Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/01/2018 i'w hateb ar 31/01/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hybu sgiliau iaith a chyfathrebu ymhlith disgyblion?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r risg o drosedd a thrais mewn ysgolion?
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i wella addysg rhyw a pherthnasoedd i ddisgyblion?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i hyrwyddo modelau rôl benywaidd yn yr ystafell ddosbarth?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith costau teithio ar fynediad at brentisiaiethau?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau i wella addysg bellach i gefnogi mwy o bobl i ennill cymwysterau yng Nghymru?
Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i lywodraethwyr ysgol yn y flwyddyn ariannol nesaf?
Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i baratoi'r sector addysg ôl-16 yng Nghymru ar gyfer gweithredu'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i wella safonau ysgolion yn Nhorfaen?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio addysg feddygol yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella canlyniadau addysgol i ddysgwyr yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Bil y Gymraeg?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ad-drefnu ysgolion yng Ngogledd Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddaraf y Prif Swyddog Meddygol ar iechyd y genedl?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod byrddau iechyd yn ymgysylltu'n llawn ag ymgynghoriadau cyhoeddus ar wasanaethau iechyd yn y dyfodol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu hynt y cynlluniau i newid cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan achosion o diwmorau niwroendocrin yng Nghymru?
Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mentrau i atal afiechyd yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddariaf am waith i wella cydnerthedd gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad byrddau iechyd yn erbyn targedau'r GIG yng Nghymru?
Pa wersi y gellir eu dysgu o waith NHS Digital a gwasanaeth gwybodaeth ar-lein Llywodraeth y DU er mwyn diwygio darpariaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r broses o recriwtio meddygon i'r GIG yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i ymgyrch Changing Places?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brofion ceg y groth yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd plant yng Nghymru?