Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/04/2019 i'w hateb ar 30/04/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ53781 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i warchod yr amgylchedd naturiol yng Nghymoedd y De?

 
2
OAQ53769 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau hamdden?

 
3
OAQ53760 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gryfhau ac atgyfnerthu ei hymrwymiad i fynd i'r afael â newid hinsawdd?

 
4
OAQ53747 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth ffyrdd?

 
5
OAQ53791 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i atal y DU rhag arwain yr Undeb Ewropeaidd o ran darparu cymorthdaliadau i danwyddau ffosil?

 
6
OAQ53763 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r rhwydwaith ffyrdd strategol yng nghanolbarth Cymru?

 
7
OAQ53789 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Cymru)?

 
8
OAQ53749 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu polisïau yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

 
9
OAQ53786 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r argyfwng o ran yr hinsawdd?

 
10
OAQ53757 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio pwerau treth incwm newydd Llywodraeth Cymru?

 
11
OAQ53788 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi'u cael gyda TATA ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?

 
12
OAQ53766 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Tasglu'r Cymoedd?