Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/04/2024 i'w hateb ar 30/04/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad i drafnidiaeth ar gyfer pobl â nam ar eu golwg?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysbyty cymuned gogledd Sir Ddinbych yn y Rhyl?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cyfleoedd twristiaeth yn y cymoedd i'r byd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi yng nghefn gwlad Cymru?
A wnaiff y Prif Weindiog roi diweddariad am y cynlluniau i hyfforddi seicolegwyr addysg yn Mangor?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyllido'r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru yn y dyfodol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda meddygfeydd i wneud y gorau o'u darpariaeth gwasanaeth?
Sut y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu sicrhau bod fformiwla ariannu rhynglywodraethol Barnett yn cael ei ddiwygio?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella gwasanaethau arennol ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglyn a chyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth mewn perthynas a'r gogledd?