Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/05/2018 i'w hateb ar 22/05/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu'r cyflog byw go iawn?
A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i adolygiad o sut y gall digido gefnogi'r gwaith o ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi amcanion allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yn ne Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o lawdriniaeth orthopedig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau iechyd cyhoeddus o gamblo cymhellol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol rhaglen Cymru o Blaid Affrica?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar ynni niwclear?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn ddiweddar i helpu i fynd i'r afael â thlodi mewn cymunedau yn y cymoedd?
Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod gan weithwyr lais cryf mewn unrhyw drafodaethau sy’n ymwneud ag ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella amgylchedd naturiol Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae polisi caffael cyhoeddus yn cefnogi prentisiaethau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cydbwysedd rhwng buddsoddiad cyhoeddus a phreifat yng Nghasnewydd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi pobl hŷn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o ofal sengl?