Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/10/2018 i'w hateb ar 24/10/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn ag argaeledd swyddi mewn ardaloedd gwledig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer y bont newydd dros afon Dyfi?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur llwyddiant gwelliannau i wasanaethau sy'n deillio o'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Arweinydd y Tŷ am weithio gyda darparwyr trafnidiaeth i sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i bobl ag anableddau?
Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael am wasanaethau bysiau gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant theatr yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y bydd Trafnidiaeth Cymru yn effeithio ar gymunedau Islwyn?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd rhaglen Uwchgyfrifiadura Cymru yn ei chael ar economi Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfradd y busnesau newydd a gaiff eu dechrau yng Nghymru o'i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau o dan berchnogaeth leol?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r system drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i adroddiad yr arolygydd annibynnol ar y gwelliannau i ffordd yr A465 rhwng Dowlais Top a Hirwaun?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiect twnnel y Rhondda?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am asedau eiddo Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru?
Cwnsler Cyffredinol
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y diogelir hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru os bydd y DU yn gadael yr UE?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau ar gyfer Cymru o achos Wightman yn llysoedd yr Alban ynghylch erthygl 50?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sail gyfreithiol y memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ynghylch creu comisiynydd traffig i Gymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch capasiti'r system tribiwnlysoedd yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am y defnydd cynyddol o dechnolegau digidol yn y sector cyfreithiol?