Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/01/2019 i'w hateb ar 23/01/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Cyfoeth Naturiol Cymru o ailgoedwigo mewn ardaloedd yng Nghymoedd De Cymru sydd wedi'u dinoethi gan y clefyd llarwydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd y mae Hybu Cig Cymru wedi'i wneud o ran datblygu marchnadoedd ar gyfer cig coch Cymru y tu hwnt i'r UE?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd aer?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud o ran diogelu amgylchedd Cymoedd y De?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu bywyd gwyllt Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer sy'n defnyddio Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd dŵr yn etholaeth Ogwr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid anwes?
Pa gynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau ynni hydro cymunedol?
Pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r diwydiant amaethyddol am gymorthdaliadau ffermio ar ôl 29 Mawrth 2019?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i fynd i'r afael â llygredd aer?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithgarwch gweithredol fflyd bysgota Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am leihau llygredd aer sy'n deillio o dagfeydd ar y rhan o'r A470 rhwng Trefforest a Nantgarw?
Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i reoli'r perygl o lifogydd ar raddfa fach yng Nghymru?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen Hunanadeiladu Cymru?
Pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol a phartneriaid tai eraill i gefnogi mentrau bach a chanolig sy'n adeiladu tai?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gellir gwella'r broses gynllunio er mwyn cynnal gwell asesiad o'r effaith gronnol a gaiff ceisiadau datblygu aml-breswyl yn yr un ardal?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid ynghylch cynaliadwyedd y fformiwla ariannu llywodraeth leol?
Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu cyflwyno i gynyddu'r amrywiaeth o gynghorwyr lleol?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod polisïau gosod tai cymdeithasol awdurdodau lleol a phartneriaethau tai ar draws Cymru yn addas i bwrpas?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynghylch y setliad ariannol ar gyfer llywodraeth Leol?
Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddiweddaru rheoliadau adeiladu tai i sicrhau y codir pob tŷ newydd yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru i leihau'r newid yn yr hinsawdd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynghorau cymuned a thref?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cynlluniau tai arloesol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai cymdeithasol sy'n addas ar gyfer pobl anabl?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae awdurdodau lleol yn cymryd darparu gwasanaethau iechyd i ystyriaeth wrth drafod ceisiadau cynllunio?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â diwygio lles?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am feysydd parcio a reolir gan awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru?