Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/09/2018 i'w hateb ar 26/09/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch a fydd unrhyw gerbydau newydd yn cael eu cyflwyno ar reilffordd y Cambrian a rheilffordd Calon Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dagfeydd traffig ar yr M4 yn rhanbarth Gorllewin De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am werth brand Cymru i’r economi?
A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae cymorth yn cael ei ddarparu i glybiau chwaraeon ar lawr gwlad?
A fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru am ffordd liniaru'r M4 yn cael ei wneud o dan y Prif Weinidog presennol neu ei olynydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y fenter coridorau gwyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd?
Pa bolisïau sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltedd rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu strategaeth economaidd a diwydiannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gomisiynu astudiaeth i ailagor y rheilffordd o'r Trallwng i Gobowen fel rhan o'r fargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni elfennau trafnidiaeth y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y mae Cymru'n barod ar gyfer cerbydau trydan a hybrid?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnal a chadw'r rhwydwaith cefnffyrdd?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus i gymunedau yng Nghwm Afan uchaf yn diwallu eu hanghenion?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Grid Cenedlaethol am y croesiad newydd ar draws y Fenai?
Cwnsler Cyffredinol
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael mewn perthynas â chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddog cyfatebol yn yr Alban ynghylch yr achos gerbron y Goruchaf Lys ar Fil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban)?
Pa ddadansoddiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar gyfraith Cymru os na fydd cytundeb yn deillio o'r negodiadau ar Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am wneud cyfreithiau Cymru yn fwy hygyrch?