Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/04/2018 i'w hateb ar 24/04/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau dementia yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adeiladwyr tai bach a chanolig eu maint?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berchnogaeth gyhoeddus o eiddo manwerthu a masnachol?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran atal unigrwydd ac unigedd cymdeithasol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiwylliant y gweithle yn Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth Cymru i ehangu gwasanaeth bysiau TrawsCymru ymhellach?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl yng Nghymru sydd â diabetes math 2?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ysgolion gwledig yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd dinasoedd Cymru i ddatblygiad yr economi?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal mewn bywyd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil y datblygiadau diweddaraf ynghylch ymadawiad y DU â’r UE?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod plant yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unedau ffermio dofednod dwys yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio caffael cyhoeddus i ddiogelu a chreu swyddi?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith cyflwyno’r Credyd Cynhwysol ar lefelau tlodi plant yng Nghwm Cynon?