Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/01/2019 i'w hateb ar 29/01/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch materion capasiti ffyrdd a rheilffyrdd Pencoed?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau costau'n gysylltiedig â gweithwyr asiantaethau yn y GIG?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl grwpiau gorchwyl a gorffen o ran datblygu cyfrifoldebau gweinidogol?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi ei flaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gontractau PFI gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yn 2019?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd o ran paratoi deddfwriaeth i gael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer pen-glin newydd yng Ngorllewin De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gofal iechyd i gleifion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar sut bydd cynllun twf y gogledd yn datblygu’r economi yn Arfon?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda rhanddeiliaid ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyhoeddiad REHAU ynghylch dyfodol eu ffatri yn Amlwch?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chyfraddau hunanladdiad yng Nghymru?