Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

17/04/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Lynne Neagle. 

Tlodi Plant

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru? OAQ51981

Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i ddull Llywodraeth gyfan o fynd i'r afael â thlodi plant ac rydym ni'n cymryd camau i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ac mae ein strategaeth tlodi plant yn nodi ein hamcanion a'n polisi.

Mae adroddiad newydd gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru yn amcangyfrif y gallai fod 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi erbyn 2021 oherwydd diwygiadau lles y Llywodraeth Dorïaidd. O ystyried yr heriau yr ydym yn eu hwynebu o ran mynd i'r afael â thlodi plant a'r pryder mawr a fynegwyd ynghylch y penderfyniad i roi terfyn ar y grant gwisg ysgol yng Nghymru, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried hyn eto, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru gymryd camau brys hefyd i sicrhau bod ei chanllawiau o 2011, y bwriadwyd iddynt sicrhau bod gwisgoedd ysgol yn fforddiadwy i deuluoedd, yn cael eu cryfhau a'u gweithredu'n briodol ledled Cymru?

A gaf i roi'r sicrwydd i'r Aelod y bydd cynllun ar waith yn y flwyddyn academaidd nesaf sy'n ehangach na'r grant gwisg ysgol presennol? Bydd hwnnw o gymorth enfawr i lawer iawn o rieni a llawer iawn o blant, a bwriedir i'r broses o symud ymlaen i'r system newydd honno fod yn ddi-dor.

Prif Weinidog, a ydych chi o leiaf yn croesawu'r gostyngiad o 100,000 i nifer y plant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi absoliwt ers 2010, ac a ydych chi'n derbyn bod y cap ar fudd-daliadau wedi cael yr effaith fwyaf yn Llundain, a oedd â 90 y cant o hawliadau budd-dal tai yn uwch nag £20,000 yn hytrach nag yng Nghymru, ac a wnewch chi roi clod am bron i ddyblu'r lwfans di-dreth ers 2010 am ei swyddogaeth yn y broses o helpu llawer o deuluoedd llai cefnog? 

Gadewch i mi ddweud fy mod i'n gresynu'r toriadau enfawr i gyllid cyhoeddus yr ydym ni wedi eu gweld ers 2010 gan y Llywodraeth Geidwadol, y cil-dwrn a roddwyd i Ogledd Iwerddon o £1 biliwn ar gyfer iechyd ac addysg, er na chafodd Cymru ddim byd o gwbl, y ffaith fod cynifer o blant wedi dioddef o ganlyniad i feichiau fel y dreth ystafell wely, fel incwm eu teuluoedd, incwm eu rhieni, ddim yn mynd i fyny, ddim yn cael eu cefnogi. Ni all neb yn y Siambr hon gredu o ddifrif bod y Torïaid yn poeni am dlodi plant, na bod gwelliant wedi bod i lefelau tlodi yng Nghymru dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Mae'r ffigurau hynny a gyhoeddwyd yn gynharach wedi fy ngwylltio'n gacwn, ac mae llawer o'r ffactorau cyfrannol hynny y tu allan i'ch rheolaeth. Ond mae'r grant gwisg ysgol yn rhywbeth sydd o fewn eich rheolaeth. Nawr, tra'r oedd y Cynulliad ar doriad, ac ar yr un pryd ag y cafodd eich rhaglen wrthdlodi flaenllaw, y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ei dirwyn i ben, clywsom eich bod yn bwriadu torri'r grant gwisg ysgol gan £700,000, sy'n swm cymharol fach o arian yn y cyd-destun. Mae'n grant sy'n helpu rhai o'r teuluoedd tlotaf i gael mynediad at addysg. Er eich bod yn barod i dorri'r swm hwn o arian, mae'n edrych yn bitw, Prif Weinidog. Pa asesiad ydych chi wedi ei wneud ynglŷn â'r mater o dlodi plant ac effaith y newid hwn ar dlodi plant, ac a wnewch chi gytuno i ysgrifennu at benaethiaid ysgolion i ofyn iddyn nhw ganiatáu i ddisgyblion wisgo eitemau gwisg ysgol heb logo er mwyn ceisio lliniaru rhywfaint o effaith y toriad hwn i'r grant gwisg ysgol?

A gaf i roi sicrwydd i arweinydd Plaid Cymru bod yr Ysgrifennydd dros Addysg yn y broses, fel y dywedais, o geisio cyflwyno gwell grant a fydd yn diwallu anghenion teuluoedd yn well, rhywbeth sy'n cynorthwyo gwell mynediad at weithgareddau cwricwlwm a chyfleoedd dysgu a allai gael ei gwadu i ddysgwyr fel arall oherwydd y gost? Mae nifer o gynghorau eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw'n parhau i redeg y cynllun gwisg ysgol blwyddyn 7, neu redeg cynlluniau tebyg, yn 2018-19. Er bod y grant gwisg ysgol yn sicr o gymorth i deuluoedd, roedd hefyd yn anhyblyg oherwydd na ellid defnyddio'r arian heblaw am ar gyfer gwisgoedd ysgol yn unig, a gwn y bydd yr hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflwyno ym mis Medi yn gynllun sy'n ehangach na hwnnw ac yn ceisio helpu teuluoedd incwm isel gyda chymaint o gostau addysg.

Lladd-dai Annibynnol

2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ladd-dai annibynnol yng Nghymru? OAQ51983

Yn fuan, byddwn yn lansio pecyn cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd gwerth £1.1 miliwn o gymorth grant yn benodol i helpu lladd-dai bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Bydd hynny'n galluogi busnesau o'r fath, sy'n aml mewn ardaloedd anghysbell, i fuddsoddi mewn cystadleurwydd, a hefyd i sicrhau eu cydnerthedd ac, wrth gwrs, i wneud yn siŵr eu bod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Diolchaf i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Rwy'n gobeithio ein bod ni i gyd eisiau gweld safonau uchel o les anifeiliaid yn ein lladd-dai, ac mae hynny, wrth gwrs, yn wir am ladd-dai annibynnol hefyd. Gwn fod yr un yn fy etholaeth i yn falch iawn o'r modd parchus y maen nhw'n trin anifeiliaid. Rwy'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn dal i ystyried teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, ac mae'n ymddangos nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto. A gaf i ofyn pa gymorth ariannol penodol y byddwch chi'n ei gynnig i ladd-dai, a lladd-dai annibynnol yn benodol, ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad yn hynny o beth?

13:35

Wel, dyna y gellir defnyddio'r grant hwn ar ei gyfer. Yr hyn na wnawn ni ei wneud yw gorfodi teledu cylch cyfyng cyn bod lladd-dai yng Nghymru yn barod. Yn Lloegr, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod bod hyn yn symud ymlaen ar sail orfodol. Rydym ni eisiau i ladd-dai Cymru fod yn gwbl barod. Nid ydym yn ei ddiystyru, ond, ar hyn o bryd, yr hyn sy'n hynod bwysig yw bod cymorth i ladd-dai fod yn barod, os mai dyna'r cyfeiriad y byddwn ni'n ei ddilyn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pan ddigwyddodd datganoli ym 1999, dywedasom bryd hynny bod pethau'n mynd i fod yn wahanol, bod gwleidyddiaeth yn mynd i fod yn wahanol. Y bore yma, ysgrifennodd eich Llywodraeth, a chi yn benodol, lythyr at y Llywydd yn nodi eich bod yn bwriadu ceisio dyfarniad cyfreithiol gan y llys i atal dadl yn y Siambr hon rhag cael ei chynnal yfory. Yr unig le y gallwn ni ddod o hyd i unrhyw gymariaethau tebyg yw gwlad yr Aifft, lle mae'r weithrediaeth yn ceisio atal y ddeddfwrfa rhag dadlau a thrafod a phleidleisio ar gynnig sy'n dod ger ei bron yr ystyrir ei fod yn gymwys. Pam ydych chi'n ceisio tawelu'r Cynulliad?

Wel, mae arweinydd yr wrthblaid yn anghywir. Nid oes unrhyw rym i atal dadl rhag cael ei chynnal yn y Siambr hon mewn gwirionedd, ac eithrio'r hyn sydd yn nwylo'r Llywydd. Nid dyna y mae'r llythyr yn ymwneud ag ef.

Fel y deallaf, Prif Weinidog, o'r lythyr a anfonwyd gennych chi at y Llywydd, mae'n ymddangos eich bod yn ystyried eich hun y tu allan i gwmpas darpariaeth Llywodraeth Cymru, ac felly nid ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi eich rhwymo gan y darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru, a dyna beth y byddwch chi'n gofyn am ddyfarniad gan y llys arno os byddwch yn dilyn y llwybr hwnnw. Mae hynny, i bob pwrpas, yn eich rhoi chi uwchlaw'r gyfraith, os cymerwch chi eich dehongliad i'r eithaf, gan eich bod yn dweud bod eich Gweinidogion wedi eu rhwymo gan y darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru, ond nad ydych chi eich hun. Nawr, does bosib, Prif Weinidog, na ddylech chi ganiatáu i'r ddadl hon gael ei chynnal yfory, caniatáu'r ddadl, oherwydd ystyrir ei bod yn gymwys—mae ar y papur trefn—ac rwyf yn gofyn am gadarnhad gennych chi heddiw na fyddwch chi'n ceisio ymyrryd ac atal y ddadl hon rhag cael ei chynnal brynhawn yfory.

Nid oes gen i unrhyw rym i ymyrryd i atal y ddadl rhag cael ei chynnal; mater i'r Llywydd yw hynny. Ac mae arweinydd yr wrthblaid hefyd yn camarwain y Cynulliad yn anfwriadol pan ei fod yn honni mai effaith adran 37, fel yr ydym yn ei dehongli, yw rhoi'r Prif Weinidog y tu hwnt i'r gyfraith. Nid yw'n gwneud hynny. Y dehongliad yr ydym ni'n ei wneud o adran 37 yw ei bod yn berthnasol i Weinidogion Cymru yn benodol ac nid i swyddogaethau'r Prif Weinidog. Nawr, mae hwnnw'n fater sy'n hynod bwysig yn y gyfraith—mae'n eithriadol o bwysig. Nawr, os oes anghydfod ynghylch rhywbeth o ran y gyfraith, mae'n gwbl briodol y dylid ceisio cael eglurhad ynghylch sut y mae'r gyfraith yn gweithredu. Ni allwn weithredu mewn ffordd ffwrdd â hi; Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni eglurder ar gyfer y Llywodraeth ac, yn wir, ar gyfer y Cynulliad.

Prif Weinidog, chredais i erioed y byddwn i'n sefyll yn y Siambr hon ac yn ein canfod yn dadlau'r mathau hyn o bwyntiau, neu'n trafod y mathau hyn o bwyntiau, lle'r ydych chi—chi— fel y Prif Weinidog, oherwydd eich llofnod chi sydd ar waelod y llythyr hwnnw, yn ceisio atal dadl rhag cael ei chynnal yfory gan eich bod chi eisiau ceisio dyfarniad y llys i atal hynny rhag digwydd. Nawr, rydych chi wedi dweud dro ar ôl tro mai'r Ysgrifennydd Parhaol sy'n gyfrifol am sylwedd y ddadl yfory, sef adroddiad yr ymchwiliad i ddatgeliadau answyddogol, ac mai ei chyfrifoldeb hi yw penderfynu ar ba un a ddylai'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi. Pam ydych chi'n ymyrryd nawr i geisio atal yr adroddiad hwnnw rhag cael ei gyhoeddi? Oherwydd, pe byddai'r adroddiad hwnnw yn cael ei gyhoeddi ac y gallai pobl ffurfio barn, gyda'r golygiadau priodol, sef yr hyn yr ydym wedi galw amdano yn y cynnig yfory, i guddio manylion adnabod unrhyw dystion sy'n dymuno i'r manylion hynny gael eu diogelu, gallai pobl ffurfio barn ar yr adroddiad hwnnw. Yn hytrach, heddiw—y diwrnod cyntaf yn ôl ar ôl toriad y Pasg—rydym ni'n edrych arnoch chi fel Prif Weinidog, sydd wedi anfon llythyr at y Llywydd, yn ceisio tawelu'r Cynulliad. Mae honno'r ffordd anghywir i sicrhau democratiaeth yma yng Nghymru.

Mae'n camarwain y Cynulliad i awgrymu bod y grym gennym ni i atal y Llywydd rhag caniatáu dadl. Nid dyna'r sefyllfa yn y fan yma. Nawr, gadewch i mi egluro beth yw'r sefyllfa mewn gwirionedd—. [Torri ar draws.]

Diolch, Llywydd. Yn gyntaf oll, nid wyf yn ofni'r ymchwiliad i'r datgeliadau answyddogol o gwbl; fi wnaeth ei orchymyn. Ac mae'n rhywbeth nad oeddwn i o dan unrhyw—ni chafodd ei orfodi arnaf, roedd yn rhywbeth y gwnes i fwrw ymlaen ag ef a gall yr Aelodau weld y casgliad. Ceir materion cyfreithiol llawer ehangach yn y fan yma sy'n codi o ganlyniad i weithrediad adran 37. Mae'n werth i mi archwilio hynny'n fanwl gyda'r Aelodau. Nawr, yn gyntaf oll, cafwyd trafodaethau gyda'r Llywydd. Nid yw'n wir bod hyn yn ddirybudd. Nid yw'n rhywbeth y byddwn yn dewis ei wneud, mae'n rhaid i mi ddweud, pe byddai dewisiadau eraill ar gael, ond mae'n rhaid i ni ddiogelu sefyllfa uwch aelod o staff Llywodraeth Cymru a fyddai, pe byddai'r cynnig yn cael ei basio, mewn perygl o gael ei herlyn. Mae hwn yn fater difrifol—mater cyfreithiol difrifol iawn—ac mae'n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr bod camau yn cael eu cymryd i'w diogelu. Ond mae'n mynd y tu hwnt i hynny.

Mae adran 37 wedi ei ddiffinio mor eang, a heb fwy o eglurder—[Torri ar draws.] Wel, pe byddai'r Aelod yn dymuno gwrando'n ofalus, efallai y byddai'n dysgu rhywbeth. Iawn? Mae adran 37 wedi ei ddiffinio mor eang, a cheir cymaint o ddiffyg eglurder iddi, y gallai fod yn bosibl cyhoeddi unrhyw ddogfen o unrhyw fath sydd o dan reolaeth Gweinidog, neu gyflogai Llywodraeth Cymru—unrhyw ddogfen—ni waeth a oedd wedi ei chynnwys o dan eithriad Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ni waeth a oedd wedi ei chynnwys o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, ni waeth a allai dogfen fod yn enllibus, ni waeth a allai'r ddogfen gynnwys manylion diogelwch cenedlaethol. Nawr, rwy'n meddu ar ddogfennau a roddir i mi fel Prif Weinidog sy'n ymdrin â diogelwch cenedlaethol. O dan y dehongliad sydd gennym ni ar hyn o bryd, byddai modd cyhoeddi'r rheini—byddai modd cyhoeddi'r rheini. [Torri ar draws.] Wel, mae'n wir; nid oes unrhyw eglurder ynglŷn â hyn.

Yn ail—[Torri ar draws.]

13:40

Yn ail, nid yw dogfennau sy'n fasnachol gyfrinachol, o dan y dehongliad a'r diffyg eglurder sydd gennym ni nawr, yn destun cyfrinachedd mwyach. Mae'n golygu y gallai fod yn bosibl cyhoeddi unrhyw ddogfen— cais tender er enghraifft, dogfen fasnachol gyfrinachol—heb eglurhad pellach. Dyna wirionedd y sefyllfa heb eglurhad pellach. [Torri ar draws.] Os nad yw'r Aelodau eisiau gwrando—. Rwy'n ceisio cyflwyno achos rhesymol yma iddyn nhw. Os nad ydyn nhw eisiau gwrando, mater iddyn nhw yw hynny.

Yn bwysicach, pe byddai chwythwr chwiban yn cysylltu â Gweinidog gyda honiad difrifol ar sail cyfrinachedd, a bod dogfen yn cael ei chreu o ganlyniad i hynny, nid oes unrhyw sicrwydd o gyfrinachedd heb eglurhad pellach mwyach. Nid oes unrhyw sicrwydd. Ni allaf roi, fel Prif Weinidog, unrhyw sicrwydd o gyfrinachedd i unrhyw un, ac ni all unrhyw Weinidog Cymru arall ychwaith, tan i'r mater hwn gael ei egluro—tan i'r mater hwn gael ei egluro. Mae hefyd yn golygu nad yw unrhyw berson sy'n llunio dogfen yn gyfrinachol, neu sy'n rhoi tystiolaeth yn gyfrinachol i unrhyw ymchwiliad, yn gallu cael sicrwydd llwyr o gyfrinachedd erbyn hyn. Dyna pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa.

Nawr, sut gellir datrys hyn? Sut gellir datrys hyn? Wel, mae tair ffordd o'i ddatrys. Yn gyntaf oll, newid i'r gyfraith—adran 37. Ni allwn wneud hynny. Mae adran 37 wedi'i drafftio yn eithriadol o wael ac nid oes neb yn gwadu hynny. Ni allwn wneud dim am hynny. Yn ail—nid fy newis cyntaf—yw'r i'r mater gael ei benderfynu yn y llysoedd trwy gyfrwng datganiad. Nid dyna'r ffordd y byddwn yn dymuno ymdrin â hyn. Mae'n rhaid i ni warchod ein sefyllfa fel Llywodraeth. Y drydedd ffordd o wneud hyn yw i brotocol gael ei ddatblygu, fel sy'n digwydd ym mhob Senedd arall—datblygu protocol—er mwyn i'r Aelodau ddeall beth fyddai'n briodol a pha ddogfennau y byddai modd eu cyhoeddi yn y dyfodol. Dyna'n union sy'n digwydd yn San Steffan. Nid oes unrhyw reswm pam na all hyn ddigwydd yn y Cynulliad.

Felly, ailadroddaf y cynnig yr ydym ni eisoes wedi ei wneud i'r Comisiwn, ac rydym ni'n ei wneud yn ddidwyll, sef nad yw dadl yfory yn sensitif o ran amser ac nid wyf yn argymell canslo'r ddadl—nid wyf yn dadlau o blaid diddymu'r ddadl—ond ceir cyfle i'r ddadl honno gael ei chynnal yn y dyfodol. Yr hyn sy'n amlwg yn y fan yma yw bod materion cyfreithiol a chyfansoddiadol difrifol sydd wedi codi y mae angen eu datrys, a'r ffordd i'w datrys, does bosib, yw i hyn gael ei wneud yn gweithio gyda'r Comisiwn i ddatblygu protocol i roi mwy o eglurder i'r Aelodau. Gwnaf y cynnig hwnnw i'r Comisiwn ac, yn wir, i chithau, Llywydd, i ymdrin â'r mater hwn mewn ffordd sy'n osgoi'r angen am gamau cyfreithiol.

Y broblem yw bod hynna'n swnio fel bygythiad, Prif Weinidog, ac nid yw'r cwestiynau ynghylch bod yn agored a thryloyw yn mynd i ddiflannu. Maen nhw wrth union wraidd democratiaeth, ac os oes cymaint o broblemau gyda Deddf Cymru, pam mai dim ond nawr y maen nhw wedi eu darganfod? Y materion hyn, byddwn yn dychwelyd atyn nhw, ond hoffwn eich holi am fater Syria.

A yw'r Prif Weinidog yn cefnogi ymyrraeth filwrol yn Syria?

Cefais alwad ffôn am hanner nos fore Sadwrn gan Downing Street. Derbyniais friff gan y Prif Weinidog. Roedd yn eglur beth oedd y camau'n mynd i fod. Eglurais wrthi fy mhryder fy mod i'n ofni y byddai sifiliaid yn cael eu hanafu, o ystyried y mosaig cymhleth a geir ar lawr gwlad yn Syria. Nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd. Ond fy mhryder i, ac fe'i mynegwyd iddi ar y pryd—. Roeddwn i'n bryderus iawn na fyddai'n bosibl gweithredu heb anafu sifiliaid ac roedd hynny'n rhywbeth yr oeddwn i eisiau ei osgoi.

Mae fy mhlaid i wedi ymrwymo i wrthwynebu'r cyrchoedd awyr symbolaidd hyn, dan arweiniad America, a hoffwn atgoffa'r Prif Weinidog mai anaml y bydd y ffordd i heddwch yn cael ei hadeiladu drwy arfau rhyfel. Nawr, mae'r effeithiolrwydd o ran atal dioddefaint yn Syria ymhell o fod yn eglur. Mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi dweud na fwriadwyd i'r cyrchoedd hyn newid trywydd y rhyfel yn Syria a rhoi terfyn ar ddioddefaint pobl Syria. Heb i un bleidlais gael ei bwrw yn y Senedd hon, yn San Steffan, nac yn unrhyw le arall, roedd y Prif Weinidog yn gyflym iawn i ddangos ei gefnogaeth i'r cyrchoedd awyr hynny. Felly, a all ef ddweud wrth y Cynulliad hwn nawr: a yw e'n credu y dylai San Steffan allu dechrau rhyfeloedd heb unrhyw gymeradwyaeth seneddol?

13:45

Wel, nid yw'n rhyfel, oherwydd mae'r uchelfraint hwnnw'n perthyn i'r Frenhines. Mae yn weithredu milwrol; mae hynny'n wir. Wel, mae cynsail ar ei gyfer. Gofynnodd David Cameron am bleidlais yn y Senedd, a mater i'r Prif Weinidog presennol yw esbonio i ni pam nad oedd pleidlais y tro hwn. Ceir peryglon mawr yma. Mae Syria yn gymhleth. Nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i y bu ymosodiad cemegol, ac mae unrhyw beth sy'n cael gwared ar y gallu i gynnal ymosodiad o'r fath yn y dyfodol yn rhywbeth y byddwn i'n ei gefnogi. Yr hyn y byddwn yn amheus iawn yn ei gylch fyddai cyflymu neu gynyddu gweithredu milwrol yn Syria, a fyddai'n arwain, yn fy marn i, yn anochel at anafiadau i sifiliaid, ac, wrth gwrs, a fyddai'n hwb i bropaganda'r gwledydd hynny sydd eisoes yn Syria ac sydd ag achos i'w ateb eu hunain am yr hyn y maen nhw'n ei wneud.

Ond mae'r risg honno yno nawr, onid yw?

Felly i mi nid yw'n gwestiwn o fomio yn Irac ac yna bomio yn Syria—nid wyf i'n gweld llawer o wahaniaeth.

Dyna oedd geiriau hunanfodlon y Prif Weinidog pan gododd y posibilrwydd o ollwng bomiau Prydeinig ar Syria gyntaf yn ôl yn 2015. Cefnogodd ymgyrchoedd bomio yn Syria bryd hynny, ac mae'n eu cefnogi nhw nawr. Ddoe, cwestiynwyd cyfreithlondeb, moesoldeb ac effeithiolrwydd y cyrchoedd gan fos Llafur y Prif Weinidog yn Llundain. A oes gan y Prif Weinidog yr un pryderon, neu a yw'n cadw at ei sylwadau yn cefnogi Prif Weinidog y DU a'i chyrchoedd awyr er budd cenedlaethol Prydain?

Wel, yn gyntaf, nid oes gen i unrhyw reswm i amau cadernid y cyngor cyfreithiol. O ran moesoldeb—wel, rydym ni'n sôn yma am ymosodiad cemegol a ddigwyddodd ar sifiliaid diamddiffyn, ac os yw ymosodiad yn golygu nad yw'r gallu i ailadrodd hynny yn bodoli mwyach, yna, byddwn, byddwn yn cefnogi hynny. Byddwn, mi fyddwn yn cefnogi hynny.

Y trydydd pwynt, felly, yw effeithiolrwydd—wel, amser a ddengys. Amser a ddengys. Yr hyn na fyddwn yn ei gefnogi fyddai unrhyw gamau milwrol a fyddai'n peryglu bywydau sifiliaid. Mae hynny'n fantais propaganda i wledydd eraill—hwb propaganda.

Ond bu ymosodiad cemegol gan weithrediaeth Assad; rwyf wedi fy argyhoeddi o hynny. Yn ail, rwy'n credu mai bwriad lansio'r taflegrau hyn oedd lleihau neu gael gwared ar y gallu i gynnal ymosodiad cemegol yn y dyfodol. Does bosib nad yw hynny'n rhywbeth y dylid ei groesawu er mwyn atal yr ymosodiadau hynny rhag digwydd yn y dyfodol. Ond o ran cynyddu gweithredu milwrol, na, nid oes unrhyw beryglon mawr o hynny.

Wrth i mi wrando ar ar ymateb troellog, mewn iaith gyfreithiol y Prif Weinidog i arweinydd yr wrthblaid yn gynharach, cefais fy atgoffa o reol gyntaf Denis Healy am dyllau, sef pan eich bod chi mewn un, y peth gorau i'w wneud yw rhoi'r gorau i balu. Mae mater Watergate yn gymhariaeth ryngwladol arall â'r sefyllfa yr ymddengys bod y Prif Weinidog yn canfod ei hun ynddi heddiw. Bydd yn cofio nad y lladrad oedd pen y daith i Richard Nixon, ond yr ymgais i'w gelu. Yn yr achos hwnnw, dywedodd yr Arlywydd nad yw'n anghyfreithlon pan fo'r Arlywydd yn ei wneud. A yw'r Prif Weinidog wir eisiau cael ei gofio mewn hanes fel 'Tricky Dicky' gwleidyddiaeth Cymru?

Wel, dyma'r gŵr sy'n amddiffyn Enoch Powell. Dyma'r gŵr sy'n amddiffyn Enoch Powell, ac mae'n ceisio pregethu i ni am foesoldeb. 'Edrychwch yn ofalus arnoch chi eich hun' yw fy ymateb i hynny. Nid oes unrhyw un yn awgrymu bod unrhyw un uwchlaw'r gyfraith, ond byddai gen i ddiddordeb mewn cael gwybod a oes unrhyw beth a ddywedais y mae e'n anghytuno ag ef.

Wel, pe bawn i'n gwnsler, Llywydd, mewn unrhyw achos cyfreithiol a allai gael ei ddwyn, byddwn i'n darparu dadl gyfreithiol drosto, ond mae'r is-adran y mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio ati yn datgan, o ran swyddogaethau Gweinidogion—neu, yn hytrach, mae'r llythyr yn datgan bod yn rhaid i adran 37, o ran swyddogaethau Gweinidogion, nodi swyddogaeth sy'n arferadwy gan y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru ar y cyd. Os yw'r swyddogaeth dan sylw yn arferadwy gan y Prif Weinidog yn unig, nid yw adran 37 yn berthnasol. Felly, yr hyn y mae'n ei ddweud i bob pwrpas yw os mai Gweinidogion Cymru gyda'i gilydd sydd dan sylw, gellir craffu arnynt, yn y modd y mae adran 37 yn ei ddarparu, ond os mai'r Prif Weinidog ar ei ben ei hun sydd dan sylw, ni ellir gwneud hynny. Mae'n ymddangos bod hwnna'n ddehongliad rhyfedd iawn o adran eglur iawn.

13:50

Wel, mae'n rhyfedd iawn bod rhywun sy'n sefyll yn y fan yma yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog bob wythnos, ac wedi methu ychydig iawn ohonynt, yn awgrymu fy mod i'n ofn craffu rywsut. Ond y gyfraith yw'r gyfraith, ac mae'n rhaid cymhwyso'r gyfraith. Nawr, ceir gwahaniaeth o ran dehongliad. Ceir dwy ffordd o ddatrys y dehongliad hwnnw, un ohonynt fyddai'r ffordd y byddwn i'n ei ffafrio, ac yr wyf i eisoes wedi ei hamlinellu, ac mae'r llall yn fwy ffurfiol, ond rwy'n credu bod ffordd o ddatrys hyn er mwyn rhoi mwy o dryloywder i'r Aelodau ac i roi i'r Llywodraeth y math o gysur sydd ei angen arni. Gofynnaf i Aelodau yn y Siambr hon, a gofynnaf i'r gwahanol bleidiau yn y Siambr hon: pe byddech chi mewn sefyllfa lle rhoddwyd dogfennau i chi yn gyfrinachol cyn canfod eich hun yn wynebu pleidlais yn mynnu y dylid cyflwyno'r dogfennau hynny, beth fyddai eich ymateb? Rydych chi eisiau bod mewn Llywodraeth; rhowch eich hun yn sefyllfa rhywun sy'n arwain Llywodraeth. Mae'n bwysig dros ben bod eglurder yn hyn o beth, a gellir datblygu'r eglurder hwnnw rwy'n gobeithio, gan weithio gyda'r Comisiwn a'r Llywydd yn y dyfodol.

Wel, rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog hefyd yn ymwybodol o is-adran (6) o adran 37, sy'n dweud, os bydd y Cynulliad yn pasio cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno dogfen, caiff y Prif Weinidog neu'r Llywodraeth roi cyfarwyddyd i gyfarwyddo'r person y mae'r gofyniad hwnnw'n berthnasol iddo i beidio â chydymffurfio ag ef. Byddai hynny, wrth gwrs, yn rhoi'r Llywodraeth mewn sefyllfa annifyr iawn, ond byddai'n amddiffyn rhag y canlyniadau cyfreithiol, yr oedd y Prif Weinidog yn eu hamlinellu yn gynharach. Byddai'n ymddangos yn ganlyniad rhyfedd iawn unwaith eto, o ran yr hyn a ddywedodd am sut y byddai hyn yn torri cyfrinachedd masnachol, o bosibl, a goblygiadau ehangach yr hyn y mae hyn i fod i'w beryglu, pe byddai modd celu unrhyw beth yr oedd y Prif Weinidog yn ymdrin ag ef neu y gellid atal ei gyhoeddiad, ond bod unrhyw beth y mae unrhyw Weinidog arall yn ei wneud yn hollol agored i graffu, pa un a fyddai hynny mewn llys, yn llys barn y cyhoedd neu yn y Cynulliad democrataidd hwn, sy'n cynrychioli holl bobl Cymru.

Ceir dau fater: yn gyntaf, pa un a yw swyddogaethau'r Prif Weinidog yn rhan o weithrediad adran 37 mewn gwirionedd, ac, yn ail, y bocs Pandora ehangach sydd wedi ei agor erbyn hyn, sef pa ddogfennau y mae modd eu cyhoeddi o dan adran 37. Os oes modd cyhoeddi'r holl ddogfennau, ni allaf weld sut y gall Llywodraeth barhau, yn blwmp ac yn blaen. Mae cynddrwg â hynny. Mae'n rhaid cael rhyw derfyn, siawns. Mae gweithrediad y Ddeddf Diogelu Data, gweithrediad y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth—. Gwn nad yw'r Torïaid wedi meddwl mor bell â hyn, ond gweithrediad y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth—ni fyddent yn berthnasol. Ni fyddent yn berthnasol yn yr—. Mae'n rhaid cael rhyw derfyn i hyn.

Ar hyn o bryd, ni all y Llywodraeth roi sicrwydd o gyfrinachedd i neb, ac mae hwnnw'n ddehongliad na allwn ni ei dderbyn, yn amlwg. Mae o fudd i bawb gael yr eglurder hwnnw. Yn ail, darllenodd ran gyntaf yr is-adran yn unig—is-adran (6). Ydy, mae'n bosibl rhoi cyfarwyddyd nad oes angen i'r person hwnnw gydymffurfio â'r hysbysiad, ond mae'n rhaid nodi unigolyn arall wedyn y mae'n rhaid iddo gydymffurfio â'r hysbysiad. Nid yw'n ddisgresiwn absoliwt. Felly, cymerwch olwg ar ail ran yr adran, a bydd yn rhoi syniad da i chi o sut y mae'r is-adran yn gweithio. Ydy, mae'n bosibl cyfarwyddo'r person hwnnw i beidio â chydymffurfio, ond mae'n rhaid rhoi rhywun arall yn ei le. Felly, mewn gwirionedd, nid yw'r disgresiwn mor absoliwt ag y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio.

Plant a Phobl Ifanc yng Ngorllewin Clwyd

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yng Ngorllewin Clwyd? OAQ51967

Gwnaf. Rydym ni'n darparu cymorth cyffredinol a phenodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan eu galluogi i wireddu eu llawn botensial. Mae hyn yn cynnwys gwell gofal cymdeithasol, gofal plant, addysg, chwarae, gwasanaethau ieuenctid a chymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Prif Weinidog, yn gyffredin â rhannau eraill o Gymru, mae plant yn fy etholaeth i hefyd wedi cael eu heffeithio gan ddiddymiad y grant gwisg ysgol. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a awgrymwyd gennych oedd yn mynd i ddigwydd, h.y. y bydd grant olynol, ond, wrth gwrs, diddymwyd y grant presennol hwn, sydd wedi ei ddiddymu erbyn hyn, heb unrhyw ymgynghori o gwbl â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys grwpiau rhieni, ac ni fu ymgynghori ychwaith, fel y deallaf, gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. O dderbyn bod hynny'n wir, a gaf i hefyd ofyn sut y mae hynny'n dangos cydymffurfiad â'r asesiadau effaith hawliau plant y mae'n rhaid i chi fel Llywodraeth ei cynnal wrth wneud penderfyniadau o'r math hwn?

Ble oedd yr ymgynghoriad ar y dreth ystafell wely? Ble oedd yr ymgynghoriad ar y taliad annibyniaeth personol? Ble oedd yr ymgynghoriad ar lanastr y credyd cynhwysol? Dim byd o gwbl. Nid wyf yn fodlon cymryd pregeth gan y Blaid Geidwadol ynglŷn ag ymgynghori. Nhw yw'r blaid fwyaf gyfrinachgar mewn Llywodraeth a gynhyrchwyd erioed. Ond gofynnodd y cwestiwn am yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r grant gwisg ysgol. Rwyf i eisoes wedi dweud wrtho y bydd rhywbeth gwell ar waith mewn da bryd ar gyfer mis Medi.

13:55

Ai dyna'r cwbl? Efallai eu bod nhw'n wael dros ben. Ond nid ydych chi wedi ateb y cwestiwn, Prif Weinidog, felly efallai y gallwn i ofyn a wnaiff y Prif Weinidog ateb y cwestiwn.

Fe wnes i ei ateb yn y cwestiwn atodol i gwestiwn 1—yn eglur iawn yn fy marn i.

Darparu Gorsaf Bws yng Nghanol Dinas Caerdydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gorsaf bws yng nghanol dinas Caerdydd? OAQ52011

Gwnaf. Yr orsaf fysiau newydd fydd un o'r prosiectau seilwaith cyntaf—[Torri ar draws.]

Yr orsaf fysiau newydd fydd un o'r prosiectau seilwaith cyntaf a weithredir gan is-gwmni Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau eleni, a bydd y prosiect yn paratoi'r ffordd ar gyfer canolfan drafnidiaeth gwbl integredig ac amlfodd wrth graidd y system fetro newydd.

Ie, diolch am yr ateb yna. Rwy'n credu mai canolfan drafnidiaeth yw'r hyn sydd ei angen arnom ni, ac rwy'n credu mai rhan hanfodol o hynny fydd darparu gorsaf goetsys yn rhan o'r cynlluniau cyffredinol ar gyfer y Sgwâr Canolog. A oes gennym ni unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd y bydd gorsaf goetsys newydd yn rhan o'r prosiect terfynol?

Bydd hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid ei archwilio yn rhan o'r prosiect ei hun. Ar hyn o bryd, mae'r coetsys yn dod i mewn i Erddi Sophia, os cofiaf yn iawn. Ond, yn amlwg, byddem yn dymuno symud i sefyllfa lle mae'r ganolfan drafnidiaeth yn gwbl integredig o ran pob math o drafnidiaeth.

Rwy'n credu bod llawer ohonom ni'n ddryslyd iawn ynghylch pa un ai dyma'r orsaf goetsys, neu a yw'n cynnwys bysiau lleol hefyd? Oherwydd, fel y deallaf, mae'r angen i drafnidiaeth leol gael ei chanoli yn yr orsaf drenau yn wirioneddol bwysig, lle'r oedd yr orsaf ganolog yn arfer bod, ac roedd yn rhan o'r cynllun y byddai'r orsaf fysiau yn cael ei hailgynllunio ac yn rhan o'r prosiect newydd, cyffrous hwn. Yn wir, dewiswyd y penseiri Foster and Partners i ddylunio'r cam diwethaf hwnnw i gynnwys gorsaf fysiau ar gyfer Bws Caerdydd. Felly, beth sy'n digwydd? A yw hyn yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano ar hyn o bryd, neu a yw hyn yn llithro i brosiect arall yn llwyr?

Na. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei ddarparu yw integreiddio di-dor rhwng trenau, bysiau, coetsys a'r metro, a darparu mynediad hawdd i feicwyr a cherddwyr. Mae hynny'n bwysig—gwn fod yr Aelod dros Lanelli yn edrych arnaf wrth i mi ddweud hynny—felly'r bwriad yw darparu canolfan sydd mor integredig â phosibl.

Mae trigolion Caerdydd wedi bod yn aros am dros ddegawd am orsaf newydd ac mae hwn yn dod yn fater sydd wir yn gwneud i bobl deimlo'n ddig iawn. Y llynedd, fe'm hysbyswyd gan Rightacres y byddai datblygiad yr orsaf fysiau yn digwydd ym mis Ionawr eleni. Yn amlwg, nid oes unrhyw beth wedi digwydd eto. Rwy'n eich clywed chi'n dweud ei fod yn mynd i ddigwydd eleni nawr. Rwy'n pryderu'n fawr am yr oedi cyson a'r ffordd y mae hyn yn gwneud pobl yn sinigaidd ynghylch ein hawydd i ddarparu gorsaf fysiau sy'n hanfodol i iechyd a llesiant yr holl gyfleusterau siopa yng nghanol y ddinas yn y dyfodol. Yn sicr nid ydym eisiau i bobl gyrraedd mewn ceir oherwydd y broblem llygredd aer. Cawsom ni ddyluniad Foster rhagorol. Llywodraeth Cymru yw'r lesddeiliad erbyn hyn, ac rydych chi'n mynd i fod yn penderfynu ar y dyluniad. Beth sydd o'i le ar y dyluniad Foster? Onid yw'n bosibl bwrw ymlaen â'r rhan gyntaf ohono tra eich bod chi'n aros am eich tenantiaid newydd yn y man uwchben yr orsaf fysiau? Ond mae angen gorsaf fysiau arnom yn sicr, oherwydd nid yw pobl yn gwybod ar hyn o bryd ble mae'n rhaid iddyn nhw fynd i ddal eu bws, ac mae mwy na degawd wedi mynd heibio. Felly, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw eglurhad o'r hyn sy'n mynd i ddigwydd.

Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd rhawiau yn y ddaear ym mis Mehefin. Dyna'r cynllun er mwyn symud hyn ymlaen, a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn canol 2021.

Y Grant Gwisg Ysgol

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y grant gwisg ysgol? OAQ52013

Wel, dyna'r un cwestiwn ag o'r blaen. Dyna fe. Rŷm ni'n edrych ar opsiynau i gyflwyno gwell grant sy'n fwy addas i anghenion teuluoedd, gan gynnwys cyfleoedd na fyddai dysgwyr o bosib yn eu cael fel arall o achos y gost.

Ond a allech chi felly gadarnhau na fydd yna doriad yn y gyllideb sydd ar gael—yr elfen o arian sydd ar gael—i gefnogi prynu dillad ysgol? Oherwydd ymateb y llefarydd o ran y Llywodraeth i'r cerydd yn dilyn y cyhoeddiad oedd bod gwisg ysgol yn rhatach erbyn hyn. Wel, mae gen i brofiad—mae o leiaf ddwy ysgol uwchradd yn fy rhanbarth i wedi symud i wisgoedd ysgol newydd na allwch chi eu prynu mewn archfarchnadoedd. Maen nhw'n mynnu eich bod chi'n eu prynu nhw drwy ddarparwyr penodol, sydd fawr rhatach o gymharu â gwisgoedd ysgol dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae hynny'n ddadl ffals. Yr hyn sydd ei angen nawr yw sicrwydd na fydd yna grebachu yn y swm ariannol a fydd ar gael yn benodol ar gyfer gwisgoedd ysgol wrth symud ymlaen.

14:00

Nid hynny yw'r nod. Y nod yw sicrhau mwy o hyblygrwydd er mwyn sicrhau bod system grantiau gyda ni sydd yn fwy hyblyg er mwyn delio â phethau fel rhoi cyfleon i blant sydd yn dysgu, rhoi cyfleon iddyn nhw efallai i fynd ar dripiau ysgol, ac edrych ar system grantiau sydd yn llai cul na'r system sydd yna ar hyn o bryd. 

Gadewch i ni roi cynnig arall arni. Ar ôl gwneud y cyhoeddiad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru bod prisiau gwisg ysgol wedi gostwng. Galwodd Sefydliad Bevan hyn yn gyfiawnhad wenieithus o doriad a fydd yn arbed swm bach. Dywedodd pennaeth ysgol ym Mangor fod gwisg ysgol yn ffordd o osgoi stigma cymdeithasol gan fod yr holl ddisgyblion yn edrych yr un fath. Roedd yn feirniadol iawn o'r hyn a alwodd yn goelcerth y grantiau sy'n effeithio ar rai o'r plant ysgol mwyaf agored i niwed. Dywedodd cynghorydd Ceidwadol ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod y cam yn ddideimlad ac y byddai'n taro'r teuluoedd tlotaf galetaf. Gofynnwyd i chi'n eglur nawr a fyddech chi'n diogelu'r cyllid, felly a gaf i ofyn i chi, bydd neu na fydd, hyd yn oed os na wnewch chi ateb a wnewch chi ddiogelu'r cyllid, a fydd pob disgybl blwyddyn 7 sy'n cael prydau ysgol am ddim yn dal i fod yn gymwys ar gyfer grant gwisg ysgol?

Wel, yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yw gwneud hynny a mwy. Mae ein hymrwymiad i'r disgyblion mwyaf difreintiedig yno i bawb ei weld. Rydym ni wedi ei gynyddu i £93.7 miliwn trwy wariant y grant amddifadedd disgyblion. Yn ogystal ag eitemau gwisg ysgol, rydym ni hefyd yn edrych o bosibl ar gost teithiau ysgol, deunydd ysgrifennu, gweithgareddau allgyrsiol, lluniau ysgol, costau cyfarpar neu adnoddau. Ond gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn ymwybodol er bod costau gwisg ysgol yn is, i'r mwyafrif o ysgolion, erbyn hyn, ceir ysgolion penodol nad ydynt yn gwneud digon i gadw costau i lawr o hyd. Mae hi'n ystyried a oes rhinwedd i roi canllawiau cyfredol ar gyfer gwisg ysgol ar sail statudol.

Gwybodaeth a Gedwir gan Lywodraeth Cymru

6. Sut y mae'r Prif Weinidog yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru? OAQ51975

Mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn yr egwyddorion o fod yn agored mewn Llywodraeth ers blynyddoedd lawer. Rydym ni'n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol fel Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958, diogelu data a rhyddid gwybodaeth. Rydym ni hefyd yn weithgar o ran yr agenda data agored a'r agenda Llywodraeth agored ehangach.

O ganlyniad i'ch ffrae gydag Adam Price yn ystod CPW ar 30 Ionawr, sylweddolais os oedd eich Llywodraeth yn ceisio manylion gohebiaeth rhwng Adam Price a bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda, yna efallai y byddech chi wedi gofyn yr un cwestiynau amdanaf i. Yn wir, hyd y gwn i, efallai eich bod chi'n casglu gwybodaeth am ohebiaeth holl Aelodau'r gwrthbleidiau gyda chyrff sector cyhoeddus. Ac felly, cyflwynais gais mynediad i'ch Llywodraeth ar 31 Ionawr; 37 diwrnod yn ddiweddarach, gofynnwyd i mi am eglurhad, ac fe'i rhoddais; ac ar 15 Mawrth, gofynnwyd i mi am eglurhad pellach—i'r hyn sy'n gwestiwn syml iawn yn y bôn, Prif Weinidog—ac fe'i rhoddais.  Nid wyf i wedi clywed dim. Yn y cyfamser, cyflwynodd newyddiadurwr lleol gais rhyddid gwybodaeth i'r Bwrdd Iechyd gan dderbyn yr ateb hwn:

Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn cadarnhau bod y cais am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a wnaed ar 26 Ionawr 2018 yn ymwneud ag Adam Price AC yn wreiddiol. Fodd bynnag, wrth gydnabod y wybodaeth a anfonwyd gan y BIP ar yr un dyddiad, gofynnodd Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth am weithgareddau ymgysylltu yn ymwneud ag ASau ac ACau eraill.

Felly, mae newyddiadurwr lleol yn darganfod gan y bwrdd iechyd bod fy ngohebiaeth i wedi cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru, ond mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi'r wybodaeth honno i mi eu hunan, er gwaethaf fy hawl i ofyn hyn. [Torri ar draws.]

Ni allaf glywed Angela Burns gan fod ei chyd-Aelodau yn gweiddi ar ei thraws. Angela Burns.

Diolch. Fy mhwynt, Llywydd, yw y gall newyddiadurwr lleol wneud cais rhyddid gwybodaeth i'r bwrdd iechyd a chael yn union yr un wybodaeth a gyflwynais gais mynediad pwnc i'ch Llywodraeth amdano ddiwedd mis Ionawr, ac nid wyf wedi derbyn dim byd o gwbl o hyd. Felly, ni all Aelod Cynulliad gael yr wybodaeth gennych chi, y gall newyddiadurwr ei chael gan y bwrdd iechyd. Nid yw eich Llywodraeth yn dryloyw, nid yw'n atebol, ac mae'n gwneud i mi ofyn, 'Beth ydych chi'n ei guddio?'

Yn gyntaf oll, mae cais rhyddid gwybodaeth yn gwbl ar wahân i gais Deddf Diogelu Data 1998, gan fod y ceisiadau mynediad pwnc yn llawer ehangach. Maen nhw'n siŵr o fod. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae Darren Millar yn eistedd yn y fan yna yn llond ei esgidiau, yn gweiddi 'gwarthus', beth mae e'n ei feddwl sy'n digwydd yn San Steffan? Dyma'n union sy'n digwydd yn San Steffan. Mae Theresa May, pan fydd hi'n derbyn briffiau, yn—[Torri ar draws.]

14:05

Theresa May a Gweinidogion eraill—. Mae Theresa May a Gweinidogion eraill yn derbyn briffiau ar fuddiant Aelod mewn cwestiwn. Mae hynny'n arferol. Gwnaeth Gweinidogion Plaid Cymru, fel y bydd Simon Thomas yn gallu dweud wrthych chi, yn union yr un fath pan oedden nhw mewn Llywodraeth. Nid oes dim byd sinistr amdano. Pan fydd Aelod yn gofyn cwestiwn, mae'n eithaf arferol i waith ymchwil gael ei wneud ar yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud amdano, ac efallai pa ohebiaeth a fu er mwyn i'r Gweinidogion ateb y cwestiwn yn briodol. Dyna'r cyfan sy'n digwydd fyth. Mae'n union yr un sefyllfa ag sydd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer—yr holl amser ers 1999, gan gynnwys i aelodau Plaid Cymru. Nid oes dim o'i le â hyn, a dyma'r ffordd y caiff pethau eu gwneud yn San Steffan. Beth mae'r Ceidwadwyr—? Gwn nad ydyn nhw wedi bod mewn Llywodraeth, ond beth maen nhw'n ei feddwl sy'n digwydd pan fydd AS yn gofyn cwestiwn i Weinidog? Mae'n friffio safonol i Weinidog gael ei hysbysu am yr hyn y mae AS wedi ei ddweud am y peth yn y gorffennol, a pha ohebiaeth a allai fod ar gael er mwyn i'r Gweinidog gael ei hysbysu'n llawn. Dyna'r ffordd y mae pethau wedi gweithredu erioed yma ac yn San Steffan. Nid oes dim byd sinistr amdano; a dweud y gwir, mae'n dangos parch at yr Aelodau.

Mae sylwadau gan gyn-Weinidog Cabinet yn eich Llywodraeth eich hun heddiw yn awgrymu'n eglur nad oedd yr hyn a ddigwyddodd yn fy achos i yn gamgymeriad untro, fel y gwnaethoch chi ddadlau yn flaenorol, ond yn rhan o batrwm ehangach—peiriant difenwi lle mae adnoddau Llywodraeth yn cael eu camddefnyddio'n systematig i dawelu a dychryn beirniaid, gan gynnwys pobl o fewn eich plaid eich hun. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny, ynghyd â'r newyddion heddiw o ymdrech i geisio bygwth y Senedd hon gyda chamau cyfreithiol, yn amlwg yn awgrymu darlun o ddiwylliant arweinyddiaeth o fewn Llywodraeth Cymru sy'n ymroddedig i sathru gwrthwynebiad, beth bynnag fo'r gost bersonol, a beth bynnag fo'r gost wleidyddol o ran ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein sefydliadau democrataidd. Mae fy nghwestiwn yn un syml iawn, ond efallai y dylid ei gyfeirio at y bobl y tu ôl i chi: pa bryd ydym ni'n dweud mai digon yw digon?

Wel, mae'n well gen i aros gyda pobl Cymru. Ni wnes i ddiflannu i America; arhosais i a brwydrais fy achos gyda phobl Cymru. Pam na wnaiff ef siarad â Simon Thomas, a wnaiff ddweud wrtho—? [Torri ar draws.]

Rydych chi'n ymosod arnaf i'n bersonol ar gwestiwn am ymosodiadau personol.

Mae'r Prif Weinidog yn ceisio ateb y cwestiwn. Gadewch iddo orffen. [Torri ar draws.] Gadewch iddo orffen, os gwelwch yn dda.

Safodd Adam Price yn y Siambr hon ac ymosododd arnaf i'n bersonol; mae'n cwyno pan ei fod yn ei ei chael hi yn ôl, ond nid yw'n un rheol i un a rheol arall i'r llall. Os gwnaiff ef siarad â Simon Thomas, fe wnaiff ef egluro iddo fod hyn yn gwbl arferol—. [Torri ar draws.] Nid oes unrhyw reolaeth, Llywydd.

Mae o leiaf un blaid yn yr ystafell hon sy'n bod yn dawel iawn ac yn gwrando ar y Prif Weinidog. Hoffwn i'r holl bleidiau gwleidyddol ganiatáu i'r Prif Weinidog orffen ei gwestiynau a'i atebion.

Mae'r syniad bod yr Aelodau yn destun peiriant difenwi yn lol llwyr. [Torri ar draws.] Wel, edrychwch, os yw Aelod yn sefyll i fyny yn y Siambr ac yn ymosod ar y Prif Weinidog, does bosib—.

Os bydd Aelod yn sefyll ar ei draed yn y Siambr ac yn cwestiynu ac yn ymosod ar Aelod arall, mae gan yr Aelod hwnnw hawl i ymateb. Nid oes unrhyw achosion arbennig yn y Siambr hon. Does bosib nad yw hynny yn rhan o'r ddadl yn y Siambr hon. Yr hyn y gallaf sicrhau’r Aelodau ynglŷn ag ef yw nad oes unrhyw beiriant difenwi—mae hynny'n lol llwyr, yn gwbl anwir ac nid oes unrhyw sail iddo mewn gwirionedd.

Mae'n wir i ddweud, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, pan fydd Aelodau yn gofyn cwestiwn, yna bydd ceisiadau yn cael eu gwneud o ran yr hyn y mae Aelod wedi ei ddweud a pha ohebiaeth a allai fod ar gael er mwyn cynorthwyo'r Gweinidog gydag ateb. Gwnaeth Gweinidogion Plaid Cymru yn union yr un peth pan oedden nhw mewn Llywodraeth, a pham? Wel, mae'n dangos parch at Aelodau. Does bosib na ddylai Gweinidogion ateb cwestiynau heb wybod dim am yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am fater penodol.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg? OAQ51969

Penodwyd Aled Roberts ym mis Chwefror 2018 am gyfnod o 12 mis i weithredu argymhellion yr adolygiad cyflym o gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Mae 15 cynllun wedi cael eu cymeradwyo ac mae’r gwaith yn parhau gyda’r saith awdurdod sydd ar ôl. Rydym ni wedi ymrwymo i wella’r gwaith o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg, fel y gwelir yn 'Cymraeg 2050'.

Yn bellach i'r ateb yna ac, yn naturiol, fel rydych chi wedi crybwyll eisoes, yn dilyn datganiad Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar 15 Mawrth, mae yna saith awdurdod lleol yn dal heb gael eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wedi eu cymeradwyo gan eich Llywodraeth chi. Mae tri o'r awdurdodau hynny, sef Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Phen-y-bont, yn fy rhanbarth i. Yn wir, roedd eu cynlluniau drafft cyntaf yn warthus ac yn embaras llwyr wrth feddwl am darged eich Llywodraeth chi i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg. A ydych chi felly yn siomedig gan ddiffyg gweledigaeth a diffyg uchelgais y cynghorau Llafur yma yn y de-orllewin, a beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i symud pethau ymlaen? 

14:10

A gaf fi ddweud, yn hanesyddol wrth gwrs, mai cynghorau Llafur oedd ar flaen y gad i sefydlu ysgolion Cymraeg, yn enwedig yn ne Cymru, felly mae yna record dda ynglŷn â hynny? Mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, nad yw rhai awdurdodau wedi dod lan i'r safon y byddem ni'n ei herfyn. Rŷm ni wedi gofyn iddyn nhw sicrhau bod y cynlluniau eu hunain yn cael eu hail-wneud er mwyn inni allu symud ymlaen gyda'r targed uchelgeisiol sydd gyda ni. Mae'r Gweinidog yn mynd i siarad ag arweinwyr yr awdurdodau hynny sydd ddim wedi cael eu WESPs wedi'u caniatáu ar hyn o bryd. Rŷm ni'n moyn sicrhau bod pob WESP newydd yn cael ei roi i'r Llywodraeth erbyn diwedd mis Mai. 

Datblygu Economaidd yng Nghasnewydd

8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygu economaidd yng Nghasnewydd? OAQ52012

Cyflwynodd strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd y camau yr ydym ni'n eu cymryd i wella datblygu economaidd ledled Cymru, gan gynnwys Casnewydd.

Diolch, Prif Weinidog. Byddai gwasanaeth rheolaidd a dibynadwy ar gyswllt rheilffordd Glynebwy i Gasnewydd yn lliniaru tagfeydd ar ein ffyrdd prysur iawn ac yn gwella ffyniant economaidd ar draws y rhanbarth. Ceir rhwystredigaeth dwfn gan fod pobl wedi bod yn aros am amser maith i hyn ddigwydd. Byddai un trên ychwanegol bob awr ar y rheilffordd, yn rhedeg o Lynebwy i Gasnewydd drwy Tŷ-du a Pye Corner ac ymlaen i Gaerdydd, yn cysylltu'r Cymoedd a dwy o'r dinasoedd mwyaf yn y de-ddwyrain ac i'r gwrthwyneb.

Er fy mod i'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu amlder y gwasanaeth ar reilffordd Glynebwy, gyda'r penderfyniad sydd ar fin cael ei wneud ar ddyfarniad y fasnachfraint rheilffyrdd, a all y Prif Weinidog roi sicrwydd y bydd cyswllt rheilffordd Glynebwy i Gasnewydd yn flaenoriaeth?

Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i gynyddu amlder gwasanaethau ar hyd rheilffordd Glynebwy ac mae'r dewisiadau sy'n cael eu hystyried yn cynnwys gwasanaethau sy'n galw yng Nghasnewydd. Mae'n bwysig bod rheilffordd Glynebwy yn cyd-fynd â'n dyheadau ar gyfer y metro, felly byddwn yn gweithio gyda'r cynigydd buddugol i ganfod yr ateb technegol sydd ei angen i gwblhau'r seilwaith sydd ei angen i wella nifer y gwasanaethau ar hyd y rheilffordd.

Prif Weinidog, cyhoeddodd Cyngor Casnewydd ei gynllun meistr ar gyfer dyfodol canol dinas Casnewydd yn ddiweddar, ond yn anffodus roedd yn cynnwys cyn lleied o fanylion a chyn lleied o ran cynigion pendant fel mai dim ond 24 o ymatebion a ddenwyd. A wnaiff ef ymuno â mi i annog Cyngor Dinas Casnewydd i fanteisio ar y cyfleoedd y mae cael gwared ar dollau Pont Hafren yn eu cynnig a buddsoddi'n wirioneddol yng nghanol Casnewydd fel ein bod ni wir yn elwa ar y cyfleoedd hynny?

Mae'n rhaid i mi ddweud, mae gan Gyngor Casnewydd hanes rhagorol o ran buddsoddi. Rydym ni'n gweld y datblygiad ar hyd yr afon, campws y brifysgol ac agor Friars Walk, yr oeddwn i'n falch o'i agor rai blynyddoedd yn ôl bellach. Felly, bu datblygiad sylweddol yng nghanol Casnewydd ac rwy'n disgwyl i hanes da y Cyngor barhau.

Yr wythnos hon, gwelsom y cam digynsail o ddatganiad ar y cyd rhwng Canolfan Diogelwch Seibr Cenedlaethol y DU, yr FBI ac Adran Diogelwch Cartref yr Unol Daleithiau, yn rhybuddio am risgiau cynyddol i'n seilwaith rhyngrwyd a'n caledwedd gan hacwyr a noddir gan wladwriaeth Rwsia. Mae Casnewydd ar flaen y gad o ran arbenigedd seiberddiogelwch, ac mae'r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ragorol wedi ei lleoli yn y ddinas honno. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cael i sicrhau—gan fod angen i ni gynyddu capasiti yn y DU i wynebu'r bygythiad gwirioneddol hwn, sydd â goblygiadau economaidd a gwleidyddol i bob un ohonom—pa drafodaethau y mae'n bwriadu eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw hyn wedi'i ganoli yn Llundain, a bod ymateb y DU yn cael ei rannu rhwng gwahanol ddinasoedd y DU lle mae arbenigedd yn bodoli ac, yn wir, i fynd hyd yn oed ymhellach a dweud y dylid rhannu arbenigedd a chylch gwaith Canolfan Diogelwch Seibr Cenedlaethol y DU i'r ardaloedd lle ceir arbenigedd presennol eisoes, mewn lleoedd fel Casnewydd?

Rwy'n cytuno, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn annerch digwyddiad ddydd Iau sy'n ymdrin â'r union bwynt hwn. Rydym ni'n cefnogi nifer o fentrau i gynorthwyo enw da technolegol y rhanbarth. Mae gennym ni Academi Meddalwedd Genedlaethol gyntaf y DU, Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol a phwynt arloesi. Mae'r Aelod yn hollol iawn i ddweud na ellir canoli'r gwaith hwn yn Llundain, nid yn unig yn economaidd, ond o safbwynt diogelwch hefyd byddwn yn amau.

Ffermwyr a Pherchnogion Anifeiliaid

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu ffermwyr a pherchnogion anfeiliaid yr effeithir arnynt gan y prinder presennol mewn porthiant yng Nghymru? OAQ52005

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn cyfarfod yr undebau yn ddiweddarach yr wythnos hon a bydd yn trafod y sefyllfa bresennol o ran porthiant. Rwy'n deall bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi agor ei gronfa porthiant.

14:15

Diolch, Prif Weinidog. Wrth gwrs, pris bêl gwellt y llynedd oedd £42 y dunnell. Erbyn hyn, mae'n gymaint â £70. Mae gwair yn £90 y dunnell, mae silwair cladd wedi cynyddu £15 y dunnell i £40, ac mae pris silwair bêls crwn wedi cynyddu dros 230 y cant. Nawr, ar ben hyn mae pris cludiant, sy'n ychwanegu £10 fesul bêl. Mae'r sefyllfa, fel y dywedwch yn ddigon teg, wedi arwain at NFU Cymru a Forage Aid yn sefydlu banc porthiant i ganiatáu i'w haelodau ofyn am fwyd anifeiliaid sydd ei angen yn daer. Mae hyn yn effeithio ar lawer o ffermwyr yn Aberconwy, a gofynnaf i chi, Prif Weinidog: Beth ydych chi'n ei wneud i gefnogi ein ffermwyr? A wnewch chi gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn barod i ddilyn Iwerddon drwy helpu ffermwyr gan roi cymhorthdal ar gyfer rhai o'r costau cludo hyn?

Wel, yn gyntaf oll, mae swyddogion datblygu tîm lleol Cyswllt Ffermio wrth law i roi cyngor ac arweiniad. Rydym ni'n disgwyl i'r tywydd wella, wrth gwrs, dros yr ychydig ddyddiau nesaf, a gallai hynny ddarparu rhywfaint o ryddhad. Rydym mewn cysylltiad ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, y mae pob un ohonyn nhw yn monitro effaith y tywydd gwlyb parhaus ar fusnesau fferm. Ac, wrth gwrs, fel rhan o'r gwaith monitro hwnnw, byddwn ni'n parhau i ystyried yr hyn y gellir ei wneud i helpu ffermwyr.

Diolch, Llywydd. Mae’r ffaith bod Llywodraeth Iwerddon yn fodlon talu i helpu i gludo a thalu am fwyd anifeiliaid yn cael effaith ar y farchnad dros ynysoedd Prydain, wrth gwrs. Mae’n gwyrdroi’r farchnad o ran prisoedd, ac yn rhoi prisoedd i fyny ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Dyna, rwy’n credu, yw’r ddadl, a’r peth sydd wedi dod yn glir oherwydd y gwanwyn gwlyb. Beth sy’n dod yn sgil hynny, wrth gwrs, yw’r cwestiwn ehangach o sut rŷm ni’n rheoli’r farchnad dros ynysoedd Prydain wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n codi’r holl gwestiynau ynglŷn â’r undeb tollau ac ynglŷn â’r ffaith bod y farchnad gig yn un gyffredin rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru a gweddill ynysoedd Prydain. Yn ogystal â helpu’r ffermwyr dros y problemau y tymor yma, a fedrwch chi ddweud ychydig yn fwy am beth fydd y cynllun i sicrhau cymhorthdal parhaus i ffermwyr i sicrhau eu bod nhw’n gallu bod yn weithredol yn economaidd wrth inni ymadael?

Mae Undeb Amaethwyr Cymru, wrth gwrs, wedi codi pryderon ynglŷn â beth mae Llywodraeth yr Iwerddon wedi ei wneud, ai yw'n gyfreithlon neu beidio, ac mae hynny’n rhywbeth, efallai, y bydd yn gorfod cael ei ystyried yn y pen draw. Rŷm ni'n deall bod ffermwyr yn dechrau gweld gwair yn tyfu achos y ffordd mae’r tywydd wedi newid. A gaf i ddweud hefyd fod yna elusen o’r enw Forage Aid sy’n cefnogi ffermwyr lle maen nhw wedi cael eu heffeithio gan achlysur o dywydd eithafol? Wrth gwrs, maen nhw’n gallu sicrhau bod yna bethau ar gael i ffermwyr hefyd yn y pen draw. So, felly, os oes yna rai ffermwyr sydd â phroblem fawr, efallai mai Forage Aid yw’r lle i fynd iddo yn y dechrau.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Llywydd. Mae gennyf i un newid i fusnes yr wythnos hon. Yfory, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwneud datganiad llafar ar y Gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cymru). Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth neu ddadl ar ddiogelwch ffyrdd yng Nghymru, yng nghyd-destun y pwerau newydd sydd wedi'u datganoli o dan Ddeddf Cymru 2017, sy'n rhoi pwerau i'r Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa i bennu terfynau cyflymder, a'r adroddiad diweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a alwodd am y terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd adeiledig, rhywbeth a gefnogir gan yr ymgyrch 20's Plenty for Us, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno polisi o'r fath. Cefnogir hyn hefyd gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru. Yn yr Alban, mae Bil arfaethedig i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn 20mya o'r math hwn, ac rwy'n credu ei fod yn amserol, arweinydd y tŷ, o ystyried y damweiniau parhaus, a'r marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd yng Nghymru mewn ardaloedd adeiledig, ein bod yn trafod ac ystyried pa gamau pellach y gellir eu cymryd i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i'n holl gymunedau.

Ie, diolch. Mae Deddf Cymru 2017 wrth gwrs yn rhoi'r gallu i'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu ar y terfynau cyflymder cenedlaethol o 1 Ebrill eleni, ar yr amod nad yw'r ddeddfwriaeth yn creu nac yn addasu troseddau ffyrdd, nac yn effeithio ar eithriadau i derfynau cyflymder, felly mae yna rai cyfyngiadau.

Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi comisiynu astudiaeth tair blynedd i'r terfynau 20mya, sydd â'r nod o ystyried diogelwch y ffyrdd a'r effeithiau ehangach, a bydd adroddiad ar y canlyniadau hynny yn yr haf. Felly, mae gennym ddiddordeb mawr wrth fonitro hynny a gwaith ymchwil perthnasol arall gyda golwg ar yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru. Wrth gwrs, byddai angen arwyddbyst i'r parthau 20mya, oherwydd bod problem yn codi ynghylch y terfyn cyflymder cenedlaethol a beth sy'n digwydd ar ffyrdd heb arwyddion. Felly, mae yna nifer o bethau i'w hystyried, ond mae'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth wrthi'n ei ystyried ar hyn o bryd.

14:20

A gaf i alw am ddau ddatganiad, y cyntaf cyn Diwrnod y Gylfinir ledled y byd, ddydd Sadwrn nesaf 21 Ebrill, a Mis Argyfwng y Gylfinir, a fydd yn rhedeg drwy gydol mis Mai—datganiad llafar yn y Siambr ar argyfwng y gylfinir yng Nghymru? Mae'r boblogaeth yng Nghymru wedi gostwng 81 y cant ac yn parhau i ostwng mwy na 6 y cant bob blwyddyn, a disgwylir iddyn nhw ddiflannu'n gyfan gwbl ar draws y wlad erbyn 2030. Nawr, dewiswyd 21 Ebrill yn Ddiwrnod y Gylfinir ledled y byd oherwydd y stori draddodiadol Gymreig sy'n nodi mai Sant Beuno, abad o Gymru yn y chweched ganrif, oedd cadwriaethwr cyntaf y gylfinir, ac, wrth gwrs, ei ddydd gŵyl yw 21 Ebrill.

Oherwydd difrifoldeb yr argyfwng hwn, cynhaliwyd cynhadledd fawr yn Llanfair ym Muallt ar 24 Ionawr. Daeth 120 o gyfranogwyr ynghyd o feysydd cadwraeth, ffermio, sectorau polisi helfeydd a chefn gwlad yng Nghymru. Mae hynny wedi arwain at weithdai rhanbarthol—euthum i un yn y gogledd ar 23 Chwefror—a chyfarfodydd lleol. Roedd un yn Loggerheads, Sir Ddinbych dim ond bythefnos yn ôl. Cyfarfûm â Chadeirydd Cymdeithas Adaryddol Cymru a ddywedodd, ' O ystyried trafferthion y gylfinir, allwn ni ddim aros. Mae'n rhaid inni weithio gyda'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau arbennig ar gyfer y gylfinir cyn gynted â phosibl.'

Wel, fel hyrwyddwr rhywogaethau Cymru ar gyfer y gylfinir, byddaf nawr yn ymuno â phanel yng Ngŵyl y Gelli i drafod yr argyfwng hwn, sef y rhywogaeth sydd mewn perygl mawr. Yn amlwg, mae llawer o alwadau gan hyrwyddwyr rhywogaethau gan fod llawer o hyrwyddwyr rhywogaethau yma, ond yr aderyn hwn yw'r rhywogaeth sydd yn y perygl mwyaf. Mae ar y rhestr goch yng Nghymru a'r DU. Mae asiantaethau ledled Cymru yn gweithio ar yr argyfwng hwn. A gawn ni ddatganiad yn y Siambr fel y gallwn gael gwybod mwy gan Lywodraeth Cymru o ran sut y mae'n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a sectorau eraill i fynd i'r afael â hyn?

Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar gontract rheolwr cynllun Arbed 3, a gafodd ei dendro yn ddiweddar drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ar gyfer Cynllun rhanbarthol Cymru gyfan, sef Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n mynd i'r afael â thlodi tanwydd? Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin, wedi bod yn gweithio'n galed mewn partneriaeth â Cartrefi Melin yn y de i ddatblygu cais ar gyfer y contract hwn. Ond clywodd yn gynharach y mis hwn fod Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru wedi dyfarnu'r contract i gwmni o'r Alban, Everwarm, sy'n rhan o grŵp llawer mwy, o'r enw Lakehouse yn ôl yr hyn a ddeallaf.

Rwyf ar ddeall nad yw'n ymddangos bod diwydrwydd dyladwy wedi'i fodloni'n llawn, a bod Cartrefi Melin, sydd wedi gweithredu Arbed yn yn y de am bum mlynedd, wedi sicrhau bod ei brisiau yn realistig, bod 100 y cant o'u gwariant yn mynd i mewn i'r economi lleol, maen nhw'n cyflogi tîm o bobl leol ac yn cefnogi busnesau bach a chanolig lleol, ac mae hyn i gyd mewn perygl. Ond rwyf wedi cael llythyr sy'n dweud bod grŵp Lakehouse, y rhiant-gwmni, wedi bod yn gweithredu ar golled yn y ddwy flynedd ddiwethaf a chafodd ei enwi mewn ymchwiliad parhaus i dwyll gan yr heddlu Metropolitan o ganlyniad i waith a wnaed ar larymau tân a gynhaliwyd yn Hackney ac sy'n gysylltiedig â Thŵr Grenfell. Mae hefyd wedi cytuno i dalu £8.75 miliwn mewn cysylltiad â thân sydd wedi dinistrio'r ysgol lle'r oedd y grŵp yn brif gontractwr. Mae'r rhain yn faterion difrifol, ac yn gontract caffael pwysig ar ran Llywodraeth Cymru mewn maes allweddol, sef tlodi tanwydd—rhywbeth sy'n agos at fy nghalon i ac at galon llawer eraill. Mae hyn yn haeddu datganiad, ac mae angen i'r ddau ddarparwr tai hyn o Gymru gael ateb.

Mae'r Aelod yn codi dau bwynt pwysig iawn. Nid oeddwn yn ymwybodol ei bod yn Ddiwrnod y Gylfinir ledled y byd—felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi ymwybyddiaeth am y mater hwnnw. Mae'r Gweinidog yn dangos i mi y byddai hi'n croesawu cyfarfod â chi i ddeall rhai o'r materion yr ydych wedi eu codi, ac felly byddwn i'n awgrymu ein bod yn trefnu cyfarfod o'r fath a gweld wedyn beth sy'n digwydd o ganlyniad i hynny. Crybwyllodd yr Aelod hefyd ei fod yn hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y gylfinir. O glywed hyn, mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fy mod i'n hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer yr wystrys brodorol, yr wyf yn gobeithio a fydd yn ffynnu ac felly'n cynorthwyo'r gylfinir yn ei faeth wrth wneud hynny. Ond mae'n bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei godi, ac mae'n fater pwysig iawn y mae angen inni roi sylw iddo. Felly, byddwn i'n annog yr Aelod i gyfarfod â'r Gweinidog a gweld beth y gellir ei wneud am y peth yn y ffordd honno.

O ran yr ail fater, caffael, mae amrywiaeth o faterion cyfreithiol yn ymwneud â dyfarnu caffaeliadau penodol a'r broses sydd i'w dilyn ar ôl hynny. Os oes llythyrau o'r fath ym meddiant yr Aelod, rwy'n awgrymu ei fod yn ysgrifennu at y Gweinidog dan sylw yn gyflym a chyflwyno'r llythyrau hynny iddi fel y gellir dilyn y broses a dod i'r casgliad priodol.

14:25

Rwy'n credu ein bod ni'n sicr o gael rhai diwrnodau diddorol ym musnes y Cynulliad, ond byddaf yn canolbwyntio ar rai materion sydd wedi codi dros y Pasg, os caf i, a gofyn yn gyntaf a oes modd cael datganiad gan y Llywodraeth ar fater mewnfudwyr o'r Caribî a'r Gymanwlad yma yng Nghymru? Rydym ni wedi gweld dros y Pasg bod straeon yn dod i'r amlwg o'r hyn a ddisgrifiwyd fel y Windrush, cenhedlaeth yr ymerodraeth, sydd wedi bod, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain—yn blant ac yn wyrion, neu'n blant, yn bennaf, i fewnfudwyr nad oedd ganddyn nhw basbort Prydeinig, neu heb fod angen profi pwy ydyn nhw. Erbyn hyn maen nhw'n cael eu gwrthod gan wasanaethau'r GIG—nid yw hynny'n digwydd efallai yng Nghymru oherwydd bod gennym agwedd wahanol yn GIG Cymru, i fod yn deg—ond yn sicr maen nhw'n cael eu gwrthod ar gyfer cyfleoedd am swyddi, gwiriadau gan landordiaid ac ati. Mae'r pethau hyn yn berthnasol yng Nghymru, gwaetha'r modd, ac mae gennym ni—yn sicr gyda'r cymunedau sydd gennym ni yng Nghymru, mae gennym gymunedau o bobl sydd yn disgyn i'r categori hwn.

Nawr, o dan bwysau difrifol, gwnaeth Llywodraeth San Steffan dro pedol ddoe ac mae bellach yn cwrdd â phenaethiaid llywodraethau'r Caribî yng Nghyfarfod Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad, CHOGM, ac ati i drafod hyn. Ond rwy'n credu y byddai o gymorth cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut yr ydych chi'n cysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau na chaiff ein dinasyddion ni, yn enwedig o dras Caribïaidd ac o wledydd eraill y Gymanwlad, eu cosbi gan y methiant hwn gan y Swyddfa Gartref i gael dealltwriaeth ystyrlon, os mynnwch, o oddeutu 0.5 miliwn o bobl. Mae'n gwneud ichi feddwl tybed sut maen nhw'n mynd i ymdopi â 3 miliwn o ddinasyddion yr UE pan fyddwn ni'n gadael yr UE. Ond gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd. Bydd llawer ohonyn nhw wedi eu lleoli yng Nghymru, bydd llawer ohonyn nhw yn ddinasyddion a fydd, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi profi unrhyw anawsterau eto, yn teimlo'n bryderus am eu dyfodol, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn cael datganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi sut y bwriadwch gydgysylltu â Llywodraeth y DU ar hyn.

Yr ail beth yr hoffwn i ofyn ichi ei ystyried yw a fyddech chi'n rhoi amser i Lywodraeth Cymru i gael dadl ar weithgareddau Ystâd y Goron yng Nghymru. Mae hwn yn gorff pwysig iawn. Rwyf wedi cael trafodaethau am enwi pontydd a phethau fel hynny, ond gadewch inni ganolbwyntio ar gyrff mawr a phwysig fel Ystâd y Goron. Rwy'n credu ei bod yn gwneud rhywbeth fel £300 miliwn y flwyddyn o'i hystâd yng Nghymru—yn bennaf, wrth gwrs, ynni adnewyddadwy, gyda'i pherchenogaeth o'r traethlin a llawer o Ystadau'r Goron. Nid oes ganddi swyddfa yng Nghymru, nid yw'n cynhyrchu ei hadroddiadau i'r Cynulliad, dydyn ni ddim yn trafod beth mae Ystâd y Goron yn ei wneud, ac eto i gyd mae'n sbardun economaidd mawr. Rhaid inni ofyn y cwestiwn a yw'n gwneud y gorau dros Gymru—alla i ddim ateb y cwestiwn hwnnw oherwydd nid ydym yn cael y dadleuon hynny. Felly, yng nghyd-destun y pwerau newydd sydd gennych chi erbyn hyn fel Llywodraeth Cymru dros ynni a'r Grid Cenedlaethol, neu dros ffracio, sydd ar fin dod, mae'r rhain yn gwestiynau a fydd yn berthnasol i Ystâd y Goron a'i gweithgareddau. Rwy'n credu y byddai'n dda cael cyfle i gynnal dadl ar hynny ac efallai ystyried sut y gallwn ni fel Cynulliad a Phwyllgorau'r Cynulliad gael gwell rhyngweithio gydag Ystâd y Goron ac adroddiadau gwell oddi wrthyn nhw am eu gweithgarwch yng Nghymru ac am yr elw economaidd y maen nhw'n ei sicrhau ac ym mha ffyrdd y maen nhw'n ceisio gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hynny er lles gorau pobl Cymru.

Ie, wel, mae'r Aelod yn codi dau fater pwysig iawn. O ran y genhedlaeth Windrush, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at y Prif Weinidog ddoe, ac rwy'n credu—. Llywydd, bydd yn rhaid imi wirio cyfreithlondeb hyn, ond dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw reswm pam na allem ni anfon copi o'r llythyr hwnnw at yr holl Aelodau, ond dim ond gyda'r cafeat nad wyf wedi'i wirio. Felly, oni bai bod rheswm pam na allaf wneud hynny, byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud hyn. Ond gallaf ddweud, ymhlith y pethau a ddywed yn y llythyr hwnnw, ei fod yn dweud hyn:

'Mae'r sefyllfa hon yn gofyn am gamau brys i ddatrys amgylchiadau annheg a niweidiol sy'n arwain at sefyllfa a all roi plant y genhedlaeth Windrush mewn peryg o ddigartrefedd, diweithdra neu allgludo oherwydd camgymeriadau'r Swyddfa Gartref dros yr hanner canrif ddiwethaf.'

Fi yw'r Gweinidog sy'n arwain ar hynny. Rydym yn gwneud darn o waith ynghylch sut mae hyn yn effeithio ar y cenedlaethau yma yng Nghymru. Rwy'n hapus iawn i ymrwymo i gyflwyno datganiad pan fydd gennym ni'r darn o waith cyflawn, ac mae hynny ar frig ein hagenda. Credaf ein bod ni i gyd yn wir wedi ein brawychu gan y driniaeth o bobl a ddaeth yma, wedi'r cyfan, i achub Prydain ar ôl y rhyfel ac sydd yn cyfrannu'n aruthrol at lwyddiant Prydain a'i hadferiad o ludw'r ail ryfel byd. Ac mae eu trin nhw yn y modd hwn yn gywilyddus, yn embaras ac yn ffiaidd. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i ddatganiad o'r fath.

O ran gweithgareddau Ystâd y Goron, credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn. Dydw i ddim wedi cael cyfle i drafod hynny gyda'r Ysgrifennydd y Cabinet perthnasol. Ond rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt da, a byddaf yn cael y drafodaeth honno gydag Ysgrifennydd y Cabinet, a byddaf yn ymrwymo, Llywydd, i gyflwyno datganiad neu ddadl ar ôl i mi gael y drafodaeth honno gydag Ysgrifennydd y Cabinet oherwydd rwy'n credu ei fod wedi codi mater pwysig iawn.

14:30

Wrth i Lywodraeth San Steffan gyflwyno'r credyd cynhwysol, a fydd yn gwneud llawer o bobl yng Nghymru yn dlotach, mae nifer y bobl sy'n cael taliad annibyniaeth bersonol wedi gostwng o'i gymharu â'r nifer sydd wedi bod yn derbyn budd-daliadau anabledd yn flaenorol, a'r llynedd, daeth Llywodraeth Cymru â'r cynllun Cymunedau yn Gyntaf i ben. Ac er fy mod yn croesawu'r hyn a gafodd ei ddweud gan y Prif Weinidog heddiw ynghylch y lwfans dillad i ddisgyblion, roeddwn yn bryderus iawn, fel nifer o bobl eraill yma, pan glywsom fod y lwfans yn cael ei dorri. A gaf i ofyn i'r Gweinidog wneud datganiad llafar ar y camau a gymerir i liniaru tlodi yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru?

Ie. Gan fod cydraddoldebau yn fy mhortffolio i, rwy'n credu fy mod yn mynd i drafod gyda'r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet, gan ddwyn ynghyd nifer o raglenni tlodi sy'n ymwneud â rhai o'r problemau ynghylch cydraddoldeb, ac fel rhan o adolygiad cyflym o bolisïau sy'n ymdrin â rhywedd yn benodol, y mae'r Prif Weinidog hefyd wedi gofyn inni eu hystyried. Bydd rhannau o hynny yn tynnu sylw at rai o'r pethau y mae'r Aelod newydd eu codi o ran yr effaith ar feysydd penodol o bolisïau'r Llywodraeth ac, yn bwysicach, rai o effeithiau anfwriadol cyfosod sawl polisi ar y tro ar rai pobl. Felly, mae sawl un ohonom yn cydweithio ar ddarn o waith ar hyn o bryd, ac rwy'n fodlon i ymrwymo i gyflwyno—. Dydw i ddim yn rhy siŵr pa un ohonom fydd yn ei wneud, ond bydd un o Weinidogion y Llywodraeth sy'n gyfrifol am hyn yn ei bortffolio yn cyflwyno datganiad maes o law.

Arweinydd y tŷ, a gaf i wneud dau gais, os oes modd? Yn gyntaf, o ran ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar reolaethau pysgota eogiaid a sewin. Codwyd nifer o bryderon o fy mlaen i, a gwn o flaen aelodau eraill hefyd, nad yw cynigion Cyfoeth Naturiol Cymru yn deg nac yn gymesur, ac y gallai fod yn amhosibl gorfodi cyfyngiad cyffredinol a hefyd nad ydyn nhw'n gwneud dim i wrthdroi'r dirywiad mewn stociau pysgod. Ac yn sicr mae yna bryder y bydd effaith negyddol ar yr economi wledig, yn gorfodi llawer o glybiau pysgota i gau o bosib. Nawr, fel y deallaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd hi'n ystyried y mater cyn gwneud penderfyniad ar ôl iddi dderbyn y cais ffurfiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond a gaf i ofyn os gwelwch yn dda, cyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud penderfyniad, am gael dadl ar y mater hwn yn amser y Llywodraeth i ganiatáu i Aelodau'r Cynulliad fynegi barn ar ran eu hetholwyr?

Yn ail, ac yn fyr, mae wedi dod i'm sylw bod rhywfaint o oedi wedi bod o ran cael ymatebion y Llywodraeth i adroddiadau pwyllgorau a phapurau, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai arweinydd y tŷ yn ymchwilio i hyn. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno y dylai ymatebion y Llywodraeth fod yn amserol ac o fewn yr amserlen y cytunwyd arni. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech edrych ar y mater hwnnw. Diolch.

Ar yr ail un, byddwn yn fwy na pharod i gwrdd â chi, a phe gallech roi rhai manylion penodol i'w hystyried i mi, byddwn yn amlwg yn hapus iawn i wneud hynny. Dydw i ddim yn siŵr a oeddech chi'n gofyn imi am adroddiad mwy cyffredinol ar amseroedd ymateb, ond rwy'n fwy na pharod i gwrdd a chael eglurhad o'r hyn yr oeddech yn ei olygu gan hynny.

O ran y pwynt ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad maes o law ac, wrth gwrs, mae'n agored i'r holl Aelodau roi eu barn eu hunain a barn eu hetholwyr ar y cynigion hynny, ac mae hynny'n rhan o gyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddi wneud penderfyniad ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru fod wedi dod â hynny yn ei flaen. Felly, dydw i ddim yn credu y byddai'n briodol cael dadl fel rhan o'r broses honno. Ond rwy'n siŵr y byddai hi'n croesawu sylwadau gan holl Aelodau'r Cynulliad ar ran eu hetholwyr o ran y cynigion hynny.

Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol y bydd Cyngor Caerffili yn gwario £193,000 arall i dalu am gostau parhaus y sefyllfa warthus barhaus gyda chyflog yr uwch swyddog, cost a ysgwyddir, wrth gwrs, gan y bobl leol eu hunain heb fod unrhyw fai arnyn nhw. Mae cyfanswm y gost o'r ffiasgo cyfan hwn bellach ymhell dros £5 miliwn—gyda llaw, £5 miliwn y gellid ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau lleol, o bosib i gadw canolfan hamdden leol ar agor sydd o dan fygythiad ar hyn o bryd. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr hyn y mae angen i'r awdurdod lleol ei wneud, pa mor ddi-glem sydd angen iddo fod, cyn iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig?

14:35

Wel, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r sefyllfa gyda Chyngor Caerffili, sydd wedi cael ei amlygu dim ond yn ddiweddar iawn, o ran y mater parhaus gyda'r uwch aelodau staff  yno. Dydw ddim yn rhy siŵr beth yw’r sefyllfa gyda hynny o ran lle mae yn y broses, felly dydw i ddim yn credu ei bod yn briodol i mi roi sylwadau pellach. Ond yn sicr byddaf yn codi'r mater gydag ef ac yn gofyn iddo am ei farn ar y sefyllfa ar hyn o bryd.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar effaith y cynnydd arfaethedig o 6.5 y cant i gyflog staff y GIG a a'i effaith ar staff clinigol sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol. Gwn fod yr hosbisau yn bryderus iawn ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar eu cyllid. Rwy'n datgan buddiant fel Is-Lywydd Hosbis City yng Nghaerdydd. Mynegwyd y pryder hwn i mi, ac rwy'n credu y gallen nhw fod eisoes wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y mater hwn. Ond, yn amlwg, mae'n achosi llawer o bryder i hosbisau ledled Cymru oherwydd bydd yn swm ychwanegol o arian i'w cyllid nhw, ac maent yn ansicr a fydd hyn yn dod yn awtomatig oddi wrth y byrddau iechyd sy'n eu hariannu. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallem gael rhywfaint o eglurhad ar hynny.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei fod yn ymwybodol o'r mater ac mae wrthi'n ysgrifennu atoch yn ei gylch.FootnoteLink

Diolch yn fawr iawn. A hoffwn ychwanegu hefyd fy mod yn hollol gefnogol o'r mater a gododd Simon Thomas am y genhedlaeth Windrush.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan arweinydd y tŷ? Y cyntaf yw cefnogi'r alwad gan John Griffiths am ddatganiad ar ddiogelwch ffyrdd. Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod pryder sylweddol yn fy etholaeth i ynghylch goryrru ar y triongl Evo, sef llwybr drionglog yng Nghonwy a Sir Ddinbych sydd wedi bod yn fan lle cafwyd llawer o farwolaethau a nifer o ddamweiniau yn y blynyddoedd diwethaf. Nawr, er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae cyllid wedi ei sicrhau fel y gall yr awdurdodau lleol gyflwyno rhai mesurau diogelwch ffyrdd ar y llwybr hwnnw, gan osod camerâu cyflymder cyfartalog. Ond rwy'n credu bod fy etholwyr yn awyddus iawn i gael y diweddaraf am unrhyw gynnydd o ran hynny, a byddai datganiad ar ddiogelwch ffyrdd yn gyfle iddyn nhw gael diweddariad.

Ac, yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar wasanaethau cuddliw croen yng Nghymru? Efallai na fydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol  o hyn ond, wrth gwrs, mae gwasanaethau cuddliw croen yn ddarpariaeth bwysig iawn, yn arbennig ar gyfer y rhai â chyflyrau'r croen neu'r rhai sydd wedi dioddef anffurfiad yn dilyn damwain neu salwch, er mwyn cynorthwyo gyda'u hunanhyder a'u hannibyniaeth. Ond mae'r gwasanaethau croen cuddliw a ddarperir yng Nghymru ar hyn o bryd—neu a ddarparwyd yng Nghymru— newydd ddod i ben yn ddiweddar. Darparwyd y rhain gan sefydliad o'r enw Changing Faces, ac mae wedi rhoi'r gorau i'w wasanaethau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon gan na llwyddodd i sicrhau trefniadau cyllido i barhau â nhw, oherwydd y gwahanol ffyrdd y mae'r GIG yn ymdrin â'r gwasanaethau hyn yma. Mae wedi bod yn achos pryder mawr i nifer o bobl yn fy etholaeth i sydd wedi manteisio ar y gwasanaethau hyn yn y gorffennol, ac ar hyn o bryd does dim gwasanaeth ar gael iddynt ar wahân i dalu'n breifat er mwyn cael gwasanaethau cuddliw croen. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gellid cael datganiad ar hyn, ac rwy'n siŵr na fyddai Llywodraeth Cymru yn dymuno i bobl fod yn y sefyllfa honno. Diolch.

Ar y cyntaf, fel y clywsoch fi'n dweud, gwn fod darn o waith ymchwil y disgwylir adroddiad arno—mae hynny'n cael ei wneud gan yr Adran Trafnidiaeth—yr haf hwn. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar hynny, a nifer o ddarnau eraill o ymchwil, gyda'r bwriad o weld beth y gellir ei wneud gyda'r pwerau newydd. Felly, yn sicr rwy'n eich clywed chi yn gwneud yr un pwyntiau a wnaeth John Griffiths yn gynharach.

Ar yr ail bwynt, nid oeddwn yn ymwybodol o hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi arwydd imi, os rhowch fanylion iddo, y byddai'n hapus iawn i edrych ar y mater.

Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol o'r siom yn Abertawe yn dilyn y penderfyniad gan y byrddau iechyd ledled Cymru i gymeradwyo lleoliad canolfan trawma mawr newydd ar gyfer y de yng Nghaerdydd, ar draul cais cryf iawn gan Ysbyty Treforys yn Abertawe. Nawr, ni chytunodd pob un o aelodau Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i'r cynnig hwn, fodd bynnag; nid oedd y bleidlais yn unfrydol. Mae un aelod o'r Bwrdd, yr Athro Ceri Phillips o Brifysgol Abertawe, wedi honni bod y broses gyfan, ac rwy'n dyfynnu, 'yn sylfaenol ddiffygiol', oherwydd nid oedd y gost o greu canolfan a rhwydwaith yn hysbys ar adeg gwneud y penderfyniad. Dywedodd hefyd fod y penderfyniad, ac rwy'n dyfynnu  unwaith eto,

'yn awgrymu bod gwleidyddiaeth yn curo economeg eto'.

Nawr, o gofio pwysigrwydd strategol y ganolfan trawma fawr hon, a phryderon yn y de-orllewin am benderfyniad arall i ganoli'r gwasanaeth yng Nghaerdydd ar draul Abertawe, a fydd eich Llywodraeth yn barod i gyflwyno dadl ar y mater hwn fel y gallwn ni graffu ar y mater yn fanwl a mynd i'r afael â'r esgus bod hwn yn benderfyniad clinigol pan, mewn gwirionedd, mae'n benderfyniad gwleidyddol?

14:40

Ydy, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi arwydd imi ei fod yn bwriadu gwneud datganiad ar ddiwedd y broses, pan fydd y broses wedi rhedeg ei gwrs. A gaf i ddweud, Llywydd, yr hoffwn i ddatgan buddiant yn hyn o beth oherwydd, yn amlwg, mae fy etholaeth i yn un o'r rhai yr effeithir fwyaf arnyn nhw gan y penderfyniad hwn?

Gofynnaf am un datganiad yn unig. A gaf i ofyn am ddatganiad ar oblygiadau cymdeithasol y rhaglen cau Llysoedd sydd gan Lywodraeth y Torïaid ar gyfer pobl Cymru ac o ran cael mynediad i'r system cyfiawnder? A gaf i eich atgoffa am y llysoedd penodol yr wyf yn sôn amdanynt a gafodd eu cau gan y Torïaid: Abertyleri, y Rhondda, Caernarfon, Aberdâr, y Barri, Caerfyrddin, Port Talbot, Pwllheli, Aberaeron, Casnewydd, Llandrindod, Castell-nedd Port Talbot, Pont-y-pŵl, y Fflint, Ogwr, Pontypridd, Abertawe, Caergybi, ac rwy'n credu o bosib bod un neu ddau yr wyf wedi eu methu? A gaf i hefyd ofyn am roi ystyriaeth i'r ffaith yr ymddengys, er enghraifft, bod safle gwerthfawr megis llys ynadon Pontypridd wedi ei werthu neu ei waredu am £350,000? Ond ymddengys i mi y gwrthodir mynediad i'r system cyfiawnder yn gynyddol. Mae goblygiadau difrifol i bobl Cymru ac i lawer o'n cymunedau ac mae angen inni gael dadl ar y mater hwn.

Ydy, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Fy nealltwriaeth i yw y gwerthwyd 26 o adeiladau llys yng Nghymru ers 2010 a chyfanswm eu derbyniadau yw ychydig dros £5.5 miliwn. Mae'r Llywodraeth yn bryderus iawn ac am gadw mynediad i'r system cyfiawnder yn lleol yng Nghymru ac rydym wedi gwneud y pwyntiau hynny i Lywodraeth y DU ar sawl achlysur. Gwn fod yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am hyn—sef Alun Davies—yn gweithio'n agos iawn ar hyn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddatblygu polisi cyfiawnder i Gymru. Rydym i gyd yn gwybod ei bod yn hanfodol mewn democratiaeth bod pobl yn gallu troi at reol y gyfraith yn gyflym, yn lleol ac yn hawdd ac nad ydynt yn cael eu hatal gan benderfyniadau a wneir yn ganolog sy'n tynnu'r gallu hwnnw oddi wrthynt. Rydym ni'n bryderus iawn am y peth, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn benderfynol iawn o geisio deall beth yw'r strategaeth gyffredinol, oherwydd nid yw'n gwbl eglur i ni.

Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad llafar digon brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, os gwelwch yn dda, ar swyddogaeth y cyd-ymatebwyr tân? Ers i'r categori coch gael ei leihau o ran nifer yr amodau sydd ynddo, os mynnwch, mae swyddogaeth y cyd-ymatebwyr wrth fynd i alwadau ambr wedi dod yn llawer mwy tyngedfennol, yn fy marn i, yn enwedig wrth fynd i'r galwadau hynny y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn eu hystyried yn ddifrifol iawn ac y dylid, yn ôl pob tebyg, eu cynnwys yn y categori coch. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o un achlysur penodol pan na chafodd cyd-ymatebwyr eu galw ac arweiniodd hynny at y canlyniadau mwyaf trist.

I mi, mae'n annirnadwy mewn gwirionedd fod yr ymddiriedolaeth ambiwlans bellach yn ystyried lleihau swyddogaeth y cyd-ymatebwyr i allu mynd i alwadau categori coch yn unig, sy'n cyfyngu ar y gwaith y maen nhw'n gallu ei wneud, o ystyried eu harbenigedd, i nifer fach iawn o achosion. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai ef ystyried cael datganiad ar hynny gorau po gyntaf oherwydd fy mod i'n gwybod bod y Cynulliad yn poeni am gategoreiddio yn gyffredinol ond yn benodol iawn am gyd-ymatebwyr. Diolch.

Ydy, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi arwydd imi ei fod yn mynd i ofyn i'r ymddiriedolaeth ambiwlans ysgrifennu at bob Aelod ac egluro beth yw'r sefyllfa yn union.

Mi hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os caf, a'r cyntaf gan Weinidog yr Amgylchedd ar yr ymateb i'r llifogydd yn Ynys Môn ym mis Tachwedd? Un o'r camau gweithredu pwysicaf i'w gymryd yn achos llifogydd Llangefni, yn sicr, oedd bod monitro yn digwydd rŵan er mwyn deall sut mae'r afon Cefni yn ymddwyn ac er mwyn gallu cynllunio camau gwrth-lifogydd. Rydw i'n deall bod gweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, oedd fod i wneud y gwaith monitro yna, rŵan wedi cael eu tynnu yn ôl i weithio ar rannau eraill o waith yr asiantaeth. Nid wyf i'n credu bod hynny'n dderbyniol, oherwydd heb wneud y monitro rŵan, mae'r bobl leol yn mynd i barhau i fyw mewn ofn bod y gawod law nesaf yn mynd i greu'r un math o ddinistr eto. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog i egluro'n union beth sy'n digwydd ac i gael y math o sicrwydd mae pobl yn yr ardal yna'n chwilio amdano fo?

Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ydy un gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg. Mae cynghorwyr yn Ynys Môn yn hynod siomedig ar ôl cael eu gwahodd i swyddfeydd Llywodraeth Cymru i sesiwn panel adolygu annibynnol i drafod dyfodol cynghorau tref a chymuned. Maen nhw’n siomedig gan fod y gwahoddiad yn gofyn iddyn nhw ddweud ymlaen llaw os ydyn nhw am gyfrannu yn Gymraeg, ac os nad oes 10 y cant yn dweud ymlaen llaw eu bod nhw am wneud hynny, byddan nhw’n tybied eu bod nhw’n barod i gymryd rhan yn Saesneg. Rydym yn sôn yn fan hyn am gynghorwyr sy’n gweithredu yn Gymraeg yn eu gwaith dydd i ddydd yn eu cynghorau yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad gan Lywodraeth Cymru ar stâd Llywodraeth Cymru. Nid wyf i’n credu bod hyn yn dderbyniol ac mi hoffwn i ddatganiad i egluro beth yn union ydy safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â hyn.

14:45

Wel, ar yr ail bwynt hwnnw, doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny fy hun, felly rwy'n credu, pe byddai'r Aelod yn barod i anfon manylion at—mewn gwirionedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus fyddai'n gyfrifol am hynny. Ond iddo ef ac i Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod yn cael gwybod beth ddigwyddodd yno, oherwydd mae hynny'n swnio'n rhyfedd iawn.

O ran yr un cyntaf, rwy'n credu, os byddwch chi'n amlygu'r amgylchiadau penodol pam y cafodd staff eu tynnu yn ôl, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi ystyriaeth i'r amgylchiadau penodol hynny. Mae hi ar fin gwneud datganiad y prynhawn yma ar yr amgylchedd yn fwy cyffredinol, ac rwy'n siŵr y cewch gyfle i ofyn y cwestiwn yn uniongyrchol.

Arweinydd y tŷ, yn ystod toriad y Pasg, cefais y pleser o groesawu'r Gweinidog dros blant, Huw Irranca-Davies i faes chwarae Oaklands yng Nghilfynydd i weld sut mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gweithio gyda thrigolion lleol i wneud y maes chwarae'n gynhwysol ar gyfer y rhai hynny sydd ag anghenion ychwanegol, a hefyd i drafod pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i hyrwyddo chwarae cynhwysol sy'n dilyn fy nghynnig deddfwriaethol yn gynharach eleni. A fydd cyfle i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar fesurau i wella chwarae cynhwysol yn ystod tymor y Cynulliad hwn?

Ie, rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn falch iawn o ymweld â maes chwarae Oaklands yng Nghilfynydd yn ystod yr hanner tymor, a chael cyfle i weld y gwahaniaeth y gall buddsoddi mewn cyfleusterau chwarae hygyrch ei wneud i blant a phobl ifanc. Roedd nifer o gamau dilynol y cytunwyd arnyn nhw ar ôl y ddadl ar eich cynnig deddfwriaethol yn gynharach yn y flwyddyn, a gwn y bydd y Gweinidog dros blant yn hapus, maes o law, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar bob un o'r camau a gyflwynir i wella chwarae cynhwysol yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Arweinydd y Siambr, hoffwn i gael datganiad Llywodraeth ar y cynnig o gefnogaeth a wnaed gan Brif Weinidog Cymru i'r bomio yn Syria. Mae'n ymddangos bod arolygwyr arfau cemegol rhyngwladol yn mynd i ymchwilio yn Douma yfory i adrodd ar yr hyn sydd wedi digwydd yno. Ond mae personél, o bosib o Gymru, eisoes wedi'u hanfon i fomio Syria cyn i'r ymchwiliad gael ei gynnal, a chefnogodd Prif Weinidog Cymru hynny.

Yn San Steffan, mae eich cyd-Aelodau Llafur yn sôn am Ddeddf pwerau rhyfel i gyfyngu ar weithredu milwrol yn ddemocrataidd, o bosib. Felly, beth yw'r polisi yng Nghymru? Ai dweud yr hyn y mae ei eisiau ar ran y Llywodraeth y mae'r Prif Weinidog? Rwyf wedi siarad yn flaenorol am eich dull detholus iawn o ran yr hyn y byddwch chi'n siarad amdano ar bolisi tramor. Rydych chi wedi cael fawr ddim i'w ddweud, os unrhyw beth, am y Cwrdiaid—dim byd o gwbl, mewn gwirionedd—a dim byd i'w ddweud ar ran y gymuned Yemeni yng Nghymru. Felly, beth fyddwn i'n ei hoffi, yn wir, yw rhywfaint o eglurder gan eich Llywodraeth. Felly, a wnewch chi ddatganiad ar gamau Prif Weinidog Cymru yn cefnogi'r gweithredu milwrol yn Syria fel Prif Weinidog Cymru?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn nad yw polisi tramor rhyngwladol wedi'i ddatganoli i Gymru. Atebodd Prif Weinidog Cymru gwestiynau am ei alwad ffôn gyda Phrif Weinidog y DU yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac nid oes gennyf i unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny.

Rwy'n credu, arweinydd y tŷ, bod Cymru wedi'i hystyried fel arweinydd y byd o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae gennym gyfle bellach i wneud cynnydd eto trwy gychwyn dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010, a fydd yn bŵer datganoledig ar 1 Ebrill. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Harriet Harman, cyn-Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, sydd wedi sicrhau'r pŵer hwn ar y llyfr statud, ochr yn ochr â'r darpariaethau ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Ddeddf? Byddai'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud penderfyniadau ar y ffordd y maen nhw'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran canlyniadau a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol. A fydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried cychwyn y ddyletswydd hon?

A gaf i hefyd ofyn, arweinydd y tŷ, am ddiweddariad? Rydym ni'n disgwyl canlyniad ystyriaeth y Gweinidog dros yr amgylchedd o asesiad o'r effaith amgylcheddol sy'n ymwneud â'r llosgydd biomas. Rwy'n ymwybodol bod y cwmni wedi gwneud sylwadau ar y cais am asesiad o'r effaith amgylcheddol. Er budd tryloywder, hoffwn i ofyn am gyhoeddiad o'r ymateb ac am gael dyddiad penderfyniad gan y Gweinidog. Diolch.

14:50

Diolch i chi am y ddau hynny. Rwy'n amlwg yn hapus iawn i ymuno â chi i gydnabod cyfraniad Harriet Harman i ddeddfwriaeth bwysig—roeddem ni'n falch iawn pan wnaethant lwyddo i fynd â hyn ar y llyfrau statud—yn ogystal â chydnabod y rhan sylweddol y mae anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol yn ei chwarae wrth wneud mathau eraill o anghydraddoldeb yn waeth. Yn wir, mae cyfosod y ddau fath hwn o anghydraddoldeb yn allweddol iawn i rai o'r anawsterau y mae pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael profiad ohonyn nhw ledled y DU.

Mae gennym ni gyfle nawr, fel y nodwyd gennych chi, i edrych eto ar a ddylem ni ddeddfu ar ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Mae hwn yn un o'r materion y byddwn ni'n eu hystyried yng nghyd-destun yr adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhwng y rhywiau y soniais amdano yn gynharach yn y sesiwn hon. Hefyd, mae gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd yn berthnasol iawn yn y cyd-destun hwn, gan gynnwys y nod o greu Cymru fwy cyfartal, ac rydym ni eisiau ystyried yn ofalus sut mae'r ddau yn cyd-chwarae a pha ddyletswyddau ychwanegol neu gyfrifoldebau pwysig sydd eu hangen, os o gwbl, ar gyrff cyhoeddus Cymru a sut mae'r ddau beth yn cyd-chwarae. Gwyddom fod yr Alban wedi gwneud y penderfyniad yn ddiweddar i ddeddfu ar ei dyletswydd economaidd-gymdeithasol fel 'dyletswydd yr Alban decach'. Rydym ni eisiau edrych yn fwy gofalus ar sylfaen eu penderfyniad a'r goblygiadau tebygol, er mwyn goleuo ein syniadau am y sefyllfa yng Nghymru. Ond mae hyn, i raddau helaeth, yn rhan weithredol o ystyriaeth bresennol yr adolygiad cyflym yr ydym ni'n ei wneud.

O ran gosodiad biomas y Barri, cyn i ni ryddhau llythyr a anfonir gan drydydd parti, mae'n ofynnol inni ymgynghori â nhw. Deallaf fod hwn wedi ei gwblhau erbyn hyn, felly caiff y llythyr ei ryddhau yn ddiweddarach heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y sylwadau ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim yn bwriadu pennu terfyn amser ar gyfer penderfyniad terfynol ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, gan y bydd penderfyniad yn gofyn am ystyriaeth ofalus a llawn o'r holl faterion er mwyn gwrthsefyll heriau cyfreithiol.

Stereo — rwy'n credu ein bod yn codi Radio Wales draw fanna, ydyn ni, Simon? [Chwerthin.]

Dau beth, os gaf i, Llywydd. Yn gyntaf oll, yn gynharach, gofynnodd Darren Millar i arweinydd y tŷ am y broblem gyda dileu'r gwasanaethau cuddliw ar gyfer y rhai sy'n dioddef o gyflyrau croen. Roeddwn i'n credu bod hyn yn gyfle da i hysbysebu'r grŵp traws-bleidiol ar y croen, a fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth nesaf. Mae croeso i bawb, a dylai fod yn gyfle da i godi'r mater hwnnw. Yn y gorffennol, gwn ein bod ni wedi codi materion fel hynny a chyfathrebu â'r Gweinidog hefyd, sydd bob amser yn ddefnyddiol iawn.

Yn ail, gofynnais cyn toriad y Pasg a fyddai modd cael datganiad ar y rhaglen cefnffyrdd a'r sefyllfa gyda'r gwelliannau arfaethedig ledled Cymru. Credaf ichi ddweud wedyn y byddai hynny gyda ni cyn toriad yr haf, o'm cof i, felly hoffwn i wneud apêl arall na fydd y datganiad hwnnw'n disgyn dros y dibyn y tu hwnt i doriad yr haf. Dros doriad y Pasg, cefais fy ngalw i ymdrin â dau fater—un broblem gyda llifogydd ar yr A4042 rhwng y Fenni a Phont-y-pŵl. Darn mawr o seilwaith, a fydd yn dod yn fwy pwysig gyda datblygiad y ganolfan gofal critigol yng Nghwmbrân—ac mae'n bwysig iawn bod ambiwlansys a cerbydau brys yn gallu croesi’r darn hwnnw o ffordd. Yn ail, mater arall yr wyf wedi ei godi gyda chi ac Ysgrifennydd y Cabinet yn y gorffennol, yw mater yr A40 rhwng Raglan a'r Fenni—hen wyneb ffordd goncrit sy'n dirwyo. Hyd yn hyn—rwy'n gwybod bod llawer o arian yn mynd i ffordd Blaenau'r Cymoedd, felly efallai bod y llygad wedi bod oddi ar y bêl gyda'r ddau ddarn hyn o ffordd y soniais amdanyn nhw hyd yn hyn, ond maen nhw'n ddarnau o seilwaith ffyrdd sydd yr un mor bwysig. Felly byddwn i'n ddiolchgar pe gallech roi pwysau ar eich cyd-Aelod i wneud yn siŵr bod gennym ni'r datganiad hwnnw ar welliannau i'r rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru cyn yr haf.

Ie, ar yr ail un—yn sicr, rydym ni'n disgwyl cael datganiad cyn diwedd tymor yr haf, cyn inni ddechrau toriad yr haf, ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru.

Rwy'n deall yn llwyr eich pwynt o ran y croen, a doeddwn i ddim yn gwybod bod yna grŵp trawsbleidiol, felly mae'n beth da cael fy atgoffa o hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cytuno i ysgrifennu yn ôl at Darren Millar ar ôl iddo gael y manylion.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy'n dymuno ychwanegu fy nghefnogaeth i alwad Simon Thomas am ddatganiad ar y sgandal gwarthus o driniaeth y genhedlaeth Windrush, ac roeddwn i'n dymuno gwneud rhai pwyntiau ychwanegol. Mae'n ein hatgoffa o'r hiliaeth endemig yn ein cymdeithas. Nid wyf yn cofio darllen am unrhyw bobl o Awstralia neu Seland Newydd yn cael eu dal oherwydd y modd y newidiwyd y rheolau mewnfudo, ac mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain bod y bobl sydd wedi cael eu trin mor warthus yn bobl nad oedden nhw'n gallu rheoleiddio na ffurfioli eu hawl i aros, gan nad oedd ganddyn nhw'r arian i wneud cais am basbort, heb sôn am arian i fynd yn ôl ac ymweld â theulu yn y lle y cawsant eu geni'n wreiddiol.

Mae un mater penodol yn fy mhoeni'n fawr, a hwnnw yw'r hawl i fywyd teuluol. Penderfynodd rhai pobl fynd yn ôl i'r Caribî neu i fannau eraill wrth iddyn nhw ymddeol, ac erbyn hyn maen nhw'n canfod nad ydyn nhw'n gallu ymweld â'u plant a'u hwyrion oherwydd deddfau mewnfudo llym. Yn achos un o'm hetholwyr, a fu farw yn ddiweddar—nid oedden nhw'n gallu trefnu ei angladd am fis cyfan ar ôl ei farwolaeth, oherwydd yr anawsterau i bobl a oedd yn dod o Trinidad. Ac mae hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol pan fyddwn ni'n sôn am y gymuned Asiaidd sydd, yn gyffredinol, yn dymuno claddu eu hanwyliaid o fewn 48 awr. Mae'n chwerthinllyd na all pobl fynd i angladd eu perthnasau agos oherwydd y rhwystrau a roddir arnynt gan y gwasanaeth mewnfudo. Felly, tybed a allwch chi, yn y datganiad hwn, gynnwys rhyw syniad o nifer y rhai yr effeithir arnyn nhw sy'n byw yng Nghymru, a beth allai Llywodraeth y DU fod yn barod i'w wneud bellach yng ngoleuni'r datguddiad a godwyd gan y sgandal hwn, a gobeithio y gallwn ni gael polisi mewnfudo sy'n fwy trugarog.

14:55

Wel, fel y dywedais wrth ymateb i Simon Thomas, fe wnaethom ni ysgrifennu yn mynegi ein pryderon difrifol ynglŷn â'r driniaeth o bobl a ddaeth o wledydd y Gymanwlad. Rwyf yn credu ei bod hi'n werth dweud, Llywydd, bod a wnelo hyn nid yn unig â'r bobl a ddaeth gyntaf o wledydd yr Ymerodraeth, wrth gwrs; ond â'r bobl a ddaeth o holl wledydd y Gymanwlad o ganlyniad i apêl gan Brydain ar ôl y rhyfel i helpu ailadeiladu'r 'famwlad', fel y gelwid hi bryd hynny i raddau helaeth. Yn anffodus, nid yw hi'n bosib gwybod faint o bobl sydd yna, oherwydd ni chyhoeddwyd unrhyw ddogfennau ar y pryd, ar ôl Deddf Mewnfudo 1971, ac nid oedd nifer fawr o bobl nad oeddent yn teithio dramor, am ba reswm bynnag, yn gweld unrhyw reswm i reoleiddio eu sefyllfa, a pam fydden nhw? Dim ond yn ddiweddar, yn sgil yr hinsawdd elyniaethus, sydd bellach wedi ei ailenwi'n 'hinsawdd gydymffurfio' gan Lywodraeth y DU, y gofynnir i bobl bellach ddangos gwaith papur er mwyn llofnodi prydlesi ac i allu manteisio ar bethau arferol, beunyddiol, rheolaidd. Yn anffodus, nid ydym ni'n gwybod faint ohonyn nhw sy'n bodoli ac sydd wedi eu heffeithio yng Nghymru.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref, o ganlyniad i bwysau sylweddol iawn, gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi mesurau newydd, rwy'n falch o ddweud, sy'n cynnwys: tasglu pwrpasol i helpu'r rhai sydd wedi'u heffeithio; cynlluniau i weithio gydag adrannau ym mhob rhan o'r Llywodraeth i gasglu tystiolaeth ar ran mewnfudwyr—fel arfer disgwylir dogfennau ar gyfer pob blwyddyn, megis datganiadau banc neu slipiau cyflog, ond bydd pob un ohonoch chi'n gwybod pa mor anodd yw hi i wneud hynny, yn enwedig mewn oes electronig lle nad yw banciau yn eu cadw yn hwy na dwy neu dair blynedd—addewid y caiff pob achos ei ddatrys mewn pythefnos, sef, yr hyn rwy'n ei olygu yw, pe bai hynny ond yn bosib; bod yr holl ffioedd ar gyfer dogfennau newydd yn cael eu diddymu fel y nad yw pobl ar eu colled yn ariannol, ac mae'r rheini fel arfer yn costio tua £229, dywedir wrthyf; ac y caiff gwefan newydd ei sefydlu gyda chadarnhad a phwynt cyswllt uniongyrchol. Gwnaed nifer o ddatganiadau eraill, ond rydym ni'n ymwybodol, hefyd, bod rhai pobl mewn gwirionedd wedi cael eu halltudio. Rydym yn parhau i geisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd pawb sydd wedi cael triniaeth wael o ganlyniad i'r sefyllfa warthus hon yn cael yr iawn y mae ganddynt yr hawl iddo. 

3. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), ac rydw i'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd, am y cyfle i wneud y datganiad yma ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) a gafodd ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol ddoe. Bydd y Bil, er yn dechnegol ei natur, yn ei gwneud hi’n bosib i Lywodraeth Cymru sefydlu system genedlaethol i reoli ceisiadau ac i wneud y gwiriadau cymhwystra angenrheidiol ar gyfer y cynnig gofal plant yng Nghymru.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Roedd y cynnig gofal plant yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto Llafur Cymru 'Gyda'n gilydd dros Gymru', ac rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi ei ariannu gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair oed yng Nghymru ar gyfer hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r elfen gofal plant wedi ei bwriadu ar gyfer rhieni sy'n gweithio, sy'n golygu bod angen inni sefydlu ffordd y gall rhieni wneud cais am y cynnig a chael gwybod a ydynt yn gymwys ai peidio, ac rydym ni'n awyddus i sicrhau bod y broses hon yn gyflym ac yn hawdd.

Ym mis Medi, fe wnaethom ni ddechrau darparu ein cynnig gofal plant mewn saith ardal awdurdod lleol cychwynnol. Mae'r cyfnod arbrofol hwn yn hynod werthfawr. Rydym yn dysgu oddi wrth y ddarpariaeth ar lawr gwlad. Mae'n ein helpu i fireinio'r cynnig cyn y caiff ei gyflwyno'n ehangach. Mae gweithredu cynnar wedi tynnu sylw at rai o'r materion a'r heriau posib sy'n ymwneud â gweinyddu'r cynnig yn fwy hirdymor. Felly, ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn cynnal gwiriadau cymhwysedd unigol a phersonol i raddau helaeth. Rydym ni'n gwybod eu bod yn gweld hyn yn feichus, ac mae'n golygu llawer o adnoddau, ond hoffwn ddiolch iddynt am eu hymroddiad ac am eu hadborth hyd yma.

Ond wrth inni gamu i'r dyfodol, nid yw'n gwneud synnwyr i barhau gyda dull mor feichus, ac nid yw'n gwneud synnwyr bod yn rhaid i rieni ddarparu tystiolaeth copi caled o'u statws cyflogaeth ac enillion misol ac ati i'w hawdurdod lleol. Felly, wrth inni symud tuag at gyflwyno'n llawn y cynnig gofal plant yn 2020, rydym ni eisiau sefydlu un dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer prosesu ceisiadau ac ar gyfer gwirio cymhwysedd. Bydd y Bil hwn yn ein galluogi i wneud hynny'n union.

Mae'r Bil yn rhoi grym i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid gofal plant i rieni cymwys sy'n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed ac i wneud rheoliadau ynghylch y trefniadau ar gyfer gweinyddu a gweithredu cronfa o'r fath. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen i gadarnhau cymhwysedd. Mae'n rhoi grym i Weinidogion Cymru ei gwneud hi'n ofynnol i rieni ddarparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'w cais, ac i ganiatáu i rai adrannau o Lywodraeth y DU ddarparu gwybodaeth sy'n berthnasol i wneud y penderfyniad ynghylch cymhwysedd rhywun. Mae hon yn wybodaeth sensitif, ac mae'n briodol fod y Bil hefyd yn darparu ar gyfer ei chyfrif hi'n drosedd datgelu gwybodaeth o'r fath yn anghyfreithlon.

Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n bosib hefyd cyflwyno cosbau ariannol mewn amgylchiadau penodol. Felly, er enghraifft, os yw person yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yn fwriadol i gefnogi eu cais am gyllid. Fodd bynnag, bydd ymgeiswyr hefyd yn gallu gofyn am adolygu unrhyw benderfyniadau o ran cosbau neu gymhwysedd ac, yn y pen draw, gallant apelio yn erbyn penderfyniadau i'r tribiwnlys haen gyntaf.

Rydym ni wedi ymchwilio i ffyrdd eraill o sefydlu'r broses hon, ac mae'r rhain wedi'u nodi yn y dogfennau sy'n cefnogi'r Bil, a gyhoeddwyd ddoe. Y dewis a ffefrir gennym ni yw cael y pŵer i wneud trefniadau ynghylch sut y dylid gweinyddu'r arian ar gyfer y cynnig, a dyna mae'r Bil yn ei wneud.

Y bwriad ar hyn o bryd yw trefnu i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi weithredu'r system ar ran Gweinidogion Cymru, gan integreiddio gyda'r system sydd eisoes ar waith ar gyfer y cynnig sy'n berthnasol yn Lloegr. Credaf mai dyma'r dewis gorau. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau yn cytuno, o gofio'r cyfyngiadau presennol ar y gyllideb, a'r cyfnod parhaus hwn o gyni a orfodir gan Lywodraeth y DU, nid yw hi'n gwneud synnwyr i ailddyfeisio atebion newydd lle mae rhai eisoes yn bodoli.

Bydd y Bil hwn yn sefydlu un ffordd o weithredu ledled Cymru. Ni fydd unrhyw loteri cod post wrth wneud cais am ofal plant yng Nghymru. Ymdrinnir â chais pawb yn yr un modd, a bydd yr un meini prawf a rheolau yn berthnasol. Rydym ni hefyd yn credu bod y dull hwn yn llai o risg o safbwynt twyll a diogelwch data.

Mae'r Bil yn gofyn am gydsyniad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys a Gweinidogion eraill priodol Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Elizabeth Truss AS, am roi ei chydsyniad i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil. Hoffwn hefyd ddiolch i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'i swyddfa am eu cefnogaeth dros y misoedd diwethaf wrth ddatblygu'r Bil hwn ac wrth ofyn am gydsyniad Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.

Mae'r pwerau gwneud rheoliadau, y mae'r Bil yn eu rhoi i Weinidogion Cymru, yn caniatáu i'r manylion gweithredol gael eu rhagnodi mewn is-ddeddfwriaeth. Bydd y rheoliadau yn manylu ynghylch pwy sy'n gymwys i gael arian o dan y cynllun, a sut y gallant fynd ati i wneud cais am y cyllid. Bydd y weithdrefn gadarnhaol yn berthnasol i bob is-ddeddfwriaeth, heblaw am y Gorchymyn Cychwyn. 

Felly, mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i sylw Aelodau'r Cynulliad. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weithio gyda'r Cynulliad, a Phwyllgorau'r Cynulliad, dros y misoedd nesaf, gan fy mod yn credu bod y Bil hwn yn garreg filltir bwysig o ran cyflawni un o ymrwymiadau allweddol ein maniffesto.

15:00

Diolch, Cadeirydd. A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad ac am y diweddariad a gefais gennych yn gynharach, gennych chi a'ch uwch swyddogion? Rwy'n credu bod hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth y mae angen i'r Cynulliad ei wireddu fel y gallwn ddefnyddio'r fframwaith hwn yn gyfrwng ar gyfer y trefniadau ariannol y bydd angen iddynt fod ar waith ar gyfer y cynnig gofal plant newydd. A byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, bod y cynnig gofal plant newydd hefyd yn cyflawni un o'n hymrwymiadau maniffesto, ac ymrwymiadau maniffesto rhai o'r pleidiau gwleidyddol eraill sydd hefyd yn cael eu cynrychioli yn y Siambr hon, sef fod pob un ohonom ni'n awyddus i sicrhau fod pobl mewn gwaith yn gymwys i gael gofal plant rhad ac am ddim, er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i bobl ddychwelyd i'r gwaith a hefyd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygu plant a chyfleoedd addysg gynnar ar gyfer y plant hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol eich bod yn ceisio gwireddu'r uchelgais honno.

Nawr, er gwaethaf hynny, wrth gwrs, ceir rhai pryderon bod y meini prawf o ran manteisio ar ofal plant am ddim yn gyfyngol mewn modd sy'n golygu nad yw cynnig cynhwysfawr yn cael ei wneud. Mae'r comisiynydd plant ac eraill wedi mynegi eu pryderon bod y bobl ifanc hynny sy'n dod o gefndiroedd tlotach yn tueddu i fod tua 10 mis ar ôl eu cyfoedion o ran datblygiad pan fo nhw'n dair oed, ac ni chaiff llawer o'r rheini, wrth gwrs, os nad yw eu rhieni yn y gwaith, unrhyw gyfle i fanteisio ar yr y cynnig gofal plant o ansawdd uchel yr ydych chi a minnau eisiau rhoi cyfle i'n pobl ifanc fanteisio arno. Felly, tybed, Weinidog, a fydd y Llywodraeth yn ystyried y meini prawf cymhwysedd wrth inni symud ymlaen gyda'r Bil hwn, wrth iddo symud ymlaen i'r Cam Pwyllgor, fel y ceir cyfle nid yn unig i drafod datblygiad y fframwaith ariannol sy'n sail i'r cynnig gofal plant, ond hefyd i edrych yn fwy eang ar y meini prawf cymhwysedd a oedd ar wyneb y Bil, os mynnwch chi, er mwyn ei ehangu efallai.

Mynegwyd pryderon eraill ynglŷn â chynnwys aelodau o'r teulu sydd efallai yn wir yn warchodwyr plant neu yn berchnogion meithrinfa cofrestredig a thrwyddedig, a'u gallu i gynnig gofal plant a delir amdano drwy'r cynllun gofal plant newydd. Unwaith eto, credaf fod y Bil hwn yn gyfle i roi sylw i'r pryderon a grybwyllwyd yn hynny o beth. Gallaf weld bod rhywfaint o gyfeirio at rieni a allai fod yn warchodwyr plant ar wyneb y Bil, ac at eu heithrio yn benodol, ond beth am fodrybedd, ewythrod, teidiau a neiniau ac aelodau eraill o'r teulu estynedig, sydd o bosib wedi eu cofrestru a'u trwyddedu, sy'n darparu addysg gynnar a gofal plant o ansawdd uchel? Rwy'n credu y dylen nhw, hefyd, gael y cyfle i gymryd rhan yn y cynllun hwn ac i gael eu hariannu i gymryd rhan yn y cynllun.

Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch gallu'r sector i ddarparu'r cynnig gofal plant, a thybed a allwch chi ddweud wrthym ni ble'r mae'r Llywodraeth arni o ran cynyddu'r gallu yn yr ardaloedd arbrofol hynny. Byddwch yn gwybod y bu rhai adroddiadau annibynnol sydd wedi awgrymu bod y capasiti sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru gyfwerth ag oddeutu dwy awr 40 munud pe manteisid arno'n llawn ledled y wlad ac y cofleidiwyd y cynnig hwn yn ei gyfanrwydd yr wythnos hon. Mae hynny'n amlwg yn bell o'r uchelgais y gall pob person ifanc cymwys cael y 30 awr llawn, felly tybed pa waith ydych chi'n ei wneud gyda'r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd ac eraill er mwyn cynyddu'r capasiti hwnnw, a beth yw eich profiad yn yr ardaloedd arbrofol yn hynny o beth.

Yn ogystal, mynegodd Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru rai pryderon difrifol ynghylch cost y cynnig gofal plant am ddim, yn eu hadroddiad gryn amser yn ôl. Roedden nhw'n tybio y gallai gostio hyd at £228 miliwn i'w weithredu ledled Cymru. Rwy'n sylweddoli nad yw'r holl fanylion o ran cyflwyno'r cynllun yn ei gyfanrwydd yn y Memorandwm Esboniadol mewn cysylltiad â'r Bil hwn, oherwydd mae'n ffurfio rhan fach o'r hyn yr ydych yn ei wneud, ond mae'n amlwg yn destun pryder, ac rwy'n gwybod fod Llywodraeth Cymru wedi dal ei thir o ran y pris hwn o £100 miliwn. Ond efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, o ystyried profiad parhaus yn yr ardaloedd arbrofol unwaith eto, a ydych chi'n dal yn teimlo y bydd £100 miliwn yn ddigonol i allu cyflawni'ch uchelgais.

A dim ond yn olaf, os caf i ddweud dim ond o ran cynnwys Cyllid a Thollau EM i gyflawni hyn, credaf fod hynny'n synhwyrol iawn. Mae'n amlwg iawn yn y Memorandwm Esboniadol a'r Atodiadau ariannol bod unrhyw ddewis arall yn ddiffygiol iawn o ran pa mor atyniadol ydyw, o ran cost-effeithiolrwydd cydweithio â CThEM. Rydych chi yn llygad eich lle: mae ganddyn nhw eisoes seilwaith sydd ar waith dros y ffin yn Lloegr, ac mae ehangu hynny i gynnwys cynllun Cymreig yn ymddangos yn synhwyrol iawn. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu'n gadarnhaol, drwy gyfrwng Swyddfa Cymru a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, er mwyn rhoi'r caniatâd a'r cymorth priodol i hwyluso'r Bil hwn. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny ac edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb.

15:10

Darren, diolch yn fawr iawn. Mae sawl pwynt yn y fan yna, ond a gaf i ddechrau drwy groesawu'ch cefnogaeth eang ar gyfer hyn? Fel y dywedwch yn gwbl briodol, ymddangosodd fersiynau o ofal plant, cynigion addysg gynnar, yn y rhan fwyaf o'r maniffestos o ryw fath, gydag amrywiadau ar y thema, wedi eu cyflwyno yn wahanol. Ond mae'n dda ein bod bellach mewn sefyllfa ble, gyda chymorth y tŷ hwn i'r Bil hwn, y gallwn ni symud i sefyllfa lle gallwn ni weld cyflwyno Cynllun Gofal Plant Cenedlaethol i Gymru yn llawn erbyn 2020, sy'n cynnwys yr elfennau hynny yn ogystal—nid dim ond gofal plant, ond hefyd y dylanwad hwnnw o ran addysg ac addysgeg hefyd. Felly, diolch am y gefnogaeth.

I droi at un o brif themâu y pwyntiau a wnaethoch chi, nid dyma'r cynnig cynhwysol. Yn wir, mae rhai wedi lobïo am gynnig llawer mwy cynhwysol, yn enwedig ymhlith y rhai—ac rwyf wedi trafod hyn gyda hi—y Comisiynydd Plant, ond ceir eraill hefyd. Ond nid dyma'r cynnig hwnnw; dyma, i raddau helaeth iawn, y cynnig sydd wedi dod yn uniongyrchol o'r maniffesto, sy'n canolbwyntio'n benodol ar rieni sy'n gweithio fel y disgrifir yn y Bil ac o fewn y ffiniau a fydd yn rhan o'r rheoliadau. Felly, ni fyddwn yn ymdrechu ar unrhyw adeg yn ystod o broses hon, gan gynnwys wrth iddo gyrraedd cam, gydag ewyllys Aelodau'r Cynulliad, ble gellir ei gyflwyno i'r Pwyllgor, i esgus fod hwn yn unrhyw beth heblaw'r hyn ydyw. Mae ceisio datblygu cynnig mwy cynhwysol yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol, a bydd digon o gyfleoedd i ymchwilio i hynny, rwy'n siŵr. Ond mewn gwirionedd mae hwn yn fesur eithaf technegol a phenodol a fydd yn caniatáu i ni gyflwyno'r cynnig fel y mae wedi ei lunio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae rhywfaint o hyblygrwydd o fewn hynny, sy'n eithaf diddorol wrth inni symud ymlaen i'r Pwyllgor, nid i wneud y cynnig cyffredinol, ond i edrych ar rai o'r grwpiau cyfansoddol hynny yn y byd gofal plant a gwarchod plant sydd â diddordeb bod yn rhan o hyn. Ond rwy'n credu mai un peth y mae'n rhaid inni fod yn glir yn ei gylch yw nad yw hyn mewn unrhyw ffordd i fod yn rhyw fath o gymhorthdal amgen i deuluoedd sy'n gofalu am eu plant eu hunain—mae hyn ar gyfer gwarchodwyr plant a chyfleusterau gofal plant cofrestredig a thrwyddedig, cofrestredig a thrwyddedig. Felly, mae llawer o rai eraill yn dweud, 'Wel, allwn ni ddim elwa hefyd?' Nid yw'r pwyslais ar hyn dim ond ar warchod plant; mae ar y buddion ehangach ar gyfer y plant sy'n rhan o hynny a sut mae hyn yn integreiddio. Ac mae hyn yn rhan o'r cynllun arbrofol—sut mae hyn yn integreiddio hefyd gyda phethau fel cynnig y blynyddoedd sylfaen ac yn y blaen. Felly, fe allwn ni ystyried hyn yn y Pwyllgor.

Fe wnaethoch chi sôn am y materion o ran capasiti a'r costau. Rydym yn dal yn ffyddiog, ond rhan o'r cynllun arbrofol, gyda llaw, yw er mwyn mewn gwirionedd ein helpu i fireinio'r sefyllfa yr ydym ni'n credu y byddwn ynddi o ran y costau, yn seiliedig ar elfennau o ddefnyddio, ac ati, ac ati. Felly, rydym ni yn mireinio hynny, ond rydym ni'n dal yn gwbl ffyddiog bod y costau cychwynnol y gwnaethom ni eu cyflwyno o fewn cwmpas yr hyn y gallwn ei gyflawni erbyn 2020 o ran cyflwyno'r cynllun yn llawn. Ac yn yr un modd, o ran capasiti, mae'n eithaf rhyfeddol ein bod o fewn y gwahanol fathau o ofal plant, y capasiti gwarchod plant, yn darganfod fod hynny'n eithaf gwahanol yn ddaearyddol. Mae yna—yn arbennig wrth edrych ar fy ochr dde yma—yn rhannau o Gymoedd y de, lawer o warchodwyr plant trwyddedig sy'n gofalu am eu hwyrion a'u hwyresau eu hunain ynghyd â dau neu dri neu bedwar o blant eraill. Mae hynny'n eithaf diddorol. Ond rhan o'r arbrawf hwn a'r ffordd yr ydym ni'n graddol gyflwyno'r cynllun yw er mwyn gwneud yn siŵr ein bod hefyd yn gwneud y gwaith hwnnw ochr yn ochr â hynny o feithrin gallu. Ac rydym ni yn gwneud llawer o waith gyda'r sectorau, gwahanol rannau'r sector, i feithrin gallu, i adnabod y bylchau lle gallai fod bylchau yn y ddarpariaeth, fel y byddwn ni erbyn 2019-20, yn barod i gyflwyno'r ddarpariaeth hon yn gyfan gwbl.

Cyllid a Thollau EM—diolch ichi am y croeso i'r ffaith ein bod wedi dewis yr opsiwn hwnnw. Fe wnaethom ni ystyried dewisiadau eraill. Fe wnaethom ni ystyried a ddylem ni ddarparu hyn, fel yr ydym ni ar hyn o bryd, drwy awdurdodau lleol. Rwy'n credu fy mod i wedi gwneud yn glir pam, o safbwynt cost a baich hynny, nad dyna'r ffordd briodol i wneud hyn, a hefyd diogelu data, rhannu gwybodaeth, ac ati, ac ati. Fe wnaethom ni hefyd ystyried cael endid annibynnol i wneud hyn, cael endid Cymreig newydd. Pam y byddem yn gwneud hyn pan mae'n fwy cost-effeithiol ac mae un eisoes yn bod sy'n gwneud hyn? Maent wedi cael rhai anawsterau mân, gyda llaw, yn y model yn Lloegr, ond un peth da yw ein bod yn ffyddiog, erbyn y bydd hi'n bryd inni gyflwyno'r cynnig, byddwn wedi goresgyn yr anawsterau hynny. Hwyrach yn y dyfodol y gallai Awdurdod Refeniw Cymru wneud hynny—mae'r Bil fel y mae wedi ei strwythuro yn caniatáu ystyried y cyfleoedd hynny yn y dyfodol os bydd angen inni—ond, fel y mae hi ar hyn o bryd, rydym yn awyddus iawn i symud ymlaen gyda model Cyllid a Thollau EM a diolchaf i'r Ysgrifenyddion Gwladol amrywiol sy'n ein helpu i hwyluso hyn.

15:15

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae'n iawn, mae yn Fil technegol, ond rydw i'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r Bil wrth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg graffu ar y Bil dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf yma. 

Nawr, rydw i eisiau dechrau drwy daro nodyn o gonsérn, efallai, oherwydd byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru yn cefnogi'r egwyddor o ehangu'r ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru. Mae Plaid Cymru eisiau ei ehangu i bob plentyn tair i bedair oed yng Nghymru ac nid ei gyfyngu i blant o deuluoedd sy'n gweithio yn unig. Mi ddaeth hi'n glir o'r dystiolaeth a roddoch chi ychydig fisoedd yn ôl i'r pwyllgor fod y Llywodraeth yn dod at hwn o bersbectif y rhieni a'r elfen economaidd, efallai, yn fwy na'r elfen plant, tra, efallai, ein bod ni, fel Plaid—rŷm ni'n teimlo mai'r plant yw ffocws canolog y polisi yma, a gwella cyfleoedd bywyd neu addysgiadol y plant yna yn benodol. Felly, rydym ni'n cyd-weld â'r comisiynydd plant a'r adroddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Achub y Plant ac eraill. Rŷm ni'n rhannu eu consérn nhw fod allgau plant o gartrefi di-waith o'r cynllun yma yn mynd i greu risg o ehangu'r bwlch addysg yna rhwng y rhai mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion efallai ychydig yn llai difreintiedig, yn lle cau'r bwlch yna. Rydym ni am wneud cyfleoedd bywyd plant yn fwy cyfartal. Rydw i'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at rai o'r rhaglenni eraill sy'n bodoli i gefnogi plant difreintiedig, fel Dechrau'n Deg ac yn y blaen, ond rŷm ni hefyd yn gwybod fod y rhan fwyaf o blant difreintiedig yn byw y tu allan i'r ardaloedd hynny. Felly, mae yna fwlch yn dal yn mynd i fod yn y ddarpariaeth, a hwnnw'n fwlch pwysig, rŷm ni'n teimlo, sy'n gorfod bod yn flaenoriaeth i ni fynd i'r afael â hyn.

Felly, mae pwyslais Llywodraeth Cymru yn bennaf, rwy'n credu, ar y rhiant sy'n gweithio, ond rhaid imi ddweud bod llawer o'r dystiolaeth yn awgrymu bod effaith y math hwn o raglen efallai yn gyfyngedig o'u rhan nhw, oherwydd rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol y daeth adroddiad Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ddwy flynedd yn ôl i edrych ar y dewisiadau polisi gofal plant ar gyfer Cymru, i'r casgliad:

'Mae'r effaith ar allu gweithio ac oriau gwaith i famau mewn teuluoedd sydd â phlentyn o oedran targed yn eithriadol o fach.'

Maent yn dod i'r casgliad ei bod yn annhebygol

'o gyflawni'r naill amcan neu'r llall i unrhyw raddau nodedig, o bosibl i'r graddau y byddai rhywun hyd yn oed yn sylwi arnynt.'

Felly, dim ond edrych am sicrwydd wyf i eich bod yn argyhoeddedig y bydd buddsoddiad o £100 miliwn a mwy gan y Llywodraeth yn esgor ar y canlyniadau angenrheidiol hynny o ran yr effaith ar deuluoedd, yn gweithio oherwydd awgryma adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru nad dyna efallai o reidrwydd yr achos i'r graddau y byddem yn gobeithio.

Yn y papur yr ydych chi wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl ifanc—ac yn sicr byddwn yn trafod agweddau ar hyn eto bore yfory pan rydych chi'n ymuno â ni yn y Pwyllgor—gwnaethoch chi gyfeirio at adroddiad a gyhoeddwyd gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd y llynedd, sy'n sôn am fanteision i fenywod yn y farchnad lafur, ond wrth gwrs roedd yr adroddiad hwnnw'n canolbwyntio ar blant rhwng dim a thair blwydd oed, nid tair a phedair oed, fel y gwna'r polisi hwn, wrth gwrs. Mae'r adroddiad hwnnw yn cyfeirio at ddarpariaeth yn Québec, lle mae dadansoddiad o'r polisi yn y fan honno wedi canfod ei fod yn amlwg yn ffafrio teuluoedd sydd â'r incwm mwyaf. Felly, credaf y gallwch ddeall yr hyn yr wyf i'n ei ddweud, a byddai gennyf ddiddordeb clywed eich ymateb i hynny.

Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw bod cefnogaeth Plaid Cymru i'r polisi hwn, fel yr adlewyrchwyd yn y cytundeb compact ac fel y crybwyllwyd eisoes, yn seiliedig ar y gred, o leiaf, neu'r gobaith, fod hyn yn ddechrau taith y byddai'n ein harwain at sefyllfa lle ceir darpariaeth gynhwysol. Nawr, roeddech chi'n amharod iawn i ymrwymo i hynny nac i awgrymu bod gennych chi'r math hwnnw o uchelgais yn y Pwyllgor ychydig fisoedd yn ôl. Dim ond meddwl oeddwn i, tybed ydych wedi cael cyfle i ystyried ble fyddem ni o bosib yn mynd nesaf, oherwydd yn sicr rydym ni wedi gweld hynny fel cam cyntaf tuag at gyflwyno gwasanaeth cynhwysol. Os nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu dangos yr un uchelgais honno yna byddem yn sicr yn siomedig iawn, iawn i ddweud y lleiaf. Ac nid dim ond ni sydd angen eglurder ynglŷn â hynny; rwy'n credu y byddai'r sector yn elwa gan wybod mai dyna'r sefyllfa yr ydym ni'n mynd tuag ati yn y pen draw yn ogystal.

Nawr, ydy, mae'n Fil technegol ac ychydig o fanylion sydd ar wyneb y Bil, mae'n rhaid imi ddweud, ac mae rhai manylion pwysig iawn hefyd yn cael eu gadael i'w rheoleiddio o ran beth fyddai'n cymhwyso plentyn, amgylchiadau y mae person i'w ystyried ai peidio yn gymar person, amgylchiadau y mae person i'w drin fel petai yn gwneud gwaith cyflogedig ai peidio, a dim ond meddwl wyf i: tybed a gyflwynwyd hyn braidd yn rhy gynnar? Onid ydym ni'n gwybod yr atebion i rai o'r cwestiynau hyn? Oherwydd gwyddom fod Ymchwil Arad yn cynnal gwerthusiad. Oni ddylem ni aros i hynny gael ei gyhoeddi yn yr hydref? Ac er fy mod i yn croesawu'r ffaith y bydd unrhyw reoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, wrth gwrs, gŵyr pob un ohonom ni, gyda gweithdrefn gadarnhaol, bod yn rhaid derbyn neu wrthod y broses; ni allwn ni ei diwygio. Felly, mae gennyf rai pryderon, er fy mod yn sylweddoli ei fod yn fesur technegol, efallai bod y lefel o—. Byddwn wedi disgwyl efallai ychydig mwy o fanylder, felly dim ond meddwl wyf i tybed pam nawr a pham nad efallai ymhen ychydig fisoedd, pan fyddwch chi mewn sefyllfa well i gyflwyno mwy o fanylder.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi, oherwydd natur dechnegol y Bil, a'i apêl gyfyngedig i'r cyhoedd ehangach, nad oeddech yn teimlo ei bod hi'n briodol cynnal ymgynghoriad agored, ond byddai'n dda clywed pa elfennau o ymgynghori a fu, nid yn unig o ran rhieni ond yn enwedig o ran plant hefyd. Byddwn yn croesawu eich sylwadau ynglŷn â hynny.

A'r terfyn uchaf o £100,000 ar gyfer cymhwysedd—beth yw'r sail resymegol dros hynny? Nid oes gennyf broblem â hynny; mae'n swnio braidd fel ffigur mympwyol. Rwy'n siŵr nad yw. Efallai y gallech chi egluro i ni pam ei fod wedi'i bennu ar y lefel honno.

Yn olaf, mae eich datganiad yn sôn am wiriadau cymhwysedd a'r fiwrocratiaeth gysylltiedig a ddaw yn sgîl hynny, sy'n ei wneud, ac rwy'n dyfynnu, yn 'ddull beichus'. Wel, wrth gwrs, byddai dull cynhwysol yn dileu'r angen am lawer o hynny ond, fel y dywedaf, rydym ni'n edrych ymlaen at graffu ar y Bil ac, yn amlwg, byddwn yn dychwelyd at rai o'r materion hyn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

15:20

Llyr, diolch yn fawr iawn. A gaf i ateb y cwestiwn mwy sylfaenol y gwnaethoch chi ei ofyn chi'n gyntaf oll, er fy mod yn croesawu unwaith eto eich cefnogaeth eang, a'r cwestiwn a ofynnwyd gennych, 'ble nesaf ar y daith?' Dyna'r cwestiwn y dylem ni wastad fod yn ei ofyn fel pobl sy'n llunio polisïau a dylanwadu ar bolisïau. Ond, unwaith eto, nid wyf i eisiau mynd yn rhy bell neu addo gormod o ran y Bil penodol hwn. Mae'n ymrwymiad maniffesto, mae'n ymrwymiad wedi'i dargedu'n dda iawn, rydyn ni'n gwbl argyhoeddedig y bydd nid yn unig o fantais faterol, yn economaidd ac o ran creu cyfleoedd ar gyfer y teuluoedd mwyaf difreintiedig, yn enwedig ar gyfer y teuluoedd sydd â'r incwm isaf, ond bydd hefyd yn cael effaith—y Bil fel y mae ar hyn o bryd os bydd y Cynulliad hwn yn ei basio—ar y sector sylfaenol ehangach honno. Rydym ni wedi siarad llawer am hyn yn y Cynulliad hwn, ac rydym ni wedi siarad am wahanol sectorau sylfaenol. Wel, beth sy'n fwy cyffredin ar bob stryd ac ym mhob cymuned yn y wlad ond gofal plant, gofal plant cofrestredig a thrwyddedig yn ei holl amrywiaeth? Felly, os ydym ni'n gwneud hyn yn gywir ac yn cynyddu gallu, bydd yn cael effaith nid yn unig ar y rhieni a'r teuluoedd hynny, a rhai o'r teuluoedd gyda'r incwm isaf yn y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli, ond bydd hefyd yn cael effaith economaidd ehangach, rwy'n credu, sef mewn gwirionedd drwy gynyddu gallu.

Ond rydych chi yn gofyn, 'Ble ydym ni'n mynd nesaf ar y daith?' Dyna'r cwestiwn priodol i ofyn. Nid wyf am roi ateb uniongyrchol ichi ym mhroses y Bil hwn, mae arnaf ofn, ond credaf ei bod hi'n ddadl briodol y mae angen inni ei chael. Ond rydym ni yn gweithredu o fewn cyfyngiadau hefyd. Yr un mwyaf amlwg yw ein sefyllfa ar hyn o bryd yn y gyfundrefn ariannol sydd ohoni. Rwy'n credu bod dadleuon argyhoeddiadol yn y Cynulliad hwn, ond hefyd yn allanol, ar gyfer cynnig mwy cynhwysol. Ond bydd yn rhaid inni graffu ar oblygiadau polisi hynny. Bydd yn rhaid inni graffu ar y goblygiadau ariannol yn ogystal ond, ar hyn o bryd, yr hyn sydd gennym ni ger ein bron yw cynnig manwl a phenodol iawn sy'n canolbwyntio ar rieni sy'n gweithio. A bydd yn cael, fel cam ar y daith honno, effaith sylweddol ar lawer o'n hetholwyr.

Bydd, gyda llaw, rwy'n siŵr, digon o gyfleoedd y tu allan i gwmpas y Bil hwn i roi prawf ar y trafodaethau ehangach, nid yn unig yn y cyfarfod Pwyllgor ond yma yn y Cyfarfod Llawn ar brydiau eraill hefyd. Ond mae hyn yn fanwl iawn o ran yr hyn y mae'r Bil eithaf technegol hwn yn ceisio'i wneud.

Fe wnaethoch chi ofyn, 'pam Bil fframwaith?', ac mae hyn, yn wir, yn Fil fframwaith sy'n defnyddio'r pwerau—. Nawr, rwyf wedi tywys mesurau fframwaith mawr drwy'r Senedd o'r blaen, pan fu'n rhaid imi egluro i aelodau'r Pwyllgor wrth imi ei gyflwyno, 'peidiwch â phoeni. Byddaf yn anfon atoch chi, o fewn pythefnos, erbyn inni gyrraedd ein sesiwn Pwyllgor nesaf—'. A bydd Julie yn ymwybodol o hyn, gan ei bod yn y Senedd—'Mewn pythefnos, Julie, peidiwch â phoeni, byddaf wedi ysgrifennu canllawiau i chi, byddaf wedi ysgrifennu'r rheoliadau drafft fel y gallwch chi eu gweld'. Nid ydym ni yn yr un sefyllfa yma. Rydym ni mewn gwirionedd yn arbrofi mewn saith awdurdod gweithredol cynnar o ran yr hyn yr ydym yn cynllunio i'w wneud. Rydym ni'n dysgu wrth fynd. Felly, mae'r canllawiau yn bodoli. Mae'r meini prawf cymhwysedd yn bodoli. Mae Cyllid a Thollau EM—hyd yn oed os cafodd rhai mân drafferthion, yn gweithio yn Lloegr. Felly, mae pob un o'r agweddau yr ydym ni'n sôn amdanynt yn rhai diriaethol. Mae'n wahanol iawn i ddweud, 'rhowch eich ffydd ynof. Ymhellach yn y dyfodol fe wnaf i ddweud wrthych chi pa fath o bethau y byddwn yn eu gwneud, pa fath o wybodaeth y byddwn yn gofyn i rieni amdani, pwy fydd yn gymwys'. Mae hynny eisoes wedi ei ddisgrifio, felly mae'n ddull ychydig yn wahanol i gyflwyno Bil fframwaith. Nid wyf yn addo, 'ymddiriedwch ynof;  fe ddown ni at hyn'. Dweud yr wyf i, 'edrychwch ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud'.

Rydym ni'n esblygu yn y saith ardal cychwynnol gweithredol hynny hefyd, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm am yr hyblygrwydd. Mae angen y fframwaith hwn ar waith arnom ni. Mae angen inni fwrw ymlaen â'r trafodaethau ar lefel Gweinidogol a hefyd yn Whitehall ac yn adrannol gyda Chyllid a Thollau EM ac eraill i ddechrau rhoi hyn ar waith mewn gwirionedd yn barod i'w gyflwyno yn 2019-20. Ond, yn y cyfamser, rydym ni hefyd yn dysgu gan yr ardaloedd gweithredol cychwynnol a rhan o'r hyblygrwydd yma yw mai Gweinidogion Cymru—er ein bod yn gofyn i gyllid a Thollau EM wneud rhan o'r gwaith i ni, lle Gweinidogion Cymru yw dod yn ôl a dweud wrth y Cynulliad, 'Rydym ni wedi dysgu rhywbeth newydd am rai o'r meini prawf, rhai o'r meini cymhwysedd, rhai o'r bobl yr hoffem eu cynnwys fel darparwyr gofal plant. Rydym ni'n dod yn ôl â chynnig cadarnhaol i ddweud, "Hoffem ni addasu hyn. A ydych chi'n cytuno?" ac ati'.

Felly, mae ychydig yn wahanol. Ond caniatewch i mi hefyd cyferbynnu'r—. Nid ydym ni wedi, er enghraifft, dilyn yr enghraifft sydd ar waith yn Lloegr ar hyn o bryd o roi swyddogaethau ar Gyllid a Thollau EM i reoli'r cais a'r broses o wirio cymhwysedd ar gyfer eu cynllun. Mae'n rhywbeth y gwnaethom ni ei ystyried, ond y model yr ydym ni wedi dewis—a dyma'r hyn sy'n ei wneud yn wahanol yn hyn o beth—mae'n rhoi swyddogaethau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gweinyddu'r cynnig. O ganlyniad, mae'n rhoi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru nid yn unig i ddewis ei asiant cyflenwi ond hefyd i ddod yn ôl at y Senedd hon a dweud, 'Rydym ni'n credu y gallwn ni ei wella. Beth yw eich barn chi?'

Felly, mae yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd inni. Mae hefyd yn rhoi inni'r hyblygrwydd, fel y soniais yn gynharach, i ddod yn ôl a dweud, 'Wel, efallai bod ffordd, yn y dyfodol, i edrych ar Awdurdod Cyllid Cymru fel darparwr posibl' ac ati. Mae'n rhoi'r hyblygrwydd hwnnw, a gallwn ddod yn ôl i'r Senedd heb edrych am slot deddfwriaethol o ddeddfwriaeth sylfaenol i wneud hynny.

Gobeithiaf, felly, fod hynny'n esbonio'r sefyllfa. Rwy'n gwybod ei bod hi bob amser yn her dweud faint rydych yn ei roi ar wyneb y Bil a faint ddylai fod yn bwerau fframwaith, ond rydym yn meddwl ein bod wedi cael pethau'n iawn gyda hyn oherwydd rydym ni eisoes yn ei dreialu, mae system Cyllid a Thollau EM yn weithredol; gwyddom sut olwg sydd ar hyn.

15:25

Rydym ni bron hanner ffordd drwy'r ddadl hon ac mae gen i nifer o siaradwyr sydd eisiau cyfrannu. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gellid cadw'r cwestiynau a'r atebion mor gryno â phosib. Michelle Brown.

Diolch i chi, a diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am y cwrteisi a ddangosodd yn cyfarfod â mi cyn y datganiad hwn. Llwyddodd i gyfleu yr egwyddorion cyffredinol o blaid y Bil ariannu gofal plant yn glir ac yn gynhwysfawr iawn ac rwy'n deall y rhesymeg o ran defnyddio Cyllid a Thollau EM ac ymddengys i mi yn eithaf synhwyrol. Mae gan Gyllid a Thollau EM eisoes y data perthnasol felly mae hi yn ymddangos yn ddewis rhesymegol. Hoffwn hefyd ganmol y Gweinidog am roi cyfnod arbrofol cynnar y cynnig gofal plant ar waith. Mae sut yr aeth ati i gasglu data hanfodol a mireinio'r cynnig yn dangos ei fod wedi dynesu at y rhaglen â meddwl strategol. Roedd trafodaeth ynglŷn â sut y byddai Cyllid a Thollau EM yn gweinyddu'r cynllun ac amlinelliad o'r manylion hyn hefyd yn ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, mae gennyf fi a'm plaid gwestiynau a phryderon ynglŷn â'r glo mân a'r trefniadau gweinyddu hyn.

Nodaf y bu dadl dydd yr wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin ar 26 Hydref 2016, a gyflwynwyd gan gyd-Aelod y Gweinidog yn y Blaid Lafur, sef yr Aelod Seneddol Rebecca Long-Bailey, lle mynegwyd pryderon lu ynghylch gwaith Cyllid a Thollau EM ar gredydau treth a gafodd ei gontractio i gwmni o'r enw Concentrix. Nododd nad oedd y cwmni wedi cyflawni'r safonau perfformiad a nodwyd yn llawn yn ei gontract gyda Chyllid a Thollau EM. Pwysleisiodd hefyd y ffactor dynol, gan gynnwys dioddefaint merched a mamau sengl y diddymwyd eu credydau treth yn ddi-sail gan y cwmni, oedd yn gweithredu ar ran Cyllid a Thollau EM. Enillodd y ddadl gonsensws eang gan gynrychiolwyr o bob plaid yn Nhŷ'r Cyffredin, y consensws oedd nad oedd perfformiad y contractwr yn unol â'r safonau disgwyliedig a'i fod wedi achosi dioddefaint dynol gwirioneddol. Ni fyddai unrhyw un yn y lle hwn eisiau gweld y problemau hyn yn cael eu hailadrodd wrth weinyddu ariannu gofal plant yng Nghymru, felly rwyf am gloi drwy ofyn dau beth i'r Gweinidog i'r perwyl hwnnw. Yn gyntaf, a fydd yn gyfle i'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd a'r pwyllgorau priodol graffu ar gostau caffael a thelerau caffael y rhaglen gan Gyllid a Thollau EM? Ac, yn ail, a fydd yn gyfle i'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd gydsynio neu beidio â chydsynio i Gyllid a Thollau EM ddefnyddio contractwr allanol i weinyddu'r rhaglen? Diolch i chi.

15:30

Diolch i chi, Michelle, ac, unwaith eto, diolch ichi am y croeso eang hwnnw. O ran y materion yn ymwneud â Chyllid a Thollau EM, rydym yn ymwybodol—mae pawb yn ymwybodol oherwydd buont yn bethau eithaf cyhoeddus—o rai o'r problemau gweithredu cynnar a fu, o ran y credydau treth, ond hefyd eu cynnig, eu cynnig cyfochrog, yn Lloegr. Fodd bynnag, maent yn goresgyn yr agweddau hynny, ac rydym wedi bod yn trafod gyda nhw wrth inni drafod ar yr haenau uchaf yr egwyddor o ddefnyddio Cyllid a Thollau EM fel ein darparwr. Ac rydym yn ffyddiog, mewn gwirionedd, bod yr anawsterau a gawsant, nid yn unig yn cael eu goresgyn, ond y bydd y broses yn gweithio'n ddidrafferth ganddynt, yn enwedig erbyn pryd yr ydym yn gobeithio cyflwyno'r cynnig, sef 2019-20, a byddwn yn gallu gwylio mewn gwirionedd beth fydd yn digwydd yn ein hymwneud â nhw, sy'n ddwys ar lefel swyddogol, i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

Fe wnaf i sicrhau yn wir y ceir cyfle i ddod yn ôl a chyflwyno adroddiad ynglŷn â sut mae trafodaethau gyda Chyllid a Thollau EM yn datblygu, sut mae'r contract yn datblygu, oherwydd yr hyn y bydd y Bil hwn yn ein galluogi i wneud yw bod yn rhan nid yn unig o'r elfennau pwysig, ond mewn gwirionedd, ymwneud â manylion y trafodaethau cytundebol gyda Chyllid a Thollau EM. A byddaf yn sicrhau y ceir cyfleoedd ar gyfer pwyllgorau, ond hefyd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn gyffredinol i ddarganfod beth sy'n digwydd yn hynny o beth ac i allu cyfrannu atynt hefyd.

O ran contractwyr allanol, nid wyf yn argyhoeddedig ein bod ni, Lywodraeth Cymru, mewn sefyllfa, os wyf yn deall yn gywir, i fynnu nad ydynt yn defnyddio unrhyw gontractwyr allanol o gwbl. Felly, er enghraifft, os yw rhan o'r cynnig yn ymwneud â rhywbeth fel llwyfan digidol, ydym ni'n mynd i wrthwynebu os caiff llwyfan digidol ei ddylunio gan gontractwr allanol ac ati? Rwy'n credu, Michelle, eich bod yn cyfeirio at agweddau mwy sylfaenol o'i gyflawni, ond mae cael porth digidol ar ei gyfer yn rhan ohono hefyd a gall pethau fynd o'i le gyda hynny. Fe wnaf i bendroni ynghylch hynny a'i ystyried, ond rwy'n tybio bod y rhan fwyaf o asiantaethau'r Llywodraeth yn defnyddio rhyw fath o gontractio allanol. Yr hyn y mae angen inni ei sicrhau yw na chaiff yr anawsterau y maen nhw wedi eu profi'n gynnar yn y broses eu hailadrodd, a bod gennym ni hyder, nid yn unig yng Nghyllid a Thollau EM yn cymryd y contract yn ei gyfanrwydd gan Lywodraeth Cymru, y byddwn yn talu amdano, ond hefyd ein bod yn ffyddiog y bydd unrhyw sefydliadau y maent yn is-gontractio iddynt yn cyflawni hyn yn effeithiol iawn. Ond diolch i chi am y pwyntiau hynny.

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog heddiw. Rwy'n credu ein bod yn edrych ymlaen yn fawr at weithredu hyn. Mae Caerdydd yn sicr yn aros i'r cynnig ddod atyn nhw, a gofynnir imi'n aml pryd fydd hynny. 

Rwy'n gwybod hynny. Felly, mae'n dda ein bod yn gwneud hyn, sydd, fel y dywedodd y Gweinidog, yn gynnig sydd wedi ei dargedu'n benodol i rieni sy'n gweithio. A hoffwn ddweud pa mor falch yr wyf i ei fod yn cwmpasu'r gwyliau ysgol, oherwydd credaf, fel y gŵyr unrhyw riant yma, i riant sy'n gweithio, mae'r gwyliau ysgol yn hunllef. Ac felly mae'r ffaith bod hyn yn cwmpasu'r gwyliau ysgol yn dda iawn mewn gwirionedd, ac rwy'n meddwl ei fod yn gynnig hael.

Dim ond eisiau gwneud ambell sylw oeddwn i am y weinyddiaeth. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl synhwyrol defnyddio Cyllid a Thollau EM, ac rwy'n sicr yn cefnogi hynny wrth inni fynd rhagom, ond rwyf yn bryderus ynglŷn â pha mor hyblyg y gall Cyllid a Thollau EM fod. Wrth feddwl am rieni sy'n newid swyddi yn aml, sydd prin yn ymdopi, ac weithiau yn gorfod cael mwy nag un swydd er mwyn rheoli'r aelwydydd, ac wrth feddwl am y math hwnnw o deulu, hoffwn i'r Gweinidog ddweud wrthym ni sut y byddem ni'n gallu ymdopi ag amgylchiadau sy'n newid yn gyflym. A'r mater arall, wrth gwrs, yw rhieni hunan-gyflogedig, ble gallai'r incwm fod yn wahanol bob wythnos bron. Felly, meddwl oeddwn i, tybed a yw hyn wedi ei gynnwys wrth ystyried sut y byddai Cyllid a Thollau EM mewn gwirionedd yn gweinyddu'r cynllun.

Julie, diolch i chi, ac 'ydy' i'r cwestiwn olaf o ran hunan-gyflogaeth ynglŷn â dyluniad manwl hyn, ac, wrth gwrs, rhaglen Lloegr hefyd. Rhoddwyd sylw i'r agwedd hunan-gyflogaeth. O ran hyblygrwydd o fewn y system, rwy'n falch o ddweud wrthych chi, Julie, mai un o fanteision defnyddio system Cyllid a Thollau EM, ar gyfer siaradwyr Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd, yw pa mor syml yw'r cais, oherwydd mae rhan o ddefnyddio system Cyllid a Thollau EM ar y cyd â rhannu gwybodaeth rhwng adrannau'r Llywodraeth, yn golygu, mewn gwirionedd, nad ydym ni'n gofyn iddyn nhw ddod â'u taflenni cyflog presennol neu fisol inni gael eu gweld, dod o hyd i'r holl betheuach cymhleth y mae eu hangen arnoch chi i wneud y cais, a phenderfynu a ydych chi'n gymwys—bydd wedi ei wneud ar eu cyfer. Mae'n gweithio'n effeithiol eisoes. Ond, yn ail, ceir llinell gymorth sy'n bodoli ochr yn ochr â hynny, felly os yw pobl yn cael anhawster â hynny—ceir llinell gymorth i'w helpu hefyd. A bydd y llinell gymorth yn sicrhau, a bydd y comisiynu hefyd—. Mae gan Cyllid a Thollau EM record dda mewn gwirionedd o ran pyrth dwyieithog hefyd, ond byddwn yn sicrhau o fewn hyn yn benodol yn ogystal ag ar gyfer ateb yn Saesneg—.

Ond mae'r canlyniadau wedi eu cynnwys wrth gwrs yn y drefn apeliadau hon hefyd, fel eu bod, oherwydd y bydd sefyllfaoedd lle nad yw unigolion yn cyd-fynd yn hollol â'r meini prawf a'r meini prawf cymhwysedd, bydd gweithdrefn apelio ar gael iddynt hefyd os gwrthodir eu cais. Felly, bydd cymorth ar gael, ond, unwaith eto, y peth gwych am hyn yw bod gennym ni'r—y ffaith bod system Cyllid a Thollau EM yn Lloegr yn awr wedi'i sefydlu ac yn gweithredu, gallwn ddysgu oddi wrth hynny. Gallwn ddysgu am rai o'r materion hyn o ran hyblygrwydd, a chael y broses yn hollol gywir wrth ddatblygu un ein hunain. Ac i gadarnhau, oherwydd rwy'n gwybod fod pobl yn crybwyll Caerdydd imi, y rheswm yr ydym ni yn y saith ardal yr ydym ni ynddynt ar hyn o bryd yw ein bod yn ceisio gwneud pethau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd. Bydd yn dod i Gaerdydd, a phan ddaw i Gaerdydd, bydd yn benigamp—bydd y peth iawn.

15:35

Rwy'n falch o glywed y bydd hyn yn benigamp erbyn y daw i Gaerdydd. Ac fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog yn arbennig am ei eglurder yn dweud bod yr elfen gofal plant hon wedi'i anelu at rieni sy'n gweithio, ac mae sawl cyfaddawd, ac mae rhai na fyddant yn elwa, ac mae wedi mynd ati yn y modd hwnnw, a byddwn yn gweld sut y mae'n gweithio, yn unol â maniffesto ei blaid. Fe hoffwn i ddweud hefyd, oherwydd ei fod yn cwmpasu 48 wythnos y flwyddyn, ni fydd rhai o'r astudiaethau eraill—boed ynglŷn â Quebec, neu fannau eraill—efallai mor berthnasol o ran beth fydd yr effaith ar y graddau y bydd rhieni'n gweithio. Ac rwy'n gobeithio y bydd yn llwyddo i weld niferoedd sylweddol uwch, ac, os felly, dylai hynny effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, pan ddatganolir y cyfraddau treth incwm i Gymru y flwyddyn nesaf.

A gaf i, fodd bynnag, gwestiynu'r dull o roi pwerau i Weinidogion Cymru er mwyn defnyddio Cyllid a Thollau EM yn asiant? Ymddengys fod consensws yn y Siambr—neu o leiaf hyd yma—o ran defnyddio Cyllid a Thollau EM, ac mae gan Gyllid a Thollau EM brosesau sicr o ran sut mae'n cadw gwybodaeth yn ddiogel. Ac maent yn cynnwys protocolau clir iawn ynglŷn â rhyddid, neu fel arall, Gweinidogion y DU i weld gwybodaeth am drethdalwyr unigol. Eto, dywed y Gweinidog ei fod eisiau deddfwriaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i weld yr wybodaeth sydd ei hangen i gadarnhau cymhwysedd. Pam? Mae Cyllid a Thollau EM yn gweithio yn y maes hwn drwy weld a yw'r ymgeisydd yn gymwys, ac os felly, maent yn rhoi cyfeirnod i'r ymgeisydd hwnnw i'w alluogi i gael y gofal plant maent yn gymwys i'w gael. Os mai Cyllid a Thollau EM fydd asiant Llywodraeth Cymru, fel y dywed, pam fod angen iddo sicrhau y gall Gweinidogion Cymru weld gwybodaeth trethdalwyr yn y modd hwn?

Hefyd a wnaiff hefyd egluro rhai o'r cysylltiadau y mae'n eu gwneud rhwng y system yn Lloegr—neu yr hyn y mae'n ei alw yn  system Lloegr, ond y credaf efallai mewn rhai cyd-destunau ei fod yn system ar gyfer y DU—a'r hyn a gynigir yng Nghymru? Mae'n cyfeirio at fân drafferthion ym model Lloegr. Rwy'n credu mewn gwirionedd y bu anawsterau mawr ledled y DU wrth weinyddu gofal plant di-dreth, y mae rhieni yn gymwys ar ei gyfer yng Nghymru, ar yr un sail yn union ag y maent yn Lloegr, a dyna'r agwedd lle bu problem fawr. Digwyddodd hyn oherwydd bod tri math o ofal plant am ddim yn Lloegr: ar gyfer plant dyflwydd oed ar sail cymhwysedd budd-daliadau penodol, gan gynnwys credydau treth, os yw'r incwm yn is na £16,190 flwyddyn; yna, ceir y cynnig cyffredinol, sydd ar gyfer y 15 awr; ac yna mae 30 awr ar gyfer plant tair a pedair blwydd oed, sydd y broblem fawr, ac sydd wedi bod yn broblem fawr oherwydd y cyswllt gyda'r system y mae Cyllid a Thollau yn ei gweithredu ledled y DU ar gyfer gofal plant di-dreth. Er mwyn cael y 30 awr hwnnw yn hytrach na'r 15 awr a gaent cyn hynny, mae rhieni cymwys o Loegr wedi gorfod sefydlu cyfrif gofal plant, a fyddai'n eu galluogi i fanteisio ar y budd-dal sydd ar gael ledled y DU, a dyma fu'r porth ar gyfer cael yr oriau ychwanegol hynny ar gyfer y plant teirblwydd oed. A dyna'r maes ble cafwyd y broblem fawr iawn hon. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau mai'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yw gwneud system Cymru gyfan yn ddibynnol ar y porth hwnnw?

A all hefyd egluro pam mae'n angenrheidiol creu cyfrif ar gyfer gofal plant di-dreth ar gyfer y DU gyfan i gael cynnig gofal plant am ddim am y 48 awr? Dyna'r model y mae Cyllid a Thollau EM wedi ei ddewis hyd yma, ond dyna'r un sydd wedi bod yn arwain at y problemau. Gobeithio ei fod yn gywir y caiff y problemau hyn eu datrys, ond carwn dynnu ei sylw at y ffaith y bydd y system gyfan yn dibynnu ar hwnnw a thynnu ei sylw at rai o'r peryglon sydd ynghlwm wrth hynny.

15:40

Mark, diolch yn fawr iawn. Mae'n debyg bod un o fy methiannau oherwydd fy magwraeth: rwy'n rhy gwrtais ynghylch yr hyn yr wyf yn ei ddisgrifio fel mân anawsterau neu broblemau cychwynnol, ond rydym yn ffyddiog—a buom yn cynnal trafodaethau â Cyllid a Thollau EM, o ran eu cynnig treth, ond hefyd o ran y cynnig gofal plant—bod y problemau hyn yn cael eu datrys, ac yn wir, y byddant wedi eu datrys yn llwyr erbyn y daw hi'n bryd inni ddefnyddio eu dulliau o gyflawni ein cynnig gofal plant. Rydym yn ymwybodol o'r materion hyn gyda'r gwasanaeth gofal plant yn ystod y misoedd diwethaf, o ran gofal plant di-dreth a'r cynnig yn Lloegr. Nawr, mae Cyllid a Thollau EM yn mynd i'r afael â'r rhain. Rydym yn ffyddiog y bydd yr helyntion hyn wedi eu datrys pan ddaw hi'n bryd inni ddefnyddio'r system hon. Bydd gennym ni hefyd, gyda llaw, y fantais hon sef y gallwn ni ddysgu gwersi o'r problemau cychwynnol hyn gan Cyllid a Thollau EM o ran sut yr ydym ni'n dylunio a sut yr ydym ni'n comisiynu, ac mae yma agwedd bwysig yn y fan yma sef sut yr ydym ni'n comisiynu ein cynnig drwy Cyllid a Thollau EM, a'r materion y maent wedi eu cael hefyd gyda Cyllid a Thollau EM a'r Adran Addysg hefyd, i osgoi'r problemau y maen nhw wedi eu cael. Felly, byddwn yn rhoi trefniadau llywodraethu priodol ar waith i oruchwylio'r broses o ddatblygu a gweithredu'r dull hwn a'r agweddau digidol sy'n rhan greiddiol ohono.

O ran y sail ddeddfwriaethol, mae'r Bil hwn yn darparu'r sail ddeddfwriaethol i Weinidogion Cymru wneud y trefniadau ar gyfer gweinyddu'r cynnig gofal plant. Er ein bod yn cynnig ymwneud â Cyllid a Thollau EM yn y tymor byr i'r tymor canolig, o ran y dylunio a'r comisiynu, mae'n bosib iawn, ac rwy'n falch ein bod wedi rhoi hyblygrwydd yn y Bil i roi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru newid yr asiant darparu yn y dyfodol, os ydym yn dymuno gwneud hynny. Fel asiant yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru—fel asiant sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru—bydd Cyllid a Thollau EM yn cydymffurfio â'r cynllun y byddwn yn ei gomisiynu gyda nhw, a hefyd y safonau gwasanaeth iaith Gymraeg y byddwn yn sicrhau sydd wedi eu cynnwys , a byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw i sicrhau cydymffurfiaeth. Rydym yn nodi'r sefyllfa falch, gyda'r problemau cynnar a gawson nhw, yn yr agweddau ar dreth a'r cynnig gofal plant am ddim yn Lloegr, maen nhw wedi eu profi'n gynnar a bellach maent yn eu goresgyn, ac wrth inni gyflwyno ein cynnig ni rydym yn ffyddiog na fyddwn yn profi'r un problemau.

Rwy'n sylweddoli y bûm yn esgeulus wrth beidio ag ymateb i bwynt penodol yn y cwestiwn yn ogystal â gydag ymgynghori'n ffurfiol.

Diolch. Llyr, ymddiheuriadau. Gwnaethoch chi ofyn pam na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol. Mae hyn ychydig yn anarferol o'i gymharu â llawer o Filiau sy'n cael eu cyflwyno, sef ein bod ni wrthi'n gwneud y gwaith caib a rhaw ar hyn o bryd. Felly, un: mae'n Fil technegol, felly doeddem ni ddim yn teimlo, ar y cyfan, bod angen ymgynghori ar y drafft. Yn hytrach, rydym wedi trafod y Bil, y dull a ddefnyddir, gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol ond hefyd darparwyr gofal plant, drwy'r grwpiau gweithredu cynnar, yn uniongyrchol wrth inni fod yn gwneud hynny. Rwy'n credu bob wythnos rwyf wedi bod yn cael diweddariadau ynglŷn â sut mae'r trafodaethau hynny yn mynd rhagddynt a beth maen nhw'n ei ddysgu gydag aelodau o grwpiau cyfeirio rhanddeiliaid a hefyd adrannau Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n dal i fynd rhagddo a bydd yn parhau i fynd rhagddo nes y caiff ei gyflwyno'n llawn. Wrth gwrs, mae'r cynnig ei hun yn ddibynnol ar y rhaglen hon o weithredu cynnar. Mae'n caniatáu i ni roi prawf arno ac i werthuso sut y caiff ei weithredu. Felly, fel rhan o'r broses honno rydym ni hefyd yn ymgysylltu ag amrywiaeth o rieni—nifer fawr o rieni, cannoedd ar filoedd—darparwyr gofal plant a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â gweithredu a darparu'r cynnig hwn. Felly, yn yr amgylchiad penodol hwn gyda'r Bil hwn, doeddwn i ddim yn teimlo ei fod yn angenrheidiol i ymgynghori eto yn ei gylch. Rydym ni'n gweithio arno ac yn gwrando ar y sylwadau yn uniongyrchol. Diolch.

Diolch. Un o'r gwersi o'r holl sefyllfa hon yw na ddylem ni ailddyfeisio'r olwyn. Dim ond wrth edrych ar y strategaeth yr ydych chi'n ei mabwysiadu ar gyfer cyflawni'r addewid maniffesto hwn, sy'n targedu rhieni sy'n gweithio a chanddyn nhw blant tair a pedair blwydd oed, mae hi'n amlwg bod yn rhaid inni flaenoriaethu'r teuluoedd hynny sy'n dymuno gweithio ond na allant fforddio gweithio ar hyn o bryd, ac a fyddant yn gymwys cyn gynted ag y gallant gyrraedd y niferoedd perthnasol—wyddoch chi, mae ganddyn nhw'r lle ac fe allan nhw dderbyn y lleoliad gwaith. Dyna'r ffordd y mae angen inni wneud hynny.

Roeddwn eisiau edrych ar sut y gallwn ni o bosib gysylltu hyn â chredyd cynhwysol, gan fod llawer o'm teuluoedd i yn gweithio oriau amrywiol, gan gynnwys contractau dim oriau. Un o fanteision damcaniaethol credyd cynhwysol yw y bydd yn cael gwybodaeth amser real ynglŷn â faint y mae rhywun wedi ei ennill yn yr wythnos ddiwethaf ac felly sut y bydd hynny'n effeithio ar faint o arian maen nhw'n gymwys i'w dderbyn. Felly, gallaf weld y manteision o weithio gyda'r gwasanaeth treth a chyllid, ond gallaf hefyd weld y manteision o weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith, felly rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol egluro pam nad ydych yn meddwl ynghylch hynny.

Rwy'n llwyr ddeall na allwn ni ar hyn o bryd fforddio i wneud yr hyn y mae ar bob un ohonom ni eisiau ei wneud, sef darparu gwasanaeth cyffredinol ar gyfer pob plentyn tair a phedair oed. Ond ymddengys, yn y cyfamser, bod llawer iawn y gallwn ei wneud gan ddefnyddio'r adnoddau presennol. Er enghraifft, pob pum mlynedd mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu asesiad digonolrwydd gofal plant, ond dim ond pob pum mlynedd. Felly, yn y cyfamser, nid yw Caerdydd, er enghraifft, yn gwybod faint o aelwydydd sydd â rhieni sy'n gweithio, nid yw'n gwybod faint o blant tair a phedair oed sydd ganddi nac yn gwybod faint o blant tair a phedair oed sy'n mynychu lleoliad gofal plant. Mae hynny, i mi, yn dangos yr angen i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gymryd perchnogaeth o hyn, oherwydd os yw'r gwasanaethau iechyd ac addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd gallwn gyfuno'r wybodaeth sydd ym meddiant pawb, i ryw raddau, a byddai hynny yn ein galluogi i gael darlun llawer mwy eglur o ba ofal sydd ar gael ymhle.

Felly, mae gennyf bwyslais penodol yr hoffwn ganolbwyntio arno pan fo Caerdydd yn dechrau gweithredu'r cynnig blynyddoedd cynnar, sef sut yr ydym ni'n mynd i ehangu gofal cofleidiol yn seiliedig ar nifer y plant sydd eisoes yn cael lleoedd meithrin mewn ysgolion cynradd, ond mae'n amlwg na ellir defnyddio'r ystafell lle maen nhw'n cael y gofal blynyddoedd cynnar hwnnw ar gyfer y gofal cofleidiol oherwydd bod carfan arall yn cyrraedd yn y prynhawn.

Pam nad yw hi'n bosib i'r gwasanaethau cymdeithasol ddefnyddio lleoliadau gofal plant blynyddoedd cynnar ar gyfer plant y maen nhw'n pryderu yn eu cylch? Oherwydd gwyddom o dystiolaeth y Sefydliad Polisi Addysg mai dyma'r ffordd orau, os hoffech chi, o guro'r anfantais y caiff rhai plant o'u genedigaeth. Un o'r materion eraill i mi yw mai dim ond un canolfan plant integredig sydd gennym ni yng Nghaerdydd gyfan, sy'n amlwg yn Nhrelái, ac sy'n ganolfan ragoriaeth ar gyfer sicrhau canlyniadau ardderchog ar gyfer pob plentyn, beth bynnag eu hamgylchiadau.

Felly, dyna ddylai ein hamcanion fod, ac mae'n ymddangos i mi, er fy mod yn sylweddoli fod gan y Llywodraeth dim ond arian ar hyn o bryd ar gyfer y rheini sydd â rhieni sy'n gweithio, mae angen hefyd inni ddefnyddio ffrydiau eraill o raglenni—Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, ac ati—i gyflawni'r gofal plant integredig y gŵyr pob un ohonom ni sydd ei angen ar bob plentyn.

Felly, un o'r cwestiynau allweddol i mi yw: a ydym ni'n mynd i defnyddio'r un meini prawf ar gyfer darparwyr y sector preifat a gwirfoddol ag y byddwn yn ei wneud ar gyfer darparwyr y sector cyhoeddus, cyhyd ag y bo nhw yn amlwg yn bodloni'r cynnig addysg blynyddoedd cynnar, sef rhwng dwy a dwy awr a hanner o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar? Mae'n ymddangos i mi oherwydd nad yw ysgolion cynradd mewn sefyllfa i ddarparu'r 30 awr, fod yn rhaid inni gael sefydliadau eraill sy'n gallu darparu'r oriau ond rhaid iddynt allu sicrhau ansawdd hefyd. Felly, byddwn yn awyddus i glywed beth sydd gennych chi i'w ddweud yn hynny o beth.

15:45

Diolch i chi, Jenny. Ambell beth mewn ymateb: yn gyntaf oll, o ran cael y cynnig hwn i'r bobl sydd ei angen fwyaf oherwydd, yn rhyfedd iawn, er ei fod yn canolbwyntio ar rieni sy'n gweithio, mae elfen o gyffredinolrwydd iddo bron hefyd, oherwydd rydym ni'n dweud y dylai pob rhiant sy'n gweithio, ond rydym yn gwybod bod rhai rhieni sy'n gweithio a fyddai'n elwa o hyn yn fwy, a sut y gallwn ni gael yr wybodaeth iddynt? Sut y gallwn ni eu darbwyllo ei fod yn hygyrch? Wel, ochr yn ochr â'r dewisiadau gweithredu cynnar, rydym ni hefyd wedi bod yn datblygu—mae'n ddrwg gennyf, mae popeth yn dechrau gyda hashnod y dyddiau hyn, ond mae'n gynllun hashnod mewn gwirionedd—#TalkChildcare. Felly, rhan o'r ymgysylltu yr ydym ni wedi bod yn ei wneud, roeddwn yn sôn, gyda channoedd ar filoedd o rieni, yn rhan o'r cynllun ac mewn meysydd eraill, yw ceisio ei gwneud hi'n hawdd deall beth mae hyn yn ei gynnig, ac rydym ni wedi clywed rhai pethau diddorol. Felly, megis, fel y gwyddoch chi, rwy'n dod o Gymoedd y de, ac mae trigolion Cymoedd y de yn tueddu, efallai, yn anghymesur i ddibynnu ar berthnasau. Felly, pan rydych chi'n dweud, 'mae gennym ni gynnig yma gyda gofal plant gyda chymorth y Llywodraeth, a chefnogaeth y Llywodraeth', ac maen nhw'n dweud, 'Wel, mae gen i fy ngofal plant am ddim wedi ei drefnu yn barod, diolch yn fawr iawn.' Ac rydym ni'n dweud, 'na, na, mae gennym ni gynllun gydag elfennau ychwanegol iddo, ac ati.' Ond rhan o'r dull hwnnw i raddau helaeth yw rhoi'r gair ar led, boed hynny yng Nghrucywel neu Landrindod, neu leoliad trefol yng nghanol Caerdydd, mae ynglŷn â chael y neges honno i'r cymunedau hynny.

Mae'r mater cysylltiedig, ond ychydig ar wahân i'r gwasanaethau cofleidiol ehangach yn un diddorol. Ni ddylai hyn fod ar wahân i'r pethau ehangach yr ydym yn eu gwneud o ran integreiddio darpariaeth plant ac ieuenctid ac addysg, yr holl agweddau addysgeg hefyd. Rydym ni'n gwneud llawer iawn o hynny, ac rwy'n gweld enghreifftiau da ar lawr gwlad. Yr her i ni bellach gyda phlant a'r blynyddoedd cynnar yw sut i wneud y profiadau hynny yn gyffredin gyda mwy o wasanaethau cofleidiol. Rydym yn gweld pethau da yn digwydd; mae'n cydredeg yn ddel gyda hyn, yn ddigon rhyfedd, oherwydd mae'r cyfan i'w wneud ag ymyrraeth yn y blynyddoedd cynnar. Mae angen inni fod yn gwneud y ddau beth ochr yn ochr.

Ond dyma yn benodol y cynnig gofal plant sy'n seiliedig ar rieni sy'n gweithio, ac yn ateb i hynny, o ran y cynnig ehangach hwnnw wedyn, wel, oes, mae angen i ddarparwyr fod wedi eu cofrestru a'u trwyddedu. Mae angen inni wybod bod y safonau ar gael. Dyna beth mae arnom ni eisiau ei weld: eu bod yn alluog, yn addas ac yn hyderus i ddarparu nid dim ond gofal plant, ond gofal i safon y gwyddom fod plant yn datblygu ac yn cymdeithasu, ac ati, ac ati. Dyna hanfod hyn, ond bydd hynny'n cynnwys mentrau cymdeithasol, grwpiau gwirfoddol sy'n gwneud hynny, ynghyd â darpariaeth awdurdod lleol uniongyrchol, yn ogystal â llawer o rai eraill. Rydym ni eisiau annog pob un o'r rhai sy'n credu y gallant chwarae rhan gyda ni i ymuno â ni wrth i ni gyflwyno'r hyn yn gadarn iawn drwy Gymru gyfan, ac mae'r Bil hwn yn caniatáu inni sefydlu dulliau o ddechrau'r broses honno. 

15:50
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diweddariad a chamau nesaf y Grant Datblygu Disgyblion

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: diweddariad a chamau nesaf y grant datblygu disgyblion. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams. 

Diolch, Llywydd dros dro.

Mae'r bwlch rhwng lefelau cyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion yn her ryngwladol. Mae sail y bwlch yn hanesyddol ac yn gymhleth; mae wedi ei wreiddio mewn anghydraddoldeb, anfantais a systemau dosbarth. Er nad yw Cymru yn unigryw, yr ydym yn wynebu heriau penodol. Dyna pam yr wyf i wedi rhoi'r nod i gau'r bwlch wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a sicrhau system addysg a fydd yn destun balchder cenedlaethol ac yn system y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynddi.

Ers i'r grant datblygu disgyblion gael ei gyflwyno, mae mwy na £394 miliwn wedi'i roi ar gael. Mae'r arian wedi cefnogi'r hyn sy'n cyfateb i dros 450,000 o ddysgwyr, ac rydym ni yn gweld cynnydd. Ond mae'n amlwg nad oes yna ateb cyflym. Mae'n rhaid inni feddwl am y tymor hir, a dyna pam yr ydym yn canolbwyntio fwyfwy ar y blynyddoedd cynnar ac ar ymyrraeth gynnar.

Dro ar ôl tro, dywedir wrthyf pa mor bwysig yw'r grant datblygu disgyblion. Mae'n cael effaith wirioneddol wrth godi dyheadau; meithrin hyder; gwella ymddygiad a phresenoldeb; ac yn cynnwys teuluoedd yn addysg eu plant, ac mae pob un o'r rhain yn flociau adeiladu hanfodol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial. Cefnogir yr adborth hwn gan werthusiad o'r grant datblygu disgyblion a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod ysgolion yn ei ystyried yn amhrisiadwy.

Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud os yw ein dysgwyr sydd o dan fwy o anfantais yn mynd i gyflawni ar yr un lefel â'u cyfoedion, a gwelir hynny'n glir iawn yng nghanlyniadau TGAU 2017. Er na allwn gymharu'r hen fesurau â'r mesurau newydd, mae'n amlwg bod dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn llai gwydn wrth ymdrin â newidiadau'r haf diwethaf, a'r plant sy'n derbyn gofal yn llai gwydn eto. Ond fe welsom enghreifftiau rhagorol o ysgolion yn mynd yn groes i'r duedd, ble roedd eu dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim wedi'r perfformio'n well na'u cyfoedion nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Rydym yn gweithio'n galed i ddeall beth a wnaeth yr ysgolion hyn yn wahanol ac i sicrhau bod yr arfer rhagorol hwn yn cael ei rannu, ac yr adeiledir arno.

Mae hi hefyd yn bwysig peidio â cholli golwg ar y cynnydd sylweddol a wnaed yn y lefelau cyrhaeddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Fe gyrhaeddodd fwy nag un ym mhob tri disgybl sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim drothwy lefel 2 yn 2016, o'i gymharu ag un ym mhob pump yn 2009. A chyrhaeddodd 23 y cant o'n plant sy'n derbyn gofal y lefel honno yn 2016, o'i gymharu â dim ond 13 y cant yn 2013. Ond gwyddom nad yw'r un mesur unigol hwn o lwyddiant addysgol yn adlewyrchu system addysg fodern. Mae angen i fesurau perfformiad yrru cwricwlwm cynhwysol ac amrywiol sy'n fuddiol i'r holl ddisgyblion, felly rydym yn datblygu cyfres o fesurau a fydd yn canolbwyntio ar gynnydd a gwerth ychwanegol, yn ogystal â chyrhaeddiad cyffredinol.

Yn y cyfamser, yr ydym yn ehangu'r grant datblygu disgyblion ymhellach i ddarparu pecyn cymorth gwell ar gyfer ein dysgwyr dan anfantais. O'r mis hwn, rwyf wedi cynyddu'r grant datblygu disgyblion ar gyfer disgyblion blynyddoedd cynnar o £600 i £700, sy'n gynnydd ar y cymorth ariannol a ddyblwyd y llynedd o £300 i £600, ac yn adlewyrchu pwysigrwydd ymyrraeth gynnar i ddymchwel y rhwystrau hynny a grëir yn aml gan dlodi ac anfantais. Rwyf wedi ehangu diffiniad y grant datblygu disgyblion i roi mwy o hyblygrwydd i ysgolion gefnogi dysgwyr a fu'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Mae hyn yn ymateb i bryderon bod y pwynt casglu data unigol yn artiffisial a bydd yn hybu creadigrwydd wrth ddefnyddio'r arian.

Yn hollbwysig, yr wyf hefyd wedi gwarantu lefelau dyraniad ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf. Bydd hyn, ynghyd â'n hymrwymiad i'r grant datblygu disgyblion dros weddill tymor y Cynulliad, yn rhoi lefel o sicrwydd i ysgolion ar adeg o ansicrwydd ac adeg o her ariannol sylweddol. Mae cyflwyno'r credyd cynhwysol, sydd ar fin digwydd, yn ffactor arwyddocaol yn y sefyllfa ansicr hon. Roedd cael amser i asesu a chynllunio ar gyfer goblygiadau llawn credyd cynhwysol yn ffactor pwysig wrth i mi benderfynu pennu lefelau'r dyraniad ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Tra bo agenda o gyni Llywodraeth y DU yn parhau i roi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru dan bwysau, gallwn ni o leiaf gynnig rhywfaint o sicrwydd o ran y grant datblygu disgyblion i ysgolion tan fis Mawrth 2020. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu. Cyflwynwyd tystiolaeth i'r Pwyllgor yn awgrymu nad yw'r grant datblygu disgyblion bob amser yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob dysgwr cymwys, gan ganolbwyntio weithiau dim ond ar y rhai hynny sy'n cael trafferth academaidd. Gadewch imi fod yn glir iawn: mae'r grant datblygu disgyblion ar gael i gefnogi pob dysgwr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a dysgwyr sy'n derbyn gofal, gan gynnwys y rhai sy'n fwy galluog. Nid yw'r sefyllfa hon yn newydd, ond rwyf yn awyddus i atgyfnerthu ei bwysigrwydd ac yr wyf eisiau gweld ymarferwyr yn adeiladu ar arferion da cyfredol.

Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Estyn yn cydnabod, yn ei dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor, bod y grant datblygu disgyblion yn un o'r meysydd penderfyniadau hynny ble mae ysgolion yn gwneud y defnydd gorau o dystiolaeth. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau ymyriadau effeithiol a gwerth am arian. Gall ysgolion ddibynnu hefyd ar gymorth consortia rhanbarthol, ac mae'r grant yn mynnu bod ganddynt gynghorydd strategol grant datblygu disgyblion a chydgysylltydd grant datblygu disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Yn ogystal â darparu cymorth hanfodol, arweinyddiaeth a heriau ar draws eu rhanbarthau, mae arweinwyr y consortia hyn yn gweithio ar lefel genedlaethol gyda fy swyddogion a'n heiriolwr codi cyrhaeddiad, Syr Alasdair MacDonald, i ddarparu rhaglen waith genedlaethol i sbarduno cynnydd drwyddi draw. Bydd y rhaglen hon yn adlewyrchu canfyddiadau'r gwerthusiadau sydd ar y gweill o elfennau'r grant sy'n ymwneud â phlant blynyddoedd cynnar a phlant sy'n derbyn gofal.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod yn rhaid inni barhau i roi blaenoriaeth i gau'r bwlch cyrhaeddiad. Mae gennym ddyletswydd foesol i sicrhau y caiff pob dysgwr gyfle cyfartal i gyrraedd eu potensial, beth bynnag yw hynny. Dyna yw ein her, ac rwyf yn llwyr ymrwymo i'w bodloni. Diolch, Llywydd dros dro.

15:55

Diolch, Cadeirydd. Gwrandewch, er fy mod yn croesawu unrhyw gyllid ychwanegol y gallech ei gyhoeddi ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr yn ein hysgolion, yn enwedig y rhai hynny sydd dan anfantais, mae'n rhaid imi ddweud bod amseriad y cyhoeddiad hwn wedi fy siomi; rwy'n credu eich bod yn anghwrtais iawn wrth y Cynulliad Cenedlaethol, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'i Gadeirydd wrth wneud y cyhoeddiad hwn, dim ond oherwydd hwylustod cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y ciosg lle cafodd ei chynnal, mae'n siŵr, yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Rwy'n credu y dylech fod wedi cyhoeddi hyn yn y Siambr, nid i aelodau eich plaid, ac a dweud y gwir, mae'n wir wrthun gennyf, oherwydd chi fyddai'r cyntaf i weiddi a beirniadu'r math hwn o ymddygiad pan oeddech chi ar feinciau'r gwrthbleidiau cyn ichi ymuno â'r Llywodraeth ddi-drefn hon, felly rwy'n siomedig iawn eich bod chi wedi gwneud y cyhoeddiad yn y modd hwn, a chredaf ei fod yn dangos diffyg parch sylweddol tuag at y pwyllgor plant a phobl ifanc yn arbennig, yn enwedig gan ein bod yng nghanol ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc yn ein hysgolion. Ac rydych yn gwybod, o fewn maes yr ymchwiliad hwnnw, ein bod ni'n edrych ar y grant datblygu disgyblion a'i effeithiolrwydd ac fe fyddwn, mae'n debyg, yn gwneud nifer fawr o argymhellion ynghylch ffurf y grant hwnnw yn y dyfodol. Felly, wn i ddim pam yr ydych chi wedi gwneud hyn yn awr. Dylech chi fod wedi aros i gael yr adroddiad hwnnw, yn hytrach nag achub y blaen gyda rhagymosodiad heddiw. Felly, siomedig iawn yn wir, ac yr wyf yn siomedig iawn eich bod chi wedi gosod o'r neilltu'r moesau yr oedd gennych pan oeddech chi yn yr wrthblaid o ran y mathau hyn o gyhoeddiadau.

Yn awr, wedi dweud hynny, mae gennyf nifer o gwestiynau, fel y gallwch ddychmygu, ynglŷn â'ch cyhoeddiad. Rydych wedi nodi eich bod wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd i awdurdodau addysg lleol o ran yr arian yr ydych wedi ei ddarparu hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, ond, fel y deallaf, rydych wedi seilio'r dyraniadau ar ddata cyfrifiad ysgolion 2016. Pam y dewisoch chi seilio'r dyraniadau ar ddata cyfrifiad ysgolion 2016 yn hytrach nag un 2017, sydd ar gael i chi? A yw wedi'i sefydlu nawr ar ddata 2016, er eich bod chi'n gwybod bod niferoedd y plant a phobl ifanc a allai fod yn gymwys ar gyfer grant amddifadedd disgyblion yn newid o flwyddyn i flwyddyn yn ein hysgolion? Mae ysgolion yn fy etholaeth i fy hun wedi cysylltu i ddweud 'Dydyn ni ddim wedi cael ceiniog o'r grant amddifadedd disgyblion eleni, er bod gennym ddisgyblion a ddylai fod â hawl i'r grant, yn ôl meini prawf Llywodraeth Cymru, ac mae hyn oherwydd eu bod wedi defnyddio hen ddata o'r flwyddyn flaenorol'. Pam dewisoch chi wneud hynny? Yn sicr dydi hynny ddim yn ymddangos yn deg o gwbl. Felly, gwerthfawrogwn eglurhad ynglŷn â pham wnaethoch chi hynny.

Yr wyf yn falch o glywed eich bod yn cydnabod ei bod hi'n bwysig iawn bod pob dysgwr sydd â hawl i'r grant hwn yn cael y cyfle i ddatblygu i'w botensial llawn, gan gynnwys y rhai sy'n fwy galluog a thalentog. Un peth sydd wedi bod yn glir iawn o'r dystiolaeth sydd wedi cyrraedd y Pwyllgor yw eu bod wedi eu hanwybyddu i raddau helaeth hyd yma o ran yr ymdrechion sydd wedi'u gwneud, a chredaf ei bod yn bwysig iawn, nid yn unig eich bod yn anfon neges glir gan ddweud ychydig o eiriau yn y Siambr hon, ond bod canllawiau clir ac ymarferol yn cael eu rhoi i'n hawdurdodau addysg lleol, consortia rhanbarthol ac i'n hysgolion. Felly, gofynnaf i chi: a wnewch chi gyhoeddi canllawiau o'r fath yn y dyfodol ar bethau sydd ar gael i bobl eu defnyddio, sydd yn unol ag arfer gorau i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y dysgwyr hynny?

Fe gyfeirioch at y ffaith mai nod y gronfa hon yw cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol. Rydym yn gwybod bod y bwlch hwnnw wedi agor yn sylweddol yn 2017. Yn awr, yr wyf yn gwerthfawrogi eich bod yn dweud na allwch gymharu'n uniongyrchol â'r flwyddyn flaenorol o reidrwydd oherwydd rydych wedi newid y mesurau; mae'n beth arferol i bob Llywodraeth newid mesurau pan nad ydy hi'n hoffi'r mesurau sydd yn eu lle, ond y realiti yw, hyd yn oed os gymrwch chi'r newidiadau hynny yn y mesurau i ystyriaeth, roedd y bwlch yn dal i dyfu. Felly, er gwaetha'r ffaith eich bod yn cynyddu'r grant datblygu disgyblion, mae'n ymddangos fod ei effeithiolrwydd yn lleihau o ran ei allu i gau'r bwlch hwnnw. Felly, tybed pa waith yr ydych yn ei wneud i ganfod pam yn union fod y bwlch hwnnw'n tyfu er gwaethaf yr adnoddau ychwanegol yr ydych yn eu rhoi i mewn.

Yn olaf, os caf, un cwestiwn y mae llawer o bobl yn gofyn imi yw pam nad oes neb yn cydnabod yr unigolion hynny nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, mewn ysgolion ble mae'r cyllid wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i'r ymgyrch gynyddol i gynyddu'r grant hwn ar draul y pot cyllid cyffredinol ar gyfer ein hysgolion. Fe wyddoch chi a fi ein dau, pan fyddwch yn cynyddu grant penodol, fod yn rhaid i chi leihau'r dyraniad gwariant cyffredinol y mae'r ysgolion yn ei gael. Ceir llawer o rieni yn crafu byw yn yr ysgolion hynny ble mae gennych chi bobl ifanc sydd o gefndiroedd difreintiedig, ac, a dweud y gwir, nid yw'r mesur a ddefnyddiwn ar gyfer prydau ysgol am ddim, o reidrwydd yr un gorau, ac, unwaith eto, mae hyn wedi dod yn amlwg yn rhywfaint o'r dystiolaeth. Nawr, un o'r pethau sydd wedi ei awgrymu yw defnyddio'r mesur Ever 6, sy'n edrych ar yr unigolion sydd wedi bod yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim dros y chwe blynedd diwethaf, yn hytrach na chymryd un cipolwg yn ystod un flwyddyn arbennig. Tybed a ydych chi wedi ystyried defnyddio mesur Ever 6 erioed o ran cymhwysedd, yn hytrach na'r meini prawf cymhwysedd yr ydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Diolch.

16:05

A gaf i ddiolch i Darren am ei gyfres o gwestiynau? Efallai y gallaf ddechrau lle y gorffennodd ef. Ar y naill llaw, dywed Darren, 'Rydych yn gwario gormod o arian ar y grant datblygu disgyblion, a hynny ar draul plant heb grant datblygu disgyblion yn yr ysgolion,' ac ar y llaw arall, mae'n dweud, 'Pam nad ydych wedi cyflwyno Ever 6 erioed?' [Torri ar draws.] 'Pam nad ydych wedi cyflwyno Ever 6 erioed?' Byddwn wrth fy modd—ac rwyf wedi edrych yn ofalus iawn ar yr egwyddor o allu cyflwyno system Ever 6 yma gyda grant datblygu disgyblion Cymru. Yn syml, nid yw'r adnoddau ar gael imi wneud hynny. I weithredu Ever 6 byddwn yn gwneud beth oedd Darren yn fy nghyhuddo o'i wneud—sef blaenoriaethu gwario ar y grant hwn ar draul plant eraill. Nawr, Darren, byddwn yn cytuno â chi nad prydau ysgol am ddim yw'r procsi perffaith ar gyfer diffinio anfantais, ond, ar yr adeg hon ac yn absenoldeb unrhyw beth arall, hwn yw'r procsi gorau sydd gennym ar hyn o bryd.

Gofynnodd Darren hefyd am y mater o arfer gorau. Yn gynyddol, rydym yn ymwybodol o'r hyn sy'n gweithio ar gyfer ein plant mwyaf difreintiedig, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion ac i gonsortia rhanbarthol unigol ynglŷn â defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wario'r adnoddau hyn. Un o'r adnoddau mwyaf hygyrch yw pecyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton, y gwn fod Darren a'r Pwyllgor yn gyfarwydd iawn ag ef, fel ymyriad seiliedig ar dystiolaeth sy'n gyfarwydd i ni yr ydym yn gwybod ei fod yn gweithio. Bydd Darren hefyd yn gwybod, o'r dystiolaeth a roddais i'r Pwyllgor cyn toriad y Pasg, ein bod ni'n ystyried edrych ar fersiwn i Gymru o becyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton, gan adeiladu ar ymyriadau Cymru, profiad Cymreig, ac ar yr hyn y gwyddom ni sy'n gweithio yma yn ein hysgolion. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, mae Estyn ei hunan wedi dweud bod hwn yn un grant lle ceir tystiolaeth helaeth bod ysgolion yn defnyddio tystiolaeth i gyfeirio eu buddsoddiadau.

Gofynnodd Darren ynghylch y mater yn ymwneud â data CYBLD 2016 a defnyddio data CYBLD. Yr hyn sy'n bwysig i'w ddeall yw bod dyraniadau'r grant datblygu disgyblion o hyd ar ei hôl hi—dyna sut y buont erioed. Gofynnodd Darren gwestiwn rhesymol iawn—pam y dewisom ni 2016 fel y sylfaen ar gyfer y ddwy flynedd nesaf? Fe wnes i hynny am reswm syml iawn, Llywydd dros dro. Fe ddefnyddion ni'r data hwnnw oherwydd y mae'n fy ngalluogi i roi cymaint o arian â phosibl i mewn i'r system, oherwydd, mewn gwirionedd, oherwydd amrywiaeth o ffactorau, mae prydau ysgol am ddim yn lleihau. Felly, mae 2016 yn rhoi mwy o arian imi na defnyddio data 2017, ac rydym wedi ei rewi am ddwy flynedd mewn ymgynghoriad â'r proffesiwn, oherwydd nid ydym yn gwybod, ar hyn o bryd, beth fydd effaith cyflwyno'r credyd cynhwysol ar brydau ysgol am ddim yng Nghymru. Efallai y gwelwn ni newidiadau mewn ymddygiad a fyddai'n arwain at amrywiadau enfawr yn y niferoedd sy'n cymryd prydau ysgol am ddim ac, felly, amrywiadau mawr mewn cyllidebau ysgolion unigol. Rydym wedi penderfynu ei bod yn well—mae'n well—gallu rhoi sicrwydd adnoddau ar gyfer ysgolion ar gyfer y ddwy flynedd nesaf er mwyn iddynt allu cynllunio, yn hytrach na chymryd siawns ar beth fydd effaith y credyd cynhwysol ar y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, oherwydd nid wyf yn gwybod beth fydd hynny. Fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, Darren, bod ein hysgolion mewn cyfnod heriol iawn yn ariannol, sicrwydd o ran y gyllideb honno sy'n bwysig i'r ymarferwyr hynny, ac mae data 2016 yn rhoi mwy o arian imi na fyddai data 2017, ac rwy'n ceisio cael cymaint o arian ag y gallaf i mewn i'r system. A dyna'r rheswm dros y buddsoddiad hwnnw.

Mae'r ffigurau yn 2017 yn gymhleth, ac, er na allwn wneud cymariaethau uniongyrchol, yr oeddwn yn glir iawn yn fy natganiad bod y plant hynny yn llai gwydn i wrthsefyll y newidiadau i'w harholiadau na'u cyfoedion mwy cefnog, ac mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch y rhesymau dros hynny, ac mae llu o resymau—popeth o eirfa haen 2 a lefel llafaredd sydd eu hangen bellach i gael cymhwyster mathemateg, i bobl sy'n cael eu tynnu allan o bynciau craidd eraill er mwyn llwyddo mewn Saesneg a mathemateg. Ceir llu o resymau, ond rwyf hefyd yn ymchwilio i hyn gyda goruchwylwyr annibynnol ein system gymwysterau, Cymwysterau Cymru, i gael gwell dealltwriaeth. Ond gadewch i ni fod yn glir: ceir rhai ysgolion lle gwelir disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn gwneud yn well na'r disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim. Felly, Cefn Hengoed yn Abertawe: fe wnaeth y rhai sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn well yn eu harholiadau TGAU y llynedd na'u cymheiriaid mwy cefnog. Ceir rhai ysgolion o fewn Dinas Caerdydd gyda niferoedd tebyg iawn yn cael prydau ysgol am ddim. Mae gan rai o'r ysgolion hynny nifer sylweddol o'r disgyblion hynny yn llwyddo yn eu lefel 2 plws, a charfan debyg yn yr un ddinas heb wneud cystal. Ac mae'r amrywiad yna yn y system, lle mae rhai ysgolion wedi gallu ynysu eu disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u datblygu'n llwyddiannus, ac ysgolion eraill yn yr un ddinas yn methu â gwneud hyn, yn fy mhryderu. A dyna pam y byddwn ni'n disgwyl i'n cydgysylltwyr grant datblygu disgyblion yn ein consortia rhanbarthol sicrhau bod arferion gorau—lle mae'r ysgolion hynny sy'n mynd yn groes i'r duedd a'r disgyblion yn gwneud yn dda, bod eu harferion da yn cael eu rhannu'n gyson â'r holl ysgolion. Oherwydd os gall rhai wneud hynny, yna dylai pob un fod yn gallu gwneud hynny.

16:10

Rydw i'n ofni y bydd yn rhaid i fi hefyd ddechrau drwy adleisio sylwadau'r llefarydd blaenorol ynglŷn ag amseru'r datganiad yma. Rydw i yn teimlo ei fod e'n dangos ychydig o sarhad tuag at waith y pwyllgor, oherwydd rŷm ni fater o wythnosau o gyhoeddi adroddiad ar y grantiau cefnogi ysgolion, a fydd, wrth gwrs, â ffocws cryf ar y PDG, a dyma ni yn cael datganiad gan y Llywodraeth sydd, felly, yn awgrymu nad ŷch chi'n barod i aros i weld beth fydd gan yr adroddiad i'w ddweud ar rai o'r materion yma. Felly, mae hynny yn destun siom, a hefyd, ocê, fe gewch chi ei gyhoeddi fe i'ch cynhadledd plaid os ŷch chi eisiau, ond y Senedd yma sy'n gosod eich cyllideb chi, ac i'r Senedd yma y dylech chi fod yn atebol ac yn gwneud datganiadau yn y lle cyntaf.

Nawr, wrth gwrs, mae rhywun yn croesawu unrhyw arian ychwanegol, yn enwedig i'r PDG blynyddoedd cynnar. Rŷm ni wastad wedi dweud bod angen y buddsoddiad yna rhag blaen, yn y blynyddoedd cynnar, oherwydd dyna pryd maen nhw'n mynd i gael yr effaith cryfaf, ac felly mae hynny yn gam positif, yn ogystal, wrth gwrs, â symud i gylch ariannu dwy flynedd. Nawr, mae yna gwestiynau yn dal i fod, rydw i'n ofni, ynglŷn ag ai dyma'r defnydd gorau o'r arian yna. Mae'n hen ddadl sydd wedi rhygnu ymlaen ers blynyddoedd, rydw i'n gwybod, ynglŷn â pha fath o return byddai rhywun yn gallu ei gael am bron i £400 miliwn drwy ei ddefnyddio fe mewn ffyrdd eraill. Ac mae'n rhaid cofio, roedd y trend o gau'r bwlch yma rhwng cyrhaeddiad y rhai sydd yn gymwys i ginio ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim wedi cychwyn cyn cyflwyno'r PDG, felly mae yna fwy o waith i'w wneud, ac rydw i'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod bod yna wastad mwy o waith i'w wneud, i brofi bod y buddsoddiad yma yn uchafu gwerth o safbwynt cyflawni polisi'r Llywodraeth yma.

Nawr, nid oes cwestiynu'r gwerth y mae ysgolion yn rhoi ar y buddsoddiad yma, wrth gwrs. Ni fyddwn i'n dadlau hynny am funud, ond, yn y dystiolaeth rŷm ni wedi'i chael fel pwyllgor, a hefyd yn yr ymweliadau rydw i wedi'u gwneud â nifer o ysgolion, nid yw e wastad yn gwerthfawrogi'r arian er mwyn cyflawni'r pwrpas y mae e'n cael ei roi, ond yn fwy i sybsideiddio toriadau mewn ariannu craidd ysgolion. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei wneud mewn gwahanol ffyrdd, sydd yn ticio bocsys y Llywodraeth ond sydd hefyd, efallai, i ddefnyddio term sydd wedi cael ei ddefnyddio i fi gan rywun o'r sector, 'yn papuro dros lawer o'r craciau'. Felly, mae yna gwestiynau ynglŷn ag a ydy'r Llywodraeth yn hyderus bod y pres yn cael ei ddefnyddio, bob tro, i'r pwrpas y'i fwriadwyd e. 

Ac a oes yna ystyriaeth wedi'i rhoi—? Efallai bod angen i ni gael trafodaeth ynglŷn â symud y pres yma i ariannu craidd ysgolion drwy'r grant cynnal refeniw, oherwydd rŷch chi'n sôn mwy a mwy am roi hyblygrwydd i ysgolion i'w ddefnyddio fe mewn modd y maen nhw'n teimlo sy'n addas o safbwynt cyflawni'r pwrpas yr ŷch chi'n ei roi e iddyn nhw, ond rydw i jest yn gweld anghysondeb fan hyn o ran polisi, oherwydd rydw i'n siŵr y byddech chi—ac rydw i'n gweld wrth eich wyneb chi y byddech chi—yn dadlau ei bod hi'n bwysig amddiffyn hwn fel grant penodol sydd â chriteria arbennig y byddech chi'n disgwyl i ysgolion i'w cyflawni, ond wrth gwrs rŷch chi'n cael gwared ar grantiau eraill ac yn eu rhoi nhw i mewn i'r RSG, a phan fyddem ni'n mynegi consérn wedyn efallai fod yna golli ffocws yn mynd i fod, 'O, na, na, na—rŷm ni'n mynd i roi pwyslais newydd ar allbynnau a chanlyniadau a sicrhau ein bod ni'n gallu tracio defnydd yr arian.'

Felly, mae yna anghysondeb, rydw i'n meddwl, yn y modd y mae'r Llywodraeth yn dynesu at wahanol ddulliau o ddarparu arian i ysgolion. Rydw i yn meddwl, efallai, bod angen trafodaeth. Nid wyf yn siŵr fy hun beth yw’r ateb, ond rydw i jest yn gweld yr anghysondeb yna, heb sôn wedyn, wrth gwrs, fod peth o’r arian yn mynd i ysgolion, peth yn mynd i awdurdodau lleol a pheth grantiau’n dod drwy’r consortia. Mae’r adborth rydw i’n ei gael oddi wrth ysgolion yn awgrymu efallai bod yna drafodaeth a darn o waith angen ei wneud o gwmpas hynny.

A gaf i ofyn hefyd—? Yn sgil y pwynt yr oeddwn i’n ei wneud ynglŷn â’r angen i fonitro effaith y PDG, roeddech chi’n sôn am roi ffocws cynyddol ar gynnydd, neu progress, ac ychwanegu gwerth yn y datganiad. A allwch chi, efallai, sôn ychydig ynglŷn â pha fesuryddion rydych chi’n eu hystyried, neu beth rydych chi’n edrych i’w fesur? Mae’n beth anodd iawn i fesur yn y cyd-destun yna, a byddai ychydig o eglurder ar hynny yn dderbyniol iawn.

A gaf i groesawu’r ffaith eich bod chi yn symud i gylchdro dwy flynedd o ariannu'r PDG? Oherwydd mae’r adborth ynglŷn â pha mor anodd yw hi i fynd o flwyddyn i flwyddyn yn un sydd wedi dod drwyddo’n glir o sawl cyfeiriad. A gaf i ddweud, hefyd, bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn gwarantu arian i’w hysgolion nhw dros dymor hirach na dim ond blwyddyn yn barod? Felly, mae’n amlwg bod angen gwneud hynny ar lawr gwlad, ac mae’n dda bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn eich penderfyniad chi, er, wrth gwrs, roeddech chi’n ei fframio yng nghyd-destun universal credit, ac mae hynny’n ddigon rhesymol, ond byddwn i’n dadlau mai nid dim ond oherwydd universal credit—buaswn i’n gobeithio ei fod yn benderfyniad sydd yn rhywbeth y tu hwnt i hynny. Rydym ni yn fyr o’r sefyllfa yn Lloegr, wrth gwrs, fel yr oeddem ni’n clywed am yr Ever 6, ond mae’n sicr yn gam i’r cyfeiriad iawn, ac rydw i'n croesawu hynny.

Rydym ni wedi cyfeirio at sylwadau Estyn ynglŷn â’r PDG. Wrth gwrs, mae Estyn hefyd yn dweud mai dim ond dwy ran o dair o ysgolion sy’n defnyddio’r PDG yn effeithiol, felly mae hynny’n gadael un rhan o dair sydd ddim. Byddwn i’n licio clywed pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod potensial yr incwm yma yn cael ei facsimeiddio ym mhob ysgol, yn enwedig yn y traean yna lle mae Estyn yn teimlo nad ydyn nhw’n gwneud y defnydd gorau neu ddefnydd effeithiol o’r PDG.

Yn olaf gen i, mi gawsom ni ambell gwestiwn yn gynharach ynglŷn â diddymu’r grant gwisg ysgol. Yn ei ateb, mi wnaeth y Prif Weinidog ddweud y byddai’n cael ei droi i mewn i gronfa mwy hyblyg—rhywbeth fyddai’n gallu rhoi cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, a rhywbeth, efallai, fyddai’n talu am dripiau ysgol neu brofiadau penodol iddyn nhw. Mae’n swnio’n debyg iawn i’r PDG. Efallai y gallech chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â sut y bydd yn wahanol. Diolch.

16:15

Diolch, Llyr, am hynny. Rwyf eisiau dechrau drwy ddweud fy mod i'n ddiolchgar eich bod yn cydnabod yr angen i roi sefydlogrwydd i ysgolion cymaint ag y gallwn, a dyna pam y mae'r penderfyniad wedi'i wneud. Mae hynny'n arbennig o wir, fel y dywedais wrth Darren, pan fo sefyllfaoedd cyllido yn anodd, ac mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ysgolion a'u cyrff llywodraethu gynllunio ar gyfer defnydd effeithiol o'r adnoddau hyn. Ac rydych chi'n gywir; mae Estyn yn dweud bod mwy y gellir ei wneud i sicrhau y defnyddir yr adnoddau hyn yn effeithiol, a dyna pam yr ydym ni'n gweithio gyda'r consortia rhanbarthol, gyda'r cydgysylltydd grant datblygu disgyblion ym mhob un ohonynt, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn gwneud hynny'n union: eu bod yn defnyddio'r arferion gorau ac y gallant ddangos tystiolaeth am y rhesymau dros y penderfyniadau y maent yn eu gwneud o ran y grant datblygu disgyblion.

Efallai nad ydych chi'n ystyried hyn yn flaenoriaeth benodol, ond ni allwn gael y system addysg y mae arnaf i ei heisiau i'n disgyblion os ydym ni'n tynnu'n sylw oddi ar yr agwedd benodol hon. Efallai, pe byddech chi yn fy sefyllfa i, y byddai arnoch chi eisiau cael gwared ar y grant datblygu disgyblion. Ond rwyf i eisiau ei gwneud hi'n gwbl glir i rieni rhai o'n plant mwyaf difreintiedig, ac i ysgolion sy'n gwasanaethu'r cymunedau hynny, tra byddaf i'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yna bydd y grant datblygu disgyblion yn bodoli, ac fe wnaf i fy ngorau i sicrhau, lle ceir cyfleoedd i gynyddu gwerth hynny, fel y gwnaethom y llynedd, ac, fel yr ydym wedi gwneud y flwyddyn hon, y byddwn yn gwneud yr union beth hynny. Nid wyf yn ymddiheuro am fod eisiau buddsoddi'r arian hwn yn addysg ein plant tlotaf.

Nid fy mwriad i oedd bod yn anghwrtais tuag at y Cadeirydd nac aelodau eraill y Pwyllgor drwy wneud y cyhoeddiad hwn, ond mae hi yn ddechrau'r flwyddyn ariannol, ac rydym ni wedi gorfod gwneud dyraniadau i ysgolion. Nid eich bai chi yw hi y  bydd eich adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen, ond nid fy mai i yw hynny ychwaith. Pan fydd ysgolion yn gofyn imi am eu dyraniadau, mae angen inni allu rhoi gwybod iddyn nhw am y dyraniad hwnnw. Rwy'n gobeithio fy mod wedi dangos dros y ddwy flynedd ddiwethaf, pan fydd modd i mi ymateb yn gadarnhaol i waith pwyllgorau craffu, fy mod yn gwneud hynny, ond o ran y dyraniad, rydym ni wedi gorfod rhoi gwybod i ysgolion am yr arian hwnnw a'r dyraniadau hynny cyn gynted â phosib. Nid bod yn anghwrtais i'r Pwyllgor oedd y bwriad. Mae'n fater o amseru a dechrau'r flwyddyn ariannol.

Byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y tymor hwn i roi diweddariad i'r Aelodau ynglŷn â'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud i'r mesurau asesu ac atebolrwydd. Mae'n ymddangos i mi ein bod ni mewn sefyllfa i ddechrau defnyddio cyfres fwy deallus o fesurau asesu ac atebolrwydd a fydd yn fodd inni wneud cynnydd o'r sefyllfa y buom ynddi yn y gorffennol, a ddefnyddiwyd efallai, mewn rhai ysgolion, i ganolbwyntio'n yn llwyr ar y ffin rhwng gradd C a gradd D, sydd wedi effeithio ar agweddau eraill ar ein system addysg, o ran y mathau o gymwysterau y mae plant wedi eu cofrestru ar eu cyfer. Er gwaethaf y gostyngiad mewn perfformiad yn 2017, yr hyn a welsom yn 2017 oedd mwy o blant yn cael prydau ysgol am ddim yn cael eu cofrestru ar gyfer TGAU nag erioed o'r blaen—plant na fyddai wedi cael eu cofrestru o'r blaen ar gyfer arholiad gwyddoniaeth TGAU. Mae mwy o blant nag erioed o'r blaen o gefndiroedd tlotach yn cael eu cofrestru ar gyfer y cymwysterau hyn, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn credu y dylem ni ei ystyried, ac mae angen cyfres well o fesurau perfformiad arnom.

Fel y dywedais, Llyr, efallai nad ydych chi'n credu yng ngallu'r buddsoddiad hwn i weddnewid bywyd plant. O wrando ar ysgolion, o wrando ar y gwerthusiad ac o wrando ar Estyn, rwyf i'n creu mai hwn yw'r llwybr cywir, hwn yw'r pwyslais cywir, a thra byddaf i yn y swydd hon, bydd yn parhau i fod felly.

16:20

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu eich cyhoeddiad ynglŷn â'r cynnydd yn y grant datblygu disgyblion ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Mae gweithredu yn gynharach ym mywyd plentyn i liniaru anfanteision cymdeithasol a rhai eraill sy'n effeithio ar y plentyn yn gwneud synnwyr, ac yn amlwg y cynharaf i gyd y  byddwch yn gweithredu, y gorau i gyd yw hynny ar gyfer y plentyn, ac rydych chi'n fwy tebygol o osgoi canlyniadau'r anfantais honno. Rwyf hefyd yn croesawu eich penderfyniad i ymestyn y meini prawf cymhwysedd i ddwy flynedd—yn ochelgar braidd, oherwydd gall gymryd llawer mwy na dwy flynedd i blentyn oresgyn effeithiau bod ar brydau ysgol am ddim neu fod dan anfantais arall. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro i ni pam nad yw'r cyfnod hwn yn fwy, a pham y mae hi wedi dewis dwy flynedd yn hytrach na thair, pedair, pump neu beth bynnag? Mae gwarantu'r dyraniad am ddwy flynedd hefyd yn ddatblygiad i'w groesawu. Rwyf mewn gwirionedd yn cytuno â chi y bydd yn rhoi elfen o sicrwydd o leiaf. A oes gennych chi unrhyw syniadau ynghylch p'un a allech chi adolygu'r cyfnod hwnnw? A fydd y cyfnod hwn o ddwy flynedd yn beth parhaus neu ai penderfyniad unigol yw hwn?

O droi at y grant datblygu disgyblion a sut y caiff ei gymhwyso, ymddengys bod elfen o hyblygrwydd yn bodoli o ran sut y mae ysgolion yn defnyddio'r grant datblygu disgyblion, ac er efallai nad yw ysgolion yn defnyddio 100 y cant o'r grant datblygu disgyblion yn benodol ac yn uniongyrchol i dargedu disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, ni fyddwn yn dymuno gweld cyfaddawdu ar yr hyblygrwydd hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn rhoi rhywbeth i ysgolion—arf ychwanegol yn eu harfogaeth i helpu plant a fyddai o bosibl yn syrthio rhwng dwy stôl, efallai. Felly, a oes gennych chi unrhyw fwriad i gyfyngu'r ffordd y caiff ysgolion ddefnyddio'r grant datblygu disgyblion? Oherwydd rydych chi wedi ymlafnio heddiw i bwysleisio mai diben y grant datblygu disgyblion yw lleihau'r bwlch cyrhaeddiad. Beth yw'r goblygiadau i ysgolion? A ydych chi'n mynd i geisio cyfyngu ar sut y maen nhw'n defnyddio'r grant datblygu disgyblion, neu dim ond cynnal y sefyllfa y byddwch chi, fel y mae pethau ar hyn o bryd?

Mae'r hawl i gael prydau ysgol am ddim hefyd yn arf eithaf aneffeithiol, ac rwy'n credu y byddech yn cytuno â mi yn hynny o beth. Gall ffactorau fel profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith hynod andwyol ar gyrhaeddiad addysgol, felly a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i p'un a ellid addasu meini prawf y grant datblygu disgyblion i ystyried ffactorau megis profiadau niweidiol penodol yn ystod plentyndod a allai gael effaith ofnadwy o andwyol ar ddatblygiad a chyrhaeddiad addysgol plentyn ar hyd ei oes? Os nad ydych chi'n teimlo mai'r grant datblygu disgyblion yw'r offeryn priodol ar gyfer hynny, pa gynigion ydych chi'n eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r ffactorau hynny sy'n cael effaith mor fawr ar gyrhaeddiad addysgol? Rwy'n cydnabod mai eich amcan yw lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a'r rheini nad ydynt, ond dim ond rhan o'r darlun yw cau'r bwlch cyrhaeddiad. Os yw disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn mynd i ddianc o'r cylch o gyflogau isel y mae eu rhieni o bosibl wedi canfod eu hunain ynddo, mae'n rhaid caniatáu iddynt ac mae'n rhaid eu hannog i wireddu eu potensial. Felly, a oes gennych chi unrhyw gynigion ynglŷn â sut y gellir targedu disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim i gyflawni'n well, y tu hwnt i dalu'r grant datblygu disgyblion? Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

16:25

Diolch yn fawr iawn. Gadewch imi fod yn gwbl glir ynghylch y defnydd o'r grant amddifadedd disgyblion. Mae'r grant amddifadedd disgyblion yn bodoli er mwyn cefnogi cyrhaeddiad addysgol y plant hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu blant sy'n derbyn gofal, waeth beth yw eu potensial. Felly, i rai, gallai hynny fod ynglŷn â darparu cymorth dal i fyny fel eu bod ar yr un tir â'u cyfoedion. I rai plant fydd yn cael y grant amddifadedd disgyblion, y diben yw eu cefnogi i gyrraedd eu potensial fel plant mwy abl a thalentog. Felly, nid oes a wnelo hyn â lefel cyrhaeddiad addysgol ar gyfer unigolion, mae'n golygu cefnogi pob un o'r plant hynny i fod y gorau y gallant fod.

Mae'n rhaid defnyddio'r arian er mwyn ymyrryd yn uniongyrchol er budd y plant cymwys hynny, ond gellir defnyddio'r adnoddau ar gyfer ymyraethau cyffredinol a fyddai'n arwain at fanteision anghymesur i rai dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim neu blant sy'n derbyn gofal hefyd. Felly, mae hynny'n effeithio yn ei dro ar y rhai sydd efallai ychydig dros y trothwy neu y mae cyfyngiadau eraill ar eu cyrhaeddiad addysgol, ond nid rhai ariannol. Gadewch imi roi un enghraifft o ranbarth yr Aelod ei hun. Yn Ysgol Gynradd Sirol Brynteg yn Wrecsam mae mwy na 32 y cant o ddysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac maen nhw wedi defnyddio eu grant amddifadedd disgyblion i ddatblygu rhaglen meddylfryd twf ar gyfer pob dysgwr yn yr ysgol—pob dysgwr. Ond yr hyn y gwyddom ni yw bod hynny yn rhoi mantais anghymesur i ddysgwyr sy'n dod o gefndir mwy difreintiedig. Felly, mae pob dysgwr yn elwa ar y rhaglen honno, ond mae o fudd anghymesur i'r plant hynny sy'n cael prydau ysgol am ddim.

O ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac anhwylder ymlyniad, sy'n agweddau y mae ysgolion cynradd yn dweud wrthyf eu bod yn ymryson ac yn ymdrin fwyfwy â nhw, yng nghonsortiwm rhanbarthol ERW defnyddiwyd adnoddau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal i sicrhau bod pob ysgol gynradd yn ymwybodol o broblemau ymlyniad a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Unwaith eto, mae hynny o bosibl er budd pawb yn yr ysgol, ond gwyddom ei fod yn rhoi budd anghymesur i is-set benodol o blant sydd â hawl i'r adnodd hwn.

Nid wyf yn bwriadu cyfyngu ar ddefnydd ysgolion o'r arian. Yr hyn yr wyf eisiau ei wneud yw sicrhau bod yr ysgolion yn defnyddio'r dystiolaeth a'r arferion gorau a gwybod mai'r ymyraethau maen nhw'n eu defnyddio yw'r rhai y gwyddom ni eu bod yn gweithio mewn gwirionedd ar gyfer plant. Felly, Michelle, rydych chi yn llygad eich lle; mae angen inni edrych yn gynhwysfawr ar bob plentyn unigol ac ar sut y gallwn ni gefnogi'r plant hynny i gyrraedd eu potensial, beth bynnag fo hwnnw. Felly, nid cefnogaeth yn unig i blant ddal i fyny yw hyn, ond mae'n ymestyn plant sy'n fwy abl a thalentog ac i gynyddu'r dyheadau hynny ar gyfer y plant, rhywbeth y mae Ysgol Gynradd Sirol Brynteg wedi ei wneud yn rhyfeddol.

Nid wyf yn siwr ai dyma'r siaradwr olaf, Cadeirydd—

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel mae Aelodau wedi ei ddweud ac fel mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rydym ni bron ar ddiwedd ein hymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu. Mae gennym ni drafodaeth yn ei gylch yfory, a does arnaf i ddim awydd o gwbl achub y blaen ar ganfyddiadau'r Pwyllgor ynghylch hynny, oherwydd byddwn yn gwneud, gobeithio, nifer dda o argymhellion, yr wyf yn siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi ystyriaeth ddifrifol iddynt. Rwy'n falch bod y gwaith a wnaeth y Pwyllgor wedi bod yn fodd o daflu goleuni parhaus ar y maes pwysig iawn hwn o waith.

Dim ond eisiau gofyn dau gwestiwn byr oeddwn i, y cyntaf yn ymwneud â chydnerthedd disgyblion yn arholiadau TGAU 2017, yr ydych chi wedi cyfeirio ato sawl gwaith mewn atebion. Yn arbennig, rydych chi wedi tynnu sylw at y ffaith eich bod yn bwriadu sicrhau y caiff y gwersi arfer da eu cyflwyno i bob rhan o Gymru. A gaf i ofyn a allwch chi roi arwydd mwy pendant o bryd yr ydych chi'n disgwyl y caiff y gwaith hwnnw ei gwblhau ac am eich sicrwydd y bydd hynny mewn da bryd ar gyfer arholiadau yr haf hwn?

Roedd fy ail gwestiwn yn ymwneud â'r mater o ddysgwyr mwy abl a thalentog, oherwydd mae'r Pwyllgor wedi cael llawer o dystiolaeth bod rhai ysgolion yn defnyddio eu grant amddifadedd disgyblion dim ond ar y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim nad ydynt yn cyflawni'n dda, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn yr eglurder a roesoch chi y prynhawn yma eich bod yn disgwyl y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio ar gyfer pob disgybl sy'n cael prydau ysgol am ddim. Ond yn hynny o beth, a oes gennych chi unrhyw gynlluniau pendant i sicrhau y caiff y neges honno ei chyfleu yn glir i Gymru gyfan, ac i sicrhau y caiff hyn ei weithredu yn briodol ym mhob man? Diolch.

16:30

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor am ei sylwadau? Fel y dywedais wrth ateb Llyr Huws Gruffydd, nid oes bwriad i ddibrisio gwaith y Pwyllgor. Mae hi'n ddechrau y flwyddyn ariannol ac mae angen i ysgolion wybod eu cyllidebau. Rydym wedi gorfod gwneud y cyhoeddiad hwnnw cyn cyhoeddi'r adroddiad. A dim ond er mwyn eglurder, roedd llawer o Aelodau yn bryderus iawn y prynhawn yma oherwydd imi gyhoeddi'r arian hwn yn gyntaf i gynhadledd fy mhlaid fore Sadwrn. Gadewch imi sicrhau'r holl Aelodau mai'r bobl gyntaf a wyddai am yr adnoddau ychwanegol oedd yr ysgolion. Cyhoeddais hyn i ysgolion unigol ym mis Mawrth. Ysgolion ar hyd a lled y wlad hon a glywodd gyntaf am yr adnodd hwn, a hoffwn sicrhau'r holl Aelodau o hynny yn y dyraniadau grant a anfonwyd atynt ym mis Mawrth.

Lynne, rwy'n rhannu eich pryderon ynghylch defnyddio'r adnodd hwn, fel y dywedais wrth Michelle Brown, dim ond er mwyn dal i fyny, ac nid i nodi plant unigol sy'n fwy abl a thalentog. Rwyf wedi bod yn glir heddiw, gobeithio, ac roeddwn yn glir yn nhystiolaeth y pwyllgor a roddais i chi, fy mod i'n disgwyl i bob plentyn elwa ar yr adnoddau hyn, a byddaf yn disgwyl i gynghorwyr y consortia rhanbarthol, y rhai unigol mewn ysgolion unigol, yn ogystal â chydgysylltydd yr holl gonsortia, i ofyn y cwestiynau hyn mewn ysgolion i benaethiaid ynghylch sut y defnyddir yr adnodd hwn. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynghylch fy nisgwyliadau y dylid gofyn y cwestiynau hynny. Mae'r arian hwn yn bodoli fel y gall pob plentyn sy'n gymwys gyrraedd ei lawn botensial.

Mae'r broblem ynghylch cydnerthedd mewn TGAU yn waith parhaus; nid gwaith unwaith ac am byth mohono. Rydym ni eisoes wedi cael sgyrsiau gyda'r consortia rhanbarthol, gyda phenaethiaid drwy gyfrwng ein cynadleddau penaethiaid, yn ogystal â'r trafodaethau parhaus y mae swyddogion yn eu cael gyda phenaethiaid am yr angen i ledaenu arfer dda, a deall pam mae rhai ysgolion yn gallu mynd yn groes i'r duedd a pham na allai ysgolion eraill, fel y dywedais, hyd yn oed o fewn yr un awdurdod addysg lleol neu gonsortia rhanbarthol, gefnogi eu disgyblion yn yr un modd. Petai un rheswm syml am y diffyg cydnerthedd, byddai'n hawdd, ond mae hyn yn amlochrog ac ychydig yn wahanol ym mhob ysgol. Ond mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n barhaus a chyson ym mhob un o'r meysydd. Un o'r heriau strategol mwyaf sydd gennym ni yn y system addysg yng Nghymru yw amrywiaeth, ac mae hyn eto yn enghraifft arall o pam mae angen mynd i'r afael â'r sefyllfa honno ynglŷn ag amrywioldeb.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ambell gwestiwn am eich datganiad. Yn gyntaf, rwy'n nodi eich sylwadau ynghylch sut y defnyddir y grant amddifadedd disgyblion i gynnwys teuluoedd yn addysg eu plant yn well, a byddwch yn gwybod fy mod yn cynnal digwyddiad ar gyfer Parentkind yn y Senedd yfory pryd y byddwch chi'n siarad. Y nod yw dathlu gwaith yr elusen o ran cael rhieni i gymryd rhan mewn addysg. Fodd bynnag, rwy'n gwybod, ac mae llawer o gyn-athrawon ac athrawon eraill yn gwybod, y gall hi fod yn anodd cael rhieni plant sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim i fynd i nosweithiau rhieni neu i deimlo'n gyfforddus yn ymweld ag ysgol eu plentyn. Pa waith y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i oresgyn y rhwystrau hyn?

Yn ail, mae'r gwelliant y soniasoch amdano yng nghyrhaeddiad plant sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a phlant sy'n derbyn gofal i'w groesawu'n fawr. Mae un o bob tri phlentyn yn y categori cyntaf bellach yn cyrraedd y trothwy lefel 2, a bron i un o bob pedwar o'r categori arall. Mae'n briodol ein bod ni'n cydnabod cynnydd disgyblion, ond i lawer o'r disgyblion hyn ni ellir mesur cynnydd yn ôl canlyniadau arholiad yn unig. Felly, byddwn yn croesawu dychwelyd at sefyllfa lle mae mwy o bwyslais ar y mesur cynhwysol o werth ychwanegol. A allech chi ymhelaethu ar eich sylwadau ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cyfres o fesurau a fydd yn canolbwyntio ar gynnydd o ran gwerth ychwanegol?

Yn drydydd ac yn olaf, agwedd hollbwysig ar y grant amddifadedd disgyblion yn amlwg yw'r ffordd y caiff ei ddefnyddio i gefnogi disgyblion sy'n derbyn gofal. Mae'r hyblygrwydd yn y system bresennol yn caniatáu consortia rhanbarthol i deilwra pecynnau cymorth a rhoi sylw i anghenion penodol y disgyblion yn eu hardal. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro hyn er mwyn sicrhau y caiff yr arfer gorau ei gyflwyno ledled Cymru fel bod disgyblion sy'n derbyn gofal yn cael y cymorth gorau posibl?

16:35

A gaf i ddiolch i Vikki am hynny? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad yfory. Yr hyn a wyddom yw mai ymgysylltiad y rhieni yn addysg eu plentyn, ar ôl ansawdd yr addysgu, yw'r ail ffactor mwyaf o ran adlewyrchu'r canlyniadau. Felly, mae angen athrawon gwych ar ein plant, ond mae angen rhieni, neiniau a theidiau a chymunedau cefnogol iawn arnom hefyd, y tu ôl i'r plant hynny, os ydyn nhw'n mynd i wneud y mwyaf o'u cyfleoedd addysg.

Mae yna rywfaint o arfer da ardderchog. Rwy'n credu efallai mai yn etholaeth Janet Finch-Saunders hyd yn oed neu efallai yn etholaeth Darren Miller—Ysgol Fabanod Glan Gele. Rwy'n credu mai yn etholaeth Darren. Mae hon yn un o'r ysgolion y mae Estyn wedi nodi bod ganddi arfer rhagorol o ran defnyddio'r PDG i ymgysylltu â rhieni. Mae'r ysgol honno wedi gweithio'n galed iawn i dargedu ei PDG yn systematig i fynd i'r afael â'r broblem o ymddieithrio gan rieni. Mae hyn yn cynnwys sesiynau sgiliau sylfaenol ar gyfer y rhieni eu hunain, sy'n digwydd yn y ddarpariaeth partneriaeth rhieni newydd. Felly, maen nhw wedi creu cynllun cyfan sydd mewn gwirionedd yn targedu'r mater hwn, ac maen nhw'n defnyddio eu PDG i'w gefnogi. O ganlyniad, mae'r ysgol wedi gweld mwy o rieni yn gwneud eu rhan i addysgu eu plant yn ogystal â gwella sgiliau'r rhieni eu hunain, sy'n beth gwych, o ran eu sgiliau llythrennedd a rhifedd eu hunain. Mae hynny hefyd wedi cael effaith aruthrol ar lesiant y rhieni hynny yn ogystal â'u plant. Mae'n enghraifft dda iawn o arfer da yn y modd y caiff yr adnodd hwn ei gyllido. Ond mae angen inni weld mwy o'r enghreifftiau hynny yn cael eu datblygu a'u lledaenu ledled Cymru.

O ran asesu a mesurau perfformiad, rwy'n gobeithio gwneud datganiad, fel y dywedais wrth Llŷr Huws Gruffydd, yn nes ymlaen yn y tymor hwn sy'n amlinellu'r dull gweithredu yr ydym ni'n gofyn amdano. Mae angen inni gytuno a chefnogi'r gwaith o baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, oherwydd mae'r trefniadau asesu yn mynd i orfod newid ac rydym yn mynd i orfod cyd-fynd â'n cwricwlwm newydd. Ond mae hefyd yn glir i mi bod angen inni gael ffordd fwy soffistigedig o fesur perfformiad unigol ysgolion.

Oes, mae angen i blant lwyddo yn eu harholiadau ffurfiol, ond, mewn gwirionedd, mae angen i'r modd yr ydym ni'n mesur hynny fod yn llawer mwy soffistigedig. Ar hyn o bryd, yr hyn sydd gennym ni yw system sy'n dweud, 'Os yw plentyn wedi llwyddo i gael gradd C yn ei TGAU—tic, rydych chi wedi bod yn llwyddiannus, ond os yw plentyn yn cael gradd D, yna nid ydych wedi llwyddo gyda'r plentyn hwnnw. Ond, mewn gwirionedd, os oedd y plentyn hwnnw braidd byth yn dod i'r ysgol a bod eich ysgol chi wedi gweithio'n galed iawn, iawn ac wedi cael y plentyn hwnnw i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chyfres o sgiliau a phrofiadau, ni ddylid diystyru’r ymdrech honno. Yn y cyfamser, os oes gennych blentyn a ddylai fod wedi cael A* ond ei fod ond wedi llwyddo i gael gradd C, ni ddylem  fod yn llongyfarch y system ysgol am hynny ychwaith, oherwydd nid yw wedi caniatáu i'r plentyn hwnnw gyrraedd ei botensial llawn. Mae angen cyfres o fesurau perfformiad arnom ni sy'n canolbwyntio ar y garfan gyfan, nid dim ond y disgyblion sydd ar y ffin rhwng C a D, y gwyddom fod rhai ysgolion wedi canolbwyntio arnyn nhw, ond mae angen canolbwyntio ar bob un plentyn yn yr ysgol honno. Dylai eu cyflawniadau a'u perfformiad fod yn bwysig a byddaf yn gwneud datganiad am hynny yn nes ymlaen y tymor hwn, ynghylch sut yr ydym yn bwriadu cyflawni hynny.

Efallai nad yw'n syndod, ond mae'n siomedig bod llawer o'r ddadl heddiw wedi trafod prydau ysgol am ddim yn unig ac ni chawsom drafodaeth ar yr elfen o'r PDG sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal. Os ydym yn poeni am y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer ein plant tlotaf, yna bobol bach, mae angen inni fod yn poeni am y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer y plant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal ac sydd yn derbyn gofal.

Bydd fy swyddogion yn cydweithio'n agos iawn gyda'r grŵp y mae David Melding yn ei gadeirio. Rwy'n gobeithio y gall David a minnau gyfarfod cyn hir i drafod sut orau y gallwn ni ddefnyddio'r adnoddau hyn i newid sefyllfa'r plant hyn. Nid yw'n hawdd. Mae'n gymhleth. Rydym ni wedi gwneud cynnydd da, ond yr haf diwethaf rydym wedi gweld dirywiad eto oherwydd y diffyg cydnerthedd hwnnw. Rwy'n gwbl benderfynol bod cyrhaeddiad addysgol y plant hyn yr un mor bwysig â phob plentyn arall yn y system, a byddaf yn gweithio'n draws-bleidiol, ar draws y Siambr, i sicrhau bod yr adnoddau hyn sydd ar gael drwy'r PDG i blant sy'n derbyn gofal yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau.

5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Yr Amgylchedd yng Nghymru

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog dros yr amgylchedd ar yr amgylchedd yng Nghymru. Galwaf ar Hannah Blythyn i gyflwyno'r datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yng Nghymru, rydym ni'n ffodus o fod â thirwedd anhygoel a threftadaeth naturiol gyfoethog. Mae'n atyniad mawr i ymwelwyr â'n harfordir ac yn lle gwych i ni i gyd dreulio amser. Ond nid mater o hamdden yn unig yw ein hamgylchedd naturiol; mae'n dirwedd ar gyfer byw a gweithio, sydd yno, a dylai fod yno, er budd holl bobl Cymru. Mae'n fwy na dim ond man sy'n bodoli y tu allan i'n trefi a'n dinasoedd i ddianc iddo, ac mae'n gartref i'r rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â bod yn ased sy'n sail i ddiwydiannau allweddol ac yn ffynhonnell hanfodol o ddŵr ac ynni i'r DU gyfan, ac mae'n rhan hanfodol o bwy ydym ni fel cenedl. Felly, heddiw, wrth danlinellu ein hymrwymiad fel Llywodraeth i'r amgylchedd a nodi fy mlaenoriaethau, rwy'n gwneud hynny nid fel ychwanegiad at ein prif amcanion ond fel egwyddor graidd sy'n hanfodol i'n dull gweithredu ar y cyd.

Gyda phwyslais Brexit ar hyn o bryd ar yr effaith economaidd a chymdeithasol, efallai ei bod yn hawdd colli golwg weithiau ar y bygythiadau amgylcheddol a oedd gynt yn ganolbwynt ein sylw ac sydd heb ddiflannu. Ni ddylid diystyru bygythiadau Brexit. Ond ochr yn ochr â hyn hefyd ni ddylem anghofio graddfa'r risgiau sy'n deillio o ddirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth, neu gynnydd parhaus mewn allyriadau byd-eang.

Mae ffermwyr yn ffermio'r amgylchedd, a heb fioamrywiaeth y pridd a heb bryfed peillio, nid oes dyfodol hirdymor i ffermio. Ac os nad ydym ni'n chwarae ein rhan yn y gweithredu byd-eang sydd ei angen, mae risg ein bod yn peryglu ein ffyniant ein hunain ynghyd â ffyniant cenedlaethau'r dyfodol. Nid yw'r amgylchedd yn 'naill ai/neu'; mae'n hanfodol i'n ffyniant economaidd ac i'n hiechyd a'n llesiant.

Fel Llywodraeth, rydym ni'n gwbl ymrwymedig i weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn llawn. Mae'r dystiolaeth o adroddiad 'Sefyllfa Adnoddau Naturiol' cyntaf Cymru yn nodi'n glir fod angen gweithredu trawsnewidiol ar yr heriau amgylcheddol yr ydym ni'n eu hwynebu. Mae tystiolaeth leol ac yn fyd-eang yn dangos nad yw cymryd camau bach, bob yn dipyn, yn ddigon erbyn hyn. Mae'r dirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth ddaearol yn gwneud hyn yn gwbl amlwg. Ym mholisi adnoddau naturiol cyntaf Cymru, nodwyd bod gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a gwella cydnerthedd ecosystemau yn gymaint o her â newid yn yr hinsawdd. Dyna pam y bydd gwrthdroi'r dirywiad hwn yn ganolog i'm dull i o weithredu.

Yn briodol, mae'n rhaid i'n hamgylcheddau naturiol o'r ansawdd uchaf fod wrth wraidd ein dull o adfer natur ac maen nhw'n cynrychioli cynefinoedd allweddol y mae'n rhaid inni dyfu ein bioamrywiaeth ohonynt. Mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn. Mae'n rhaid inni sicrhau gweithredu ar seilwaith gwyrdd, a bod peirianneg werdd yn cael ei phrif ffrydio ar draws popeth a wnawn. Mae'n rhaid inni hefyd ystyried camau gweithredu fel ailgyflwyno rhywogaethau brodorol, lle mae'n synhwyrol gwneud hynny.

Rydym ni i gyd yn cydnabod bod gennym barciau o'r radd flaenaf ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, a fy ail flaenoriaeth yw gweithio gyda'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i wella gwerth natur i bobl ledled Cymru. Mae ein parciau cenedlaethol a'n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn ganolog er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o werth ein tirweddau naturiol. Mae ganddynt swyddogaeth addysgol allweddol, sydd hefyd yn ymwneud â helpu pobl i archwilio a defnyddio'r adnoddau hynny yn gynaliadwy i sicrhau budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Galwaf felly ar ein parciau cenedlaethol a'n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i fod yn esiamplau rhagorol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn enwedig ar fioamrywiaeth, coed a choetiroedd, ond hefyd o ran cyfrannu at ddarparu'r atebion priodol o'r maint cywir i wella effeithlonrwydd adnoddau a datgarboneiddio yn yr ardaloedd hynny. Mae'r prosiectau o dan ein cynllun rheoli cynaliadwy erbyn hyn yn dangos yr hyn sy'n bosibl. Rwy'n cydnabod bod y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn wynebu her ariannu, a dyna pam yr wyf eisoes wedi dyrannu £3.4 miliwn o gyllid ychwanegol. 

Mae fy nhrydedd flaenoriaeth yn sylfaenol i'r cynnydd y mae'n rhaid inni ei wneud: cynyddu nifer y coed a'r coetiroedd yng Nghymru. Mae coedwigaeth eisoes yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ar ei ben ei hun ac fel rhan o'r hyn yr ydym yn ei gynnig gyda'n gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored sydd o'r radd flaenaf. Ond nid yw ein hadnoddau coetir yn ddigonol nac yn ddigon cydnerth i fod yn gynaliadwy, ac mae hyn yn rhwystr i wneud cynnydd amgylcheddol ac economaidd. I ddatgloi'r cyfleoedd masnachol, yn enwedig mewn economi sy'n datgarboneiddio'n gyflym, mae'n hanfodol bod gennym goedwigaeth a phren amrywiol fel adnodd os ydym i gadw cymaint â phosibl o fanteision y gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru. Fy nod yw sicrhau bod gennym goetir bioamrywiol o ansawdd uchel sy'n sicrhau budd economaidd ac amgylcheddol. Rwy'n cydnabod, fodd bynnag, y bydd angen cyfnod pontio i gyflawni hyn. E mwyn creu coetir newydd, mae'n rhaid bod proses dryloyw, gymesur a rhagweladwy, a byddaf yn cyflwyno strategaeth goetiroedd ddiwygiedig gerbron y lle hwn cyn toriad yr haf.

Ehangu ein coetiroedd yw un ffordd yn unig o gynyddu nifer ein coed. Mae gan wrychoedd, coridorau afonydd, a choed trefol i gyd swyddogaeth hanfodol. Mae Glastir wedi bod â rhan allweddol yn y canlyniadau cadarnhaol hyd yn hyn, ond ar ôl Brexit bydd ein polisi newydd ar gyfer rheoli tir yn canolbwyntio ar nwyddau cyhoeddus, ac mae potensial mawr i goetiroedd yn y maes hwn.

Gadewch inni fod yn glir, nid blaenoriaeth ar gyfer cefn gwlad Cymru yn unig yw hon; mae'n flaenoriaeth i'n hardaloedd trefol hefyd. Mae prosiect Llynfi yn enghraifft o sut y gall coetir gefnogi amrywiaeth eang o fanteision i gymunedau. Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n dangos pa mor bwysig yw mannau gwyrdd i'n hiechyd corfforol a meddyliol a sut y mae rhoi'r coed iawn yn y lleoliadau iawn yn cyfrannu at fynd i'r afael â llifogydd ag ansawdd aer gwael.

Daw hyn â mi at fy mhedwaredd flaenoriaeth: cyflymu ein camau gweithredu ar ansawdd aer gwael. Byddaf yn gwneud datganiad manwl ar wahân yn nodi ein dull ar 24 Ebrill. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithredu ar un o faterion iechyd cyhoeddus ataliadwy mwyaf ein hoes, ac mae'r ymrwymiad hwn yn atgyfnerthu sut y mae gan weithredu ar yr amgylchedd y potensial i sicrhau manteision i bawb.

Mae fy mlaenoriaeth olaf yn mynd at wraidd ymrwymiad ein polisi adnoddau naturiol i effeithlonrwydd adnoddau. Gan ategu ein hanes llwyddiannus iawn o ran ailgylchu, rwyf eisiau ein harwain i fod y gorau yn y byd. Yn sicr, rydym ni eisiau parhau i leihau ein gwastraff a mynd i'r afael â materion allweddol fel y pla o fagiau plastig untro. Ond mae datgloi y cyfleoedd a all ddod o fod yn fwy effeithlon o ran adnoddau hefyd yn ganolog i'n cynllun gweithredu economaidd. Byddaf yn cyflwyno rheoliadau i weithredu Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd, a hefyd yn datblygu map llwybr ar gyfer economi fwy effeithlon o ran adnoddau.

Mae'r pum blaenoriaeth yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw i gyd mor bwysig â'i gilydd, ac mewn llawer o ffyrdd maen nhw'n rhyng-gysylltiedig: gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth; gweithio gyda'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol; cynyddu nifer y coed a'r coetiroedd; cyflymu ein camau gweithredu ar ansawdd aer; a bod y gorau yn y byd am ailgylchu. Mae'r rhain i gyd yn dangos y camau ymarferol sy'n cael eu cymryd ar y cyfeiriad a bennwyd gan bolisi adnoddau naturiol cyntaf Cymru. Dyma'r camau sydd eu hangen i wireddu'r dyheadau lefel uchel a'r uchelgeisiau a nodwyd wrth ddiwygio deddfwriaeth yn flaenorol.

Fel y nodwyd gan y Prif Weinidog yn 'Ffyniant i Bawb', mae ein dull gweithredu yn un traws-Lywodraethol, boed hynny wrth i mi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y defnydd o fannau gwyrdd i wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol; gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar ansawdd aer a'r contract economaidd a'r cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd mewn meysydd fel pren yn y diwydiant adeiladu; neu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y symudiad i ffwrdd o system lle caiff elw ei breifateiddio tra mae'r pwrs cyhoeddus yn ysgwyddo'r gost o effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol—y cyfan yn waith yr ydym ni eisoes wedi'i ddechrau—ac, wrth gwrs, gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y diwygiadau i'r polisi cynllunio, a defnyddio arian cyhoeddus i ddarparu nwyddau cyhoeddus drwy wobrwyo rheolwyr tir am adfer a chynnal amgylchedd iach, ac ar bolisi rheoli morol cynaliadwy sy'n cydnabod pwysigrwydd adfer ecosystemau cydnerth ac yna sicrhau'r manteision lawer a gawn o'r amgylchedd morol.

Ond ni fydd camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn unig yn ddigon i fynd i'r afael â'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i fod yn gyfrifol a gweithredu, ac rwyf eisiau talu teyrnged i'r cymunedau, sefydliadau ac unigolion ar draws y wlad sydd eisoes yn gweithredu'r camau hyn. Rwy'n croesawu'r mentrau mewn ardaloedd o Ynys Môn i Aberporth, sydd eisoes yn cymryd camau arloesol i fynd i'r afael â llygredd plastig, a byddaf yn cynnal cyfres o ymweliadau ac ymgysylltiadau ledled Cymru yn yr haf i weld ac i drafod y gwaith sy'n cael ei wneud. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i rymuso pobl a dileu rhwystrau i weithredu cadarnhaol, i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu a chyflawni ein blaenoriaethau.

Mae grymuso'r sector cyhoeddus i gymryd rôl arweiniol, fel rydym ni wedi'i wneud eisoes mewn partneriaeth â llywodraeth leol ar ailgylchu, yn allweddol. Rwy'n bwriadu adeiladu ar y bartneriaeth hon ar gyfer bioamrywiaeth a byddaf yn cyfarfod â phob awdurdod lleol i drafod sut y maen nhw'n bwriadu gweithredu eu dyletswyddau cyfreithiol newydd yn Neddf yr amgylchedd.

Mae'r pwyslais presennol ar blastig yn dangos pwysigrwydd camau gweithredu y gallwn ni i gyd eu cymryd fel unigolion ac fel sefydliadau. Mae swyddogaeth allweddol ar gyfer ein digwyddiadau eiconig. Byddaf yn gweithio gyda threfnwyr digwyddiadau mawr Cymru, fel Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod, i weld sut y gallwn ddefnyddio ein digwyddiadau byd-enwog yn llwyfan ar gyfer gweithredu.

Yn olaf, nodais ar y dechrau bod yr amgylchedd yn egwyddor sy'n rhan o'n dull gweithredu ar y cyd. Mae hon yn egwyddor sydd gennym yn gyffredin ag egwyddorion amgylcheddol yr UE sy'n cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd, nid dim ond fel cartref i natur, ond yn benderfynydd allweddol o'n hiechyd fel unigolion, cydnerthedd ein cymunedau, a dichonoldeb hirdymor ein heconomi. Rwy'n deall y pryder a fynegwyd yn sgil colli safonau'r UE a'r egwyddorion amgylcheddol sydd ar waith ar hyn o bryd.

Rydym wedi ymrwymo i beidio â llithro'n ôl ar egwyddorion a safonau amgylcheddol, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i gynnal safonau presennol yr UE a pharhau i wella arnynt. Ac fel y nodwyd yn glir yn y ddadl ar ein Bil parhad, byddwn yn gweithio i gau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a achosir drwy ymadael â'r UE ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf. Ond mae'n rhaid gwneud hyn mewn ffordd sy'n gweithio gyda, ac yn ategu, yn hytrach na thorri ar draws y ddeddfwriaeth sylfaenol a gydnabyddir yn rhyngwladol yr ydym wedi'i rhoi ar waith yng Nghymru, ac sy'n unigryw yn y DU.

Rwy'n falch o'r ffaith ein bod yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol fel cenedl sy'n seiliedig ar egwyddorion ac sy'n ymwybodol o'r amgylchedd. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'r gwerthoedd hynny yn gynyddol wrth wraidd y brandiau mwyaf llwyddiannus a byddant yn sylfaenol i'n gallu i gystadlu'n rhyngwladol. Fel cenedl, mae gennym ni'r adnoddau naturiol, yr hanes, a'r gallu i wireddu cyfleoedd y cyfnod pontio yr ydym yn ei wynebu. Wrth nodi'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu amgylcheddol heddiw, rydym yn cydnabod nad yw'n beth braf i'w gael, ond yn fuddsoddiad yn nyfodol ein cenedl.

16:45

Er fy mod i'n croesawu'r datganiad heddiw, mae'n rhaid imi ddweud, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'n gyffredinol iawn o ran ei strwythur, ac rwy'n ofni ei fod mewn mannau yn ein difyrru gydag ymadroddion eang a mynegiant gwael iawn. Wyddoch chi, rwy'n credu weithiau fod angen myfyrio mwy ar y testunau a ddaw ger eich bron. Mae'n rhaid imi ddweud, i ddatgan yn y Cynulliad hwn, ac rwy'n dyfynnu'r datganiad:

'Rwyf felly yn galw ar ein parciau cenedlaethol a'n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i fod yn esiamplau rhagorol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn enwedig ar fioamrywiaeth, coed a choetiroedd',

ac yn y blaen. Wel, iesgob, maen nhw mewn argyfwng os nad ydyn nhw'n gwneud hynny'n naturiol eisoes, wyddoch chi. Rwy'n credu bod angen mwy o fanylion arnom ni a mwy o afael. Ac rwy'n credu bod angen i'ch adran chi yn gyffredinol—rwy'n gweld Ysgrifennydd y Cabinet yma hefyd—achosi llawer mwy o helynt i'r agenda amgylcheddol a datblygu cynaliadwy, a defnyddio'r cyfrwng deddfwriaethol allweddol—sef Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn benodol—ac ar hyn o bryd, rwy'n credu bod hyn yn esbonio llawer o'r cyflawni gwael: nid yw yno; nid oes gweithio traws-Lywodraethol ar hyn o bryd ac mae angen hynny arnom.

A gaf i edrych ar rai o'r pethau penodol, felly, i dynnu sylw at fy mhryderon? Coetiroedd, coedwigaeth. Rydych chi bellach wedi ymrwymo i adnewyddu'r strategaeth coetiroedd. Wel, beth mae hynny'n ei olygu? A yw'n golygu eich bod yn mynd i waredu'r targedau presennol a dyfeisio rhywbeth llawer llai uchelgeisiol? Byddwch yn gwybod bod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i goetiroedd yng Nghymru wedi nodi'r mater hwn bod lefel isel o greu coetiroedd yn fethiant allweddol yn gyfan gwbl. A dywedodd Confor wrth y pwyllgor, a dyfynnaf:

'Mae creu coetir yng Nghymru wedi bod yn fethiant trychinebus. Mae angen i Gymru blannu 31,800ha o'r 35,000ha a ddylai erbyn hyn fod wedi'u plannu, dim ond i fod yn ôl ar y trywydd iawn'.

Rydym ymhell ar ei hôl hi o ran y targed a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010, pan  oedd coetiroedd o tua 500 hectar yn cael eu creu ar y pryd, a chynyddwyd hynny i 5,000 y flwyddyn dros gyfnod o 20 mlynedd. Dydyn ni heb hyd yn oed gyrraedd, yn yr holl amser hynny, y targed un flwyddyn—12 mis. Rwy'n credu bod hyn yn crynhoi rhai o'r anawsterau yr ydym ni'n eu profi. A gaf i ofyn i chi, o leiaf o ran y canopi trefol, pan fyddwch chi'n adnewyddu'r strategaeth, i ymrwymo'r targed o 20 y cant o orchudd canopi coetir yn ein hardaloedd trefol, sydd, wrth gwrs, wedyn yn golygu y gellir eu dosbarthu yn goedwigoedd trefol?

Ar ansawdd aer, rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn bod gennym y dull rhanedig hwn, lle rydych chi'n gwneud y datganiad cyffredinol hwn yr wythnos hon, ac rydych chi wedi dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, bydd y manylion gwirioneddol ar faes allweddol iawn yn dod yr wythnos nesaf,' ond yn amlwg, byddwn ni'n craffu arnoch chi yn fanwl nawr. Rwyf eisiau gweld rhywfaint o uchelgais o ran sut yr ydym ni'n mynd i dargedu'r ardaloedd sydd wedi bod, ers degawdau—cenedlaethau rai ohonynt—ag ansawdd aer gwael, a sut y byddwn yn gwrthsefyll hynny. Ac rwyf eisiau gweld strategaeth mannau gwyrdd mwy cyffredinol, fel bod gennym ni gysyniadau fel toeau gwyrdd, a sut mae mannau gwyrdd, yn ein cymdogaethau tlotaf, yn arbennig, yn gallu, gyda pholisi gwrth-tagfeydd da, gwella ein hansawdd aer mewn ardaloedd trefol mewn ffordd radical.

O ran effeithlonrwydd adnoddau, rwy'n cytuno i raddau helaeth â'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud. Mae angen strategaeth plastigau, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled Ewrop a'r DU,—sut yr ydym yn defnyddio'r deunydd defnyddiol iawn, ond mae'n achosi problemau gwirioneddol o ran ei ddefnydd sengl a'i waredu. A beth yw'r sefyllfa o ran y cynllun blaendal poteli? Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU wedi mynd o'n blaenau ni nawr, ar ôl dechrau eithaf araf, ar gynlluniau blaendal. Maen nhw'n ymddangos yn awyddus, ond ar ôl y brwdfrydedd cychwynnol, ymddengys nad ydym yn cyflawni llawer o ran ein cynlluniau ni ac mae sut yr ydym yn diffinio prosiect peilot wedi achosi problemau i ni, hyd yn oed. Ac a gaf i ddweud, rwyf wedi cyhoeddi datganiad o farn heddiw, yn galw ar y Comisiwn i gydnabod ac ymuno mewn mis Gorffennaf di-blastig, sef strategaeth i geisio lleihau plastig untro? Byddai'n syniad da pe byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth—byddem ni i gyd yn gallu gweiddi hwrê, wedyn.

O ran gweithio ar y cyd, rwyf eisoes wedi dweud fy mod o'r farn bod angen defnyddio'r fframwaith deddfwriaethol ardderchog. Ond, cawsom dystiolaeth fis neu ddau yn ôl, efallai, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth a'i swyddogion a ddywedodd yn ffroenuchel mai'r egwyddor drefniadol bellach oedd Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Felly, gofynasom, 'Wel, pa fath o hyfforddiant yr ydych chi wedi'i gael? Pa adolygiad o'ch targedau a'ch uchelgeisiau cyfredol?' ac roedd yn union fel bod â bechgyn ysgol nerfus o'ch blaen yn baglu dros eu geiriau wrth iddyn nhw geisio rhoi ymateb cydlynol, ac ni lwyddon nhw mewn gwirionedd.

Yn olaf, ar Brexit, rydych chi'n iawn i ddweud nad ydym ni eisiau dirywiad; mae angen inni gynnal safonau uchel. Mae llawer o faterion yma y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar sail y DU, a byddwn ni'n eich cefnogi chi pan fo'n rhaid i chi wneud yr achos dros Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn y gwahanol fforymau ar lefel y DU. Tybed a ydych chi wedi ymateb eto i awgrym Llywodraeth y DU y dylai rhyw fath o gorff monitro annibynnol weithredu ar lefel y DU.

16:55

Diolch ichi am eich cwestiynau a'ch cyfraniadau niferus yn y fan honno. Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod yn croesawu eich cefnogaeth o ran gwneud yn siŵr nad ydym yn camu yn ôl ar unrhyw un o'n camau diogelu amgylcheddol wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a bod y dulliau hynny ar waith o ran cadw'r camau diogelu hynny mewn gwirionedd a glynu wrth ein rhwymedigaethau rhyngwladol? O ran gwaith a wnaed ar y corff amgylcheddol, mae sgyrsiau a gwaith yn mynd rhagddynt gyda chyfarfodydd rheolaidd gyda DEFRA, ar lefel swyddogol ac ar lefel weinidogol drwy Ysgrifennydd y Cabinet.

O ran coetiroedd, mae hon yn sgwrs yr ydym wedi ei chael cyn hyn, rwy'n sylweddoli hynny. Un o'r dadleuon cyntaf yr ymatebais iddi yn y Siambr oedd ar adroddiad pwyllgor yr amgylchedd, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater', ac roeddwn gerbron y pwyllgor gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn y sesiwn graffu ychydig cyn toriad y Pasg. Rydym yn sylweddoli nad ydym mewn sefyllfa i fodloni'r targedau uchelgeisiol hynny o ran creu coetiroedd, ond rwyf wedi nodi hynny i wneud yn siŵr bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei newid yn sylweddol.

Soniais fy mod wedi ymweld â'r Alban a chyfarfod â'm cyd-Aelod, Fergus Ewing. Maen nhw'n gwneud mwy o gynnydd yn yr Alban, ond mae eu dull nhw wedi ei seilio ar coed conwydd yn unig. Ond fel y dywedais i, yn y fan yma, rydym ni'n chwilio am fwy o fioamrywiaeth a'r cydbwysedd hwnnw rhwng llydanddail a chonwydd. Rydym yn chwilio am ateb sy'n gydnaws â ni yng Nghymru. Ond, mae yna gyfleoedd o ran swyddi wrth inni edrych ar ddyfodol rheoli tir; bydd yn agor maes inni fynd iddo ar hynny, ond yn y cyfamser—a chaiff hyn ei amlinellu yn y fersiwn ddiwygiedig o'r strategaeth hon—mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r camau y gallwn ni eu cymryd nawr a beth yw'r rhwystrau sy'n bodoli ar hyn o bryd o ran creu coetiroedd a phlannu coed a'r hyn y gallwn ni ei wneud yn awr. A allwn ni ystyried a oes potensial i nodi rhagdybiaeth o greu coetir mewn rhai ardaloedd, felly mynd yn ôl at y coed iawn yn y lleoedd iawn a gwneud yn siŵr bod hynny'n lle priodol? 

Croesawaf yn fawr iawn ddatganiad o farn yr Aelod—sylwais arno heddiw—ar fis Gorffennaf di-blastig. Rwy'n siŵr bod rhywbeth y gallwn ni fod yn ei wneud i gefnogi hynny, ac rwy'n credu ei bod yn fenter wych ac yn un o'r pethau hynny sydd mewn gwirionedd yn tynnu sylw'r cyhoedd a'r cyfryngau. Roeddech chi'n sôn am ystâd y Cynulliad a bod heb blastig untro, mae hynny'n rhywbeth, o'm safbwynt i, o ran ystâd Llywodraeth Cymru, y mae gwaith ar y gweill i ystyried sut y gallwn gymryd camau. Rydym eisoes yn gweithio gyda'r contractwyr a'r arlwywyr i weld sut y gallwn fwrw ymlaen i weithio tuag at wneud yn siŵr bod ystâd Llywodraeth Cymru heb unrhyw blastig untro.

O ran effeithlonrwydd adnoddau a chynlluniau dychwelyd blaendal, rydych chi'n ymwybodol ein bod bellach wedi cael crynodeb cychwynnol o adroddiad estynedig cyfrifoldeb y cynhyrchydd, a gobeithiaf fod mewn sefyllfa i ddod yn ôl i'r lle hwn yn y dyfodol agos iawn i amlinellu argymhellion allweddol hwnnw a'r camau nesaf, ac yn amlwg, rwy'n croesawu eich sylwadau a'ch gwaith craffu pan gyrhaeddwn ni'r pwynt hwnnw. Ond credaf y dylem  gydnabod hefyd pan fyddwn yn edrych ar lefelau ailgylchu yma yng Nghymru, ein bod ni ar y blaen i'n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr. Serch hynny, ni ddylem fod yn hunanfodlon, oherwydd mae angen inni ystyried sut mewn gwirionedd yr ydym yn parhau â'r cynnydd hwnnw a meddwl am bethau ac atebion arloesol a gwahanol ddulliau y gallwn ni eu gweithredu. Dyna pam y credaf fod llawer i'w ddysgu o'r math o don gweithredu cymunedol yr ydym ni wedi ei gweld a sut y gallwn ddod â hynny at ei gilydd. Fel y dywedais, mae camau y mae angen inni eu cymryd ar lefel Llywodraeth hefyd.

17:00

A gaf i groesawu naws y datganiad gan y Gweinidog heddiw? Mae'r egwyddorion sydd yn y datganiad yn rai digon cadarn. Nid oes modd imi, yn sicr, ddadlau yn eu cylch nhw, ond mae'n rhaid i minnau ddweud hefyd roeddwn i'n gobeithio am gynigion penodol yn y datganiad yma ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â'r cwestiynau a'r heriau sydd wedi cael eu gosod gan y Gweinidog. Rydym ni'n dal, yn anffodus, mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n trafod rhai syniadau eithaf lefel uchel, ond heb drafod beth yw'r cynigion penodol sydd gan y Llywodraeth.

Felly, a gaf i droi at rai o'r rhain nawr a gofyn nifer o gwestiynau, os caf i, i'r Gweinidog ar y materion hyn? Er enghraifft, fe gynhaliodd y Llywodraeth ymgynghoriad eang iawn ar reolaeth adnoddau naturiol Cymru llynedd. Roedd e'n ymgynghoriad dadleuol mewn cylchoedd. Mae'r rhan fwyaf o'r cynigion hynny bellach yn gorwedd gyda'r Gweinidog, rydw i'n meddwl. Roedd yna 56 cynnig yn yr ymgynghoriad yma. Hyd yma, nid ydym ni wedi gweld yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad a addawyd yn y flwyddyn newydd, ond nid ydw i'n sicr ddim wedi gweld bod unrhyw beth wedi cael ei gyflwyno i'r Cynulliad. O'r 56 cynnig, nid oes sôn heddiw am ba rai y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd yn eu blaen, felly hoffwn i wybod gan y Gweinidog pa rai y mae hi'n bwriadu gweithredu arnyn nhw.

Yn sylfaenol i'r her y mae'r Gweinidog wedi ei osod allan inni heddiw ynglŷn â bioamrywiaeth, er enghraifft, ynglŷn ag ansawdd yr amgylchedd, yw datganiadau ardal gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Pryd byddwn ni'n gweld y datganiadau ardal yma a phryd, felly, byddwn ni'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ar lefel lleol iawn i fynd i'r afael â hyn?

Mae'r Gweinidog wedi trafod coedwigoedd, a David Melding hefyd. Mae'n wir i ddweud, rydw i'n meddwl, ein bod ni ond wedi cyrraedd 10 y cant o'r targed presennol sydd gyda ni, felly, beth yn union sydd gan y Llywodraeth i'w gynnig i gyflymu'r broses yna sut gymaint fel ein bod ni'n gallu mynd yn llawer mwy eang gyda phlannu coedwigoedd, ac yn enwedig coedwigoedd masnachol? Rydw i'n derbyn y pwynt bod gyda ni dirwedd wahanol ac amgylchedd gwahanol i'r Alban, ond mae yna le i ddatblygu coedwigoedd masnachol yng Nghymru. Er enghraifft, a oes unrhyw beth pellach mae'r Gweinidog yn gallu dweud wrthym ni ynglŷn â galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gadw rhan o'r arian sydd yn cael ei godi drwy lesio tir ar gyfer ynni adnewyddol er mwyn dargyfeirio'r arian yna yn uniongyrchol at blannu coed a phlannu coed masnachol yn ogystal?

Mae heriadau'r parciau cenedlaethol eisoes wedi cael eu crybwyll, ond rydw i, er yn cydnabod bod rhywfaint o arian ychwanegol—mae'r cyllido sylfaenol ar gyfer y parciau cenedlaethol, ac yn enwedig ardaloedd harddwch eithriadol, yn dila iawn ac wedi crebachu dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, a ydyn nhw wedi eu cyllido yn ddigon i ymateb i'r her sydd yn y datganiad? Ac a gaf i ofyn: a ydy Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei gyllido digon ac mewn siâp llywodraethu digon da i fynd i'r afael â rhai o'r heriadau yma hefyd?

Rwy'n derbyn bod yna ddatganiad mewn wythnosau ynglŷn ag ansawdd awyr, ond mae'n wir i ddweud bod angen gweithredu cyflym iawn gan y Llywodraeth ar y mater yma. Rydw i a Phlaid Cymru o'r farn bellach bod angen dim llai na Deddf awyr glân er mwyn mynd i'r afael â hyn, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud. Rwy'n derbyn nad yw e yn adroddiad heddiw, ond gobeithio y daw e yn fuan iawn.

Pwynt olaf yr ymdriniodd y Gweinidog ag ef yw anghenion economi effeithlon o ran adnoddau, ac rwy'n rhannu ei hamcanion, yn sicr. Mae angen inni weld yr adroddiad cyfrifoldeb cynhyrchydd cyn gynted â phosibl. Mae angen inni ddeall, hefyd, sut mae'r Llywodraeth bellach yn mynd i ymateb i'r seilwaith newydd, os dymunwch chi, ar gynllun dychwelyd blaendal. Rydym wedi trafod y posibiliadau neu'r hyn sy'n ddichonadwy yng Nghymru. Rydym yn sicr y tu hwnt i hynny erbyn hyn; mae gennym gynnig ledled y DU. Yn ddiddorol, mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud ei bod yn dymuno cynnal, neu weld a all ymuno â ni a Llywodraethau eraill i gynnal uwchgynhadledd ar ddychwelyd blaendal fel y gallwn gytuno ar fframwaith cyffredin i'r DU. Hoffwn wybod gan y Gweinidog heddiw a fydd hi'n ymateb i'r gwahoddiad hwnnw gan Roseanna Cunningham a Llywodraeth yr Alban a bod yn rhan o uwchgynhadledd ledled y DU i drafod hyn.

O ran plastigau, wrth gwrs, rydyn ni mewn sefyllfa hollol hurt ein bod heddiw yn yfed dŵr o boteli plastig sy'n cynnwys plastig o boteli plastig blaenorol. Pan rydych chi'n cyrraedd y sefyllfa honno, mae angen inni mewn gwirionedd wybod bod—angen gwneud rhywbeth. Er y sonnir am hyn eto yn y datganiad hwn, collwyd y cyfle i roi ardoll ar blastig untro yng Nghymru fel ein treth gyntaf arloesol, a bellach mae angen inni symud ymlaen, yn sicr, os nad ydym ni'n mynd i gael yr ardoll honno, i rywbeth sydd mewn gwirionedd yn ymdrin â chynllun dychwelyd blaendal, ac yn adeiladu ar ein llwyddiant o ran ailgylchu. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, er ein bod yn ailgylchu tua 70 y cant o'r poteli plastig, dim ond 70 y cant o'r rhai sy'n cyrraedd y ffrwd gwastraff ailgylchu yw'r rheini. Mae llawer ohonyn nhw'n cael eu gwaredu naill ai fel sbwriel neu hyd yn oed ar y strydoedd neu beth bynnag—efallai eu bod yn y bin, ond dydyn nhw ddim yn cael eu hailgylchu. Felly, mae'r 70 y cant yn dipyn o darged camarweiniol.

Y peth olaf yr hoffwn ofyn iddi yw hyn: mae hi wedi sôn yn y datganiad hwn am ddeddfwriaeth a gweld y cyfleoedd ddeddfwriaeth—pryd mae hi'n gweld y cyfle'n codi ar gyfer deddfwriaeth, a drafodwyd cyn y Pasg ynghylch cadw ein camau diogelu Ewropeaidd wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? Pryd mae hi'n gweld hynny'n digwydd? A soniodd hefyd cyn y Pasg, dim ond mis yn ôl, am y potensial o gael deddfwriaeth i barciau cenedlaethol ynghylch eu defnydd o adnoddau naturiol. Felly, pryd mae hi'n gweld y cyfle ar gyfer deddfwriaeth ar y mater hwnnw?

17:05

Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth iddo sôn am lefelau ailgylchu poteli plastig, o ran, mewn gwirionedd, un o'r heriau yn awr yw'r broblem o ailgylchu pan fydd pobl i ffwrdd o'u cartrefi, nid taflu sbwriel yn unig, sy'n ffactor sy'n cyfrannu. Ond hefyd ni allaf ond sylwi nawr, ble bynnag yr af, rwy'n chwilio'n benodol i weld a oes gan ardal siopa neu ganolfan drafnidiaeth gyfleusterau ailgylchu. Rwyf wedi troi'n gymaint o 'geek', rwy'n tueddu i dynnu lluniau ohonyn nhw hefyd erbyn hyn—rwyf wedi newid. Ond mae hynny'n dangos mewn gwirionedd ein bod ni'n gallu gweld newid diwylliannol hefyd yn nisgwyliadau pobl, wrth iddynt chwilio am gyfle i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath, ac rwy'n credu mai gweithio mewn partneriaeth yw'r cyfan sy'n rhaid ei wneud i fod yn siŵr ein bod yn gwneud i hynny ddigwydd.

O ran y cynllun dychwelyd blaendal a'r astudiaeth ddichonoldeb a'r camau nesaf, rwy'n credu eich bod chi a minnau yn cyfarfod bore yfory. Rwyf wedi cael cyswllt, gohebiaeth, â Roseanna yn Llywodraeth Cymru—. Y DU—. Yn Llywodraeth yr Alban; fe gyrhaedda' i yno yn y pen draw. Ac rydym ni i fod i gael trafodaeth draws-Lywodraethol ar y mater hwn yn benodol fis nesaf, rwy'n credu. Felly, rwy'n siŵr y byddaf mewn sefyllfa ar yr adeg honno i roi diweddariad i'r Aelodau ar hynny.

Mae angen imi gywiro'r Aelod ar un peth. Rydych chi'n dweud bod y datganiad ansawdd aer i ddod ymhen ychydig wythnosau; yr wythnos nesaf fydd hynny mewn gwirionedd, felly mae'n gynt nag yr ydych chi'n ei feddwl. Ond yr wyf i, yn amlwg, yn derbyn o ddifrif yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr angen i weithredu ar frys. Mae'n un o'r materion iechyd ataliadwy mwyaf sy'n ein hwynebu yn ein cenhedlaeth ni.

O ran yr ymgynghoriad ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, dydw i ddim yn gwybod a ydych chi'n ymwybodol y cafwyd llawer iawn o ymatebion iddo—dros 17,000 o ymatebion. Mae swyddogion wedi cwblhau'r crynodeb cychwynnol o'r holl ymatebion, ac mae'n amlwg bod rhai o'r cynigion wedi polareiddio safbwyntiau. Ond, serch hynny, mae'r ymatebion hyn wedi caniatáu inni gael gwell dealltwriaeth o farn a safbwyntiau amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n rhanddeiliaid, fel rwy'n siŵr y gall yr Aelod ei ddychmygu. Rwyf eisiau cyhoeddi'r ddogfen ymateb honno cyn gynted ag sy'n bosibl nawr, ond rwyf eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n ystyried yn briodol, ac mewn ffordd gytbwys, yr effeithiau posibl, yn gadarnhaol a negyddol, i wneud yn siŵr ein bod yn dod o hyd i'r ffordd iawn ymlaen. Ond, na, rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud o ran y cyfnod o amser a'r angen i ddatblygu hynny bellach.

I ateb eich pwynt o ran—. Rydym ni'n sôn am greu coetiroedd eto, a gwnaethoch chi gyfeirio'n benodol at allu Cyfoeth Naturiol Cymru i godi arian, ac mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cytuno y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ymgymryd â phlannu cydadferol o'r incwm a ddaw o ddatblygiadau ffermydd gwynt. Fel rheolwyr yr ystâd coetir, byddant hefyd yn cael tua £3.7 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn hon i fynd i'r afael â Phytophthora ramorum, a bydd rhan o hyn yn ymwneud ag ailblannu hefyd.

Dydw i ddim yn dymuno bod yn angharedig wrth y Gweinidog—weithiau mae hynny'n ddyletswydd gadarnhaol arnom ni, fel yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog—ond, yn yr achos arbennig hwn, hoffwn i fynd ar drywydd y pwyntiau a wnaed i ddechrau gan David Melding yn gynharach. Mae diffyg dyfnder yn y datganiad a hynny er ei fod yn hir. Mae'r Llywodraeth yn aml, rwy'n meddwl, yn dangos ei hymrwymiad i ailgylchu drwy ailadrodd yr hyn y mae wedi'i ddweud lawer, lawer gwaith o'r blaen, ac mae hyn, yn fy marn i, yn enghraifft o hynny.

Mae'r datganiad, wrth gwrs, yn cynnwys yr ymosodiad defodol ar Brexit, ac yn sôn am fygythiadau, ond gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn cydnabod, mewn termau amgylcheddol, beth yw'r bygythiad yma? Y bygythiad yw ein bod ni'n gwneud y penderfyniadau hyn drosom ni ein hunain yn hytrach na bod pobl eraill yn eu gwneud ar ein rhan. Rydym ni'n gyfrifol am ein polisi amgylcheddol ein hunain o'r diwrnod y byddwn yn gadael yr UE, a rhydd hynny gyfle i ni gywiro rhai o ddiffygion deddfwriaeth amgylcheddol yr UE. O ran Cymru yn benodol, hoffwn ailadrodd rhywbeth yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen yn hyn o beth hefyd, o ran dad-ddofi tir ar y bryniau, er enghraifft, oherwydd rwy'n cymeradwyo'n llwyr yr hyn a ddywedir yn y Senedd am fioamrywiaeth yn ei holl ffurfiau. Rydym ni wedi gweld, drwy'r polisi dad-ddofi tir, sydd yn deillio o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE, rai newidiadau trychinebus. Bu cynnydd trychinebus, er enghraifft, yn y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr, a chanlyniad hynny yw dirywiad, weithiau tuag at ddifodiant, lawer o rywogaethau ysglyfaethus sy'n fregus.

Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle inni, gan fod yr amgylchedd yn un o'r meysydd pwysicaf o gyfrifoldeb y byddwn ni'n ei ennill, i gymryd ymagwedd wahanol iawn i'r un a fabwysiadwyd hyd yma. Unwaith eto, rydym ni wedi gweld cynnydd mewn glaswelltau breision ac annymunol, a'r rheini'n bla o drogod gan nad yw grug aeddfed wedi'i losgi, a hefyd heigiadau eraill, fel chwilen y grug, o ganlyniad i hynny. Gall rhedyn sydd allan o reolaeth wneud tirwedd yn anffrwythlon, ac mae rhedyn yn fector i'r clefyd Lyme. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ailystyried y ffordd yr ydym ni'n edrych ar hyn mewn ardaloedd cefn gwlad, a rhydd Brexit y cyfle i ni wneud hynny er budd bioamrywiaeth. Felly, os ydym ni'n gwneud hynny, yna byddwn ni i gyd yn mynd i'r un cyfeiriad gyda'n gilydd, ni waeth pa safbwyntiau gwahanol a allai fod gennym ar y mater mwy o hunanlywodraeth cenedlaethol.

Cefais fy nghyfareddu gan y sôn am ailgyflwyno rhywogaethau brodorol lle mae'n synhwyrol i wneud hynny. Bydd hi'n gwybod bod dadl fywiog ar y gweill am ailgyflwyno'r lyncs, a hyd yn oed y blaidd, i dirweddau'r wlad hon. Felly, bydd yn werthfawr, yn fy marn i, i ni gael rhywfaint o sicrwydd ar hyn. Yn sicr, mae ffermwyr yn bryderus iawn ynghylch rhyddhau anifeiliaid o'r math hwnnw i'r gwyllt, gan fod yn berygl i ffermwyr defaid, yn benodol.

O ran ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol, unwaith eto, rwy'n llwyr gefnogi'r hyn a ddywedodd David Melding yn gynharach. Ac, unwaith eto, hoffwn wneud fy mhle defodol, lle ceir gwrthdaro posibl rhwng amcanion y polisi amgylcheddol ar y naill law—yn achos ynni adnewyddadwy, er enghraifft, yr wyf wedi ei godi sawl tro, lleoli ffermydd gwynt mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol—mae'n rhaid inni gymryd, rwy'n credu, ymagwedd fwy cymesur tuag at hyn. Heb fynd i'r ddadl ar gynhesu byd-eang yn sgil gweithredoedd dynol, mae'n rhaid i ni ystyried bod y gost i'r dirwedd o leoli fferm wynt sylweddol, rwy'n meddwl, yn fwy na'r budd cyffredinol o'r ynni y gall y fferm wynt ei gynhyrchu, ac felly mae'n rhaid inni fod yn sensitif o ran y dirwedd, rwy'n credu, a dyna beth yr hoffwn i ei weld yn cael ei flaenoriaethu.

Rwy'n cefnogi yn llwyr, fel un sydd wrth ei fodd yn plannu coed, yr hyn y mae hi'n ei ddweud am goetiroedd, ond, unwaith eto, mae David Melding wedi gwneud y pwynt bod y Llywodraeth ymhell ar ei hôl hi o ran ei hamcanion ar hyn, a hoffwn hefyd dynnu sylw at yr angen am fwy o amrywiaeth yn y mathau o goetiroedd yr ydym ni'n eu plannu. Mae'r ffaith bod plannu gormod o goed conwydd yn y gorffennol wedi gadael y dirwedd yn farwaidd yn cael ei dderbyn yn eang bellach, ac mae'n rhaid inni symud tuag at ffurf fwy amrywiol o blannu coed.

Unwaith eto, ni allai neb anghytuno â'r hyn y mae hi'n ei ddweud am yr angen i wella ansawdd aer, ond mae'n baradocs, on'd yw e', ein bod ni o fewn cof cymharol ddiweddar wedi bod yn hyrwyddo defnyddio diesel, er enghraifft, ar sail amgylcheddol, dim ond i ganfod—a dylai hynny wedi bod yn eithaf amlwg o'r dechrau, rwy'n meddwl, dim ond wrth edrych ar yr allyriadau eu hunain, yn gorfforol, drwy eu harsylwi—maen nhw'n eithaf trychinebus, mewn termau cymharol, o'u cymharu â dewisiadau eraill.

Ac, yn olaf, mae hi'n sôn am lygredd plastig. Unwaith eto, does neb eisiau gweld sbwriel ar y strydoedd nac yng nghefn gwlad, ond, unwaith eto, mae'n rhaid i ni, rwy'n credu, gadw mewn cof y gwahaniaeth rhwng cost a budd a chyfyngiadau unrhyw beth a wnawn i gyflawni yng nghyswllt y broblem fyd-eang, yn enwedig o ran yr amgylchedd morol, er enghraifft, a grybwyllir yn benodol yn y datganiad. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod bod mwy na hanner y gwastraff plastig byd-eang sy'n llifo i'r cefnforoedd yn dod o bum gwlad: Tsieina, Indonesia, Ynysoedd y Philipinos, Sri Lanka a Fietnam, a'r unig wlad ddiwydiannol orllewinol sydd yn y 20 llygrwr uchaf yw'r Unol Daleithiau, a hynny yn rhif 20. Mae Tsieina yn gyfrifol am 28 y cant o lygredd plastig y byd—2.5 miliwn tunnell o wastraff plastig. Mae naw deg pump y cant o blastig sy'n llygru cefnforoedd y byd yn dod o 10 afon, wyth ohonynt yn Asia a dwy ohonynt yn Affrica.

Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych ar atebion sy'n canolbwyntio mwy ar yr agweddau gweledol o'r defnydd o blastig, lle mae'n hyll ac yn lleihau ein mwynhad o'r amgylchedd, yn hytrach na'r hyn y gallech chi ei alw'n agweddau amgylcheddol. Wedi'r cyfan, o ble y mae plastig yn tarddu? Wrth gwrs, mae'r rhain yn foleciwlau olew sydd wedi'u newid. Mae'r olew yn dod o'r ddaear, ac mae'n mynd yn ôl i'r ddaear os caiff ei roi mewn safle tirlenwi. Yn bersonol, dydw i ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad i roi plastig mewn safleoedd tirlenwi oherwydd mae'n anadweithiol, nid yw'n mynd i bydru, nid yw'n mynd i wneud unrhyw niwed inni.

Rwy'n anghytuno ag un peth y dywedodd fy nghymydog Simon Thomas am ailgylchu plastig i fod yn blastig newydd. Dydw i ddim o reidrwydd yn gweld dim o'i le ar hynny os yw'n gwneud synnwyr masnachol i wneud hynny, ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw bod â mwy o ddadansoddiad cost a budd o'r hyn a wnawn. Pan oeddwn i'n aelod o Gyngor Gweinidogion yr UE fel Gweinidog dadreoleiddio Llywodraeth y DU, roeddwn i'n aml yn gwneud areithiau i'm cyd-Aelodau, cyn deddfu, am geisio cymryd agwedd gymesur tuag at yr hyn yr oeddem yn ceisio'i wneud, a cheisio mesur y costau yn ogystal â'r manteision honedig.

Felly, pan fyddwn yn ailystyried yr holl ddeddfwriaeth amgylcheddol y byddwn yn ei hetifeddu gan yr UE, mae'n rhoi cyfle i ni beidio â chymryd safbwynt absoliwtaidd bod yn rhaid cadw popeth sydd yno eisoes. Cawn edrych ar y mater o'r newydd ar ryw fath o sail wyddonol a dadansoddol. Weithiau, efallai y byddai'n synhwyrol i ni gynyddu faint o reoleiddio a wneir, ac weithiau—a chredaf y bydd llawer o gyfleoedd ar gyfer hyn ar lefel micro—i leihau effaith a chost rheoleiddio arnom. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn bod hynny'n ddull synnwyr cyffredin o reoleiddio yn y dyfodol.

17:15

Rwyd wedi fy syfrdanu i glywed yr Aelod yn dweud bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn beth da o ran ein diogelwch amgylcheddol. Oherwydd y bygythiad hwnnw—yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod siawns go iawn bod yna berygl i'n camau diogelu gael eu gwthio yn ôl, ond hefyd bod ein pwerau yn cael eu cymryd yn ôl, bod y ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith yn cael ei thanseilio. Ond fel Llywodraeth Cymru, rwy'n pwysleisio ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnal a chyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol pan ddaw at yr amgylchedd.

Mae'r Aelod yn sôn hefyd am—. Gwnaethoch gydnabod ar ddechrau eich cyfraniad sylweddol yn y fan honno ein bod ni fel Llywodraeth Cymru yn siarad o hyd am ein llwyddiant o ran ailgylchu. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny, oherwydd rwy'n ymfalchïo yn ein record o ran ailgylchu, ond rwy'n cydnabod hefyd bod yna bethau y mae angen inni ei wneud o hyd i adeiladu ar hynny, a dyna pam yr ydym ni wedi siarad am y pethau hyn heddiw, a byddwn ni'n bwrw ymlaen â nhw o ran edrych ar gynllun dychwelyd blaendal. Byddwn hefyd yn edrych ar gyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd, oherwydd mewn gwirionedd, fel y dywedais yn y datganiad, mae yna gyfrifoldeb nad ydym ni'n caniatáu i bobl ddefnyddio elw preifat ac yna bod y pwrs cyhoeddus yn talu'r bil o ran yr effaith gymdeithasol ac amgylcheddol. Mae angen inni newid hynny, ac mae'n bwysig iawn.

Unwaith eto, mae'r Aelod yn sôn am wledydd penodol sy'n cyfrannu at y broblem plastig, ond pa un a ydym ni'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd ai peidio, rydym ni'n byw mewn byd cynyddol rhyng-gysylltiedig, a byddwn i'n dweud ei bod yn rhan o'n cyfrifoldeb byd-eang fel dinesydd byd-eang i gymryd yr awenau a dangos arweinyddiaeth wrth fynd i'r afael â gwastraff plastig.

Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu datganiad y Gweinidog. Mae'r amgylchedd, lle mae pob un ohonom yng Nghymru yn byw, yn fwy na dim ond yr ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, y parciau cenedlaethol, y ffermydd a chefn gwlad—mae'n cynnwys yr ardaloedd hynny y mae pobl fel fi'n byw ynddynt. Yn Nwyrain Abertawe, roedd gennym ni raglen plannu coed torfol yn y 1960au a'r 1970au, a Chwm Tawe isaf, lle cefais i fy ngeni, oedd yr ardal o'r diffeithdra trefol fwyaf yn Ewrop. Cafodd ei thrawsnewid gan y prosiect Cwm Tawe isaf, a gefnogwyd gan Gyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe, ac roedd y  plannu coed torfol yn rhan o hynny.

Ar Heol Castell-nedd yn yr Hafod yn fy etholaeth i y mae'r ansawdd aer waethaf ond un yng Nghymru o ganlyniad i gyfuniad o'r traffig a'r topograffi. Mae Ffordd Ddosbarthu Morfa wedi arwain at ostyngiad yn y traffig ar Heol Castell-nedd, ond mae'n parhau'n ffynhonnell fawr o lygredd aer.

Gan eich bod wedi sôn am rywogaethau anfrodorol, nid wyf yn mynd i drafod clymog eto, ond mae'r rhywogaethau anfrodorol hyn yn creu problem amgylcheddol. Ac nid clymog yw'r unig un, er ei fod yn un mawr yn ardal Abertawe. Mae gennych eraill, fel Jac y neidiwr, ac mae gennych rai eraill yn rhannau eraill o Gymru ac maent yn broblem ddifrifol. Pan fyddwn ni'n sôn am yr amgylchedd, rydym yn cadw anghofio a pheidio â sôn am a gwrthod siarad am y peth, ond mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r rhain, gan eu bod yn cael effaith ddifrifol.

Dim ond tri chwestiwn sydd gen i. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i drawsnewid ardaloedd eraill o ddiffeithdra trefol? Beth yw cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer gynyddu'r nifer o goed mewn trefi? Ac nid wyf yn sôn am blannu rhywfaint o goed neu fwy o goedwig mewn ardal, rwy'n sôn am fod â choed yn yr ardaloedd hynny lle mae pobl fel fy etholwyr a minnau'n byw.

A pha gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella ansawdd aer, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r ansawdd aer yn wael iawn? Ac mae yna lawer o ardaloedd o'r fath. Gwelaf nad yw Hefin yma ar hyn o bryd, ond gall ef sôn am le yn ei etholaeth ef. Yn sicr gallaf grybwyll yr Hafod yn fy etholaeth i, a hefyd Heol Fabian, sydd yn etholaeth David Rees ac yn fy un innau, lle mae gennych dopograffi a cyfaint o draffig a'r ffaith bod traffig yn cadw stopio a dechrau oherwydd cyfaint y traffig, sydd yn cael effaith wirioneddol ddifrifol ar yr amgylchedd i'r bobl sy'n byw yno. Yn llawer o'r ardaloedd hyn, mae yna bobl sy'n byw yn nes at y brif ffordd nag yr wyf i at y Llywydd. Mae rhai ohonynt mor agos at y brif ffordd ag yr wyf i at David Melding. Rwy'n credu bod hynny'n broblem wirioneddol. Mae'r ceir yn stopio y tu allan i'w tai ac wedyn maent yn dechrau eto ac weithiau nid oes ond lled palmant rhyngddynt â'u drws ffrynt. Rwy'n credu'n gryf yn y polisi a'r athroniaeth 'y gwaethaf yn gyntaf', felly beth y gellir ei wneud am yr ardaloedd waethaf o ran llygredd ac ansawdd aer?

17:20

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Os yw fy naearyddiaeth yn iawn, rwy'n credu yr oeddwn i yng Nghwm Tawe isaf ddydd Sadwrn, os mentraf ddweud, i weld yr unig dîm sydd o Gymru sydd yn yr uwch gynghrair, ond mae'n rhaid imi ychwanegu cafeat: roeddwn i yno yn cefnogi'r gwrthwynebwyr. Gêm gyfartal oedd hi, felly fe symudaf ymlaen yn gyflym.

O ran rhywogaethau anfrodorol, rwy'n gwybod na wnaethoch chi ofyn cwestiwn, ond rydych chi'n iawn i godi clymog Japan a'r bygythiad gwirioneddol gan rywogaethau anfrodorol eraill. Roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn uchel ar yr agenda yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig diwethaf fis diwethaf o ran sut y gallwn ni weithio ledled y DU ac Iwerddon i fynd i'r afael â hynny fel mater nad yw'n parchu ffiniau ac sy'n mynd ar draws arfordiroedd hefyd.

Credaf efallai ichi ddweud rhywbeth am gynyddu gorchudd coed trefol. Rydych chi'n iawn, nid yw hyn yn ymwneud â choetiroedd mewn ardaloedd mwy gwledig yn unig neu lle y byddem ni'n credu y byddai caiff wedi'i leoli. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r holl bethau arloesol gwahanol y gallwn ni ei wneud o ran y seilwaith gwyrdd, ac mewn gwirionedd mae i hynny werth ychwanegol lle mae pawb ar eu hennill o wella'r amgylchedd lleol, a hynny o ran golwg a balchder yn y gymuned, ond gall ein helpu ni hefyd i fynd i'r afael â phethau fel llifogydd ac ansawdd aer.

Os edrychwch chi ar enghreifftiau nad ydynt nepell oddi yma, gyda phartneriaeth Grangetown Werddach rhwng Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Buddsoddwyd £2 filiwn yn Grangetown Werddach, sydd mewn gwirionedd yn dal ac yn cyfeirio dŵr glaw glân yn uniongyrchol i Afon Taf yn hytrach na'i bwmpio wyth milltir i ffwrdd i'r môr. Yn rhan o hynny, maen nhw hefyd wedi ailblannu miloedd o lwyni a phlanhigion. Os ewch chi yno nawr, gallwch weld y gwahaniaeth gweledol y mae hynny wedi'i wneud i'r gymuned. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gallwn ni ddysgu ohono, fel partneriaeth waith gyda'r gwahanol sefydliadau a chyrff cyhoeddus, i weld cynlluniau fel hwnnw yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Ceir Glawlif Llanelli hefyd.

Un peth yr wyf i'n credu sy'n wirioneddol allweddol yn y mentrau hyn—ac mae'n mynd yn ôl at y cwestiwn o ansawdd aer a thopograffi a'r mater o ba mor agos y gallech chi fod, plant ifanc yn arbennig, os ydych chi'n agos at y ffordd a'r pibelli ecsôst, a cheir yn aros â'r injan ymlaen y tu allan ysgolion. Mewn gwirionedd, yr hyn sy'n allweddol yn rhan o hyn hefyd yw dechrau gyda newid dros genedlaethau a chynnwys plant, oherwydd mae pŵer plagio yn rymus. Rwyf wedi dweud hynny o'r blaen ac fe ddywedaf hynny dro ar ôl tro: mae yn cael effaith drwy gywilyddio oedolion i weithredu a newid eu hymddygiad. Mae'n un o'r pethau yn y prosiect Eco-ysgolion. Rydym ni'n rhoi cynnig arno mewn 35 o ysgolion lle bydd plant yn cymryd rhan yn y gwaith o fonitro ansawdd aer, ac wedyn o'r canlyniadau hynny byddant yn cychwyn eu hymgyrchoedd newid ymddygiad eu hunain, a gallai hynny gynnwys bysiau cerdded, dod ar sgwter i'r ysgol neu bolisi 'dim aros â'r injan ymlaen'. Felly, gallaf weld ar ryw bwynt, os yw car yn aros y tu allan i'r ysgol â'r injan yn rhedeg, y bydd plentyn chwe blwydd oed yn dod i gnocio ar y ffenest a dweud wrtho i ddiffodd ei injan.

Ond o ddifrif, o ran mynd i'r afael ag ansawdd aer—yn amlwg, fe af i fwy o fanylion yr wythnos nesaf—cododd yr Aelod rai pwyntiau dilys ynghylch effaith ein topograffi ac, mewn gwirionedd, rydyn ni'n gwybod bod yna rai lleoedd sydd mewn sefyllfa waeth yng Nghymru a fydd ei angen, a dyna ddiben arddel ymagwedd sy'n seiliedig ar le. Rydym ni'n credu os ydym ni'n edrych ar gynlluniau aer glân neu barthau aer glân, yna mae'n rhaid iddyn nhw mewn gwirionedd—. Nid yw un dull ar gyfer pawb yn mynd i weithio, ac mae angen inni wneud y pethau hynny sy'n ateb yr heriau mewn gwirionedd a gweithredu mewn modd sy'n addas ar gyfer yr ardaloedd hynny.

17:25

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Rwy’n credu eich bod wedi cael y wobr am gyfeirio at bêl-droed ym mhob datganiad, ac rydych chi wedi cymryd hynny gan rywun a arferai fod yn gallu gwneud hynny, felly da iawn.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o Wasanaethau Iechyd Rhywiol

Symudwn ymlaen at eitem 6, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag adolygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o wasanaethau iechyd rhyw, a galwaf ar Vaughan Gething i gyflwyno’r datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Tachwedd 2016, comisiynodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd ar y pryd, Rebecca Evans, Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru. Cynhaliwyd yr adolygiad am flwyddyn gan ymgynghori ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, o dan oruchwyliaeth bwrdd rhaglenni iechyd rhywiol, gyda'r prif swyddog meddygol yn cadeirio. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol heddiw, a hoffwn ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru am y ffordd gydweithredol y maent wedi cynnal yr adolygiad, ac, wrth gwrs, i’r holl bobl hynny a gyfrannodd at yr adolygiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i wella iechyd a lles rhywiol yng Nghymru yn barhaus, ac i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion ein poblogaeth. Yma yng Nghymru, rydym ni wedi gwneud cynnydd aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf i leihau beichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau. Bu gostyngiad o 50 y cant rhwng 2010 a 2016, o 2,081 beichiogrwydd yn yr arddegau yn 2010 i 1,061 yn 2016. Ond mae nifer yr heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru yn dal i fod yn sylweddol. Yn 2016, rhoddwyd diagnosis o haint i dros 12,000 o’r 64,000 o bobl a geisiodd ofal.

Clamydia yw’r haint mwyaf cyffredin o hyd, er ein bod yn parhau i weld siffilis a'r hadlif mewn pobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol peryglus. Mae gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru hefyd yn parhau i wneud diagnosisau o achosion newydd o HIV. Roedd y nifer uchaf o ddiagnosisau newydd o HIV mewn unrhyw un flwyddyn yn 2014 pan nodwyd 186 o achosion newydd. Erbyn 2016, roedd y nifer o achosion newydd yn 141. Mae angen i’r duedd ar i lawr barhau. Y llynedd, penderfynais ddechrau arbrawf cenedlaethol yng Nghymru i ddarparu proffylacsis cyn dod i gysylltiad â HIV. Mae hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma, ac ni fu dim achosion newydd o HIV ymysg y bobl a gafodd y PrEP.

Mae astudiaethau’n dangos y gellir atal y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Drwy eu hatal neu eu trin yn gynnar, gellir lleihau'r siawns o broblemau meddygol yn fawr. Er mwyn sicrhau'r canlyniadau iach hynny, rhaid bod gwasanaethau ymatebol ar gael i bob unigolyn. Mae adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod cyfraniad sylweddol gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru at atal a thrin heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac at ddarparu offer atal cenhedlu. Mae’r gweithlu iechyd rhywiol yng Nghymru yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau rhagorol i ateb galw sy’n cynyddu. Mae cyflwyno PrEP yn llwyddiannus yn ddiweddar yng Nghymru yn deyrnged bellach i broffesiynoldeb ac ymroddiad y gweithlu hwnnw.

Fy ngweledigaeth i ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru yw bod gwasanaethau modern yn diwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr. Mae'r adolygiad yn nodi nifer o feysydd i’w gwella ymhellach, a fydd yn helpu i gyflawni hyn, yn enwedig o ran mynediad ac anghydraddoldeb. Ac mae'r adolygiad yn cydnabod anghenion grwpiau penodol a sut y maent yn cael mynediad at wasanaethau. Mae hefyd yn dangos yr amrywiad o ran rhwyddineb mynediad at wasanaethau ac o ran rhai o’r gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru. Mae rhai cymunedau o dan anfantais oherwydd diffyg darpariaeth gwasanaethau, yn enwedig cymunedau gwledig a charcharorion, ac mae’r gwasanaethau terfynu beichiogrwydd a ddarperir yn anwastad. Mae'r adroddiad yn argymell, fel mater o flaenoriaeth, y dylai fod gan fyrddau iechyd yng Nghymru ddealltwriaeth gadarn o anghenion eu poblogaeth ac o systemau, ac y dylent ddarparu adnoddau i ddarparu gwasanaethau i grwpiau ymylol ac agored i niwed yn fwy eang.

Hefyd, bydd pob bwrdd iechyd yn dymuno deall, a byddwn i’n disgwyl iddynt ddeall, sut y gallai llwybrau cleifion a thechnolegau newydd—er enghraifft, brysbennu ar-lein, hunan-brofi a phrofion pwynt gofal—gyfrannu at wella profiad y claf a lleihau rhywfaint o'r pwysau sydd ar ein gwasanaethau ar hyn o bryd. Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at yr angen am well systemau gwyliadwriaeth sy'n ategu casglu data ar sail Cymru gyfan drwy sefydlu cyfrwng TG cyffredin i gefnogi gwasanaethau iechyd rhywiol arbenigol.

Un elfen bwysig o'r adolygiad oedd ystyried y trefniadau presennol ar gyfer rhannu cofnodion iechyd rhywiol cleifion rhwng clinigwyr iechyd rhywiol a darparwyr gofal iechyd ehangach. Casgliad yr adolygiad yw y dylid rhannu gwybodaeth berthnasol ymysg y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â pherthynas â’r claf unigol ac y dylid ystyried adolygu neu ddisodli'r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â rhannu gwybodaeth.

Er bod amrywiaeth eang o grwpiau a phartneriaid sydd â rhan i'w chwarae i wella iechyd rhywiol, mae'r adroddiad yn nodi'r potensial i ehangu cyfraniad gofal sylfaenol a fferyllfeydd cymunedol o ran darpariaeth iechyd rhywiol. Un esiampl bosibl fyddai drwy ddarparu dulliau atal cenhedlu geneuol dros y cownter ac ymestyn darpariaeth dulliau atal cenhedlu amharhaol hirdymor.

Rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar farn clinigwyr, grwpiau menywod a phob rhan o’r Siambr hon. Rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion i ddechrau gweithio ar unwaith ar sut y gallwn ni newid y fframwaith cyfreithiol i ganiatáu cynnal triniaeth terfynu beichiogrwydd yn y cartref, yn unol ag argymhelliad 7. Mae terfynu beichiogrwydd yn hawl gyfreithiol gofal iechyd yng Nghymru a rhaid parchu hawl menyw i ddewis a gwella mynediad at wasanaethau.

Bydd fy swyddogion nawr yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu wedi'i amserlennu a'i gostio'n llawn. Bydd y bwrdd rhaglenni iechyd rhywiol, a gadeirir gan y prif swyddog meddygol, yn parhau i gefnogi a goruchwylio'r gwaith o roi’r argymhellion gwella gwasanaeth ar waith dros gyfnod o ddwy flynedd. Byddaf wrth gwrs yn sicrhau bod Aelodau yn cael eu diweddaru'n rheolaidd o ran gweithredu'r agweddau hynny. 

17:30

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad hwn. Roeddwn yn arbennig o falch o weld y gostyngiad mewn beichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau oherwydd, wrth gwrs, fel y gwyddom ni, gall hynny greu rhwystrau bywyd hirdymor sylweddol weithiau i fenywod ifanc sy'n beichiogi’n rhy ifanc. Felly, mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn. Roeddwn hefyd yn falch iawn o glywed am rai o'r sylwadau a wnaethoch chi, yn enwedig am PrEP. Mae’r arbrawf hwnnw’n llwyddiannus iawn ac rwy’n cydnabod hynny ac yn ei groesawu ar gyfer y dyfodol.

Fodd bynnag, o ddarllen yr adroddiad, mae’n ymddangos nad yw gwasanaethau iechyd rhywiol wir yn bodloni gofynion y gwasanaethau o hyd. O ddarllen yr adroddiad, canfu fod y gwasanaethau a oedd yn cynnal canolfannau galw heibio neu glinigau galw heibio’n llawer mwy tebygol o fod yn llwyddiannus, a bod rhwystrau artiffisial, fel amseroedd apwyntiadau, anallu i gael gafael ar bobl dros y ffôn ac ati yn rhoi cyfyngiadau mewn rhai ardaloedd.

Ond rwy’n credu mai’r hyn yr wyf wir yn pryderu amdano yw, wrth i bresenoldeb mewn clinigau iechyd rhywiol ddyblu dros y pum mlynedd diwethaf, pam ydym ni wedi gweld gostyngiad sylweddol yng ngwariant y GIG ar heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac ar swyddogaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru? Yn ôl fy nghyfrif i, ers 2015-16, mae’r gwariant ar heintiau a drosglwyddir yn rhywiol wedi gostwng tua £10 miliwn, o £17.774 miliwn i ychydig dros £7 miliwn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cael toriadau termau real i’w chyllideb, felly a allech chi efallai egluro inni sut yr ydych chi'n credu y gallwn ni barhau i ddarparu’r lefel hon o wasanaeth i bobl Cymru gyda gostyngiad mor sylweddol yn y gyllideb, yn enwedig pan edrychwch ar y ffaith bod yr angen am glinigau iechyd rhywiol yn tyfu yn hytrach nag yn lleihau?

Mae’n braf iawn clywed eich bod yn mynd i edrych ar sut y gellir cynnig gwasanaethau beichiogrwydd a therfynu beichiogrwydd i bobl yn eu cartrefi. Fodd bynnag, ceir anghysondebau enfawr o hyd yn narpariaeth gwasanaethau erthylu gan fyrddau iechyd. Maent yn amrywio o ran y terfynau amser ar y cyfnod beichiogrwydd ac yn amrywio o ran yr hyn sydd ar gael i fenywod mewn gwahanol wasanaethau erthylu. Caniateir erthylu, o dan Ddeddf Erthylu 1967 ar sail C a D, tan 24 wythnos o feichiogrwydd. Fodd bynnag, dim ond hyd at ddiwedd y tymor canol y gwnaiff adrannau obstetreg a gynecoleg yng Nghymru reoli erthyliadau ar sail A, B ac E, sy’n golygu bod menywod nad ydynt yn bodloni seiliau A, B ac E yn gorfod teithio i Loegr i gael triniaeth. Felly, er fy mod yn croesawu, ar y naill law, y ffaith eich bod yn caniatáu i bobl efallai gymryd eu meddyginiaeth briodol gartref, ar y llaw arall, a dweud y gwir rydym yn ei gwneud hi'n anoddach i rai menywod allu cael gwasanaethau erthylu a defnyddio’r gwasanaethau hynny mewn ffordd ystyrlon a chydlynol ledled Cymru. Felly, tybed a allech roi sylw priodol inni am hynny?

Mae fy sylw olaf—a byddai gennyf ddiddordeb mawr deall sut y daeth yr adolygiad i’r casgliad hwn—yn ymwneud â’r eitem lle’r ydych yn trafod y ffaith mai casgliad yr adolygiad oedd y dylid rhannu gwybodaeth berthnasol ymysg y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â pherthynas â’r claf unigol. Rwy’n gwybod, yn Sir Benfro, y bu ymdrech i adleoli clinig iechyd rhywiol i leoliad a oedd mewn lle llawer mwy amlwg, a achosodd bryder a dryswch gwirioneddol oherwydd, i lawer o bobl, mae mynd i glinig fel hyn yn beth eithriadol o breifat. Maent yn amharod i roi gwybod i’r fferyllydd lleol oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r fferyllydd lleol yn adnabod eu mam. Maent yn amharod i ddweud gormod am y peth wrth eu meddyg oherwydd, mewn gwirionedd, mae’r meddyg yn adnabod rhywun arall sy'n adnabod rhywun arall. Y peth yw, os ydych chi mewn cymuned, rydych am gadw’r math hwn o wybodaeth i chi'ch hun, neu mae nifer fawr o bobl yn teimlo felly. Yn Hwlffordd, achosodd broblemau mawr, oherwydd bod pobl yn teimlo y byddai pobl yn eu gweld yn cerdded i mewn ac yn gallu dweud, 'O, mae hwn a’r llall yn mynd i’r fan yna ac yn gwneud hynny.' Felly, hoffwn ddeall pa waith a wnaeth yr adolygiad gyda chleifion ynghylch pa mor hapus y byddent i’w gwybodaeth gael ei rhannu fel yna.

Mae gennyf, Dirprwy Lywydd, un pwynt olaf arall, sef y ffaith bod yr adolygiad ei hun yn gwneud sylw am anghysondeb y data a’r casglu data. Felly, byddwn yn gofyn ichi pa ffydd sydd gennych chi a pha bwys allwch chi ei roi i’r data sy'n cael ei gyflwyno pan fo’r adolygiad yn dweud yn glir iawn bod angen bod yn ochelgar iawn ynghylch y data a gasglwyd yn yr adolygiad hwn gan nad oedd modd eu cymharu o un flwyddyn i’r llall hyd yn oed o fewn byrddau iechyd, heb sôn am ledled Cymru.

17:35

Wel, ynglŷn â'r sylw olaf, y data yw’r gorau sydd ar gael. Mae'n caniatáu inni lunio’r casgliadau a allwn ni. Bydd mwy i'w wneud drwy’r amser i wella’r dystiolaeth sydd gennym ni i seilio dewisiadau polisi arni. Nid dim ond yn y maes hwn y mae hynny’n wir, ond ym mhob un arall. Nid wyf yn credu ei fod yn tanseilio natur yr argymhellion na’r gwaith sydd gennym i’w wneud o hyd, a dweud y gwir.

Roeddwn yn falch o'ch clywed yn croesawu unwaith eto yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud gyda PrEP a’r gostyngiad sylweddol mewn beichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau. Rwy’n cydnabod yr hyn sydd gennych i'w ddweud am yr hyn sydd yn yr adroddiad ynglŷn â chydnabod bod angen i'w gwneud hi'n haws manteisio ar wasanaethau. Mae hynny'n rhan o'r hyn a oedd yn fy natganiad innau. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr wyf yn disgwyl ei weld yn digwydd gyda'r amserlen honno ar gyfer gwella.

Rwyf hefyd yna’n dod at eich sylw am wariant a chanlyniadau, oherwydd mae gennyf ddiddordeb o ran sut yr ydym ni'n gwella canlyniadau. Rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd am y gyllideb, fel y gŵyr pawb, ond mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn—. Y rheswm pam y comisiynodd Rebecca Evans yr adolygiad yn ei swyddogaeth flaenorol oedd er mwyn sicrhau ein bod yn gweld yn iawn sut y darperir gwasanaethau a ble y maent mewn gwirionedd yn diwallu anghenion dinasyddion yn briodol, oherwydd roeddem yn pryderu nad oeddem yn diwallu’r anghenion hynny’n gyson. Y rheswm pam y byddwn yn sefydlu bwrdd rhaglenni gydag arweiniad iechyd rhywiol yw er mwyn cael cynllun gweithredu wedi’i gostio'n briodol i geisio deall nid yn unig a oes gennym ni ddiddordeb yn yr argymhellion ond sut yr ydym ni'n bwrw ymlaen â nhw, beth mae hynny'n ei olygu a phwy sydd ag angen gwneud hynny ac i gael rhywfaint o eglurder a chysondeb wedyn rhwng byrddau iechyd a phartneriaid am yr hyn y bydd angen iddynt ei wneud.

Rwy’n disgwyl yn llawn, cyn gynted ag y bydd gennym ni gynllun gweithredu wedi'i gostio dros y ddwy flynedd nesaf, y byddaf nid yn unig yn adrodd yn ôl i'r lle hwn, ond byddwn yn llawn ddisgwyl y byddai gan un pwyllgor neu’r llall a’r lle hwn ddiddordeb deall a yw hynny wedi digwydd ac yna a ydym mewn gwirionedd wedi cyflawni'r hyn y gwnaethom ei nodi yn ein cynllun.

Rhaid imi ddweud fy mod yn cydnabod y sylwadau a wnewch am Iechyd Cyhoeddus Cymru a’u cyllideb gyffredinol, ac fy ymateb i, yn gwrtais ond yn gadarn, yw ein bod mewn sefyllfa o orfod gwneud dewisiadau anodd iawn am y gyllideb, a does dim modd osgoi hynny. Hyd yn oed o fewn y gwasanaeth iechyd, sef y maes sydd wedi gwneud yn well na phob rhan arall o'r Llywodraeth, mae dewisiadau anhygoel o anodd i’w gwneud o hyd, ac ni fydd dweud eich bod eisiau i fwy o arian gael ei wario mewn un rhan o'r gwasanaeth iechyd nag un arall yn datrys y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Rydym ni wedi cael adolygiad â phwyslais penodol i roi syniad inni ynghylch beth i'w wneud i wella, byddwn yn edrych eto ar y canlyniadau, ac mae angen inni ddeall sut i wneud hynny, ac ar yr un pryd mae angen inni sicrhau drwy’r amser ein bod yn cael y gwerth gorau am yr arian yr ydym yn ei wario ym mhob rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus gan ein bod mewn cyfnod o gynni ers wyth mlynedd, ac mae hynny'n mynd i barhau. 

Ynglŷn â'ch dau sylw terfynol, am yr amrywiaeth mewn gwasanaethau erthylu ac argaeledd hynny, rwy’n cydnabod hynny ac, yn wir, rwyf wedi cael sgwrs gyda Jenny Rathbone am yr union bwynt hwnnw, mwy neu lai, am yr amrywiaeth mewn gwasanaethau rhwng gwahanol rannau o Gymru a lle’r ydym ni, ac rwyf wedi ymrwymo i ddangos diddordeb gwirioneddol yn hynny ac i edrych ar yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud i geisio lleihau'r amrywiaeth sy'n bodoli ac i gael ateb priodol. Ni ddylai fod ots ym mha ran o'r wlad yr ydych yn byw ac ni ddylai wneud gwahaniaeth go iawn i’r gwasanaeth sydd ar gael ichi.

Ac, yn olaf, y sylw am—rwy’n deall bod hyn yn anodd—yr amgylchedd rheoleiddio cyfredol a sut y caiff cofnodion eu rhannu neu beidio. Ar y naill law, rydych chi'n deall y gall pobl deimlo y gallai fod y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd lleol yn adnabod rhywun nad wyf eisiau iddynt ei adnabod ac efallai y bydd yn anodd imi feddwl bod rhannau o'r cofnod ar gael iddynt. Yr her yw bod hynny, a dweud y gwir, yn risg clinigol posibl hefyd, os nad yw’r unigolyn sydd o bosib yn gyfrifol am eich gofal mewn maes arall yn gwybod.

Nawr, ar hyn o bryd mae gennym ni Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Clefydau Gwenerol) 1974, sy’n deitl diddorol—wel, teitl addas. Nawr, mae Lloegr wedi diddymu’r rheini a sefydlu rhai gwahanol yn eu lle. Rydym nawr yn ystyried ar ôl yr adolygiad a allem ac a ddylem ni sefydlu cyfres wahanol o safonau a mesurau i'w disodli. Felly, yr argymhelliad yn yr adroddiad yw'r un y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef, a bydd angen inni ystyried rhanddeiliaid a siarad â nhw, gan gynnwys y cleifion, ynghylch a ddylem ni newid y rheini ac, os felly, beth ddylai'r setliad fod a deall y gwahanol faterion hynny rhwng diogelwch clinigol a dewis unigolyn ynghylch sut y defnyddir y cofnodion hynny oherwydd, yn y pen draw, ein huchelgais yn y maes iechyd a gofal yw rhannu mwy o gofnodion iechyd a gofal rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol, i leihau'r amser y gellir ei wastraffu, i bobl beidio â gorfod esbonio’r un peth fwy nag unwaith, ac i ddileu rhai mathau o risg clinigol. Felly, does dim safbwynt terfynol ar hynny, ond mae ymrwymiad i ystyried a chymryd cyngor ynglŷn ag a ddylem ni ddiwygio, diddymu neu wneud rhywbeth gwahanol a sut i fwrw ymlaen â hynny mewn gwirionedd yma yng Nghymru.

17:40

Rydw i'n meddwl, gymaint ag mewn unrhyw drafodaeth rydym ni wedi'i chael yma, fod Angela Burns a finnau wedi meddwl ar hyd yr union un llinellau fwy neu lai o ran y cwestiynau sy'n codi allan o'r datganiad heddiw, ond rydw i'n siŵr bod yna un neu ddau o bethau ar ôl y byddwn ni'n dymuno eu gofyn. Mi hoffwn innau ddiolch i'r tîm, wedi'i gadeirio gan y prif swyddog meddygol, a wnaeth y gwaith pwysig yma, achos mae o'n faes pwysig ac rydym ni wedi gweld, drwy'r ffigwr rhyfeddol yma am y gostyngiad ym meichiogrwydd merched yn eu harddegau, fod yna lwyddiant go iawn yn gallu dod lle mae'r polisi'n targedu'r bobl iawn, yn dweud y pethau iawn ac yn cymryd y camau iawn. Felly, mi fyddwn i'n sicr yn llongyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o gyrraedd at y canlyniad yna. 

O ran y bobl sydd yn chwilio am gyngor a chymorth efo heintiau wedi'u trosglwyddo'n rhywiol, beth rydym ni'n ei ddarllen, serch hynny, ydy bod y ffigyrau wedi dyblu o fewn y pum mlynedd ddiwethaf, ac mae'r adolygiad hefyd yn adnabod rhwystrau sydd yna o hyd i bobl yn mynychu canolfannau lle maen nhw'n chwilio am gymorth. Felly, mae'n bosib bod yna danamcangyfrif o faint o bobl sydd angen cymorth mewn difrif. Beth mae hynny'n ei awgrymu wrthyf i ydy bod addysg, a'r agenda ataliol, yn atal pobl rhag cael STIs yn y lle cyntaf yn methu, ac yn methu'n eithaf sylweddol, mewn difrif. Nid ydym ni'n sôn yn fan hyn am waith addysg mewn ysgolion yn unig, achos mae'n amlwg bod yna waith addysgu yn y boblogaeth oedolion hefyd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf, ac mae'n bosib ei fod o'n ymwneud â gostyngiad mewn cyllidebau, fel y dywedodd Angela Burns: pam mae yna fethiant wedi bod ar yr agenda ataliol, achos mae'n amlwg bod hynny'n gwbl allweddol wrth i ni symud ymlaen? 

Un o'r rhwystrau y gwnes i eu crybwyll yn fanna i bobl sydd yn chwilio am gymorth a thriniaeth ydy bod yna ddiffyg cysondeb ar draws  Cymru, fel mae’r adroddiad ac fel mae eich datganiad chi heddiw wedi’i gadarnhau. Mi glywsom ni Angela Burns yn sôn am y diffyg cysondeb sydd yna ar draws Cymru pan mae’n dod at y gwasanaeth sydd ar gael o ran erthylu a therfynu beichiogrwydd. Diffyg cysondeb mewn rheolau ydy hynny, mewn difri. Beth sydd gennym ni o ran triniaeth heintiau wedi’u trosglwyddo’n rhywiol yn gyffredinol ydy diffyg cysondeb o ran darpariaeth, hynny ydy y loteri postcode yma fel rydym ni'n sôn amdano fo. Rydw i'n falch eich bod chi’n cydnabod bod yna’r gwahaniaeth yna mewn darpariaeth mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mi fyddwn i’n licio clywed mwy ynglŷn â beth yn union rydych chi a’ch Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i chwilio am y cysondeb yna i bobl, lle bynnag y maen nhw yng Nghymru.

Mae yna sôn am drop-in clinics. Mae’r rheini’n bwysig, ond mae oriau agor yn golygu bod mynediad, eto—hygyrchedd—yn gallu bod yn anodd. A ydy hwn yn rhywbeth yr ydych chi’n dymuno ei weld yn cael ymateb iddo fo? Roeddwn innau hefyd yn sylwi ar y gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg mewn rhai ardaloedd ym Mhowys, yn benodol, gan feddygon teulu. Mae hynny’n rhwystr, rydw i'n cytuno, mewn ardaloedd gwledig, ac yn enwedig os caf i dynnu sylw at arolwg gan Stonewall sydd yn dangos bod yna'n dal i fod llawer—er yn lleiafrif—o staff yr NHS sydd â rhagfarn yn erbyn pobl LGBT, ac oherwydd hynny, o bosib, nid ydynt yn hyderus wrth gwrdd â gofynion pobl LGBT. Mi rydym ni'n sôn am bobl LGBT pan fyddwn ni’n sôn am y bobl sydd angen triniaeth, felly rydw i'n meddwl bod yna ddadl gref dros gadw gwasanaethau ar wahân i feddygfeydd teulu.

Ac un cwestiwn terfynol: gan fod y cyfle yma, oherwydd ei fod o'n cael ei drosglwyddo’n rhywiol, a allwn ni gael diweddariad hefyd ar le rydym ni arni o ran y brechiad HPV?

17:45

Ynglŷn â'r sylw olaf am y brechlyn HPV, byddwn yn parhau i gymryd cyngor gan y cydbwyllgor perthnasol am y sail dystiolaeth ar gyfer unrhyw weithredu pellach. Rydym ni eisoes wedi cyhoeddi yn ystod tymor y Llywodraeth hon—rwy’n credu mai Rebecca Evans yn ei swyddogaeth flaenorol a gyhoeddodd ehangu brechu i ddynion sy'n cael rhyw gyda dynion. Mae’r ddadl yn parhau. Rwy’n gwybod bod rhai aelodau gweithgar o’r proffesiwn meddygol sy’n ymwneud â gwaith iechyd rhywiol yn credu y dylid ehangu'r brechlyn, ond nid yw’r cydbwyllgor arbenigol perthnasol y mae pob Llywodraeth o fewn y DU yn cymryd cyngor ganddo yn ategu’r farn honno ar hyn o bryd. Os bydd y sefyllfa’n newid—ac rwyf wedi dweud yn rheolaidd yn y lle hwn y ceir adegau pan mae’n hollbwysig ichi gael eich arwain gan dystiolaeth, a’r dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau oll—os bydd y sefyllfa’n newid o ran y dystiolaeth a'r cyngor, bydd y Llywodraeth yn newid ei safbwynt. Felly, rwy’n hapus i roi'r sicrwydd hwnnw.

Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am addysg ac atal, a chydnabod, a dweud y gwir, bod llawer o hyn yn dal i fod ynglŷn â sut y gallwn ni berswadio pobl i ailystyried y dewisiadau a wnânt. Nid dim ond pobl ifanc sy’n gwneud y dewisiadau hyn, mae oedolion o amrywiaeth o oedrannau'n gwneud dewisiadau, a rhan o'r her yw sut i ganfod dull effeithiol o addysgu ac atal gyda'r bobl hynny. Mae’n rhan o'r rheswm pam, wrth edrych ar yr astudiaeth PrEP, nad oedd mor syml â phenderfynu cyflenwi’r feddyginiaeth; roedd angen edrych hefyd ar sut y mae hynny'n cyd-fynd â gwasanaethau eraill, ar rai o’r sgyrsiau y mae angen eu cynnal ynglŷn â'r hyn sy’n ymddygiad peryglus a’r hyn nad yw, a sut i weld hynny'n rhan ohono.

Fe gofiwch ymosodiad eithaf atgas y Daily Mail a awgrymodd fod PrEP yn drwydded i foesau llac. Ac nid dyna beth ydoedd; a dweud y gwir, mae'n ffordd o ddeall sut i drin pobl yn llwyddiannus i atal haint pellach mewn termau ymarferol iawn. Rwy’n ffyddiog y byddai'n arbed arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol ac yn caniatáu i bobl wneud dewisiadau gwahanol ynglŷn â sut y maent yn gallu byw a mwynhau eu bywyd. Ond mae gwir angen edrych ar sut yr ydym ni'n perswadio ac yn cael y sgwrs honno gyda phobl am y dewisiadau o safbwynt ymddygiad.

Rwy’n cydnabod hyn yr ydych chi ac Andrew ill dau wedi’i ddweud am y galw ar y gwasanaeth, am lefelau ein canlyniadau, am ein gallu i gynnal canlyniadau ardderchog, ac na allwn ni ddibynnu ar y gweithlu i fod yn arbennig o ymroddedig ac i barhau i redeg yn bellach ac yn gyflymach. A dweud y gwir, roedd heriau ynghylch cysondeb a hygyrchedd gwasanaethau yn rhan fawr o’r hyn a berswadiodd y Llywodraeth i gynnal yr adolygiad. Felly, rydym yn sicr yn gwneud y gwaith hwnnw, ac os edrychwch chi ar yr argymhellion a’r sylwadau yn yr adolygiad, rydym ni'n gweld, nid dim ond yr her sefydliadol a gostyngiad yn y gwasanaethau, ond mwy o swyddogaeth i ofal sylfaenol, a’r elfen ynglŷn â sut y gellir darparu’r gwasanaethau hynny a defnyddio grŵp cyfan o weithwyr gofal sylfaenol proffesiynol yn well.

Rwy’n dychwelyd at yr hyn a ddywedodd Angela Burns yn gynharach—efallai na fydd ar bawb eisiau mynd i’w fferyllfa i gael rhan o'u gwasanaethau iechyd rhywiol ac atal cenhedlu, ond bydd ar rai pobl eisiau gwneud hynny, gan fod bron bob fferyllfa, yn enwedig pob un sydd â gwasanaeth mwy cynhwysfawr, yn caniatáu i bobl fynd i weld rhywun mewn ystafell breifat yn yr adeilad. Pan rwyf yn cael fy adolygiad meddyginiaeth mewn fferyllfa sydd bellter cerdded o'r adeilad hwn, rwy’n mynd i ystafell breifat, does neb yn gwybod beth yr ydym yno i siarad amdano, ac felly mae'n fan ymgynghori preifat. Bydd amrywiaeth o bobl, rwy’n credu, yn hyderus i fynd i wahanol leoliadau i gael rhan o'r gwasanaeth. Mae hynny'n gyson â'n hymgyrch ehangach i berswadio pobl i ddefnyddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac nid dim ond mynd i weld y meddyg, boed hynny mewn ysbyty neu mewn meddygfa deulu.

Felly, rwy’n cydnabod yr heriau go iawn sy'n bodoli ac rwy’n ffyddiog y bydd gennym ni, wrth fwrw ymlaen â’r gwaith mewn ymateb i argymhellion yr adolygiad, gyfres o argymhellion sydd wedi’u profi’n rhesymegol ynglŷn â sut i wneud hyn, gyda chynllun gweithredu wedi'i gostio. A’r sicrwydd sydd gan yr Aelodau yw y bydd y bwrdd yn parhau i gael ei oruchwylio gan y prif swyddog meddygol; nid yw'n sefyllfa lle mae gwleidyddion yn penderfynu gwneud yr hyn yr ydym ni'n credu sydd orau heb sylfaen dystiolaeth briodol a heb y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf.

17:50

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’r adolygiad a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn canmol y gweithlu iechyd rhywiol yng Nghymru yn gwbl briodol. Mae’r nifer sy’n defnyddio’r gwasanaethau wedi dyblu yn y pum mlynedd diwethaf. Yn ddi-os, bydd y cynnydd hwn yn golygu bod angen addasu a diwygio’r gwasanaethau presennol i ateb y galw yn y modd gorau. Y mater allweddol yw diwygio yn y modd cywir.

Rwy’n croesawu’r gostyngiad dramatig mewn beichiogrwydd yn yr arddegau rhwng 2010 a 2016. At hynny, rwy’n siŵr bod pawb yn y Siambr hon yn croesawu’r gostyngiad parhaus mewn diagnosisau HIV ac yn cymeradwyo camau rhagweithiol Llywodraeth Cymru i frwydro yn erbyn y firws. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â HIV, ond dylid dathlu’r nifer sylweddol o bobl sy’n cael profion a’r ymgyrchoedd i addysgu'r cyhoedd am bwysigrwydd profion iechyd rhywiol rheolaidd. Drwy gynyddu hygyrchedd PrEP, rydym yn symud yn nes at guro HIV. Mae'n newyddion da yn wir na fu dim achosion newydd o'r firws ymysg y bobl sydd wedi cael PrEP.

Drwy leihau ymddygiad rhywiol peryglus, rydym yn cymryd cam rhagweithiol arall i ymdrin â diagnosis clefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y dywedasoch yn eich datganiad, mae nifer y clefydau eraill a drosglwyddir yn rhywiol ac y rhoddir diagnosis ar eu cyfer yn dal i fod yn uchel. Er bod yn rhaid inni annog pobl i ddefnyddio mesurau ataliol fel PrEP, ni ddylid eu hystyried yn esgus i ymddygiad rhywiol peryglus. Gallai ymddygiad o'r fath, yn ei dro, olygu bod pobl yn cael heintiau eraill a allai, o ganlyniad, ychwanegu at y straen ar wasanaethau iechyd rhywiol. Mae Dr Giri Shankar neu Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan bod angen gwneud llawer o waith i leihau ymddygiad peryglus. Ysgrifennydd y Cabinet, pa fesurau a mentrau penodol a ydych chi wedi’u cynllunio i ymateb i argymhellion Dr Shankar am fwy o waith yn y maes hwn?

Mae'r datganiad yn nodi bod carcharorion o dan anfantais oherwydd diffyg darpariaeth gwasanaethau mewn carchardai. Rwy’n gorfod aros i feddwl yma. Eisoes, mae gwasanaethau iechyd mewn carchardai ar gael i bob carcharor. Ar ben hynny, caiff carcharorion eu haddysgu am iechyd rhywiol yn ystod eu cyfnod ymsefydlu ac mae ganddynt eu hadran gofal iechyd eu hunain ac mae pawb yn gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arbenigol ar sail un i un wrth gyrraedd y carchar, ac mae hynny’n orfodol.

Mae’r datganiad yn dweud, yn gwbl briodol, bod cymunedau gwledig dan anfantais oherwydd diffyg darpariaeth gwasanaethau. Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi ddweud pa fesurau penodol ac ymarferol sy’n cael eu gweithredu i'w gwneud hi'n haws elwa ar wasanaethau iechyd rhywiol mewn cymunedau gwledig? Mae'r datganiad yn nodi bwriad i roi argymhelliad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar waith dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae hefyd yn dweud bod y galw am wasanaethau iechyd rhywiol wedi dyblu dros gyfnod o bum mlynedd ac yn rhoi pwysau ar y modelau gwasanaethau presennol. Felly, beth fydd yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod pontio dwy flynedd i sicrhau y bodlonir y galw am wasanaethau? Mae sôn am frysbennu ar-lein, ond a ellid rhoi ystod lawn o wasanaethau ar-lein ar waith yn gyflymach fel eu bod ar gael yn ystod y cyfnod pontio dwy flynedd hwn? Diolch.

17:55

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Rwy’n falch o weld bod llawer o gysondeb yn y materion y mae llefarwyr yn eu crybwyll. Gwnaf geisio rhoi sylw cryno i’r materion, yn hytrach nag ailadrodd yr hyn yr wyf wedi ei ddweud wrth ateb Angela Burns a Rhun ap Iorwerth ynghylch rhai o'r agweddau. Fodd bynnag, fe wnaf atgoffa pobl fy mod eisoes wedi dweud y bydd cynllun—bydd wedi’i gostio, bydd wedi’i amserlennu—ynghylch sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hynny, felly ni wnaf sefyll a cheisio siarad yn fyrfyfyr yma nawr ynglŷn â sut y gwneir hynny, neu ynglŷn â'i amserlen a’i gyflymder, neu ni fyddai fawr o ddiben gofyn i grŵp weithio gyda'i gilydd i ddarparu cynllun gweithredu.

Roeddwn yn falch o glywed Caroline Jones yn sôn am realiti stigma HIV, ond yn fwy cyffredinol am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac mae hynny'n dal yn her i ni, o ran darbwyllo pobl i ystyried o ddifrif eu dewisiadau eu hunain, ond hefyd iddynt ofyn am help yn ddigon cynnar i gael y gobaith gorau o drin a rheoli'r peth yn llwyddiannus. Mae argymhelliad 9 yn yr adroddiad yn cyfeirio at addysg rhyw a pherthynas. Nawr, nid oedd yr adolygiad yn gofyn iddynt edrych yn benodol ar yr adolygiad o'r cwricwlwm sy'n digwydd, ond mae’n cydnabod ei fod yn offeryn pwysig o ran sut i wneud hynny ac i wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc ystod o wybodaeth wrth iddynt aeddfedu'n oedolion yn y byd a’u bod yn gallu rheoli’r dewisiadau y byddant eu hunain yn eu gwneud, er, wrth gwrs, nid yw bod yn oedolyn yn rhoi unrhyw sicrwydd o ymddygiad synhwyrol na rhesymol, fel yr wyf yn siŵr y gŵyr pob un ohonom ni o wahanol adegau o'n bywydau ein hunain.

Hoffwn gyfeirio’n ôl at y sylw am annhegwch o ran hwylustod y ddarpariaeth ledled y wlad mewn amrywiaeth o leoliadau, a chydnabyddir hynny yn argymhelliad 1, ynglŷn â'r realiti y bydd angen inni wneud mwy. Felly, pan welwn y cynllun ynglŷn â'r gwelliant, byddaf yn disgwyl i fyrddau iechyd ymrwymo iddo a gallu dweud wrth ymateb i’r cynllun gwella hwnnw sut y maent yn mynd ati nid yn unig i gydnabod yr annhegwch sydd eisoes yn bodoli, ond beth fyddant yn ei wneud ynghylch hynny yn ymateb i'r adroddiad hwn, ond, fel y dywedaf, i'r cynllun gweithredu a lunnir.

Rwy’n croesawu’n fawr iawn eich ymrwymiad i ganiatáu rhoi misoprostol yn y cartref. Mae hynny'n newyddion rhagorol. Tybed a allech chi ymhelaethu ynglŷn â pha waith y bydd angen i’ch swyddogion ei wneud a’r amserlen ar gyfer ei gyflawni, oherwydd nid ydym yn sôn am adolygu'r Ddeddf Erthylu, rydym yn sôn am gynyddu'r lleoliadau lle gellir rhoi erthyliad meddygol, sef yn y cartref. Gan fod hyn eisoes wedi'i wneud yn llwyddiannus yn yr Alban a’i fod eisoes ar gael i fenywod sy’n cael camesgoriad anghyflawn yma yng Nghymru, nid yw'n teimlo'n broses gymhleth iawn, ond rwy’n cytuno bod angen ymrwymiad gwleidyddol ar gyfer hynny, ac rwy'n diolch ichi am hynny.

Mae'n wych gweld bod nifer yr achosion o feichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau wedi haneru, ond roedd dros 1,000 o hyd yn 2016, ac mae'n amlwg yn codi'r cwestiwn ynghylch ansawdd yr addysg rhyw a pherthynas sydd ar gael mewn ysgolion, rhywbeth, yn amlwg, y mae eich adroddiad yn nodi nad yw’n rhan o'r adolygiad, ond mae'n amlwg yn fater y mae angen inni ei drafod gyda'r Ysgrifennydd addysg, oherwydd mae’n hanfodol bod dynion ifanc a menywod ifanc yn deall pryd y maent yn gwneud penderfyniadau gwybodus am berthynas ac o ble y gallant gael dulliau atal cenhedlu pan fo angen. Gallaf weld bod hynny'n broblem benodol mewn ardal wledig, os nad yw person ifanc yn gyrru neu os nad oes ganddo gar—byddai’n anodd iawn cael mynediad at y gwasanaethau cywir.

Rwy’n cynrychioli etholaeth ifanc iawn ei phoblogaeth. Mae gen i dair prifysgol yng Nghanol Caerdydd, felly mae gennyf, rwy’n meddwl, yr etholaeth sydd â’r nifer mwyaf o fyfyrwyr ledled y DU. Rwy’n arbennig o bryderus, ac rwyf eisoes wedi sôn am hyn wrth gadeirydd y bwrdd iechyd, am feddygfeydd teulu sy'n awyddus iawn i recriwtio myfyrwyr yn gleifion iddynt, ond nad ydynt o reidrwydd yn darparu’r gwasanaethau y bydd eu hangen ar gleifion. Mae'n amlwg y bydd angen gwasanaethau iechyd rhywiol ar bobl ifanc sy'n cyrraedd prifysgol, ac mae hyn yn cynnwys mynediad cyflym i glinig ar gyfer clefydau a drosglwyddir yn rhywiol, oherwydd gall pethau fel clamydia yn amlwg achosi anffrwythlondeb os na chaiff ei drin. Felly, mae argymhelliad 5 yn fy nrysu, o ran pam na fyddai’n safonol mewn meddygfa â llawer o bobl ifanc ynddi, sef y rhai lle ceir croniad o bobl ifanc, pam na fyddent yn darparu’r mathau hynny o glinigau yn safonol. Oherwydd mae myfyrwyr wedi sôn wrthyf am anhawster gwirioneddol i gael y cyngor meddygol sydd ei angen arnynt, am eu bod yn gwybod bod ganddynt glefyd a drosglwyddir yn rhywiol, ac felly mae oedi cyn cael y driniaeth gywir, yn amlwg, yn gallu ei wneud yn waeth yn y cyfamser.

O ran cael cyngor am feichiogrwydd, os aiff rhywun yn feichiog, (a) a yw’r bilsen drannoeth ar gael ym mhob fferyllfa? Oherwydd yn amlwg bod pobl yn gwneud camgymeriadau ac yn sylweddoli’n gyflym iawn eu bod efallai wedi mynd yn feichiog drwy gamgymeriad. Ond hefyd, hoffwn ddeall pam mae angen mynd at eich meddyg teulu os ydych chi'n meddwl bod arnoch chi eisiau pledio'ch achos dros gael erthyliad. Pam nad oes modd mynd yn syth at y gwasanaeth cyngor a therfynu beichiogrwydd? Mae hynny'n rhywbeth arall a godais gyda'r Bwrdd Iechyd.

Un o'r materion sy’n peri pryder yw'r sylw y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad ynglŷn â chasglu data am glefydau iechyd rhywiol ar sail Cymru gyfan, oherwydd mae'n ymddangos i mi ei bod yn hanfodol bod yr wybodaeth hon gennym. Fel arall, sut arall y gall iechyd cyhoeddus ymateb i achosion o glamydia neu'r hadlif oni bai bod ganddynt wybodaeth gywir ynglŷn â phwy sy'n cael triniaeth am y clefydau hyn?

Ac o ran yr wybodaeth sydd i'w chroesawu'n fawr iawn na chanfuwyd dim achosion newydd o HIV ymysg pobl sydd wedi cael PrEP, tybed, felly, pa gyfiawnhad sydd i barhau ag arbrawf cenedlaethol yn hytrach na darparu PrEP i unrhyw un sydd mewn perygl o HIV? Os yw wir cystal â hynny, pam yr ydym yn dal i gynnal arbrawf?

18:00

Ynglŷn â'r mater cyntaf y soniwyd amdano, hoffwn gael sicrwydd nad oes dim i’n rhwystro rhag gallu gwneud y cynnydd yr wyf wedi dweud yr hoffwn ei wneud. Felly, mae'n fater o 'sut' a 'pa mor gyflym' yn hytrach nag 'os', o'm safbwynt i, ac rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych wedi'i ddweud; rwy’n credu ei bod hi'n ddefnyddiol ei gwneud hi'n glir nad ydym yn sôn am newid triniaeth. Rydym yn sôn am y lle y darperir y driniaeth honno, ac mae eisoes yn digwydd, fel y dywedwch, ar gyfer camesgoriad anghyflawn, gellir gwneud hyn gartref. Ac felly, rwy’n cydnabod y bydd rhai pobl bob amser yn gwrthwynebu unrhyw fath o ddarpariaeth erthylu, ond mae hyn yn fater o geisio gwneud y peth iawn, sef gallu gwneud y dewis cywir mor gyflym ag y gallwn ni. Rwy’n cydnabod yr hyn yr ydych yn ei ddweud am feichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau. Mae gostyngiad o 50 y cant, wrth gwrs, i’w groesawu, ond mae mwy i'w wneud a does dim cuddio rhag hynny.

Wnes i ddim clywed yn iawn yr holl sylwadau a wnaethoch chi am yr her o ran hwylustod triniaeth i’ch myfyrwyr a gofal sylfaenol. Efallai bod hynny'n rhywbeth y gallem gael sgwrs hwy amdano, ac rwy’n hapus i gwrdd â chi a/neu ag etholwyr i wrando ar eu barn bresennol ynghylch yr hyn sy'n digwydd a sut yr hoffent weld y ddarpariaeth honno’n gwella. Oherwydd, yn gyffredinol, mewn mannau trefol, mewn mannau dinas, mae hi'n haws manteisio ar wasanaethau ac nid dyna’r her yr ydym yn arbennig o bryderus amdani ac y mae'r adroddiad yn ei hamlygu. Ond os ydych yn meddwl bod her benodol yn eich etholaeth chi, byddwn yn hapus i drafod hynny ymhellach gyda chi i weld beth y gallem ac y dylem ei wneud.

Ac ynglŷn â'r sylwadau ehangach am fferyllfeydd, wrth gwrs, mae gwell contractau'n bodoli ar gyfer darparu gwasanaethau. Un o'r pethau y mae'r adolygiad yn eu hargymell, fodd bynnag, yw defnyddio fferyllfeydd nid ar gontract gwell, ond mewn gwirionedd i edrych ar ddarpariaeth reolaidd o ddulliau atal cenhedlu geneuol rheolaidd. Felly, gellir gwneud hynny hefyd mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd i wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch, a dylai hynny olygu hefyd y dylai fod yn haws i feddygon teulu, gan fod maes galw ychwanegol yn cael ei gymryd oddi arnynt, rhywbeth y mae awduron yr adroddiad o’r farn bod ein fferyllfeydd cymunedol yn lle perffaith ddigonol i’w wneud ac yn gallu ei wneud, a bydd hyn yn gwneud gwasanaethau'n fwy hygyrch i bobl.

Un sylw ofal ynghylch PrEP: y canlyniadau cychwynnol yw bod PrEP yn hynod effeithiol. Y rheswm pam yr ydym ni'n cynnal arbrawf tair blynedd yw yr hoffem ni gael sicrwydd dros gyfnod hwy bod hynny’n dal i fod yn wir, ac mae hefyd yn fater o weld nid yn unig darpariaeth PrEP, ond newidiadau i ymddygiad hefyd. Felly, rydym ni'n edrych ar bob agwedd ar hynny er mwyn ceisio gweld gwelliant cynaliadwy ac ymarferol. Yna, wrth gwrs, bydd yn rhaid i bwy bynnag sydd yn y swyddogaeth ffodus hon—fi neu rywun arall yn y dyfodol—wneud dewisiadau ynglŷn â'r ddarpariaeth fwy hirdymor. Ond mae'r canlyniadau hyd yma yn arwyddocaol ac yn galonogol. Rwy’n edrych ymlaen at allu adrodd yn ôl ar ddiwedd yr arbrawf tair blynedd, nid yn unig am ganlyniadau’r arbrawf, ond am y dewis mwy hirdymor yr ydym oll yn ei wneud, yma yng Nghymru.

18:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn innau ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wrando ar leisiau menywod ac am ymrwymo i weithredu er mwyn caniatáu terfynu beichiogrwydd gartref. Felly, hoffwn ddiolch yn fawr iawn ichi am hynny.

Roeddwn hefyd eisiau dweud rhywbeth am annhegwch ac anghysondeb. Y llynedd, cynhaliodd grŵp hawliau erthylu Caerdydd arddangosfa ddiddorol iawn, a dweud y gwir, i ddathlu 50 mlynedd o’r Ddeddf Erthylu, ynghyd â chynhadledd yn y Pierhead. I mi, un o'r pwyntiau syfrdanol a ddeilliodd o'r gynhadledd honno oedd y ffaith ei bod hi, yng Nghaerdydd, yn cymryd chwech neu saith wythnos yn hirach o ran cael ymgynghoriad am erthyliad nag yng Ngwent—yr ardal gyfagos—ac y bu hi bob amser yn anodd cael erthyliadau yng Nghaerdydd. Felly, daeth hynny i’r golwg fel arwydd clir o’r mathau o annhegwch sy'n bodoli. Felly, rwy’n ei annog i roi ystyriaeth ddwys iawn i'r elfen honno.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y rhwystrau sy’n wynebu menywod sydd eisiau terfynu beichiogrwydd, yn enwedig yng Nghaerdydd, lle mae grŵp o bobl wrth-erthyliad yn casglu yn ystod cyfnod y Grawys y tu allan i'r clinig ar Heol Eglwys Fair, ac yn ei gwneud hi'n anghyfforddus iawn i fenywod sy'n ceisio cael ymgynghoriad. Rwy’n gwybod, dros y mis diwethaf, yn un o fwrdeistrefi Llundain bod parth gwahardd wedi’i sefydlu fel na all neb brotestio mewn unrhyw ffordd, yn erbyn nac o blaid, ac roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet wneud unrhyw sylw am y datblygiad hwnnw oherwydd rwy’n credu bod hwn yn fater iechyd cyhoeddus, oherwydd mae'n rhwystr i fenywod sy'n ceisio cael ymgynghoriad ac ni ddylent fod mewn sefyllfa o deimlo eu bod yn cael eu beirniadu a’u rhoi dan bwysau gan grŵp sydd â barn wahanol.

Ynglŷn â'r sylw cyntaf, mae gennyf ddiddordeb yn y mater ynglŷn â Chaerdydd yr ydych chi a Jenny Rathbone wedi cyfeirio ato, felly byddaf yn hapus i gwrdd â’r ddwy ohonoch chi ar yr un pryd i geisio edrych ar yr heriau lleol yr ydych eich dwy’n eu mynegi.

Ynglŷn â'r ail fater y sonioch chi amdano, sylwais innau ar y parth gwahardd ynglŷn â darparu cyngor erthylu mewn clinigau. Mae'n rhywbeth sy'n peri pryder imi ynghylch y modd y bydd pobl yn teimlo dan bwysau annheg i wneud un dewis neu'r llall, ac nid wyf yn credu bod y protestwyr, yn syml, yno i geisio cael sgwrs gwrtais neu i ddarparu cymorth bugeiliol neu arweiniad. Rwy’n meddwl ei fod yn amlwg yn rhywbeth y byddwn i, yn bersonol, fy hun, yn ei weld yn fygythiol. Felly, byddwn yn hapus i feddwl eto ynglŷn â pha bwerau sydd ar gael ac i bwy, i feddwl ynglŷn â sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gwasanaethau gofal iechyd mewn modd nad yw'n feirniadol, a’u bod yn gallu gwneud dewisiadau y byddai ar bob un ohonom ni eisiau eu gwneud am unrhyw agwedd ar ein triniaeth iechyd a gofal ein hunain.

7. Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018

Eitem 7 yw Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Egni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6700 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyflwynais Orchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018 ar 5 Mawrth 2018, ac rwy’n cyflwyno’r Gorchymyn heddiw ar gyfer dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Ddeddf yn cynnwys cymal machlud sy'n datgan y bydd yn methu os na chymerir camau i’w gwarchod erbyn 30 Gorffennaf 2018. Bydd y Gorchymyn yn gwarchod y Ddeddf, ac mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau cyflogau a thelerau ac amodau cyflogaeth teg i weithwyr amaethyddol yn dal i fod ar waith yn ymarferol.

Yn ystod haf 2017, ymgynghorais ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Cyflwynwyd yr adroddiad dilynol ar yr adolygiad o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 27 Chwefror eleni. Roedd yr adroddiad yn amlinellu sut y mae’r Ddeddf wedi cefnogi cymunedau gwledig ac wedi sicrhau bod gweithwyr yn y sector amaethyddol yn cael cyflog teg. Roedd hefyd yn nodi sut y mae'r Ddeddf yn ategu fy ymrwymiad i hyfywedd a llwyddiant hirdymor y diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Mae'r Ddeddf wedi ein galluogi i bennu cyfraddau isafswm cyflog teg i weithwyr amaethyddol yn unol â’u cyfrifoldebau a’u sgiliau. Mae’r cyfraddau isafswm tâl a’r lwfansau’n diogelu incwm cartrefi ac yn helpu cymunedau lleol i ffynnu ledled Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y cyfraniad a wnaiff amaethyddiaeth i’n heconomi, ein hamgylchedd a’n cymunedau gwledig, sy'n hollbwysig i ddatblygiad pellach Cymru ffyniannus, gref a mwy cyfartal. Mae'r Ddeddf yn cefnogi datblygu gweithlu amaethyddol sydd â’r sgiliau priodol sy'n angenrheidiol ar gyfer hyfywedd busnesau amaethyddol a'r diwydiant ehangach yn y tymor hir, ac yn bwysig i'n cymunedau gwledig. Rydym ni hefyd yn gwybod mai cyflogaeth gynaliadwy yw’r ffordd orau o drechu tlodi.

Sefydlwyd panel cynghori amaethyddol Cymru o dan y Ddeddf ar 1 Ebrill 2016. Yn yr amser byr ers ei sefydlu, mae'r panel wedi gwneud gwaith sylweddol. Daeth y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) cyntaf a baratowyd gan y panel i rym ar 1 Ebrill 2017. Cafodd hwn ei ddisodli gan Orchymyn newydd ar 1 Ebrill 2018, sy'n ystyried y cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol. Yn fuan, sefydlodd y panel eu his-bwyllgor datblygu sgiliau a hyfforddiant statudol, i ddangos eu hymrwymiad i helpu i wella dyfodol tymor hir y diwydiant. Mae’r panel, ynghyd â’r is-bwyllgor, yn ymchwilio i ddarparu datblygiad proffesiynol, ac maent wedi comisiynu ymchwil ar y farchnad lafur i ganfod meysydd blaenoriaeth y mae angen eu gwella. Comisiynwyd hyn mewn partneriaeth â bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru i sicrhau yr ystyrir yr holl gadwyn gyflenwi bwyd a diod ac i sicrhau arbedion maint. Disgwylir canfyddiadau'r ymchwil yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae cadw’r drefn isafswm cyflog amaethyddol yng Nghymru a rhoi’r Ddeddf ar waith o fudd i’r sector cyfan ac i economïau gwledig. Dyma yw sail gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddiwydiant amaethyddol modern, proffesiynol a phroffidiol, a bydd y Gorchymyn hwn yn sicrhau bod y buddion hyn yn parhau. Diolch.

18:10

A gaf i ddweud yn y cychwyn y bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r Gorchymyn heddiw i barhau â'r ddeddfwriaeth? Y rheswm ein bod ni'n trafod hwn heddiw, wrth gwrs, yw bod yna gymal machlud yn y ddeddfwriaeth wreiddiol. Y rheswm bod yna gymal machlud yn y ddeddfwriaeth wreiddiol oedd ei bod hi wedi cael ei phasio fel deddfwriaeth frys. Rŷm ni newydd gael profiad cyn y Pasg o hynny. Bach yn eironig yn y cyd-destun yma, wrth gwrs, fe gymerodd e 18 mis ar ôl pasio'r ddeddfwriaeth frys i sefydlu'r bwrdd a oedd cymaint o frys yn ei gylch e. Ond, wedi ei sefydlu, mae'r bwrdd wedi mynd ati, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud, i amlinellu nifer o bethau pwysig sydd yn gynsail i gyflogau yn y sector amaeth.

Rydw i'n credu bod yna dri rheswm y dylem ni gefnogi parhau â'r ddeddfwriaeth yma. Yn gyntaf oll, os ŷm ni'n rhoi'r gorau i'r ddeddfwriaeth heddiw, ni fyddwn yn gallu dychwelyd at y ddeddfwriaeth yma. Mae Deddf Cymru wedi newid ac erbyn hyn ni fyddai gennym ni'r hawl i ddeddfu yn y maes yma. Nid rheswm, efallai, am ganrifoedd i afael yn y grymoedd hynny, neu byddem ni'n dal i bleidleisio ar yfed ar y Sul ar gefn y fath yna o ddadl, ond mae'n ddadl i ni ei hystyried fel Cynulliad, i beidio rhoi i fyny'r grymoedd sydd gyda ni ar hyn o bryd.

Yr ail reswm yw, wrth gwrs, er bod y bwrdd yn weithredol, er bod gennym ni sector amaeth sydd wedi'i gefnogi gan y ddeddfwriaeth yma, mae lefel cyflogau ar gyfartaledd yn y sector amaeth yn dal yn is na'r lefel cyfartaledd cyflogau drwy sectorau eraill yng Nghymru. Felly, mae yna job o waith i'w wneud i godi sgiliau, codi cyflogau, a chodi gwybodaeth ymysg y sector amaeth. Mae'n amlwg, felly, fod yna waith parhaus a pharhaol i'w wneud yn y cyd-destun yma.

A'r trydydd rheswm, a'r rheswm olaf, wrth gwrs, yw'r ffaith bod y sector yma yn wynebu un o'r heriau mwyaf y gallech chi ei dychmygu yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, sef gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid ydym ni'n gwybod, i fod yn gwbl onest, a fydd y ddeddfwriaeth yma o fudd mawr wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, ond beth rŷm ni yn teimlo yn gryf yw na ddylem ychwanegu at y broses o newid yn y sector wrth iddo wynebu cymaint o newid a'r heriau sydd ar y gorwel. Rydw i yn pleidio y dylem ni gadw'r sector o dan gymaint o gysondeb ag sy'n bosibl, ac mae hwn yn rhan o beth mae'r sector yn hen gyfarwydd ag ef, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ymyrraeth sy'n mynd i ddeillio o adael yr Undeb Ewropeaidd ar y lefel isaf posibl. 

Mae yna un agwedd o hyn, serch hynny, sydd yn fy nharo i fel rhywbeth o wendid gyda'r Llywodraeth, ac yn gyffredinol: y wybodaeth sydd gyda ni am Gymru yn benodol—am effaith cyflogau yn y sector amaeth, am y gymhariaeth rhwng Cymru a'r sector amaeth yn Lloegr, a'r gymhariaeth ar draws sectorau hefyd. Mae'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio yn y papurau wedi'u cyhoeddi gan y Llywodraeth yn tanlinellu bod yna wendid a diffyg gwybodaeth. Wrth gefnogi parhau â'r ddeddfwriaeth yma, byddwn i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a yw'n bosib iddi ddweud beth sydd gyda hi ar y gweill i wella'r ffordd yr ŷm ni'n casglu gwybodaeth ac i gasglu mwy o dystiolaeth ynglŷn â pha mor ffeithiol yw'r ddeddfwriaeth yma a gwaith y bwrdd o dan y ddeddfwriaeth.

18:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac i Simon Thomas am ei sylwadau, ac rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth Plaid Cymru. Rwy’n credu eich bod wedi gwneud rhai sylwadau perthnasol iawn. Yn sicr, dywedais fod y grŵp yn edrych ar ymchwil i ddatblygiad proffesiynol a gwella sgiliau ac rwy’n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud hynny a byddaf yn hapus iawn i gyhoeddi'r wybodaeth pan ddaw honno i law yn ddiweddarach y mis hwn neu'r mis nesaf, os wyf o'r farn y byddai Aelodau yn dymuno ei gweld.

Rydych chi yn llygad eich lle, ar hyn o bryd, ein bod yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd ynghylch Brexit, felly rwy’n meddwl mai da o beth fyddai peidio ag ychwanegu at ddim mwy o’r heriau hynny sy’n ein hwynebu. O ran eich sylw olaf, rwy’n cydnabod hynny—yn amlwg nid yw’r drefn bresennol wedi bod ar waith yn ddigon hir, rwy'n credu, inni asesu’n iawn yr effaith y mae'n ei chael, ond rwy’n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried. Rwy'n tybio y byddai angen adolygiad polisi, efallai yn y flwyddyn neu ddwy nesaf, i sicrhau ei bod yn addas at y diben.

Felly, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad, Dirprwy Lywydd, bydd Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018 yn dod i rym yfory.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, cytunir ar y cynnig hwnnw.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Eitem 8 ar yr agenda yw’r cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6699 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) adrannau 2 – 20

b) Atodlen 1

c) Atodlen 2

d) Adran 1

e) Teitl hir

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol, diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, cytunir ar y cynnig hwnnw.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:17.