Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/04/2018 i'w hateb ar 25/04/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ52042 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo bwydo ar y fron?

 
2
OAQ52035 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am raglen Sgrinio Coluddion Cymru?

 
3
OAQ52018 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i recriwtio a chadw staff yn GIG Cymru?

 
4
OAQ52016 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyfraddau diagnosis canser y prostad?

 
5
OAQ52027 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau canser yng Nghymru?

 
6
OAQ52043 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

 
7
OAQ52041 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant?

 
8
OAQ52039 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y driniaeth a'r cyllid sydd ar gael ar gyfer y cyflwr ar y llygaid, Keratoconus?

 
9
OAQ52051 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael â'r byrddau iechyd lleol ar fonitro lefelau staff nyrsio ym mhob ysbyty?

 
10
OAQ52038 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganlyniadau canser y coluddyn yng Ngogledd Cymru?

 
11
OAQ52030 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
12
OAQ52044 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu cleifion yn y dyfodol rhwng y ganolfan trawma mawr yng Nghaerdydd ac Ysbyty Athrofaol y Grange?

 
13
OAQ52050 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru 2015 - 2020?

 
14
OAQ52028 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau canser y fron yn Ne-ddwyrain Cymru?

 
15
OAQ52047 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella'r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd rhywiol yn Islwyn?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OAQ52045 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

Pa drafodaethau mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal ynglŷn â chynlluniau ar gyfer safle newydd i Ysgol Dewi Sant yn Llanelli?

 
2
OAQ52029 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu oedolion yn y gymuned?

 
3
OAQ52033 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu ieithoedd modern tramor?

 
4
OAQ52048 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â dysgwyr dan anfantais yn Islwyn?

 
5
OAQ52020 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl addysg yn y broses o fynd i'r afael â gamblo cymhellol?

 
6
OAQ52036 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghaerdydd?

 
7
OAQ52032 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllido ysgolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful?

 
8
OAQ52023 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar uno a chau ysgolion?

 
9
OAQ52040 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn Nhor-faen?

 
10
OAQ52024 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am faint o ysgolion sydd wedi cau ers iddi gael ei phenodi?

 
11
OAQ52026 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i newid y ffordd y caiff ysgolion eu hariannu?

 
12
OAQ52049 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg?

 
13
OAQ52031 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn y cwricwlwm newydd?

 
14
OAQ52017 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi a chynnal ysgolion cynradd gwledig yng Nghanol De Cymru?

 
15
OAQ52046 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y dewis sydd ar gael mewn addysg ôl-16?