Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/06/2020 i'w hateb ar 24/06/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ55332 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws?

 
2
OQ55303 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r cyfryngau lleol er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr yn ystod y pandemig Covid-19?

 
3
OQ55329 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig Covid-19?

 
4
OQ55342 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r sector lletygarwch yng Nghymru yng ngoleuni Covid-19?

 
5
OQ55336 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi Blaenau'r Cymoedd?

 
6
OQ55318 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Lywodraeth Cymru yn ail-agor sector twristiaeth Cymru?

 
7
OQ55341 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir i rieni maeth yn ystod yr argyfwng coronafeirws?

 
8
OQ55330 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg o fis Medi ymlaen o safon uchel?

 
9
OQ55325 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r economi yn ystod y pandemig presennol?

 
10
OQ55338 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwerth-R yn ne-ddwyrain Cymru?

 
11
OQ55308 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i weithwyr sydd wedi colli eu swyddi yn Laura Ashley yn y Drenewydd yn dilyn y cyhoeddiad nad yw'r rheolwyr wedi llwyddo i sicrhau busnes gweithredol ar gyfer gwaith manwerthu a gweithgynhyrchu?

 
12
OQ55335 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y canllawiau teithio 5 milltir sy'n gysylltiedig â coronafeirws yng Nghymru?

Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

1
OQ55337 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng ngoleuni'r pandemig coronafeirws?

 
2
OQ55340 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro lefelau cam-drin domestig yn ystod y cyfnod argyfwng?

 
3
OQ55316 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig Covid-19 ar gydraddoldeb i fenywod yn y gweithle?

 
4
OQ55334 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ar gyfer creu Cymru fwy cyfartal?

 
5
OQ55331 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r sector elusennol a gwirfoddol yn ystod y pandemig Covid-19?

 
6
OQ55339 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni blaenoriaethau diogelwch cymunedol yng Nghymru?

 
7
OQ55322 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2020

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad ynglyn ag ymateb y sector gwirfoddol i'r pandemic presennol?

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

1
OQ55307 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid mewn sŵau yng Nghymru?

 
2
OQ55320 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Cymorth i Ffermwyr Godro Cymru sydd wedi agor yn ddiweddar ar gyfer ceisiadau?

 
3
OQ55315 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith adfer o ran llifogydd ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
4
OQ55321 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil Amaeth?

 
5
OQ55326 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ffermwyr yn ystod y pandemig Covid-19?

 
6
OQ55309 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i adfer ac atal llifogydd yn Rhondda Cynon Taf?

 
7
OQ55313 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yng nghanolbarth Cymru?

 
8
OQ55323 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd morlynnoedd llanw o ran cyflawni amcanion ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru?

 
9
OQ55306 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo lles anifeiliaid yn ystod y pandemig Covid-19?

 
10
OQ55312 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad o sut mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar bobl sydd mewn tlodi tanwydd?

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

1
OQ55324 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol am y rôl y gallant ei chwarae i fynd i'r afael â thlodi plant ar ôl yr argyfwng Covid-19?

 
2
OQ55319 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio rheoliadau cynllunio er mwyn cynorthwyo busnesau i ddod allan o'r cyfnod cloi presennol?

 
3
OQ55304 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae digartrefedd wedi'i leihau ers dechrau'r pandemig Covid-19?

 
4
OQ55311 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berthynas Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol yn ystod y pandemig Covid-19?

 
5
OQ55327 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau ychwanegol a fydd ar gael i awdurdodau lleol i ymdrin â'r pwysau presennol?

 
6
OQ55305 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer canol trefi yn Sir y Fflint ar ôl Covid-19?

 
7
OQ55328 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol ychwanegol sy'n wynebu llywodraeth leol oherwydd y pandemig Covid-19?

 
8
OQ55317 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth a roddir i gynghorau sir, tref a chymuned yn ystod y pandemig Covid-19?

 
9
OQ55314 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni Cam 2 y Cynllun Digartrefedd?

 
10
OQ55310 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi cynllunio yng Nghymru?