Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/03/2019 i'w hateb ar 27/03/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o iawndal ariannol sydd wedi'i roi i bysgotwyr Cymru dros y pum mlynedd diwethaf o dan gronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop ar gyfer potiau pysgota newydd?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwarchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch buddiannau amgylcheddol posibl datblygu morlyn llanw Bae Abertawe?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu sector coedwigaeth sy'n economaidd lewyrchus yng Nghymru?
Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hybu'r safonau amgylcheddol uchaf ar ôl Brexit?
Sut y bydd cynllun gweithredu adfer natur arfaethedig Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno rheoliadau strategaeth forol y DU?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i warchod rhywogaethau sydd o dan fygythiad yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli lefelau dŵr yng nghronfa ddŵr Clywedog a Llyn Efyrnwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgynghoriad presennol y corff Radioactive Waste Management o ran lleoliad ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn lleihau allyriadau carbon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant pysgota?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y diwydiant pysgod cregyn yng Nghymru?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Pa adnoddau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i hybu amrywiaeth mewn llywodraeth leol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diwallu'r angen am dai cymdeithasol?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod darpariaeth tai yng Nghymru yn sicrhau mynediad i berchnogion tai a thenantiaid i ardd neu fan gwyrdd y tu allan?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio Adran 21 o Ddeddf Tai 1988 i roi tenantiaethau mwy sicr i bobl sy'n rhentu cartrefi yn breifat?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysau ariannu mewn llywodraeth leol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr asesiad effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â llosgydd y Barri?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cynhwysiant digidol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth tai ar gyfer pobl sy’n dod yn ddi-gartref yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yng ngogledd Cymru?
Pa ddefnydd y gellir ei wneud o’r drefn gynllunio i reoli’r cynnydd mewn ail gartrefi yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid ynghylch arferion caffael awdurdodau lleol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerir i fynd i'r afael â digartrefedd yn Nwyrain De Cymru?