Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/10/2018 i'w hateb ar 23/10/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ac annog gweithio hyblyg yng Nghymru?
Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd yng ngorllewin Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau yng Nghanol De Cymru?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella canlyniadau canser yr ysgyfaint dros y 12 mis nesaf?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella hawliau plant yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd safleoedd hanesyddol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y bont rheilffordd ar draws yr A5114 yn Llangefni?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol diweddar?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella'r seilwaith trafnidiaeth yn Sir Fynwy?
Sut y bydd Parc Rhanbarthol arfaethedig y Cymoedd o fudd i economi Islwyn?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o'r cyfarfod rhwng Llywodraeth y DU ac arweinwyr yr UE ym Mrwsel ar 17 Hydref 2018?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit heb fargen ar wasanaethau iechyd?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector addysg bellach yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lwyddiant polisïau Llywodraeth Cymru o ran lliniaru amddifadedd?