod endometriosis yn gyflwr cyffredin sydd ddim yn cael llawer o sylw na chydnabyddiaeth. Fel y dywedwch, rydym yn ddeall y bydd yn effeithio ar tua un o bob 10 o fenywod yn ystod eu hoes. Felly, nid yw'n gyflwr anghyffredin, ac mae her ynghylch lle mae angen arbenigedd arnom a lle mae rhan i'w chwarae gan y gwasanaeth cyffredinol o ran cyflwr sydd mor gyffredin â hwn. Dyna oedd un o'r rhesymau pam y penderfynais i greu’r grŵp iechyd menywod i edrych ar gwpl o faterion penodol sy’n effeithio’n bennaf ar fenywod. Felly, y ddau fater cyntaf y mae’r grŵp hwnnw wedi bod yn eu hystyried yw rhwyll a thâp ar gyfer prolaps y wain ac endometriosis—y rheini oedd y ddau fater cyntaf. Nawr, rwyf fi o'r farn, pe bai cyflyrau mor gyffredin â hynny wedi effeithio ar ddynion, na fydden nhw yn ôl pob tebyg wedi aros cyhyd i gael sylw a chynllun gweithredu. Felly, rwyf wedi creu’r grŵp i ddwyn ynghyd arbenigedd priodol ac i ganolbwyntio ar y materion hynny, ac rwyf newydd gyfarwyddo’r grŵp hwnnw hefyd i ystyried yr adroddiad gan y grŵp anymataliaeth ysgarthol—mae adroddiad Julie Cornish wedi cael ei dderbyn, ac rwyf wedi cyfarwyddo’r grŵp iechyd menywod i edrych ar hynny hefyd.

Mae’n fater o wneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym ni’n ei ddysgu o bob un o'r meysydd hynny, gan gynnwys endometriosis, yn wir yn arwain at welliant ar draws y gwasanaeth, oherwydd nid yw'r rhain yn gyflyrau anghyffredin, felly rwy’n disgwyl i'r gwasanaeth ymdrin â nhw—felly, nifer cyfyngedig o gyflyrau, i weld gwelliant. Ond rwy'n disgwyl y bydd mwy o feysydd gweithgarwch wrth inni symud ymlaen, a gobeithio y gallwn benderfynu ar gynllun gwella sy’n ymddangos yn briodol ym mhob un o'r tri maes y mae’r grŵp yn eu hystyried ar hyn o bryd.

16:55

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae gennyf bedwar cwestiwn penodol ichi. Yn gyntaf, byddwn i’n croesawu eich sylwadau ynghylch recriwtio i'r amrywiaeth o broffesiynau sydd eu hangen arnom o fewn GIG Cymru. Yn ddiweddar ymwelais â Phractis Meddygol St John's yn Aberdâr i weld eu rhaglen ward rithwir sydd wedi ennill gwobrau; mae’n galluogi amrywiaeth o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaeth i weithio gyda'i gilydd i ddarparu gwell canlyniadau i gleifion. Sut gellir defnyddio mentrau fel y fenter hon i hyrwyddo Cymru fel lle i weithwyr proffesiynol y GIG weithio ynddo?

Hefyd, rwy’n nodi eich sylwadau ynghylch cyfnod fferyllfa 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Rwy’n gwybod bod hyn yn cyd-fynd â'ch ymrwymiadau blaenorol i sicrhau y gall gweithwyr proffesiynol y GIG yng Nghymru ddefnyddio eu set sgiliau’n llawn. A allwch chi roi unrhyw wybodaeth bellach am y rhan hon o'r broses o gyflwyno 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.'? Yn gysylltiedig â hyn, rwyf hefyd wedi fy mhlesio'n fawr gyda chefnogaeth Cwm Taf i ddatblygu gyrfaoedd o fewn ei weithlu, felly byddwn yn croesawu eich barn am y ffordd orau o flaenoriaethu hyn ac, yn benodol, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn bwysig annog gweithwyr proffesiynol i ddod i mewn i ardaloedd fel fy ardal i yn y Cymoedd.

Yn olaf, rwy’n gwybod bod heriau penodol yn gysylltiedig â gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau, a gyda llwyddiant 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.'—ac, yn wir, rwy’n nodi eich sylwadau blaenorol am y rhaglen yn rhagori ar ei thargedau—a fyddai unrhyw gapasiti ar gyfer gorlenwi’r swyddi y tu allan i oriau hyn?

Ynglŷn â gwasanaethau y tu allan i oriau, mae gennym ni raglen ddiwygio gwasanaeth y tu allan i oriau. Mae wedi cyd-daro â chyflwyno 111 hefyd. Fel rydym ni wedi’i ddysgu wrth gyflwyno 111, rydym ni wedi dysgu mwy am sut i gefnogi’r gwasanaeth oriau arferol yn ogystal â’r gwasanaeth y tu allan i oriau, ac felly rwy’n credu, yn y mannau lle y gwelwch chi staffio 111, bod gwasanaeth y tu allan i oriau mwy cadarn, ac mae’n arwain yn ôl at eich pwynt cyntaf am yr amrywiaeth o weithwyr proffesiynol. Roedd pobl yn arfer cyfeirio at wasanaethau y tu allan i oriau fel 'meddyg teulu y tu allan i oriau'. Nawr, mae meddygon teulu’n rhan bwysig o'r tîm hwnnw, ond, mewn gwirionedd, mae cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys gweithiwr nyrsio proffesiynol, gan gynnwys fferyllydd, ac yn aml, rwy’n credu, mae’n ddigon posibl y byddwn ni’n gweld ymarferydd iechyd meddwl yn cael ei ychwanegu at hynny hefyd—felly, byddwch chi’n gweld hyn, ynghyd â gweithiwr cyffredinol fel parafeddyg, yn rhan o dîm o wahanol weithwyr proffesiynol a fydd yn rhan o'r gwasanaeth y tu allan i oriau hwnnw, ac felly rwy’n disgwyl i’r her a welwn yng Nghymru gael ei hadlewyrchu ar draws gweddill y DU o ran gwasanaethau y tu allan i oriau, ac mae hynny'n mynd yn ôl at ddiwygiad blaenorol y contract meddygon teulu.

Dydw i ddim yn credu y bydd hi’n bosibl, nac yn wir yn ddefnyddiol, ceisio dweud y dylech chi orfodi pob meddyg teulu yn ôl i wneud gwaith y tu allan i oriau fel y byddai hen gontract yn gofyn iddo ei wneud. Felly, a dweud y gwir rwy’n credu ein bod ni’n adeiladu gwell gwasanaeth gyda chymysgedd gwahanol o weithwyr proffesiynol, ac mae St John's yn enghraifft dda o ward rithwir—y gwaith a ddechreuodd yn ne Powys, ward rithwir ddrwgenwog Aberhonddu—ac mae'n beth da gweld hynny'n cael ei gyflwyno, oherwydd ei fod yn fater o werthfawrogi cyfraniad y gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r ffaith ei bod hi’n gwneud gwaith y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny’n fwy pleserus, am eu bod yn sylweddoli eu bod yn darparu gofal gwell ac yn defnyddio eu hadnoddau’n well. Ac, yn hollbwysig, mae wedi gwella gwaith tîm yn fawr hefyd, rhwng meddygon teulu yn ogystal â rhwng y meddyg teulu ac aelodau eraill o'r tîm gofal iechyd. Ceir mwy o werthfawrogi'r hyn y gall pobl eraill ei wneud, ac mae hynny’n agwedd gadarnhaol ar ddod i weithio yma yng Nghymru, oherwydd rwy’n disgwyl y byddwn yn raddol yn gweld mwy a mwy o bobl yn disgrifio sut y maen nhw'n gweithio yn yr un modd, ac mae'n sicr wedi effeithio ar sut y caiff pobl eu hyfforddi, hefyd, sy’n gam cadarnhaol go iawn hefyd.

Ac, ynglŷn â’ch pwynt am fferyllwyr, fel y nodais, bydd yr ymgyrch yn cychwyn yn fuan ar gyfer maes fferyllwyr. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn gynharach yr wythnos hon ynghylch buddsoddi mwy mewn fferylliaeth ac edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda nhw am eu contract, ac am y rhan y gallant ei chwarae a sut y gallai, ac y dylai fferylliaeth chwarae mwy o ran wrth ddarparu gofal iechyd lleol. Bydd hynny ynddo'i hun, rwy’n credu, yn helpu gyda’r cyfleoedd daearyddol sy'n bodoli. Mae nifer o feddygon wedi mynd allan ac wedi siarad yn gadarnhaol am eu rhan nhw o Gymru a'r cyfle mewn meddygaeth yno, ond hefyd am y cyfleoedd hamdden eraill sy'n bodoli mewn rhannau helaeth o'r wlad, ac mae hynny'n cynnwys y Cymoedd, lawn cymaint â’r gogledd a’r gorllewin hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rydym dair blynedd i mewn i’r ymgyrch recriwtio, ac, er fy mod i’n cydnabod ac yn croesawu’r cynnydd rydym ni’n ei wneud, mae gennym brinder meddygon a nyrsys o hyd. Rwy’n cydnabod nad yw'r broblem yn unigryw i Gymru. Yr wythnos diwethaf, lansiodd y King's Fund, Ymddiriedolaeth Nuffield a’r Sefydliad Iechyd adroddiad ar y cyd yn rhybuddio bod y GIG yn Lloegr yn methu â hyfforddi digon o feddygon teulu a nyrsys i fodloni'r galw ac mae'r sefyllfa’n argyfyngus. Roeddent yn rhybuddio y byddai’r GIG yn Lloegr yn brin o 70,000 o nyrsys a 7,000 o feddygon teulu yn y pum mlynedd nesaf. Felly, Gweinidog, a gaf fi ofyn pa asesiad rydych chi wedi’i wneud o sut y bydd hyn yn effeithio ar allu Cymru i recriwtio digon o feddygon teulu a nyrsys dros y pum mlynedd nesaf?

Hyd yn oed os ydych chi’n bodloni eich targedau recriwtio, mae llawer o'r colegau brenhinol a’r cyrff sy'n cynrychioli meddygon a nyrsys yn rhybuddio y bydd hynny’n annigonol. Felly, pa drafodaethau rydych chi wedi’u cael gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain ynghylch sicrhau lefelau staffio diogel yn y GIG yng Nghymru dros y degawd nesaf? Cofiwch fod llawer o nyrsys yn gweld gwaith asiantaeth yn hynod o broffidiol, a dywedodd un wrthyf fi ei bod hi’n gallu ennill wythnos o gyflog mewn 2.5 diwrnod. Mae llawer o feddygon teulu’n troi at waith rhan-amser, rhai oherwydd straen gweithio'n llawn-amser fel meddyg teulu ac eraill oherwydd ymrwymiadau teuluol.

Gweinidog, yn ôl ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan bwyllgor meddygol lleol y gogledd, roedd hanner yr holl ymgeiswyr cymwys yn cael eu troi ymaith. A allwch chi gadarnhau bod hyn yn wir, ac os yw, sut y gellir cyfiawnhau hyn o ystyried y prinderau aruthrol rydym ni’n eu hwynebu nid yn unig yn y gogledd, ond ledled y genedl?

Mae’r cynnydd yn nifer y meddygfeydd teulu sydd wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn destun pryder. Y llynedd roedd rhaid i bron i 50,000 o gleifion ddod o hyd i feddygon teulu newydd ar ôl i’w meddygfa gau. Rhybuddiodd cadeirydd pwyllgor ymarferwyr cyffredinol Cymru fod meddygfeydd teulu yng Nghymru wir ar y dibyn, a meddygfeydd sy'n gwasanaethu tuag un o bob 10 o bobl yn y wlad mewn perygl o gau. Gweinidog, pa asesiad rydych chi wedi’i wneud ar y risg o gau meddygfeydd yn ystod y 12 mis nesaf a beth ydych chi’n ei wneud i liniaru'r risgiau hynny?

Yn olaf, Gweinidog, a allwch chi amlinellu’r camau ychwanegol rydych chi’n eu cymryd i recriwtio digon o feddygon a nyrsys sy'n siarad Cymraeg i sicrhau, ym mha bynnag ran o Gymru rydych chi’n byw, y gallwch chi gael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg? Nid dim ond mater o ddewis yw darparu gwasanaethau yn y Gymraeg, mae'n hanfodol i rai pobl, yn enwedig rhai sy'n dioddef o ddementia. Diolch yn fawr.

17:00

Rwy’n credu, ar y pwynt olaf hwnnw, y byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn sôn yn gynharach am ein disgwyliadau y byddwn ni'n gallu gwasanaethu anghenion gofal iechyd pobl a gwella gallu'r tîm gofal sylfaenol i wneud hynny. Mae hynny’n golygu bod angen inni fynd â meddygon teulu gyda ni a’u helpu nhw i gaffael sgiliau iaith a gwerthfawrogi’r sgiliau hynny. Dyna hefyd pam yr ydym ni wedi dangos diddordeb mewn buddsoddi mewn cyfleoedd penodol i recriwtio a hyfforddi.

Felly, rwy’n credu fy mod i wedi sôn yma o’r blaen am rai o'r rhaglenni sydd gennym ar recriwtio ac ymgysylltu â phobl o'r cymunedau hynny nad ydyn nhw fel arfer yn mynd i ysgol feddygol, ac mae’r cyfleoedd yn cael eu darparu, ac mae llawer o hynny wedi bod yn ddarpariaeth wedi ei thargedu at siaradwyr Cymraeg, er enghraifft. Fe wnes i gyfarfod â grŵp o bobl o Flaenau Gwent, siaradwyr Cymraeg o Flaenau Gwent, a oedd yn mynd i ddiwrnod o ymgysylltu i edrych ar y posibilrwydd o yrfaoedd mewn addysg feddygol ar ddiwrnod a oedd yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd. Felly mae ymgysylltu gwirioneddol, bwriadol yn digwydd i edrych ar weithlu’r dyfodol yn ogystal â'r gweithlu sydd gennym heddiw. Ac wrth inni edrych ar y cynllun gweithlu y gwnaethoch chi sôn amdano’n gynharach, a dweud y gwir dyna’n rhannol yr hyn y mae AGIC yn edrych arno. Maen nhw'n edrych ar y cynllun gweithlu ar gyfer y dyfodol i helpu i ddiwygio’r hyn y mae ein byrddau iechyd yn ei wneud a’r cyfleoedd i feddwl am yr hyn y bydd addysg feddygol ac addysg anfeddygol yn ei ddarparu, a'r gallu i gynllunio hynny gydag ein sector addysg uwch, ynghyd â’r hyfforddiant y byddan nhw’n ei gael mewn lleoliad proffesiynol.

O ran eich pwynt ehangach ynghylch cynaliadwyedd practisau, rwyf wedi dweud yn rheolaidd y bydd gennym ni nifer gwahanol o bractisau cyffredinol yn y dyfodol, ac os ewch chi i feddygfa ag un unigolyn, un partner sy'n feddyg yno, dyna feddygfa sy’n annhebygol o fodoli yn y dyfodol os yw’n aros fel y mae hi. Mae dyddiau un meddyg teulu ar ei liwt ei hun yn annhebygol o ddod yn ôl, ac a dweud y gwir, i fynd yn ôl at y sylwadau a wnaeth Vikki Howells a'r pwyntiau a wnaethoch chi hefyd, mae pobl yn disgwyl gweld gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn yr un lleoliad. Felly, dydw i ddim yn credu bod meddygfa ag un meddyg yn debygol o fod yn gadarn ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a bydd angen i rywfaint o'r newid hwnnw gael ei reoli a'i gynllunio’n briodol. Ceir her o ran pobl yn ymgysylltu â'u bwrdd iechyd lleol i gael y sgwrs honno, ac yn hollbwysig yn ymgysylltu â'u cymheiriaid mewn clystyrau lle maen nhw'n trafod y materion hyn. A dweud y gwir, mae clystyrau wedi hybu llawer gwell cydweithio rhwng gwahanol bractisau cyffredinol, ac nid dyna’r teimlad a oedd gan bobl ar ddechrau'r clystyrau. Roedd pobl yn eu gweld nhw fel ymarferiad biwrocrataidd i gael arian, ac roedd rhai pobl yn ddig, ac eto erbyn hyn mae pobl yn sôn am y cyfleoedd y maen nhw’n eu darparu oherwydd eu bod nhw wedi arfer gweithio gyda gwahanol bractisau yn yr un ardal leol, sy'n gwasanaethu’r un gymuned yn gyffredinol. Mae hynny'n gam cadarnhaol ymlaen.

O ran eich pwynt am ddeall y niferoedd cywir o staff, wel, wrth gwrs, mae gennym ni ddarn o ddeddfwriaeth ar nyrsio yn arbennig a gafodd ei dreialu drwy’r Cynulliad gan yr aelod o'r meinciau cefn dros Frycheiniog a Sir Faesyfed ar y pryd gyda chefnogaeth drawsbleidiol, ac felly byddwn ni’n edrych ar gyflwyno’r darn hwnnw o ddeddfwriaeth. Ond mae hynny'n dibynnu ar farn broffesiynol ac yn dibynnu ar sail dystiolaeth ar gyfer y gwahaniaeth y byddai niferoedd staff nyrsio yn ei wneud, ac mae hefyd yn dibynnu, wrth gwrs, ar ein gallu ni i gyflawni swyddogaeth y ddeddfwriaeth honno drwy recriwtio a hyfforddi mwy o nyrsys mewn gwirionedd. Ac o gymharu â dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, rydym ni’n hyfforddi bron i ddwy ran o dair yn fwy o nyrsys yma yng Nghymru nawr sy’n mynd drwy ein system addysg. Felly rydym ni’n cymryd camau ymlaen yn wirioneddol.

Bydd fy mhwynt olaf yn ymateb, os hoffech chi, i’ch sylw agoriadol am y ffaith nad oes digon o feddygon a nyrsys. Wel, rydym ni’n recriwtio mwy ac rydym ni’n hyfforddi mwy, ond ar ben hynny, dylem ni gofio mai dyma'r unig faes gwasanaeth cyhoeddus lle mae awydd cyhoeddus pendant am fwy o staff a disgwyliad y cyflenwir y staff hynny, ac mae goblygiadau go iawn i hynny. Rydym ni wedi cael bron i 10 mlynedd o gyni. Rydych chi ar fin clywed datganiad gan y Gweinidog Addysg, ac am ein bod ni’n blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd gwladol a mwy o staff yn y gwasanaeth iechyd gwladol, mae hynny'n golygu bod dewisiadau anoddach fyth i’w gwneud ym mhob rhan arall o'n cyllideb ac mae'n golygu bod llai o staff ar gael mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill. Ac nid wyf erioed wedi anghofio hynny yn y dewisiadau o ran cyllideb yr wyf fi wedyn yn gorfod eu gwneud.

Felly, mae cyni, wrth gwrs, yn fater mawr iawn, ond mae Brexit, hefyd. Os edrychwch chi ar nifer y bobl sydd wedi gadael y gofrestr nyrsio a bydwreigiaeth ledled y Deyrnas Unedig, mae’r gostyngiad mwyaf wedi bod ymhlith dinasyddion yr UE sydd wedi gadael y gofrestr a dychwelyd i dir mawr Ewrop. Felly, a dweud y gwir, mae’r dewisiadau rydym ni’n eu gwneud, y ffordd yr ydym ni’n sôn am Brexit, y ffordd yr ydym ni’n sôn am ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn wirioneddol bwysig, ac mae’n effeithio ar y byd go iawn ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Felly, mae ein gallu i recriwtio’n dibynnu ar ein statws yn y byd a’n parodrwydd i recriwtio pobl a’u croesawu nhw i’n gwlad, nid yn unig yn weithwyr iechyd a gofal proffesiynol, ond hefyd yn ddinasyddion y wlad hon. A hoffwn i ailadrodd, o safbwynt Llywodraeth Cymru, bod croeso i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, nid yn unig yn ein gwasanaeth iechyd, ond mae croeso iddyn nhw fel dinasyddion ein gwlad.

17:05
7. Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019

Eitem 7 ar yr agenda yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019 a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig. Kirsty Williams.

Cynnig NDM7025 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2019.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn ystod dadl Cyfnod 4 y Cyfarfod Llawn ar Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), ar 12 Rhagfyr 2017, hysbysais yr Aelodau y byddai angen i mi wneud rhai mân welliannau technegol i adran 91 y Bil pan fyddai'n dod yn Ddeddf. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Aelodau am gytuno i basio'r Bil ar y sail y byddai diwygiadau i adran 91 yn cael eu gwneud yn ddiweddarach.

Mae adran 91 yn rhoi swyddogaeth gytuno i'r Arglwydd Brif Ustus pan fo'r Arglwydd Ganghellor yn penodi llywydd y tribiwnlys addysg. Mae hefyd yn rhoi swyddogaeth gytuno i lywydd y tribiwnlys pan fo'r Arglwydd Ganghellor yn penodi'r cadeiryddion cyfreithiol. Cafodd y ddwy swyddogaeth gytuno eu cynnwys i sicrhau proses annibynnol.

Gwnaeth Llywodraeth y DU y Gorchymyn Penodiadau a Disgyblaeth Farnwrol (Gwelliant ac Ychwanegu Swyddi) 2017 ym mis Rhagfyr 2017. Roedd y Gorchymyn hwnnw yn dod â'r broses o benodi llywydd a chadeiryddion y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, neu TAAAC, o fewn gweithdrefn y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Ni fyddai'r Gorchymyn hwnnw, wrth gwrs, wedi diwygio'r Bil. Diben rheoliadau heddiw felly yw sicrhau bod gweithdrefnau'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn berthnasol i'r tribiwnlys addysgol pan ei fod yn newid ei enw o TAAAC. Mae hyn yn sicrhau'r nod o gael proses annibynnol. Mae'r rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 14 y Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 i gyfeirio at y tribiwnlys addysgol.

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 25 Mawrth gan adrodd ar 28 Mawrth, ac fe wnaethom ni ystyried ymateb y Llywodraeth ddoe. Mae gan ein hadroddiad drafft un pwynt o ran rhinweddau, sy'n cwestiynu defnydd pwerau atodol i wneud newidiadau i'r broses benodi sy'n berthnasol i lywydd tribiwnlys addysg Cymru.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer penodi llywydd tribiwnlys addysg Cymru, sy'n cynnwys yr Arglwydd Ganghellor a'r Arglwydd Brif Ustus. Mae'r rheoliadau yn diwygio'r broses benodi yn Neddf 2018 er mwyn dileu swyddogaeth yr Arglwydd Brif Ustus. Mae ein hadroddiad yn esbonio'r cefndir i ddiwygio'r broses benodi ac yn nodi bod y broses, fel y'i nodir yn Neddf 2018, yn gyfreithiol gadarn ac yn gweithio fel y mae wedi ei drafftio ar hyn o bryd.

Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru ehangu ar y defnydd o bwerau atodol i wrthdroi'r ddarpariaeth mewn Deddf y Cynulliad ac i egluro pa elfen ar adran 97(1) o Ddeddf 2018 y dibynnir arni ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn, o ystyried nad yw'r broses benodi yn Neddf 2018 yn ddiffygiol. Mae ymateb y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn.

Rydym yn nodi, yn ystod trafodion Cyfnod 4 ar Ddeddf 2018, cyfeiriodd y Gweinidog Addysg at:

ddatblygiad diweddar iawn a fydd yn golygu y bydd angen mân newidiadau i'r Bil pan fydd yn dod yn Ddeddf.

Rydym yn derbyn bod y Cynulliad wedi cael rhybudd o'r newid a gynigir gan y rheoliadau hyn, ac rydym yn derbyn bod y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 4 a hynny o 50 pleidlais i ddim.

Fodd bynnag, nid ydym ni'n credu mai Cyfnod 4 yw'r ffordd briodol o gyhoeddi bwriad i wneud newidiadau i rannau pwysig o Ddeddfau'r Cynulliad, yn enwedig newidiadau sy'n codi o ganlyniad i gytundeb munud olaf rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam na fyddai hi wedi bod yn bosibl i'r newidiadau arfaethedig gael eu trafod yn briodol yn ystod Cyfnod Adrodd ychwanegol. Dywed ymateb y Llywodraeth ei bod wedi ystyried nifer o ddewisiadau a bod y Cynulliad wedi pasio'r Bil ar sail sylwadau'r Gweinidog.

17:10

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei sylwadau ac am dderbyn y dystiolaeth ychwanegol a ddarparwyd gen i a swyddogion eraill ynglŷn â phwyntiau o ran rhinweddau a godwyd wrth i'r pwyllgor ystyried y rheoliadau hyn. Rwy'n cytuno, mewn sefyllfa ddelfrydol, y byddem wedi bod mewn sefyllfa i ddrafftio'r Bil mewn modd y byddwn wedi dymuno ei wneud. Yn anffodus, ymyrraeth o le arall sydd, mewn rhai ffyrdd, wedi achosi'r anawsterau hyn.

Fe wnes i, fel y soniodd Cadeirydd CLAC, godi'r pwyntiau hyn ar y llawr yn ystod y ddadl Cyfnod 4 i roi rhybudd clir i'r Cynulliad o'm bwriadau ac i ddatgelu'n llawn y byddai Aelodau wedi bod yn pleidleisio dros y Bil gan wybod y byddai'r rheoliadau hyn yn dod maes o law.

Mae heddiw yn rhoi cyfle i Aelodau o bob rhan o'r Siambr wneud sylwadau ar y rheoliadau fel y maen nhw wedi eu cyflwyno heddiw, ond rwyf yn falch ei bod yn ymddangos bod gennym ni gonsensws ym mhob rhan o'r Siambr i gefnogi'r rheoliadau hyn. Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio yw eu bod yn sicrhau bod penodi cadeirydd y tribiwnlys yn broses annibynnol, ac rwyf yn credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni i gyd gytuno arno. Rwyf yn ddiolchgar am gymorth parhaus y Siambr i'n diwygiadau ar gyfer ein darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn ein hysgolion. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019

Eitem 8 yw Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) 2019 a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig. Kirsty Williams.

Cynnig NDM7026 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2019. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) 2019. Nid yw'r teitlau'n mynd yn fwy bachog, ydyn nhw? [Chwerthin.] Bydd y rheoliadau'n caniatáu i Gymwysterau Cymru osod cosb ariannol pan nad yw cyrff dyfarnu cydnabyddedig yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol. Bydd hyn yn rhoi  system gymwysterau gryfach a chadarnach i Gymru y gallwn ni i gyd ymddiried ynddi. Mae'n mynd i'r afael â bwlch o ran ystod cosbau Cymwysterau Cymru.

Mae Deddf Cymwysterau Cymru 2015 yn sefydlu Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru ac yn darparu'r pŵer i Gymwysterau Cymru osod cosb ariannol ar gorff dyfarnu y mae'n ei reoleiddio am beidio â chydymffurfio â'i amodau cydnabyddiaeth safonol neu ofynion rheoleiddiol eraill.

Mae'r Ddeddf yn darparu bod swm y gosb i'w benderfynu yn unol â rheoliadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Dyma'r rheoliadau yr ydym yn gobeithio eu gwneud heddiw, y bwriedir iddynt gyfyngu ar ystod y cosbau ariannol y caiff Cymwysterau Cymru eu gosod ar y cyrff y mae'n eu rheoleiddio. Hyd nes y gwneir y rheoliadau hyn, ni all Cymwysterau Cymru ddefnyddio eu pwerau i osod cosb ariannol.

Mae'r rheoliadau yn rhoi cap ar unrhyw gosb ariannol a osodir gan Gymwysterau Cymru o 10 y cant o gyfanswm trosiant y corff dyfarnu yn y DU yn y flwyddyn ariannol cyn i'r hysbysiad cosb ariannol gael ei gyflwyno. Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi sut bydd Cymwysterau Cymru yn pennu trosiant corff dyfarnu at ddibenion y cap.

Y llynedd, fe wnaethom ni nodi ein bwriad drwy ymarfer ymgynghori i alluogi Cymwysterau Cymru i osod cosb ariannol o'r fath. Er mwyn bod yn gyson ag Ofqual, sef rheoleiddiwr cymwysterau Lloegr, a rheoleiddwyr eraill, rwy'n credu bod 10 y cant o drosiant corff dyfarnu yn y DU yn derfyn uchaf priodol ar gyfer cosb o'r fath. Nid yw'r terfyn uchaf hwn yn newydd, mae'n egwyddor hirsefydlog, a dyna oedd y terfyn uchaf pan ymgymerodd Llywodraeth Cymru â rheoleiddio cymwysterau cyn sefydlu Cymwysterau Cymru yn 2015.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn, Dirprwy Lywydd, i ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei gyfraniad defnyddiol i'r gwaith ar y rheoliadau hyn. Mae cosbau ariannol yn gosb sylweddol a fydd yn cael eu hystyried dim ond pan fydd camau eraill i atal neu, yn bwysig, i liniaru unrhyw effaith andwyol ar ddysgwyr wedi bod yn annigonol. Cyhyd â bod cyrff dyfarnu yn cydymffurfio ag anghenion rheoleiddio a diogelu buddiannau dysgwyr, ni ddylen nhw ystyried eu hunain fel bod mewn perygl o gael cosbau ariannol. Ac, felly, rwyf yn gofyn i Aelodau'r Siambr gymeradwyo'r rheoliadau hyn y prynhawn yma.  

17:15

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwyf yn atgoffa'r Siambr mai un o swyddogaethau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw craffu ar effeithiolrwydd  a gweithdrefn y broses gyfansoddiadol, sydd weithiau'n golygu nad yw'n hadroddiadau yr adroddiadau mwyaf cyffrous o reidrwydd, ond maen nhw'n berthnasol o ran y dull o graffu ar yr hyn sy'n ddeddfwriaeth bwysig.

Fe wnaethom ni ystyried y Rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 25 Mawrth ac  adrodd ar 28 Mawrth. Fe wnaethom ni ystyried ymateb y Llywodraeth ddoe. Fe nodwyd pwynt technegol gennym yn ymwneud â'r diffyg tryloywder posibl ynghylch y defnydd o'r gair 'mis' yn y rheoliadau. Er mai ystyr 'mis' yw'r ystyr a roddir yn Neddf Dehongli 1978—hynny yw, mis calendr—efallai na fydd hynny o ddefnydd mawr i lawer o ddarllenwyr y rheoliadau hyn. Ac mae'r adroddiad drafft yn nodi gohebiaeth rhwng y pwyllgor hwn a'r Cwnsler Cyffredinol y llynedd, pryd y cytunwyd y byddai defnyddio troednodiadau i ymhelaethu ar ystyr rhai termau  pwysig yn ddefnyddiol, ond nid oes defnydd o droednodiadau o'r fath yn y rheoliadau hyn, a allai fod wedi bod o gymorth o ran eglurder a thryloywder.

Yn ei hymateb, mae'r Llywodraeth yn nodi ei barn ynghylch pam nad ystyrir bod gwelliant i fynd i'r afael â'r pwynt technegol yn angenrheidiol. Mae'r cyntaf o'r tri phwynt o ran rhinweddau yn nodi bod y rheoliadau yn caniatáu i Gymwysterau Cymru osod cosbau ariannol, yn amodol ar gap ac yn ddarostyngedig i resymoldeb a chymesuredd. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ein hadroddiad ar Fil Cymwysterau Cymru ac mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil yn nodi y bydd y Cynulliad yn cael:

y cyfle i drafod a chraffu ar swm y gosb.

Fodd bynnag, mae'r rheoliadau yn rhoi disgresiwn eang i Gymwysterau Cymru ynglŷn â gosod cosbau ariannol, gan adael ychydig iawn i'r Cynulliad graffu arno o ran union lefel y cosbau hynny. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r sefyllfa yn Lloegr, lle y mae ystod disgresiwn Ofqual wedi'i nodi ar wyneb deddfwriaeth sylfaenol, ac nid mewn is-ddeddfwriaeth.

Yn ei hymateb, mae'r Llywodraeth yn nodi bod y rheoliadau yn adlewyrchu dewis o ran polisi, a bod y Cynulliad yn cael digon o gyfle i graffu ar y ffordd y bydd  cosbau yn cael eu gosod.

Mae'r ail a'r trydydd pwynt rhagoriaethau yn nodi pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ynghylch y potensial i Ofqual a Chymwysterau Cymru osod cosbau ariannol ar yr un sefydliad, a'r potensial ar gyfer dryswch ynghylch pa ffactorau y mae Cymwysterau Cymru yn debygol, neu y bydd, yn eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau cosb ariannol.

Mae ymateb y Llywodraeth yn nodi'r ail bwynt, ac mae'n nodi'n ddefnyddiol y bydd y memorandwm esboniadol yn cael ei ddiwygio i ateb ein trydydd pwynt rhagoriaethau.

Rwyf yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ond nid oeddwn yn bresennol pan wnaethpwyd yr ymchwiliad hwn, ond roeddwn i eisiau ychwanegu rhywbeth ato, am y ffigur hwn o 10 y cant sydd wedi'i gynnwys yn y rheoliadau, ynghylch sut y daethpwyd at y ffigur hwnnw. Nawr, clywais i chi, Gweinidog, pan ddywedasoch fod Ofqual wedi dweud bod hwn yn ffigur addas, ond nid wyf i'n ddim callach o hyd ynghylch pam mae Ofqual yn credu bod hwnnw'n ffigur rhesymol. Ac rwyf yn ei godi yn benodol oherwydd nad wyf i'n ymwybodol o unrhyw ymgynghoriad ar y ffigur penodol hwn nac, yn wir, unrhyw ddealltwriaeth o'r goblygiadau ymarferol a fyddai'n effeithio ar gorff nad oedd yn cydymffurfio â'r amodau a oedd yn caniatáu iddo fod yn gorff dyfarnu.

Ac os y cymeraf CBAC fel un enghraifft, er fy mod yn sylweddoli, wrth gwrs, y gellid effeithio ar gyrff eraill: eu trosiant y llynedd—ac nid wyf yn siŵr os yw hyn yn cynnwys treth ar werth, ond mae'n ffigur enghreifftiol da—oedd oddeutu £45 miliwn, pan oedd eu hincwm net neu eu helw oddeutu £2 miliwn, sef hanner hanner 10 y cant o'i drosiant. Felly, er fy mod yn cytuno y dylai terfyn uchaf y gosb fod yn eithaf llym, mae angen i'r gosb hefyd fod yn ymarferol er mwyn i rywun allu ei thalu. O dan yr amgylchiadau penodol hynny, mae'n anodd gweld sut y byddai corff yn yr amgylchiadau hynny yn gallu ei thalu.

Mae angen iddi hefyd fod yn gymesur â'r diffyg cydymffurfiad ac mae'n bwynt y mae Mick Antoniw eisoes wedi'i godi gyda chi, fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, oherwydd—beth allaf i ei ddweud—rwyf yn rhagweld adolygiad barnwrol o gwantwm unrhyw gosbau os na fydd Cymwysterau Cymru yn cael rhyw fath o ganllawiau i'w helpu i asesu beth sy'n 'briodol', oherwydd dyna yw'r gair yn y rheoliadau. Nid oes unrhyw ogwydd yn y rheoliadau penodol hyn, yn wahanol i'r rhai yn Lloegr, ac nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau cyfoes sydd yn cael eu llunio ar hyn o bryd nac sydd ar fin cael eu cyhoeddi. Nawr, os oes rhai, wrth gwrs, byddwn yn falch iawn o gael clywed amdanyn nhw.

Felly, er nad oes gennym ni unrhyw broblem o gwbl gydag adran 38 ei hun, na'r toriadau hyn o'r amodau—yn arbennig mewn amgylchedd pan fo'r gystadleuaeth yn brin iawn, mae'n rhaid rhwystro'r toriadau hynny—ond fel y mae'r rheoliadau ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod gennym ni ddigon o wybodaeth ar sut y daethpwyd i'r ffigur o 10 y cant o drosiant, ac nid oes gennym ychwaith unrhyw sicrwydd ynglŷn â sut y penderfynir bod cosbau is yn rhesymol ac yn gymesur. O dan yr amgylchiadau hynny, mae arnaf ofn na fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliad hwn.

17:20

Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddiolch i'r ddau aelod am eu cyfraniadau? Mae Suzy Davies, ar ran y Ceidwadwyr, yn dweud nad yw hi'n ymwybodol o unrhyw ymgynghoriad o ran y ffigur o 10 y cant. Wel, y llynedd cynhaliwyd ymgynghoriad ar y terfyn uchaf o 10 y cant o drosiant blynyddol corff dyfarnu yn y DU. Ac yn yr ymgynghoriad hwnnw, fe wnaethom hefyd geisio diffinio beth oedd trosiant yn ei olygu.

Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori rhwng mis Hydref 2018 a mis Ionawr 2019. Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio 104 o gyrff dyfarnu. Cafwyd 13 o ymatebion i'r ymgynghoriad, wyth ohonyn nhw gan y cyrff dyfarnu hynny. Felly, dyna wyth o 104 corff dyfarnu y mae Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda nhw a oedd yn teimlo bod angen iddyn nhw ymateb i'r ymgynghoriad. Gofynnodd yr Aelodau hefyd am y rhesymeg ynglŷn â'r 10 y cant. Cynigiwyd hyn am resymau cysondeb a thryloywder a pharhad ar draws system reoleiddio sy'n gweithio yng nghyd-destun Cymru a Lloegr.

Teimlodd rhai cyrff dyfarnu a ymatebodd i'r ymarfer ymgynghori y byddai modd gwahanu refeniw a gynhyrchir gan fusnes yng Nghymru, ac mae ystyriaeth wedi ei rhoi i'r materion hynny a pha un a ddylai'r 10 y cant gynnwys gweithgaredd a reoleiddir yn unig. Ond, wrth gwrs, mae'r cyrff hyn yn cynnal incwm nid yn unig o weithgaredd sydd wedi'i reoleiddio. Credaf ei bod yn ddefnyddiol bod yn gyson ag Ofqual a bod 10 y cant yn derfyn priodol. Mae'n swm sylweddol o arian i osod ar weithgaredd a reoleiddir. Ond gadewch i ni fod yn glir, mae hyn yn ymwneud â diogelu dysgwyr a sicrhau bod trefniadau diogelu o fewn ein system gymwysterau mor gadarn ag y gallant fod. Ni wnaf ymddiheuro am geisio amddiffyn buddiannau dysgwyr wrth sicrhau bod y pwerau hyn gan ein cyrff cymwysterau. Ar hyn o bryd, mae broses de minimis neu mae'r broses eithaf o ddad-gofrestru neu atal gweithgarwch rhywun. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni ddarparu ffordd ganol gyda chosbau, ond gallai fod yn ddifrifol. Ond fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, os bydd—[torri ar draws.]

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Gweinidog. Ie, nid wyf yn anghytuno â chi o gwbl y dylai fod gan Cymwysterau Cymru bwerau priodol yn hyn o beth, dim ond cyfeirio at y diffyg gwybodaeth a thystiolaeth i gefnogi'r ffigurau a ddewiswyd gennych oeddwn i. Er fy mod yn clywed yr hyn a ddywedwch am y cymhwyster yn Lloegr—mae'n ddrwg gennyf, dyna fy nghamgymeriad cynharach. Ofqual oedd ef—roeddwn i'n iawn, hwrê—nid yw hynny mewn gwirionedd yn dweud rhyw lawer wrthyf am weddill y sector cyhoeddus, lle y bydd toriadau cyffelyb o ran cydymffurfio rheolaethol hefyd yn dirwyn at gosbau, ond nid oes gennyf unrhyw syniad sut mae'r rhain yn cymharu â'r rheiny, er enghraifft.

Fy swydd i yw sicrhau bod cysondeb ar draws y sector cymwysterau a rheoliadau'r sector penodol hwnnw, ac rydym yn ceisio cynnal hynny drwy adlewyrchu'r sefyllfa ar draws y ffin yn Lloegr.

Mae'r Aelod, yn hollol iawn, yn codi pryderon am sut yn union y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol. Cyn gosod dirwy, mae'n rhaid i Gymwysterau Cymru gyflwyno hysbysiad i'r corff dyfarnu dan sylw, gan nodi'r rhesymau dros y bwriad a rhoi cyfle i'r corff gyflwyno sylwadau. Mae'n rhaid hefyd i Gymwysterau Cymru ystyried y sylwadau hyn, ac os bydd yn dal i fwriadu gosod cosb ariannol, mae'n rhaid iddo nodi'r rhesymau dros wneud hynny, gan gynnwys manylion am hawl y corff dyfarnu i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

Ceir tribiwnlys haen gyntaf a fydd ar waith i sicrhau bod rhwystrau a chydbwysau effeithiol o fewn y system, a bod rheoliadau'n nodi paramedrau cyffredinol cyfrifoldeb Cymwysterau Cymru fel rheoleiddiwr i osod lefel briodol o gosb ariannol sy'n gymesur.

Mae'n ddrwg gennyf glywed bod y Ceidwadwyr yn teimlo na allant gefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Credaf fod hyn yn cryfhau ein system gymwysterau ac yn rhoi pwerau priodol i'r corff annibynnol y mae'r Cynulliad hwn wedi penderfynu rhoi'r cyfrifoldeb am ein system gymwysterau iddo, ac rwyf yn cymeradwyo'r rheoliadau i'r Siambr.

17:25

Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru), a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gynnig y cynnig—Jeremy Miles.

Cynnig NDM7023 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser mawr gen i agor y drafodaeth heddiw ar Fil Deddfwriaeth (Cymru). Diben y Bil yw gwneud cyfraith Cymru’n fwy hygyrch, clir a syml i’w defnyddio. Mae’n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru a'i gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru gymryd camau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Ar un olwg, mae’r Bil hwn yn un technegol iawn, ac yn draddodiadol byddai Bil o’r fath yn cael ei ystyried efallai fel Bil i gyfreithwyr yn unig. Yn sicr, mae’r Bil yn cynnwys cyfres o reolau ac egwyddorion manwl ynghylch y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio a sut y dylid ei dehongli. Dydy hi ddim wastad yn amlwg pam fod y rheolau hyn yn berthnasol i’r dinesydd, ond mae’r rheolau a’r Bil yn fwy cyffredinol yn bwysig. Mae sawl rheswm am hyn.

Y cyntaf yw bod angen y rheolau pan fydd problemau yn codi. Eu pwrpas yw egluro ystyr rhai agweddau penodol o ddeddfwriaeth pan fo amwyster. Trwy ddeddfu am hyn unwaith, nid oes rhaid cymhlethu Deddfau eraill gyda’r un darpariaethau dro ar ôl tro. Yn ogystal, mae’r Bil yn gosod goblygiadau ar y Llywodraeth dros yr hirdymor i wella hygyrchedd y gyfraith yma yng Nghymru. Mae hwn yn rhywbeth rydym yn bwriadu ei wneud, ymhlith pethau eraill, drwy ddatblygu codau cynhwysfawr o’r gyfraith fesul pwnc. Mae ein hamcanion yn hyn o beth yn uchelgeisiol ac yn radical. Mae’n bwysig hefyd i werthfawrogi bod y Bil yn symbol o aeddfedrwydd ein deddfwrfa ac yn rhan o weledigaeth fwy eang ar gyfer llywodraethiant y genedl. Mae hyn yn cynnwys ehangu ei chymhwysedd i ddeddfu a datblygu awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig.

Hoffwn ddiolch yn fawr i’r rhanddeiliaid am eu cymorth drwy gydol y broses. Yn fwyaf diweddar am ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Diolch hefyd, wrth gwrs, i’r pwyllgor hwnnw ac i’r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau cynhwysfawr. Fe fyddaf yn ysgrifennu at y ddau bwyllgor yn ymateb yn fanwl i’w hadroddiadau, ond mi fyddaf hefyd yn trafod rhai o’u hargymhellion heddiw.

Un o argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol oedd, yn ystod dadl Cyfnod 1, y dylwn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol am hynt y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn i weithredu'r Bil. Mae hyn yn deillio o ohebiaeth a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, yr ymatebodd Prif Weinidog Cymru iddi ym mis Ionawr. Ailadroddodd Prif Weinidog Cymru ein barn bendant bod y Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol ym mhob agwedd ac mai effaith y Bil fyddai gwneud y gyfraith yng Nghymru yn fwy hygyrch.

Nid yw'r pryderon a fynegwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y gallai creu Deddf ychwanegol ynghylch y dehongliad o'r ddeddfwriaeth wneud y gyfraith yn llai yn hytrach na mwy hygyrch, yn ein barn ni, yn ystyried y ffaith y ceir Deddfau tebyg ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid ydyn nhw ychwaith yn llwyr werthfawrogi ein hawydd a'n hangen i wneud darpariaeth bwrpasol a dwyieithog ar gyfer Cymru. Nododd llythyr Prif Weinidog Cymru y byddem yn fodlon i swyddogion barhau i drafod unrhyw faterion cynhenus, ond nid ydym ni wedi cael ateb hyd yn hyn. Gofynnwyd imi hefyd gan y pwyllgor i roi esboniad clir yn ystod dadl Cyfnod 1 o'r hyn a olygir gan hygyrchedd cyfraith Cymru. Er mwyn i gyfraith Cymru fod yn hygyrch, mae angen iddi fod yn glir ac yn sicr ei heffaith, yn ogystal â bod ar gael ac yn hawdd i rywun lywio ei ffordd drwyddi. Mae angen i hyn fod yn wir nid yn unig o ran Deddfau unigol neu offerynnau statudol, ond hefyd, ar y cyd, pob rhan o'r gyfraith ar bwnc penodol a'r llyfr statud yn ei gyfanrwydd.

Mae pwysleisio 'ar y cyd' yn hanfodol. Mae deddfwriaeth fodern yng Nghymru a ledled y DU yn amlach na pheidio wedi ei drafftio'n dda ac yn gyffredinol bydd yn cynnwys mynegiant clir o'r newid yn y gyfraith dan sylw. Bydd y ddeddfwrfa yn craffu ar y deddfiad ac yn ddiweddarach bydd ar gael yn eang pan gaiff ei gyhoeddi ar-lein. Ynddo'i hun, byddai, felly, fel arfer yn gwbl hygyrch. Fodd bynnag, anaml y bydd deddfiad o'r fath yn sefyll ar ei ben ei hun, a pherthynas pob deddfiad â gweddill y llyfr statud sy'n gwneud deddfwriaeth yn anhygyrch. Y rheswm dros hyn yw bod y cysylltiadau rhwng un darn o ddeddfwriaeth a rhai eraill yn aneglur yn aml.

Mae gwneud deddfwriaeth yn hygyrch o bosib yn ymwneud yn gyntaf ag egluro cyd-destun unrhyw newid a wneir yn y gyfraith ac yna sicrhau bod pob cyfraith ar unrhyw bwnc penodol i'w gweld gyda'i gilydd. Wedi dweud hynny i gyd, mae'n gwestiwn goddrychol braidd pa un a yw'r gyfraith yn hygyrch ac nid yw ceisio diffinio'n union beth y mae'n ei olygu yn ei gwneud yn llai goddrychol. Mae'n bwysig cofio mai'r ddyletswydd yw gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Mae'n ymwneud ag arferion da, am wella'n barhaus, ac mewn gwirionedd ei wneud yn rhan o'n meddylfryd bob amser wrth ddatblygu cyfraith. Dyma un rheswm pam na allaf dderbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai'r Llywodraeth orfod, yn statudol, fynd y tu hwnt i'r ddyletswydd yn y Bil presennol ac ychwanegu dyletswydd i weithredu rhaglen hygyrchedd benodol.

Mae'r tasgau sy'n angenrheidiol i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch yn amlochrog, a gyda hynny mewn golwg, cytunaf â'r argymhelliad a wnaed y dylai mesurau anneddfwriaethol sydd â'r bwriad o hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru fod yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei wneud, nid yn rhywbeth y gall ei wneud.

Mae dau o argymhellion y pwyllgor yn ymwneud ag adrodd ar gynnydd, ac rwy'n falch o hysbysu Aelodau fy mod yn derbyn y ddau argymhelliad. Bydd hyn yn golygu y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn adrodd yn flynyddol ar gynnydd y rhaglenni i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Bydd hyn yn golygu y bydd pedwar adroddiad bob tymor, yn dilyn pob rhaglen a gyflwynir, a bod yn rhaid iddo ddigwydd o fewn chwe mis ar ôl penodi Prif Weinidog Cymru ar ôl etholiad cyffredinol. Yn rhan o'r broses adrodd honno, byddwn hefyd yn adolygu effeithiolrwydd Rhan 1 y Bil hanner ffordd drwy dymor nesaf y Cynulliad.

Yn olaf, roeddwn yn falch o weld na welodd y pwyllgor unrhyw reswm dros anghytuno â'm cynnig i ailddatgan adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n ymwneud â statws cyfartal cyfreithiol y testunau Cymraeg a Saesneg a darparu ar gyfer hynny yn y Bil hwn. Gan dybio y caiff egwyddorion cyffredinol y Bil eu pasio, byddaf yn cyflwyno gwelliant yn gwneud hynny yng Nghyfnod 2, ynghyd â nodyn esboniadol drafft.

17:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Llywydd, i orffen am y tro, hoffwn ddiolch eto i'r rhanddeiliaid, y pwyllgorau, ac i fy nghyd Aelodau am eu hagwedd bositif iawn tuag at y Bil hwn ac i'r bwriad mwy cyffredinol o fynd ati i ddatblygu llyfr statud i Gymru sydd yn fodern, yn drefnus, yn glir ac yn hygyrch. Mae'r Bil hwn yn gosod sylfaen, a dwi'n ymwybodol iawn bod gwaith caled o'n blaenau i adeiladu ar y sylfaen honno, ond mae'n bwysig i ni arwain y ffordd a gosod uchelgais ar gyfer y dyfodol. 

Rwy'n falch iawn bod y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol wedi argymell y dylid cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn gobeithio'n fawr y byddwch chi'n cytuno. Diolch yn fawr.

Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw. 

Wel, diolch, Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y dystiolaeth a'r sesiynau y bu ynddyn nhw a'r atebion manwl a oedd ganddo i'r cwestiynau amrywiol a holwyd yn ystod proses y darn pwysig iawn hwn o ddeddfwriaeth, sy'n garreg filltir ar y llwybr o ddatblygu llyfr statud i Gymru, o ddatblygu system ddeddfwriaethol i Gymru. Felly, nid yn unig bod angen mawr am y ddeddfwriaeth ond mae croeso mawr iddi hefyd.

Dechreuodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei waith o graffu ar Fil Deddfwriaeth (Cymru) fis Rhagfyr diwethaf, ac, yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ni i lywio ein gwaith. Drwy gydol mis Ionawr, clywsom dystiolaeth lafar gan nifer o randdeiliaid, ac rydym yn ddiolchgar i dîm allgymorth y Cynulliad hefyd am gyfweld â nifer o randdeiliaid ar ran y pwyllgor, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith.

Rydym ni'n gwneud nifer o argymhellion yn ein hadroddiad, a gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol sylw ar rai ohonyn nhw heddiw, ac rydym ni'n credu y byddant yn cryfhau'r ddeddfwriaeth a'r modd y caiff ei gweithredu. Rydym ni'n croesawu'r cynigion yn y Bil ac rydym ni'n credu y gallai o bosib gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o wella hygyrchedd cyfraith Cymru, er y byddaf yn gwneud rhai sylwadau ar y mater o hygyrchedd maes o law. Am y rheswm hwnnw, rydym ni'n argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, sef argymhelliad 2 o'n heiddo. Fodd bynnag, mae'n amlwg i ni fod yn rhaid i'r mesurau ychwanegol nad ydynt yn ddeddfwriaethol, megis sicrhau bod sylwadau cyfreithiol ar gyfraith Cymru ar gael ac addysgu'r cyhoedd ynghylch cyfraith Cymru, chwarae rhan ganolog wrth wella ei hygyrchedd, ac rwy'n cydnabod y cytundeb cyffredin, rwy'n credu, gan y Cwnsler Cyffredinol ar y pwyntiau hyn. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol egluro sut y byddwn yn gwneud mesurau anneddfwriaethol yn rhan ganolog o wella hygyrchedd cyfraith Cymru, sef argymhelliad 4 o'n heiddo. Ac, unwaith eto, croesawaf sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol ar hynny.

Gan droi at argymhelliad 6 o'n heiddo, fel darn o ddeddfwriaeth arloesol, bydd gwerthusiad cadarn ac amserol yn hanfodol i'w llwyddiant. Roedd argymhelliad 6 o'n heiddo yn dweud y dylai'r Cwnsler Cyffredinol ymrwymo i gynnal adolygiad o'r ddeddfwriaeth hanner ffordd drwy dymor cyntaf y Cynulliad ble daw'r ddeddfwriaeth i rym—hynny yw, erbyn 2023. Gan symud ymlaen, yn gyffredinol rydym ni'n fodlon ar y ddarpariaeth yn rhan 1 y Bil ynghylch hygyrchedd cyfraith Cymru. Fodd bynnag, rydym ni'n cytuno â'r safbwyntiau a fynegwyd gan rai rhanddeiliaid fod angen naratif cliriach ynghylch ystyr 'hygyrchedd Cyfraith Cymru'. Credwn y bydd hyn yn hanfodol o ran hwyluso gwerthusiad cadarn a thryloyw o lwyddiant Rhan 1 o'r Bil. O'r herwydd, roedd argymhelliad 7 o'n heiddo yn dweud y dylai'r Cwnsler Cyffredinol, yn ystod y ddadl hon yng Nghyfnod 1, roi esboniad cliriach o'r hyn a olygir gan 'hygyrchedd cyfraith Cymru', a chroesawaf y sylwadau gan y Cwnsler Cyffredinol ar hynny, sy'n cyfeirio at faterion eglurder ac argaeledd, gan gydnabod hefyd bod agwedd ehangach ar fater hygyrchedd sydd angen ei datblygu. Yn sicr, yn y pwyllgor, rwy'n credu mai ein hystyriaeth oedd hygyrchedd mewn cysyniad ychydig yn ehangach—hynny yw, nid yn unig eglurder ac argaeledd y gyfraith, ond hygyrchedd mewn termau ymarferol gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Roedd gennyf ddiddordeb—rwy'n crwydro braidd nawr—o ran y sylwadau a wnaethpwyd gan yr Arglwydd Simon ym 1949 yn ystod y Bil Cymorth a Chyngor Cyfreithiol. Gwnaed rhai sylwadau cadarnhaol iawn ar y pryd ynghylch beth oedd diben hygyrchedd, a dyma ddarllen un adran yma, lle y dywedodd:

Yn olaf, fe ddywedaf yr hyn yr wyf yn ei deimlo fwyaf—os ydym yn anelu at wir ddemocratiaeth yn y wlad hon, nid yw'n ddigon i frolio am iaith y Magna Carta; nid yw'n ddigon i ddweud bod ein Barnwyr yn ddiduedd; nid yw'n ddigon i ddweud y gall pobl ymddiried y caiff cyfraith Prydain ei gweinyddu yn deg. Os ydym ni eisiau gwneud y wlad hon yn ddemocratiaeth go iawn mae'n rhaid inni fynd ati i sicrhau bod yr egwyddorion hyn o gyfiawnder, diogelu ac unioni ar gael i bawb yn ddiwahan, ac nad yw hynny'n dibynnu ar ba un a ydynt yn bersonol yn gallu ei fforddio.

Credaf y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod pryder ehangach ynghylch hygyrchedd cyfraith, sy'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd yn ymdrin ag ef, a bydd rhaid i ni, y ddeddfwrfa, gyda'n cyfreithiau ein hunain a'n system gyfreithiol ein hunain, o ran hygyrchedd gwirioneddol y gyfraith—bydd rhaid i ni ymdrin â grymuso dinasyddion, sy'n ymddangos i mi yn rhan hanfodol o hynny.

Gan droi'n ôl at fy sgript, hoffwn droi at argymhelliad 8 o'n heiddo. O dan adran 2(1), bydd hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol baratoi rhaglen hygyrchedd. Rydym ni wedi argymell y dylen nhw hefyd fod o dan ddyletswydd i weithredu rhaglen o'r fath i sicrhau y caiff ei chyflawni. Rydym ni hefyd wedi argymell y dylid diwygio'r Bil fel y dylid cynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru yn ddyletswydd o dan adran 2(3), yn hytrach na bod yn ôl disgresiwn o dan adran 2(4), a dyna yw argymhelliad 9 o'n heiddo.

Mae argymhelliad 10 o'n heiddo yn nodi y dylid diwygio adran 2(7) o'r Bil fel ei bod hi'n ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol adrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed o dan raglen hygyrchedd. Credwn y byddai hyn yn rhoi cyfle i'r Cwnsler Cyffredinol nid yn unig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am weithgareddau arfaethedig, sy'n mynd rhagddynt yn dda, ond hefyd am y rhai hynny nad ydynt wedi neu na fyddant yn cael eu dwyn ymlaen, ac, yn dilyn cyflwyno adroddiad o'r fath, rydym yn rhagweld y byddem yn gwahodd y Cwnsler Cyffredinol i ddod i gyfarfod y pwyllgor pryd gellid ystyried a chraffu ar yr adroddiad. Ac rwy'n falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn prif fyrdwn yr argymhellion hyn: y pedwar adroddiad bob tymor ac adolygu effeithiolrwydd. Felly, mae croeso mawr i hynny. Byddai'r gwelliannau yr ydym ni'n eu hargymell i adran 2 y Bil, yn ein barn ni, yn sicrhau na fydd y camau beiddgar a gymerwyd gan y Llywodraeth bresennol tuag at gyflawni llyfr statud fwy hygyrch i Gymru, mewn unrhyw ffordd, yn cael eu lleihau yn y dyfodol.

Gan droi yn awr at gydgrynhoi a chyfundrefnu, mae croeso i gynlluniau'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer cydgrynhoi deddfau Cymru. Rydym yn cytuno y bydd deddfwriaeth sydd wedi'i chydgrynhoi nid yn unig yn helpu pobl Cymru i ddeall cyfraith Cymru, bydd hefyd yn helpu'r rhai sy'n trin y gyfraith. Fodd bynnag, credwn fod angen mynd i'r afael â'r ansicrwydd sy'n bodoli o ran cyfundrefnu. Rydym yn argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol gyhoeddi datganiad yn egluro ei gynigion a'i fwriadau o ran cyfundrefnu Cyfraith Cymru.

Gan symud ymlaen i ran 2 y Bil, yn gyffredinol rydym yn fodlon ar y darpariaethau yn rhan 2 y Bil ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, yn amodol ar ein pryderon a fynegir isod. Rydym yn credu bod y Bil wedi ei lunio'n briodol i'w ddiben. Serch hynny, oherwydd y perygl o greu dryswch, credwn y byddai'n fuddiol i werthuso effaith rhan 2 o'r Bil. Dylai'r gwerthusiad hwn fod yn rhan allweddol o'r adolygiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i'w gynnal. Ac, yn olaf, hoffwn gyfeirio'n fyr at ein casgliadau sy'n ymwneud â sut efallai y bydd y Bil yn cynnig cyfle i wneud darpariaeth ynghylch dehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Daethom i'r casgliad y dylai llysoedd fod yn gyfrifol am ddehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Mae'r  Cwnsler Cyffredinol wedi dweud wrthym ei fod yn ffafrio ailddatgan y ddarpariaeth o statws cyfartal yn adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn y Bil hwn, ac ni welwn ni unrhyw reswm inni anghytuno â'r dull hwn. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ddarparu rhagor o fanylion ac eglurder ynghylch ei gynnig i ailddatgan y ddarpariaeth honno. Rwy'n ddiolchgar am y sylwadau o ran y gwelliant arfaethedig, ond, o ran y geiriadur termau deddfwriaethol newydd a'r defnydd o'r Gymraeg o fewn hynny, credaf fod hynny'n arloesol; mae'n nodi cynnydd y sefydliad hwn fel deddfwrfa. Ac mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud cyfraniad sylweddol iawn ac mae'n garreg filltir bwysig iawn yn y cynnydd hwnnw. Diolch, Llywydd.

17:40

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl yma i amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch goblygiadau ariannol y Bil. Rŷn ni wedi gwneud pedwar argymhelliad, a dwi'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ystyried y rhain wrth i’r ddeddfwriaeth fynd yn ei blaen.

Fe drafododd y pwyllgor y Bil hwn nôl ym mis Ionawr, a, bryd hynny, o ystyried, wrth gwrs, yr ansicrwydd ynghylch Brexit, roedd gennym ni bryderon ynghylch amseriad y Bil, oherwydd y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio llawer o’i hadnoddau wrth fynd i’r afael â Brexit. Mae’r pryder hwn yn parhau, wrth gwrs, gan fod y dyddiad cau i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi’i ymestyn. Fodd bynnag, rŷn ni yn cefnogi nod y Bil o wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, yn fwy eglur ac yn fwy hylaw.

Rŷn ni'n deall bod y Bil wedi’i ddatblygu yn sgil nifer o ymchwiliadau, gan gynnwys adroddiad blaenorol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef 'Deddfu yng Nghymru', ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith, sef 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru', a oedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn arddel polisi o gydgrynhoi a chodeiddio’r gyfraith yng Nghymru. Fodd bynnag, rŷn ni yn pryderu bod adnoddau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn cael eu hymrwymo i’r Bil hwn ar adeg pan fydd angen adnoddau sylweddol i ymdrin â goblygiadau Brexit. Wedi dweud hynny, rŷn ni yn cydnabod y bydd gweithredu’r Bil hwn yn fuddiol iawn wrth ystyried unrhyw newidiadau deddfwriaethol a ddaw yn sgil Brexit. Awgrymodd adroddiad Comisiwn y Gyfraith y gellid cynhyrchu buddion gwerth £23.75 miliwn yn flynyddol. Byddai hyn yn deillio o arbedion gwerth dros £23.56 miliwn oherwydd y byddai ymarferwyr cyfreithiol yn gorfod treulio llai o amser yn gwneud gwaith ymchwil, ac mi fyddai arbedion amser gwerth £190,000 yn sgil cynyddu capasiti’r gymdeithas sifil nad yw’n rhan o’r proffesiwn cyfreithiol i gael mynediad at y gyfraith. Eto, er gwaethaf y buddion sylweddol a awgrymwyd, wnaeth Llywodraeth Cymru ddim cadarnhau’r dadansoddiad hwn, ac ni chafodd ei ddefnyddio fel rhan o ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r buddion yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.

Fe wnaethon ni glywed gan y Cwnsler Cyffredinol, er bod yr asesiad effaith gan Gomisiwn y Gyfraith yn cael ei ddefnyddio fel man cychwyn, mai’r prif gymhelliant ar gyfer y Bil hwn yw gwella cyfiawnder cymdeithasol drwy sicrhau y gall y cyhoedd gael mynediad rhwyddach at gyfraith Cymru. Rŷn ni'n derbyn nad arbedion cost yw’r prif reswm dros gyflwyno’r Bil. Fodd bynnag, mae arbedion effeithlonrwydd yn y system gyfreithiol yn cael eu nodi’n benodol fel un o’r buddion ac fel un o’r rhesymau dros gyflwyno’r Bil. Felly, mae'r argymhelliad cyntaf yn ein hadroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith i ddadansoddi a chostio’r arbedion effeithlonrwydd yn y Bil, a’i bod yn cynnwys y wybodaeth hon mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig.

Roedd y pwyllgor yn falch o weld bod y Bil yn cynnwys mecanweithiau adolygu i sicrhau bod amcanion y ddeddfwriaeth yn cael eu cyflawni yn unol â’r disgwyliadau. Rŷn ni wedi argymell y dylid ystyried goblygiadau cyflawni amcanion y Bil o ran adnoddau a chyllid i sicrhau gwerth am arian.

Mae’r costau mwyaf sylweddol sy’n gysylltiedig â’r Bil yn ymwneud â Rhan 1, sy’n gwneud darpariaeth i hyrwyddo hygyrchedd y cyfreithiau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru yn eu gwneud neu’n gallu eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys costau staff parhaus y cwnsleriaid deddfwriaethol a’r gwasanaethau cyfieithu sydd eu hangen i gyflawni’r rhaglen hygyrchedd, sef £588,000 y flwyddyn a bron i £3 miliwn dros bum mlynedd. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi cydnabod y bydd y gwaith hwn yn effeithio ar staff polisi eraill a chyfreithwyr yn Llywodraeth Cymru ac efallai y bydd costau i’r sector preifat o ran deall y gyfraith newydd, ac eto nid yw’r costau hyn wedi’u nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Felly, rŷn ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth ychwanegol am y goblygiadau ariannol o ran staff Llywodraeth Cymru a’r costau i gyrff eraill yn y sector preifat yn ei hasesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig.

Yn olaf, Llywydd, dim ond £5,000 sydd wedi’i nodi ar gyfer costau pontio i roi arweiniad i weithwyr proffesiynol ar effaith y Bil. Rŷn ni'n pryderu nad oes unrhyw weithgareddau eraill wedi’u nodi ar gyfer codi ymwybyddiaeth, a byddem wedi disgwyl y byddai’n rhaid cynnal rhagor o weithgareddau i ymgysylltu â’r cyhoedd i sicrhau’r buddion y mae Llywodraeth Cymru yn eu disgwyl. Credwn fod hyn yn arbennig o berthnasol ar adeg pan fo cymorth cyfreithiol yn cael ei dorri ac efallai y bydd rhagor o alw am fynediad at gyfreithiau Cymru gan y cyhoedd. Ein hargymhelliad terfynol, felly, yw y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth bellach am y ffordd y mae’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r Bil, o’i ddeddfu. Diolch.

17:45

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'i staff am y Bil drafft, a hefyd i fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? Rwy'n credu bod hwn wedi bod yn un o'r achlysuron hynny pan fo rhan ohonof yn dal yn dymuno fod gennyf ran o hyd mewn astudiaethau cyfreithiol a bod fy ymennydd yn dal yn ymdroi yn y byd hwnnw, oherwydd, fel pob un ohonom, rwy'n tybio, rwyf eisiau i'r gyfraith fod yn fwy hygyrch, ond pan rwyf yn ystyried beth mewn gwirionedd yw ystyr hynny, nid wyf yn siŵr fy mod i'n gwybod beth mae'n ei olygu. Rwy'n cymryd rhywfaint o gysur o'r ffaith ei bod hi'n ymddangos bod gwahaniaeth barn rhwng Aelodau eraill o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a hyd yn oed y Cwnsler Cyffredinol y tro hwn. Oherwydd byddwn ni'n cefnogi'r hyn a gredwn ni yw egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ar hyn o bryd, rydym ni eisiau rhoi cyfle i'r Cwnsler Cyffredinol ystyried sut y gellid newid y Bil drafft yn ystod ei hynt. Efallai bod cyfle yma i grisialu neu grynhoi beth yw eich dehongliad chi, Cwnsler Cyffredinol, o 'hygyrchedd'. Dyma ddiben craidd y statud hon, wedi'r cyfan.

Fodd bynnag, efallai y bydd Aelodau yn gwybod, clywsom dystiolaeth gan ymarferwyr ac academyddion a gynigiodd, fel y gwnaf fi a'm cyd-Aelodau, y syniad o greu llyfr statud i Gymru sy'n gweithio'n effeithlon—rhyw fath o siop un stop, os mynnwch chi. Ond nid oedd y dystiolaeth honno yn gyson, ac nid wyf yn credu bod yn rhaid inni fynd yn ôl 70 mlynedd, Mick, i sylwi ar y broblem honno. Gadewch i ni gymryd, er enghraifft, y cysyniad o gyfundrefnu yn gartref i'r siop-un-stop hon, ac rwy'n gwahodd Aelodau i ystyried beth y gallai hynny ei olygu. Mae'r memorandwm esboniadol—ac rwy'n credu y cafodd ei atgyfnerthu gennych chi heddiw, Cwnsler Cyffredinol—yn awgrymu bod cyfundrefnu yn broses sy'n dilyn cyfnod o gydgrynhoi deddfau presennol sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad, sy'n casglu hynny a chyfraith anghyfunol i mewn i fframwaith sy'n gallu ymdopi dros amser â diwygiadau a chyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd newydd, yn ogystal ag arweiniad mewn maes pwnc penodol.

Nid dyna oedd e'n ei olygu i rai o'n tystion. Yn wir, nid oedd yr Athro Thomas Watkin, yr ydym wedi dibynnu ar ei arsylwadau ar sawl achlysur yn y sefydliad hwn, yn siŵr beth oedd pen draw hyn. Roedd un tyst, a oedd yn siarad o safbwynt ymarferydd, yn meddwl amdani fel Deddf god, statud sylfaenol y bydd popeth arall yn llifo ohoni, deddfau presennol yn ffurfio penodau oddi tani, wedi eu cyfyngu drwy ddiwygio'r Rheolau Sefydlog. Felly, er y bydd camau eraill anneddfwriaethol i helpu ein hetholwyr ganfod a deall cyfreithiau presennol yng Nghymru—cyfeiriwyd at hyn yn rhai o'r argymhellion—rwy'n credu yr hoffwn i weld rhywfaint mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei olygu pan ddywed 'cyfundrefnu', hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod yn eglur ynglŷn â'r hyn nad ydyw, oherwydd er y dylai holl ddeddfwyr ymdrechu i wneud eu cyfreithiau yn gyfiawn, y gofyniad cyntaf yw rhoi sicrwydd. Rwy'n tynnu sylw Aelodau yn arbennig at argymhellion 7 ac 11 o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i bwysleisio'r pwynt hwnnw.

Mae'r memorandwm esboniadol yn dweud wrthym ni cyn cyfundrefnu mewn maes pwnc penodol, y dylai'r Llywodraeth gydgrynhoi deddfau presennol lle bynnag y bo hynny'n bosib, ac rwyf i ynghyd ag Aelodau eraill, wedi cwestiynnu, i ddweud y gwir, pam ein bod ni wedi colli cyfleoedd i wneud hyn gyda Biliau blaenorol y Cynulliad. Credaf y byddai hynny wedi rhoi cyfle inni brofi dulliau o oresgyn tair her ymarferol sy'n gynhenid i'r broses o gydgrynhoi. Y cyntaf o'r rheini, ac mae'n gyntaf cadarnhaol iawn, yw'r cyfle i ddefnyddio'r broses o ailddatgan y gyfraith i'w hail-greu yn gyfraith ddwyieithog. Pan fo'n ailddatgan gair am air gwirioneddol, fodd bynnag, a ydym ni'n sôn am gyfieithu'r gyfraith bresennol neu wneud cyfraith ddwyieithog newydd? Oherwydd, fel gobeithiaf bydd eraill yn sôn, byddem wedyn yn wynebu mater o ba un o'r Deddfau dehongli a ydym ni wedyn yn ei chymhwyso at hyn—pa un ai Deddf 1978, neu ran dehongli'r Ddeddf hon.

Yn ail, nid yw pob cyfraith bresennol o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei gwneud gan y Senedd hon. Fel rydym ni wedi gweld, mae corff sylweddol o'n deddfwriaeth Brexit eilaidd yn cael ei wneud gan Senedd y DU, ond rydym ni'n fwy cyfarwydd â hyn yn digwydd i ddeddfwriaeth sylfaenol. Os ydym ni am gynhyrchu llyfr statud effeithlon i Gymru, mae angen iddo gynnwys pob cyfraith sy'n berthnasol yng Nghymru, ni waeth pa senedd sydd wedi gwneud y gyfraith honno. Sut mae cydgrynhoi, sy'n wahanol i ddehongli, yn gweithio pan fo elfen o Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd mewn darn o ddeddfwriaeth bresennol?

Ac yna'n drydydd, mae'r memorandwm esboniadol yn rhagweld bod cydgrynhoi yn mynd ymhell y tu hwnt i dorri a gludo hen gyfraith yn unig, ac yn defnyddio termau mwy modern, yn setlo, efallai, ar ddiffiniadau unigol, a hyd yn oed yn diweddaru'r gyfraith bresennol. Er bod y Bil yn gwneud rhyw gyfeiriad at swyddogaeth y Cynulliad yn craffu ar ddeddfwriaeth eilaidd mewn dyfodol wedi'i gyfundrefnu, rwyf am godi pwynt gyda chi nawr, Cwnsler Cyffredinol, i'w ystyried yn y dyfodol, oherwydd bod hyn yn berthnasol i ddeddfwriaeth sylfaenol, yn ogystal â deddfwriaeth eilaidd. Rwy'n credu os yw Llywodraeth Cymru yn dymuno ailddatgan cyfraith a wnaed gan y Cynulliad hwn yn enw cydgrynhoi, mae'n rhaid inni graffu'n rhagweithiol ar yr ailddatganiad gyda chyfleuster i ddiwygio drafftiau Llywodraeth Cymru. Os bydd cyfundrefnu'n gofyn am newidiadau i Reolau Sefydlog y Cynulliad hwn, a awgrymwyd mewn tystiolaeth, ni all Llywodraeth Cymru fynnu na rhagdybio'r newidiadau hynny. Os yw Aelod yn cael ei ddewis mewn pleidlais ar gyfer Bil y meinciau cefn sy'n dod o fewn cymhwysedd y sefydliad hwn ni ellir caniatáu i Lywodraeth Cymru warafun ei chefnogaeth dim ond oherwydd nad yw'n cydfynd yn ddestlus â chod.

Felly, yn olaf, Llywydd, os, o ganlyniad bwriadol neu anfwriadol i'r Bil hwn y bydd y Cynulliad yn wynebu unrhyw gyfyngiad ar ei allu i basio unrhyw ddeddf o fewn ei gymhwysedd pwerau neilltuedig, ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei gefnogi, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni weithio gyda'n gilydd er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd y bydd hynny'n digwydd. Diolch

17:50

Mae'n bleser i gyfrannu i'r ddadl bwysig yma ar Fil Deddfwriaeth (Cymru). Gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei agoriad i'r ddadl yma? Wrth gwrs, yn naturiol, dŷn ni'n cytuno ac yn croesawu'r bwriad yn fan hyn fel plaid. Achos, beth dŷn ni'n sôn amdano fo? Wel, yn y bôn, dŷn ni'n sefyll mewn Senedd go iawn rŵan, sydd yn mynd i gael ei enwi fel Senedd cyn bo hir. Dŷn ni yn deddfu yn y Gymraeg ac, yn naturiol, dŷn ni hefyd yn codi trethi, felly mae'n amserol iawn ein bod ni'n edrych ar y ffordd dŷn ni, ar ddiwedd y dydd, yn deddfu—y ffordd o ddeddfu. Ac, wrth gwrs, fel eglurwyd eisoes, diben y Bil yma ydy gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i'w defnyddio. Wel, mae yna her yn fanna yn y lle cyntaf, achos wrth edrych ar sawl darn o ddeddfwriaeth, mae'n gallu bod yn hynod, hynod gymhleth, wedi'i ailadeiladu ac adeiladu dros y blynyddoedd, wrth gwrs, achos mae gyda ni gyfuniad, fel mae Suzy Davies wedi dweud, o ddeddfwriaeth Lloegr a Chymru, Cymru yn unig, ac wrth gwrs deddfwriaeth Cymru nawr sydd newydd gael ei chreu gennym ni yn fan hyn, a bydd yn parhau i gael ei chreu. Ac, wrth gwrs, mae'r her a'r cyffro, buaswn i'n fodlon dweud, o greu deddfwriaeth yn y Gymraeg, ac, wrth gwrs, yr her gyffrous o fod yn dehongli deddfwriaeth sydd wedi cael ei chreu yn y Gymraeg, achos fel bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, nid cyfieithiad syml ydy un iaith o unrhyw iaith arall. Mae'r mater o ddehongli'r ddeddfwriaeth yn dod mewn i hyn, ac, wrth gwrs, dyn ni'n sôn am gydraddoldeb y ddwy iaith yn fan hyn, sydd yn hynod bwysig. Dwi'n gallu gweld amser bendigedig pan fyddwn ni'n datblygu deddfwriaeth yn y Gymraeg a fydd yn cael ei dehongli efallai mewn ffordd ychydig bach yn wahanol, neu'r potensial i wneud hynny, yn y Saesneg, ac fel dŷn ni wedi clywed eisoes, bydd hi i fyny i'r llysoedd i ddatrys yr her yna. Ond dwi'n falch o gael y cyfle i siarad am ddeddfu yn ein gwlad, er, mae'n gallu bod yn gymhleth, ac, wrth gwrs, dŷn ni'n sôn am godeiddio, trio dod â phopeth yn yr union le.

Dŷn ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen. Mi fydd y Cwnsler Cyffredinol yn cofio Hywel Dda, yn naturiol. Y flwyddyn aur oedd 909, pan nid yn unig y cawsom ni gyfreithiau Hywel Dda, ond roedd o hefyd yn eu codeiddio nhw. Felly, dŷn ni wedi llwyddo i arloesi yng Nghymru fach tua 1,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyn i rywun arall feddwl am godau a chodeiddio, roedd Hywel wedi bod wrthi yn codeiddio draw fanna yn Hendy-gwyn ar Daf. Felly, adennill y tir dŷn ni mewn gwirionedd, ac, wedi dweud hynna, mae angen diffiniad ynglŷn â beth yn union dŷn ni'n ei olygu gan godeiddio, achos, fel dywedodd Suzy a Mick, dŷn ni wedi cael digon o drafodaeth oddi wrth sawl un o'n tystion ni ynglŷn â sut yn union mae codeiddio yn mynd i weithio, beth mae o'n ei olygu, yn yr un ffordd â beth yn union mae hygyrchedd yn ei olygu. Wrth gwrs, dŷn ni eisiau hygyrchedd i'r sawl sy'n ymdrin â'r gyfraith bob dydd o'r wythnos—hynny yw, yn cael eu talu i wneud hynny. Ond dŷn ni hefyd yn sôn yn ehangach yn fan hyn am angen hygyrchedd i'r dyn cyffredin yn y stryd a'r ddynes gyffredin yn y stryd—hygyrchedd i dderbyn a deall beth sydd yn mynd ymlaen, yn y bôn, achos mae hynna hefyd yn her, a ddim yn her sydd wastad yn amlwg i'r sawl sydd felly yn datblygu deddfwriaeth o'n blaenau ni.

Ond gan ei bod hi'n amser diddorol a dŷn ni'n creu ein Deddfau ni ein hunain yn fan hyn nawr, yn ddwyieithog, nawr ydy'r amser, fel dywedodd mwy nag un o'n tystion, i fynd i'r afael â'r heriau yma o hygyrchedd a chodeiddio, achos o hyn ymlaen mae eisiau disgwyl gweld bod pob cyfraith newydd yn cael ei chodeiddio, ac yn dod at ei gilydd, ac yn bod yn hygyrch a naturiol yn y ddwy iaith.

Felly, ie, dŷn ni'n cytuno fel plaid, a hefyd yn naturiol, efo argymhelliad 2, ac yn cytuno efo egwyddor y ddeddfwriaeth yma, a dŷn ni eisiau'i gweld hi'n camu ymlaen, ond hefyd mae eisiau gweld y manylion, ond dyw hynna ddim yn mynd i'n hatal ni rhag cefnogi'r bwriad. Diolch yn fawr.

17:55

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Rwyf wedi mwynhau rhai o'r trafodaethau cysyniadol yn arbennig, ond rwy'n credu y caiff mesur llwyddiant, neu aflwyddiant y Bil, ei deimlo yn modd y caiff ei ofynion eu cymhwyso'n ymarferol i fywydau dinasyddion yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelodau, gan ddechrau gyda chyfraniad Mick Antoniw. Rwy'n falch o'i glywed yn ail ddatgan yr hyn yr wyf i yn ei ddeall sef bod y pwyllgor yn argymell y dylid cytuno ar yr egwyddorion. Siaradodd am bwysigrwydd nid yn unig hygyrchedd y gyfraith, ond mynediad at y gyfraith yn fwy cyffredinol. Rwy'n cefnogi'r amcan hwnnw'n llwyr. Mae'n un o'r uchelgeisiau sy'n ysgogi'r Bil. Ydy, mae'r ddadl ynghylch atebolrwydd democrataidd yn bwysig iawn, ond yr un mor bwysig, ac yn fy marn i sbardun allweddol y Bil, yw'r ddadl am gyfiawnder cymdeithasol. Mae'n ddyletswydd ar lywodraethau a deddfwrfeydd i wneud y gyfraith yn hygyrch ym mywydau dinasyddion, yn enwedig ar adeg pan fyddant yn ei chael hi'n fwy anodd yn gynyddol i droi at gynrychiolaeth gyfreithiol, fel y gwyddom ni.

Cyfeiriodd at nifer o argymhellion. I ymdrin â rhai pwyntiau yn ymwneud ag argymhelliad 4, fe fydd rhaglen waith yn ymwneud â hygyrchedd yn fwy cyffredinol, yn datblygu rhagor o sylwadau, yn datblygu gwefan Cyfraith Cymru, a'r rhestr termau yn y Gymraeg.

Gwnaeth sawl llefarydd sôn am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Wrth gwrs, fe wnaethon ni gael argymhelliad oddi wrth y comisiynydd ynglŷn â sut i ddarparu ar gyfer pobl yn gweithio yn y maes, a sicrhau bod digon o bobl yn dod drwy'r system i allu sicrhau bod cyfreithwyr sy'n rhugl yn y Gymraeg yn gallu gweithredu mewn system ddwyieithog yn y dyfodol. 

Fe siaradodd Mick a Suzy Davies—ac, yn wir, Dai Lloyd—am bwysigrwydd deall beth yw ystyr cyfundrefnu. Mae wedi ei amlinellu yn y memorandwm esboniadol, ond i atgoffa pobl: nid yw'n weithred o gyhoeddi, nid yw'n weithred o gyd-leoli mân ddarnau o ddeddfwriaeth, mae'n weithred o gydgrynhoi'r gyfraith sy'n ymddangos mewn rhannau gwahanol o'r llyfr statud er mwyn iddi ymddangos mewn ffurf ffres, mewn un lle, ac yna ei gwarchod gan Reolau Sefydlog y Cynulliad, gan y byddai'r Cynulliad efallai yn dymuno gwneud hynny yn y dyfodol.

I ymdrin â'r pwynt pwysig a gododd Suzy Davies—y pryder, mae'n debyg, y gellid defnyddio hyn, mewn ffordd, i  rwystro deddfwriaeth a gyflwynir—rwy'n eich sicrhau chi nad dyna'r achos. Nid diben y ddeddfwriaeth hon yw dweud wrthym ni beth yw'r gyfraith ond yn hytrach dweud wrthym ni lle i ddod o hyd i'r ddeddfwriaeth. Felly, ni fydd yn atal diwygio, bydd yn dweud wrthych lle ceir y diwygiad hwnnw yn y llyfr statud. Dyna'r diben. Nid yw'n atal newid cyfraith, mae'n ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd iddi. Felly, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw.

Roedd y Pwyllgor Cyllid, fel y nododd Llyr Gruffydd, wedi mynegi amheuon ynghylch ymrwymo adnoddau ar gyfer y Bil pan fo cymaint o ansicrwydd ynghylch Brexit, ond mae anhygyrchedd y gyfraith yn broblem sy'n bodoli ers tro byd, a bydd angen gweithredu ynghylch hynny dros y tymor hir. Ac mae'n faes, efallai, lle—ar draws y byd, mae hwn yn faes sydd wedi cael ei blagio gan feddwl yn y tymor byr, yn hytrach nag yn y tymor hir.

Bydd Brexit hefyd yn cynyddu'r broblem o gymhlethdod yn y gyfraith. Rydym ni wedi clywed sylwadau gan y Goruchaf Lys i'r perwyl hwn—pryderon ynghylch gwahanol elfennau o'r gyfraith yn ymddangos mewn mannau gwahanol—ac felly mae proses Brexit yn gwneud y dasg, yr her i wneud cyfraith yn fwy hygyrch yn anoddach ac yn her i'w chyflawni ar frys.

Fe wnaeth Llyr Gruffydd hefyd sôn am ffigurau Comisiwn y Gyfraith. Dŷn ni ddim wedi dewis arwain ar y symiau hynny. Maen nhw'n bwysig o ran dangos maint a dangos syniad o scale, ond dwi ddim fy hun yn credu ei bod hi'n hawdd i wneud dadansoddiad gwyddonol o'r ffigurau hynny. Er enghraifft, asesu'r impact ar unrhyw gyfreithiwr o weithredu'r Ddeddf hon, neu un o'r Deddfau a allai gael ei chreu o dan y Ddeddf hon—dyw'r dasg honno ddim yn dasg sy'n benthyg ei hunan yn hawdd. 

O ran costau ymwybyddiaeth—a gwnaeth Llyr Gruffydd sôn am hynny hefyd—o ran ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, rwy'n credu, efallai, fod y dasg honno'n fwy perthnasol pan fydd Deddfau penodol yn dod allan o dan ymbarél y Ddeddf hon, os galla i ddefnyddio'r term hwnnw. Bydd y Ddeddf hon yn llwyddo drwy newid y gyfraith a newid effaith y gyfraith ym mywydau pob dydd pobl, yn hytrach, efallai, na bod pobl yn deall beth yw termau a chynnwys y Mesur penodol hwn.

Mae gwella hygyrchedd yn brosiect tymor hir, ond, fel y nodais yn gynharach, mae hynny yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth ein bod yn ymgymryd â'r dasg. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu sylwadau i'r ddadl, am eu cefnogaeth i hynt y Bil i Gyfnod 2, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wrth iddyn nhw barhau i graffu ar y Bil. Diolch yn fawr.

18:00

Y cwesiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Deddfwriaeth (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yn ffurfiol. 

Cynnig NDM7024 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch. 

11. Cyfnod Pleidleisio

Dwi'n symud at y bleidlais gyntaf, sef y bleidlais ar Reoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig.

NDM7026 - Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:05.