Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/01/2018 i'w hateb ar 30/01/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ51651 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chyflog isel yng Nghymru?

 
2
OAQ51655 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael a'r broblem o ddigartrefedd yn Arfon?

 
3
OAQ51661 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu i fyrddau iechyd lleol ynghylch trawsnewid gwasanaethau clinigol?

 
4
OAQ51690 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru?

 
5
OAQ51687 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru?

 
6
OAQ51648 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drin cyflyrau cronig yng Ngogledd Cymru?

 
7
OAQ51685 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu allbwn economaidd ar gyfer cymunedau Islwyn?

 
8
OAQ51658 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella economi de-ddwyrain Cymru yn ystod y pumed Cynulliad?

 
9
OAQ51641 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru?

 
10
OAQ51686 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru?

 
11
OAQ51665 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal llifogydd yng Ngorllewin De Cymru?

 
12
OAQ51689 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysus yng Ngogledd Cymru?

 
13
OAQ51692 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru?

 
14
OAQ51660 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bythefnos masnach deg yng nghyd-destun cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu rhyngwladol yn Affrica a ledled y byd?

 
15
OAQ51688 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2018

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli plismona i Gymru?