Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/01/2018 i'w hateb ar 24/01/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Comisiwn y Cynulliad
A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad ynglŷn â lleihau faint o blastig untro sy’n cael ei ddefnyddio ar ystâd y Cynulliad?
Pa ystyriaeth y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i rhoi i sefydlu gwasanaethau caplaniaeth ar gyfer staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad?
Pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod y Senedd yn lle mwy cyfeillgar i deuluoedd a phlant?
Pa gynnydd a wnaed tuag at sicrhau bod yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y Comisiwn yn cael y cyflog byw go iawn?
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn hygyrch i'r holl ymwelwyr?
A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyraniad Llywodraeth Cymru o arian cyfalaf?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y system dreth yng Nghymru?
A oes gan Lywodraeth Cymru darged ar gyfer canran yr arbedion effeithlonrwydd i'w gwneud ar draws y llywodraeth bob blwyddyn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllideb i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu caffael cyhoeddus gan ddarparwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru?
Beth oedd y newid mawr yng nghylch cyllideb 2018-19 a benderfynwyd gan y blaenoriaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes yng Nghymru?
Sut y gwnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddylanwadu ar ddyraniadau cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet?
Pa ddarpariaeth ariannol ychwanegol a wnaed i'r portffolio economi a thrafnidiaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu metro de Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio cronfeydd strwythurol i hybu ffyniant yn y cymoedd gogleddol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y Rhondda?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag aelodau'r cabinet am reoli cyllidebau adrannol?
A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu ei pholisïau caffael?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru?
Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddyddiad cychwyn y cynllun olynol ar gyfer band eang cyflym iawn?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddariaf ynglŷn â safbwynt Llywodraeth Cymru ar sefydlu cofrestr o droseddwyr trais domestig?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais domestig?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mwy o gynhwysiant digidol yn Aberafan yn 2018?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am fesurau gwrth-gaethwasiaeth yng Nghymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl cynghorwyr cenedlaethol yn y broses o helpu i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarpariaeth band eang cyflym iawn yn etholaeth Caerffili?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am bwysigrwydd mynediad at wasanaethau 3G/4G mewn ardaloedd gwledig?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad ynghylch cyflymderau band eang cyflym iawn ar draws rhanbarth Gogledd Cymru?
A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella darpariaeth band eang yng nghefn gwlad Cymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol i Gymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno band eang yn Sir Benfro?
Beth y mae Arweinydd y Tŷ yn ei wneud i wella cydlyniant cymunedol?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?