Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/11/2018 i'w hateb ar 27/11/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu ffyniant economaidd yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2018, 'A yw Cymru'n decach?'?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar wella signal ffonau symudol yng nghanolbarth Cymru?
Pa gamau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau cyfraddau ysmygu yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd gofal iechyd yn y gymuned yng Ngogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leddfu tagfeydd yng Nghasnewydd a'r cyffiniau?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fabwysiadu terfynau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer allyriadau o ronynnau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am seilwaith trafnidiaeth gogledd Cymru?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran datblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â chaethiwed i hapchwarae yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Rhentu Doeth Cymru ar wella ansawdd llety rhent?
A wnaiff y Prif Weinidog ein diweddaru ar gynllun ffordd osgoi Bontnewydd, yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mai y bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith yr economi gig yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r gost o ddod ag Aston Martin Lagonda i Gymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r datganiad a wnaed gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig, yr Athro Phillip Alston, yn dilyn ei ymweliad â'r DU?