Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/11/2018 i'w hateb ar 28/11/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach Ynys Môn?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Adran Drafnidiaeth y DU am ddiwygiadau i Reolau’r Ffordd Fawr?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd o'r cyflog byw go iawn gan y sector preifat yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i alluogi cwmnïau i barhau i fod o dan berchnogaeth Gymreig?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael mewn perthynas â gwella gwasanaethau trên o Bontyclun i Gaerdydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y contract economaidd rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Trafnidiaeth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trên yn Nhorfaen?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwysigrwydd y sector adeiladu i economi Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leddfu tagfeydd yng Nghasnewydd a'r cyffiniau?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau ar gyfer datblygu economaidd yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bysiau ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynorthwyo busnesau bach yn Islwyn?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar ymestyn y metro i ddwyrain Caerdydd, gan gynnwys mesurau lliniaru dros dro?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi twristiaeth yng nghymoedd de Cymru?
Cwnsler Cyffredinol
Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch dyletswyddau awdurdodau cynllunio lleol i hysbysebu'r ffaith bod ceisiadau cynllunio wedi dod i law?
A wnaiff Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ar sut y gall helpu cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru i baratoi ar gyfer yr heriau sy'n deillio o dechnoleg newydd?
Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rhwymedigaethau cyfreithiol awdurdodau lleol mewn perthynas â chonsortia addysg rhanbarthol?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o berfformiad system ar-lein yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o benderfyniad y Goruchaf Lys i wrthod apêl gan Lywodraeth y DU yn achos Wightman?