Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/01/2018 i'w hateb ar 23/01/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wella'r seilwaith yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd signal ffonau symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu systemau talu heb arian parod ar gyfer prydau ysgol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i ddisodli Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd yn 2012?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir i bobl Powys gan Shropdoc?
A wnaiff y Prif Weinidog sefydlu uned i archwilio i sut y gall Cymru wneud defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynaliadwyedd gwasanaethau bysiau presennol yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn i blant ag anghenion dysgu ychwanegol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru?
Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i annog plant i astudio pynciau STEM?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau marw-enedigaethau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru effaith cyfyngiadau Tsieina ar fewnforio gwastraff tramor?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o allu'r Deyrnas Gyfunol, ac felly Cymru, i fod yn rhan o'r farchnad sengl ar ôl Brexit.