Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/11/2017 i'w hateb ar 29/11/2017

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

1
OAQ51371 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Ynys Môn?

 
2
OAQ51376 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am y rhaglen gwympo coed yn Fforest Fawr yn Nhongwynlais?

 
3
OAQ51348 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefelau llygredd aer yng Ngorllewin De Cymru?

 
4
OAQ51359 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod mawndiroedd?

 
5
OAQ51366 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen dileu TB buchol Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
6
OAQ51352 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd mewn perthynas â nodyn cyngor technegol 1?

 
7
OAQ51343 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai?

 
8
OAQ51360 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r gwahaniaeth rhwng prisiau bwyd y byd a phrisiau bwyd yr UE?

 
9
OAQ51353 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd mewn perthynas â nodyn cyngor technegol 20?

 
10
OAQ51372 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo mynediad at fannau gwyrdd a pharciau yn Nhorfaen?

 
11
OAQ51346 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant pysgota yng ngorllewin Cymru?

 
12
OAQ51369 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i leihau faint o blastig a gaiff ei ddefnyddio?

 
13
OAQ51341 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am statws cynlluniau datblygu lleol drafft mewn ceisiadau cynllunio presennol?

 
14
OAQ51364 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu strategaeth ar amaethyddiaeth fanwl ar gyfer Cymru?

 
15
OAQ51363 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i fynd i'r afael â'r dioddefaint y mae defnyddio maglau yn ei achosi i anifeiliaid?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

1
OAQ51381 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y tasglu ar gyfer y cymoedd yn Rhondda?

 
2
OAQ51357 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol yng Nghymru?

 
3
OAQ51380 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer academi lywodraeth genedlaethol?

 
4
OAQ51349 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni Ein Cymoedd, Ein dyfodol yng Ngorllewin De Cymru?

 
5
OAQ51365 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o effaith awtomateiddio ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus?

 
6
OAQ51358 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog a'u teuluoedd yng Nghymru?

 
7
OAQ51351 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru?

 
8
OAQ51345 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y bydd y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2018/19 yn diogelu gwasanaethau lleol?

 
9
OAQ51375 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gyngor y mae ei adran wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â chasgliadau sbwriel? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

 
10
OAQ51377 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod cynghorwyr yn fwy cynrychiadol o'u poblogaethau lleol?

 
11
OAQ51370 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda mudiadau ym Môn cyn i gredyd cynhwysol gael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2018?

 
12
OAQ51361 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa ddadansoddiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus os bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mynd rhagddi â'i gynnig ar gyfer carchar ym Maglan?

 
13
OAQ51344 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar y cyllid a ddyrennir i awdurdodau lleol yng Nghymru?

 
14
OAQ51379 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i gynnwys canolfan strategol newydd sy'n cwmpasu cymoedd gorllewinol Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth fel rhan o dasglu'r cymoedd?

 
15
OAQ51367 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu rhentwyr preifat yng Nghymru?