Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/11/2017 i'w hateb ar 22/11/2017
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Cwnsler Cyffredinol
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y byddai datblygu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn ei chael ar faint y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch rôl hawliau dynol yn neddfwriaeth Cymru?
Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phroses Brexit?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r sail gyfreithiol i'r cyfnod trosiannol a fydd yn bodoli ar ôl i Erthygl 50 ddod i rym?
Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud mewn perthynas â'r cyfamod ar dir ym mharc diwydiannol Baglan?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o allu'r Cynulliad i ddeddfu o dan Ddeddf Cymru 2017 er mwyn gwahardd ffracio?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â mynediad i gyfiawnder yng Nghymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella mynediad i safleoedd treftadaeth a gynhelir gan Cadw ar gyfer pobl yn eu hardaloedd lleol?
Pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella'r economi yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brosiectau trafnidiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi hwb i'r economi wledig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch priffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau rheilffordd yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu busnesau yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl cydlynwyr cynlluniau teithio yn y broses o hyrwyddo patrymau gweithio hyblyg yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fanteision metro de Cymru i Bontypridd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynglŷn â rheilffordd Dyffryn Aman?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy'n digwydd ar safle SA1 yn Abertawe?