Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/02/2018 i'w hateb ar 27/02/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ar ôl cyrraedd pa gost y bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar ddewisiadau amgen i gynlluniau arfaethedig presennol ar gyfer ffordd liniaru'r M4?
Pa neges allweddol y mae Prif Weinidog wedi cymryd wrth yr arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chlybiau ysgol bwyd a hwyl yr haf hwn?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau’r defnydd o blastig yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i fonitro categorïau ymateb y gwasanaethau ambiwlans?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn trafnidiaeth yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i Mudiad Meithrin yn y flwyddyn ariannol 2018/19?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am asesiad Llywodraeth Cymru o effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gweithdrefnau a ddilynir gan barafeddygon wrth ymateb i achosion o ataliad ar y galon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau diweithdra yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog adlewyrchu anghenion ffermwyr mewn gwledydd sy'n datblygu mewn sylwadau a wneir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o drafodaethau Brexit?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno yn 2018 i leihau amseroedd aros mewn ysbytai yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni blaenoriaeth un cynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau adrefnu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gwella ffyrdd Llywodraeth Cymru yng Nghasnewydd a'r cyffiniau?