Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/02/2018 i'w hateb ar 28/02/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

1
OAQ51813 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

Pa asesiad y mae Arweinydd y Tŷ wedi'i wneud o allu seilwaith digidol Cymru i ymdrin â'r defnydd o radio digidol yng Nghymru?

 
2
OAQ51815 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cydraddoldeb i'r gymuned drawsryweddol yng Nghymru?

 
3
OAQ51788 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth band eang yn Nwyrain Abertawe?

 
4
OAQ51796 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau nifer y troseddau casineb homoffobig yng Nghymru yn 2018?

 
5
OAQ51806 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd band eang cyflym iawn yn Nhrefynwy?

 
6
OAQ51810 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gyswllt band eang i gymunedau gwledig ym Môn?

 
7
OAQ51794 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig?

 
8
OAQ51803 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr eiddo sydd wedi elwa ar brosiect Cyflymu Cymru yn Islwyn?

 
9
OAQ51804 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015?

 
10
OAQ51798 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gymorth anfeirniadol i ddioddefwyr cam-drin domestig?

 
11
OAQ51793 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella seilwaith digidol Cymru?

 
12
OAQ51791 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gysylltedd digidol ffeibr llawn ar gyfer gogledd Cymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

1
OAQ51816 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth ar gyfer y sector gwirfoddol yn Sir Gaerfyrddin?

 
2
OAQ51802 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dyrannu i awdurdodau lleol i wella arwynebau ffyrdd?

 
3
OAQ51787 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr yng Nghymru?

 
4
OAQ51814 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynorthwyo awdurdodau lleol i warchod eu gwasanaethau anstatudol?

 
5
OAQ51801 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae tasglu'r cymoedd yn cefnogi datblygiadau economaidd eraill yn ne-ddwyrain Cymru?

 
6
OAQ51807 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynllun treialu cyd-ymateb gan wasanaethau tân ac achub Cymru?

 
7
OAQ51797 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses ar gyfer trosglwyddo rhwymedigaethau i awdurdod lleol olynol gan ei ragflaenydd statudol yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol?

 
8
OAQ51789 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strwythur presennol y gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru?

 
9
OAQ51812 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

Sut y bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi cymunedau yn y cymoedd nad ydynt wedi'u nodi fel hybiau gan gynllun cyflawni tasglu'r cymoedd?

 
10
OAQ51786 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ51818 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am darlledu trafodion y Cyfarfod Llawn yn ddwyieithog?

 
2
OAQ51785 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

Pa werthusiad y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i wneud o'r cyfleusterau y mae'n eu darparu i bobl anabl?

 
3
OAQ51823 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018

A wnaiff y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sicrhau bod mannau gwefru i geir ar ystâd y Cynulliad?