Cwestiynau Amserol a gyflwynwyd ar 07/02/2024 i'w hateb ar 07/02/2024

1
TQ987 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2024

Pa ymgynghoriad y mae'r Gweinidog wedi'i gynnal gydag awdurdodau lleol ledled Cymru cyn i Lywodraeth Cymru ddyrannu cyllid canlyniadol i awdurdodau lleol yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Ionawr 2024?

 
2
TQ981 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cynyddu'r cap ffioedd dysgu a thorri grantiau cymorth ôl-raddedig ar y nifer tebygol o fyfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio ym Mhrifysgolion Cymru?